1 / 10

Cyfathrebu

Cyfathrebu. At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1. Tasg 1. Pedwaredd Wal. Meddyliwch am weithgaredd y gellid ei berfformio ar wal, e.e. edrych mewn drych i roi colur amdanoch, edrych allan drwy ffenestr, peintio wal ac ati .

gabe
Download Presentation

Cyfathrebu

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Cyfathrebu At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1

  2. Tasg 1 Pedwaredd Wal • Meddyliwch am weithgaredd y gellid ei berfformio ar wal, e.e. edrych mewn drych i roi colur amdanoch, edrych allan drwy ffenestr, peintio wal ac ati. • Cerddwch ymlaen fesul un a pherfformio eich gweithgaredd gan ddefnyddio’r “bedwaredd” wal. • Wedyn caiff y gynulleidfa drafod pa mor effeithiol oedd y perfformiadau.

  3. Tasg 2 Dilyn Trywydd Meddyliau • Bydd pob grŵp yn perfformio yn ei dro. • Tra bydd y grŵp yn perfformio, gall yr athro/athrawes stopio’r ddrama ar unrhyw bryd a rhewi’r actorion. • Wedyn, caiff unrhyw aelod o’r gynulleidfa ofyn i’r cymeriad sut mae’n teimlo, beth yw ei feddyliau. • Os nad yw’r aelod o’r gynulleidfa’n teimlo bod yr actor yn cyfleu’r teimlad hwnnw, gall roi cyngor i’r actor ynghylch sut y gallai ei gyfleu’n well.

  4. Tasg 3 Cylchoedd sylw Ymarferwch olygfa o’ch drama gan amrywio ble rydych yn ffocysu eich llygaid i greu gwahanol effeithiau.

  5. Tasg 4 Cyfarwyddo mewn grŵp • Bydd eich athro/athrawes yn dewis grŵp i berfformio ac yna’n rhannu gweddill y dosbarth yn 3 neu 4 grŵp. • Bydd pob grŵp yn ymgymryd â rôl cyfarwyddwr i un perfformiwr. • Bydd y grŵp sy’n perfformio’n ymarfer un o’u golygfeydd. • Ar ddiwedd yr olygfa, bydd pob actor yn mynd at ei grŵp neilltuol. • Bydd y grŵp hwn yn cyfarwyddoperfformiad yr actor ac yn gwneud newidiadau o bosib i wella’i berfformiad.

  6. Tasg 5 Distyllu i’r hanfod Distyllwch bob golygfa i’w hanfod drwy: • greu un ddelwedd lonydd ar gyfer pob golygfa • cynnwys un llinell o ddeialog.

  7. Tasg 6 Cyfleu bwriadau • Tynnwch eiriau’r testun allan o bob golygfa a meimio’r olygfa, gan gyfleu bwriad y cymeriadau mor eglur ag y gallwch. • Ailadroddwch yr olygfa gyda’r ddeialog yn ôl i mewn ond gan gadw’r bwriadau’n eglur. 

  8. Tasg 7 Pwy sy’n dweud y gwir? • Ffurfiwch barau. • Dywedwch stori (gwir neu beidio) wrth eich gilydd am rywbeth sydd wedi digwydd i chi yn eich bywyd, e.e. syrthio oddi ar feic, ennill cystadleuaeth, mynd ar wyliau bythgofiadwy. • Penderfynwch ar y stori orau ac ymarfer adrodd y stori eich dau.  

  9. Tasg 8 Holi byrfyfyr • Eisteddwch mewn cylch fel dosbarth. • Dau wirfoddolwr i sefyll yng nghanol y cylch. • Actiwch senario byrfyfyr, gan siarad mewn cwestiynau yn unig. • Er enghraifft gallai’r olygfa fod mewn gwesty lle mae person A eisiau ystafell.

  10. Mae Gweithgareddau Estyn ar gael yn y Nodiadau i Athrawon

More Related