400 likes | 714 Views
ADOLYGU GRAMADEG. Cwestiynau. Bydd TRI chwestiwn i’w ateb: Creu brawddegau yn cynnwys berfau , priod-ddulliau, rhagenw perthynol o flaen berf, cymalau a negyddu. Cywiro gwallau mewn brawddegau – bydd dau wall ymhob brawddeg. Cywiro ymadroddion a’u defnyddio mewn brawddegau.
E N D
Cwestiynau Bydd TRI chwestiwn i’w ateb: • Creu brawddegau yn cynnwys berfau, priod-ddulliau, rhagenw perthynol o flaen berf, cymalau a negyddu. • Cywiro gwallau mewn brawddegau – bydd dau wall ymhob brawddeg. • Cywiro ymadroddion a’u defnyddio mewn brawddegau.
Cwestiwn 1 Mae’n hanfodol bwysig gyda’r cwestiwn yma eich bod yn edrych yn ofalus ar derfyniad y ferf er mwyn gweld pa berson a pha amser sydd eisiau: cysgai gwelodd caiff darllenem * RHAID dysgu terfyniadau’r berfau*
Tag amser Mae’n hanfodol bwysig defnyddio TAG AMSER yn y brawddegau y byddwch yn eu creu: Presennol: heddiw, ar hyn o bryd, rwan Gorffennol: ddoe, llynedd, fis diwethaf Amherffaith: ers talwm, flynyddoedd yn ôl
Amser Amherffaith Gysa’r amser AMHERFFAITH, mae angen rhoi tag arferiadol yn ogystal: -wn (Roeddwn i’n arfer…) cysgwn i -et (Roeddet ti’n arfer…) cysget ti -ai (Roedd o/hi’n arfer…) cysgai o/hi -em (Roedden ni’n arfer…) cysgem ni -ech (Roeddech chi’n arfer…) cysgech chi -ent (Roedden nhw’n arfer…) cysgent hwy cysgen nhw
Ymarfer creu Cofiwch edrych ar derfyniad y ferf a chofiwch ddefnyddio TAG AMSER derbyniodd cerddai caiff gwelais gwisgem darllenwn i
Berf amhersonol Mae’n bwysig ein bod yn adnabod y berfau amhersonol. Y trefyniadau yw: -ir -wyd -id cenir – mae rhywbeth yn cael ei ganu canwyd– mae rhywbeth wedi cael ei ganu cenid – roedd rhywbeth yn arfer cael ei ganu
Berf amhersonol Wrth greu brawddeg yn defnyddio berf amhersonol, rhaid cofio NID OES GODDRYCH I FERF AMHERSONOL Mae’n syniad da i ddefnyddio GAN yn y frawddeg e.e. Ddoe yn yr ysgol gwelwyd yr ymrafael gan nifer o ddisgyblion
Y rheol ydy: PEIDIWCH Â DILYN BERF AMHERSONOL GYDAG ENW PERSON e.e. Sonir y bardd yn ei gerddi… Goddrych – felly’n anghywir
Beth am greu? cafwyd cenir ysgrifennid chwaraewyd gwelir edrychid
Negyddu cymal enwol Mae’n fwy na thebyg y bydd gofyn i chi greu brawddeg yn NEGYDDU CYMAL. Y gyfrinach yw CREU PRIF GYMAL SYML ar ddechrau’r frawddeg. Does dim angen brawddeg gymhleth!
Enghreifftiau nad ydy Clywodd Sionnad ydy o wedi llwyddo i gael lle yn y coleg ym mis Medi. Prif gymal syml
nad oedd Dywedodd Sionnad oedd o wedi llwyddo i gwblhau ei waith cartref. Prif gymal syml
nad ydym Rwyf yn siomedignad ydym ni’n cael defnyddio ein nodiadau i ateb y cwestiwn hwn! Prif gymal syml
Beth am greu? nad ydw i na fyddwn ni nad oedd o nad ydym ni nad oedden nhw nad ydy o
Brawddeg yn cynnwysCYMAL PERTHYNOL • Mae CYMAL PERTHYNOL yn dweud mwy wrthym ni am y goddrych yn y frawddeg e.e. Dyma’r ferch a enillodd y brif wobr • Mae CYMAL PERTHYNOL yn cychwyn gyda’r rhagenw perthynol ‘a’ neu’r negyddol ‘na’
Sut i greu brawddeg? Y gyfrinach yw CREU PRIF GYMAL SYML Dywedodd y fercha oedd yn eistedd yng nghefn y dosbarth, ei bod wedi gorffen ei gwaith. Prif gymal syml
Prif gymal syml Dywedodd y bachgenna lwyddodd i ennill lle yn y coleg, ei fod yn hynod siomedig.
Beth am roi cynnig arni? a welodd na chlywodd a dderbyniais na orffennodd
Defnyddio IDIOM mewn brawddeg Wrth lunio brawddeg gydag IDIOM neu BRIOD-DDULL, sicrhewch fod ystyr yr idiom / priod-ddull yn hollol glir. e.e. talu’n hallt Credaf fod Cai wedi talu’n halltam ei noson o ffolineb yn y dafarn nos Sadwrn gan fod ei wraig wedi ei adael y diwrnod canlynol!
Cwestiwn 2 Byddwch yn cael pum brawddeg i’w cywiro. Mae’n rhaid darllen y brawddegau’n ofalus er mwyn ceisio darganfod y gwallau. Gall y gwallau fod yn unrhywbeth! Dylid ceisio esbonio mor ramadegol â phosibl ac mae angen llunio tair colofn daclus er mwyn ateb y cwestiwn hwn: GwallCywiriad Esboniad
Pa fath o wallau? Mae’n bwysig ystyried pa fath o wallau sy’n bosibl: • Enw • Ansoddair • Arddodiad • Rhagenw • Berf • Negyddu Cymal • Camsillafu • Cymysgu geiriau tebyg • Cyfieithu llythrennol o’r Saesneg • Mynegi perthynas …of the Gweler taflen waith ADOLYGU
Gwall treiglo Gan amlaf, mae treiglad yn cael ei achosi gan y gair sy’n dod o’i flaen e.e. fy cath > fy nghath dy trwyn > dy drwyn ei pen > ei ben ei troed > ei throed Yr hyn sy’n bwysig felly, yw gwybod yn union pa fath o air sy’n dod o flaen y treiglad. Yma RHAGENW DIBYNNOL BLAEN yw pob enghraifft uchod. Mae’r math o dreiglad yn wahanol ar ôl bob un ohonynt.
Ydych chi’n adnabod rhain? Y FANNOD y yr ‘r am, ar, at fy, dy, ei a neu a / y (o flaen berf) ARDDODIAD RHAGENW DIBYNNOL BLAEN CYSYLLTAIR RHAGENW PERTHYNOL
Dyma’r dyn yr enillodd y fedal arian am Gymru. yr enillodd > a enillodd Angen y rhagenw perthynol ‘a’ ar ddechrau’r cymal perthynol am Gymru > i Gymru Angen yr arddodiad ‘i’ yma
Mae’r merch yn cyfleu ei teimladau’n eglur. Mae’r merch > Mae’r ferch Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod ei teimladau > ei theimladau Angen teiglad llaes ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘ei’ benywaidd
Cyhoeddir y bardd nifer o cyfrolau’n flynyddol. Cyhoeddir y bardd > Cyhoedda’r bardd Nid oes goddrych i ferf amhersonol. Angen berf bersonol person 1af presennol y ferf ‘cyhoeddi’. nifer o cyfrolau > nifer o gyfrolau Angen treiglad meddal ar ôl yr arddodiad ‘o’
Yn gwlad Groeg mae fy brawd yn byw. Yn gwlad > Yng ngwlad Angen treiglad trwynol ar ôl yr arddodiad ‘yn’ fy brawd > fy mrawd Angen treiglad trwynol ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘fy’
Cerddodd bob dydd i’r ysgol ar ben ei hun. Cerddodd > Cerddai Mae angen y ferf yn yr amser amherffaith er mwyn cyfleu yr arferiadol. Terfyniad y 3ydd person unigol gorffennol yw ‘–odd’ ar ben ei hun > ar ei ben ei hun Angen y rhagenw dibynnol blaen ‘ei’ o flaen y gair ‘ben’ yn yr idiom
Bydd ei mham yn gwrthod â mynd i siopa. ei mham > ei mam Mae’n ymddangos yma fod ‘mam’ wedi ei dreiglo’n drwynol. Dydy’r llythyren ‘m’ ddim yn treiglo’n drwynol. Yr unig ddau dreiglad all ddigwydd ar ôl y rhagenw dibynnol blaen yw meddal neu llaes. gwrthod â mynd > gwrthod mynd Does dim angen yr arddodiad ‘â’ ar ôl y ferf ‘gwrthod’
Darllenodd y plant bob dydd bennod allan o’r nofel. Darllenodd > Darllenai Angen y ferf yn yr amser amherffaith er mwyn cyfleu yr arferiadol. Terfyniad y 3ydd person unigol amherffaith yw ‘-ai’ bennod allan o’r nofel > bennod o’r nofel Cyfeithiad llythrennol o’r Saesneg
Gwelodd ei frawd pob nos yn neuadd y pentref ers talwm. Gwelodd > Gwelai Angen y ferf yn yr amser amherffaith yn hytrach na’r gorffennol er mwyn cyfleu yr arferiadol pob nos > bob nos Angen treiglad meddal yn y cyflwr adferfol
Os ydych wedi darllen ef, yna rwyt ti’n gwybod pam fy mod yn poeni. wedi darllen ef > wedi ei ddarllen Angen y rhagenw dibynnol blaen ‘ei’ o flaen y ferf ‘darllen’, ac mae hyn yn achosi treiglad meddal i’r ferf rwyt ti’n gwybod > rydych chi’n gwybod Angen yr 2il berson lluosog y ferf yn hytrach na’r 2il unigol
Os byddai Sian yn yr ysgol yn amlach, byddai’n gallu gorffen ei waith. Os byddai > Pe byddai Angen defnyddio ‘pe’ o flaen y ferf ar ddechrau brawddeg i gyfleu’r amodol. ei waith > ei gwaith Does dim treiglad meddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘ei’ benywaidd
Pan yn cerdded i’r ysgol gwelodd Sion damwain. Pan yn cerdded > Tra’n cerdded Rhaid dilyn y gair ‘pan’ gyda berf, ac felly angen yr adferf ‘tra’ yma gwelodd Sion damwain > gwelodd Sion ddamwain Gwrthrych y ferf yn treiglo’n feddal
Cwestiwn 3 Bydd angen ail ysgrifennu paragraff a fydd yn cynnwys 10 gwall, yn gywir. Bydd angen tanlinellu pob gwall a gywirir.
Pwyntiau pwysig • Darllen y paragraff yn ofalus • Tanlinellu pob gwall • Ail ysgrifennu’r darn yn bwyllog • Tanlinellu’r hyn a fydd wedi ei gywiro • Bydd 10 gwall i gyd
Mewn llyfrgell ym Mhontypridd y cawswn i fy mhrofiad gwaith ac roeddwn ar ben fy myd yno. Cefais fy ngofyn gan y llyfrgellydd i chwilio am i gyd o’r llyfrau ar hanes lleol. Roeddwn i yn ofn mynd i mewn i’r stordy i chwilio am y llyfrau hyn. Yn ffodus ‘rwyf yn mwynhau darllen llyfrau ar y pwnc hwn. Chwiliaswn am lyfr yn sôn am ein anthem genedlaethol gan fod Evan a James James wedi byw ym mhentref Trehopcyn ger Pontypridd. Yn y llyfr hwnnw darllennais am y tro cyntaf y tri pennill sydd bia’r anthem…
Mewn llyfrgell ym Mhontypridd y cawswn i fy mhrofiad gwaith ac roeddwn ar ben fy myd yno. Cefais fy ngofyn gan y llyfrgellydd i chwilio am i gyd o’r llyfrau ar hanes lleol. Roeddwn i yn ofn mynd i mewn i’r stordy i chwilio am y llyfrau hyn. Yn ffodus ‘rwyf yn mwynhau darllen llyfrau ar y pwnc hwn. Chwiliaswn am lyfr yn sôn am ein anthem genedlaethol gan fod Evan a James James wedi byw ym mhentref Trehopcyn ger Pontypridd. Yn y llyfr hwnnw darllennais am y tro cyntaf y tri pennillsydd bia’r anthem…
Mewn llyfrgell ym Mhontypridd y cefais i fy mhrofiad gwaith ac roeddwn wrth fy modd yno. Gofynodd y llyfrgellydd i mi chwilio am yr holl lyfrau ar hanes lleol. Roeddwn i yn ofni mynd i mewn i’r stordy i chwilio am y llyfrau hyn. Yn ffodus ‘rwyf yn mwynhau darllen llyfrau ar y pwnc hwn. Chwiliais am lyfr yn sôn am ein hanthem genedlaethol gan fod Evan a James James wedi byw ym mhentref Trehopcyn ger Pontypridd. Yn y llyfr hwnnw darllenais am y tro cyntaf y tri phennill sydd yn yr anthem…