1 / 68

UNED G2 Amgylcheddau Dynol Newidiol

UNED G2 Amgylcheddau Dynol Newidiol. Thema 1 – Ymchwilio i Newid Poblogaeth. Dosbarthiad poblogaeth y byd. Dwysedd Poblogaeth y byd. Graff twf poblogaeth y byd. Cayfanswm poblogaeth y byd. Blwyddyn Miliynau 1750 - 791 1800 - 978 1850 - 1,262 1900 - 1,650 1950 - 2,521 1999 - 5,978

fauve
Download Presentation

UNED G2 Amgylcheddau Dynol Newidiol

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. UNED G2Amgylcheddau Dynol Newidiol Thema 1 – Ymchwilio i Newid Poblogaeth

  2. Dosbarthiad poblogaeth y byd

  3. Dwysedd Poblogaeth y byd

  4. Graff twf poblogaeth y byd

  5. Cayfanswm poblogaeth y byd Blwyddyn Miliynau • 1750 - 791 • 1800 - 978 • 1850 - 1,262 • 1900 - 1,650 • 1950 - 2,521 • 1999 - 5,978 • 2008 - 6,707 • 2050 - 8,909 (rhagfynegiad) • 2100 - 9,746 (rhagfynegiad) • World population - Wikipedia, the free encyclopedia

  6. Mesur Cyfradd Geni A Marw • Mesur ffrwythlondeb – cyfradd geni syml, cyfanswm ffrwythlondeb. • Mesur marwoldeb – cyfradd marw syml, cyfradd marwoldeb babanod, disgwyliad oes.

  7. Ffactorau yn dylanwadu ar y cyfradd geni • DEMOGRAFFIG – strwythur oedran, marwoldeb babanod. • ECONOMAIDD – llafur plant mewn GLlEDd, costus i fagu plentyn mewn GMEDd. • CYMDEITHASOL – addysg, statws merched, gwasanaethau cymdeithasol, addysg rhyw. • DIWYLLIANNOL – crefydd,e.e.Mwslemiaid, Catholigion cael llawer o blant, traddodiadau, pwysigrwydd cael mab yn rhai GLlEDd,e.e. China, Amlwraig. • GWLEIDYDDOL – polisi ‘un plentyn’ China. • AMGYLCHEDDOL – ardaloedd gwledig yn tueddu i gael cyfraddau geni uwch nag ardaloedd trefol.

  8. Ffactorau yn dylanwadu ar y cyfradd marw • DEMOGRAFFIG – strwythur oedran, rhyw.e.e. Japan- gwrywod -77oed, benywod -83oed. Hîl – grwpiau ethnig,e.e.De Affrica, pobl wyn -70oed, pobl ddu – 56oed. • ECONOMAIDD – grwpiau cyfoethog efo cyfradd marw îs. • CYMDEITHASOL –darpariaeth iechyd cyhoeddus fel dŵr glân a system garffosiaeth. Maeth, deiet a ffordd o fyw.,e.e. Prydain – gordewdra yn broblem mawr. Gofal meddygol a gwariant ar iechyd – nifer i bob doctor,e.e. DU -1/667, Sierra Leone – 1/10820. • GWLEIDYDDOL – polisiau llywodraethau ar addysg, pensiynau, gofal o’r henoed/meddygol yn effeithio ar y cyfradd marw. Rhyfeloedd yn broblem mewn rhai gwledydd, e.e. Irac, Zimbabwe. • AMGYLCHEDDOL – ardaloedd trefol efo cyfraddau marw uwch nag ardaloedd gwledig oherwydd llygredd/ trychinebau naturiol,e.e. Tsunami Asia 2004, Corwynt Burma 2008, Daeargryn China 2008.

  9. Model Trawsnewid Demograffig

  10. Gwerthuso’r model • MANTEISION – Disgrifio yn dda, cymharu gwledydd, proffwydo poblogaeth, man cychwyn i fodelau gwell. • ANFANTESION – Ddim yn cynnwys mudo, ddim yn cynnwys dylanwadau o wledydd eraill, ddim yn darogan newid o un cyfnod i’r llall.

  11. Gwledydd MTD • Cam/Stâd 2 – Burkina faso, Liberia, Somalia. • Cam 3 – Zimbabwe, Gabon, Namibia. • Cam 4 – Ffindir, ffrainc, Malta, DU • Cam 5 – Yr Almaen, Yr Eidal, Rwsia, Hwngari. • http://www.prb.org/

  12. MUDO – Nodweddion gwahanol fathau • Mudo rhyngwladol – symud o wlad i wlad. • Mudo cenedlaethol – symud o fewn un wlad. • Mudo GORFODOL – cael eich gorfodi i symud,e.e.ffoaduriaid oherwydd rhyfel/trais. • Mudo GWIRFODDOL – symud drwy ddewis personol,e.e.henoed yn ymddeol, mudwyr economaidd.

  13. Mudo gwirfoddol – Mudo i Orllewin Ewrop • O ble? Affrica, de Ewrop, Asia, America Ladin. • Pam? I chwilio am fywyd a chyfleoedd gwaith gwell. • Ffactorau tynnu – twf economaidd wedi’r rhyfel, twf poblogaeth isel felly angen gweithwyr, dyheadau pobl lleol yn codi felly llai tebyg o dderbyn swyddi sâl, corfforol a di-grefft. • Ffactorau gwthio – diweithdra, tlodi a thanddatblygiad, lefel incwm y pen isel.

  14. Manteision Anfanteision Gwlad sy’n colli poblogaeth,e.e.Twrci ·lleihau pwysau ar swyddi ac adnoddau,e.e.bwyd ·  colli pobl ifanc – achosi lleihad yn y cyfradd geni ·colli pobl yn y grŵp oedran gweithiol · colli pobl gyda sgiliau ac addysg · dynion yn gadael yn achosi teuluoedd yn chwalu · poblogaeth hŷn yn weddill yn golygu cyfradd marw uchel Gwlad sy’n derbyn poblogaeth,e.e.Yr Almaen ·dim prinder llafurlu (gweithwyr) ·   barod i wneud swyddi budur, di-sgil ·   barod i weithio oriau hir am gyflog isel ·    rhai mudwyr efo sgiliau uchel ·pwysau ar swyddi · tai o ansawdd isel wedi’i gorlenwi ac heb gyfleusterau cyffredinol · lleiafrifoedd ethnig ddim yn cymysgu â’r boblogaeth gynhenid ·  tensiwn hiliol a anawsterau iaith ·llai o gyfleoedd i ymarfer eu crefydd a’u diwylliant nhw ·  iechyd yn fwy gwael yn aml Mudo Twrci i’r Almaen

  15. Mudo gwirfoddol – Ymddeol i Ogledd Cymru • I Ble? Mae mwyafrif sy’n ymddeol yn mudo dros bellter byr,e.e. o Lerpwl a Manceinion i Ogledd Cymru. • Ffactorau tynnu? I fod yn agosach at y teulu, rhywle tawelwch, glanach, llai prysur, fwy diogel/ymdeimlad o gymuned, golygfeydd, e.e.cefn gwlad (Ynys Mon), trefi glan môr fel Llandudno, Y Bermo. • Ffactorau gwthio – trais, fandaliaeth, ofn, sŵn, llygredd y ddinas fewnol/maestrefi.

  16. Mudo gorfodol yn Indonesia • 1969 – llywodraeth Indonesia yn cyflwyno ‘rhaglen drawsfudo/ailgartrefu’, dadleuol iawn. Cymorth gan Fanc y Byd a llywodraethau Ffrainc, yr Almaen a’r Iseldiroedd. • 1975 byddin yn symud pobl o ynys Jawa i ddwyrain Timor. Gwrthdaro yn 1999 oherwydd D.T eisiau annibynniaeth. • Effeithiau ar goedwig law; Sumatera wedi colli 2.3 miliwn hectar o goedwig law, 300,000 yn byw heb wasanaethau sylfaenol, afiechydon fel malaria yn cynyddu.

  17. Map o Indonesia

  18. Mudo gorfodol – Ffoaduriaid Congo • Pam? Byddin Congo yn ymladd gyda Rebeliaid fel Llwyth y ‘Tutsi’ yn erbyn y llywodraeth. Rwanda yn gwaethygu’r broblem drwy groesi’r ffin,e.e Llwyth yr Hutu. 1994 – Hutu yn gyfrifol am ladd 800,000 yn Rwanda. • Byddin Congo yn gorfodi 250,000 i symud,e.e. 50,000 yn llochesu yn Goma. • Llywodraethau Prydain a Ffrainc yn ceisio rhoi diwedd i’r ymladd, Cehhedloedd Unedig (UN) yn darparu cyflenwadau meddygol a dŵr glân. • Problemau – Elusennau yn gwrthod rhoi cymorth oherwydd pryderon am ddiogelwch.

  19. Map o Ganolbarth Affrica

  20. Mudwyr o Ddwyrain Ewrop i’r DU • Somaliaid yng Nghaerdydd – yn hanesyddol ers 19G i weithio ar y llongau/porthladdoedd, mwy wedi dod ers rhyfel cartref 1991. 8,000 i gyd. • Problemau iaith/diwylliant, cymathu / cael eu derbyn yn rhan o’r gymdeithas.

  21. Astudiaeth achos - Pwyliaid i’r D.U • Wedi digwydd ers 2004 pan ymunodd Gwlad Pwyl â’r Undeb Ewropeaidd. • 1 miliwn wedi ymfudo, neb yn siwr, ond efallai fod 500,000 wedi dychwelyd. • GWTHIO – Diweithdra, cyflog isel, ansawdd bywyd îs. MUDO ECONOMAIDD. • TYNNU (I’r D.U) – digon o waith, cyflogau uwch, buddion (benefits). Dim ond y D.U, Iwerddon a Sweden yn cytuno i gael ffîn agored, ond erbyn 2009 fydd yr Undeb Ewropeaidd yn gwbl agored.

  22. Deyrnas Unedig gweithwyr rhad llenwi swyddi ansawdd isel e.e llefydd bwyta, ffermio hybu economi pobl gweithgar straen ar wasanaethau e.e ysgolion newid cymdeithasol tensiwn cymdeithasol gweithwyr incwm isel y D.U methu cael swyddi/ cyflogau îs Gwlad Pwyl colli pobl ifanc gyda sgiliau e.e wedi cael trafferth cael gweithwyr i adeiladu stadiwm pêl-droed Euro 2012. arian yn cael eu gyrru yn nol llai o ddiweithdra chwalu teuluoedd erthygl ‘independent’ mae’r sefyllfa yn newid! darllenwch hefyd Canlyniadau mudo

  23. Pyramid poblogaethBurkina Faso (Cam 2)

  24. Pyramid poblogaeth Gabon (Cam 3)

  25. Pyramid poblogaeth Brasil (Cam 3) HEN DIBYNNOL GWEITHGAR ECONOMAIDD IFANC DIBYNNOL

  26. Pyramid poblogaeth Prydain (Cam 4)

  27. Pyramid Poblogaeth Hwngari (Cam 5)

  28. Strwythurau rhyw niweidiol • Polisi Un Plentyn China – 1980 mwagwyd y polisi llym gan y llywodraeth. Nod o gyfyngu poblogaeth i ddim mwy na 1200 miliwn erbyn 2000. System gwobrwyo a chosb drwy gyflogau. Wedi creu gwrthdaro yn erbyn gwerthoedd teulu traddodiadol. Pryder tymor hir – ‘Ymerawdwtr bychain’. Babanladiad benywaiddd ac erthyliadau dewisiol. • Babanladdiad benywaidd yn India – Cymarebau rhyw gwaethaf y byd, mwy o ddynion na merched. Talaith Punjab ymysg gwaethaf yn y byd. Creu problemau cymdeithasol – dynion methu ffeindio gwraig fellly yn prynu gwragedd o wledydd eraill. Pentrefi yn llawn dynion sengl. Llawer o glinigau yn erthylu merched yn anghyfreithlon. Amnghydraddoldeb yn gryf.

  29. Babanod IVF (InVitro Fertilisation) – Techneg sy’n galluogi doctoriaid a rhieni i leihau’r siawns o gael plentyn wedi ei eni efo nam genynol (genetic disorder). 10,000 achos llwyddiannus ym Mhrydain bob blwyddyn. • Babanod ‘dylunydd’ (designer babies) – yw gadael i rieni ddewis rhyw eu plentyn. Pwnc llosg/dadleuol. Rhesymau meddygol yn dderbyniol efallai ond nifer yn ei erbyn.

  30. Sialensau demograffig Prydain • PRYDAIN – gwlad Pro-enedigaethol. Poblogaeth sy’n heneiddio oherwydd merched yn dilyn gyrfa, gostyngiad mewn ffrwythlondeb, a twf defnydd dulliau atal cenhedlu. • CYFLEOEDD – gwybodaeth eang gan henoed, llai treisgar, helpu adranau o’r economi fel SAGA, prydau sengl, henoed yn arwain clybiau a chymdeithasau, e.e.Merched y Wawr, gwarchod plant tra fod rhieni yn gweithio, pŵer gwleidyddol (grey power). • SIALENSAU – costau ychwangegol,e.e.pensiynau, gofal iechyd, ysbytai, cartrefi i’r henoed. Llai o weithwyr felly trethi yn codi a all annog diweithdra. Arafu twf yr economi – pobl llai parod i ddysgu sgiliau newydd. 2008 – 1-1.3%. Gyrfaoedd yn aros yn yr unfan – llai o gyfleoedd am ddyrchafiad swydd. Rheoli mewnfudo.

  31. CYNLLUN PRYDAIN • Annog pobl i gael pensiwn preifat,e.eAVC. • Annog pobl i gael yswyriant preifat, e.eDenplan, BUPA. • Cynyddu’r oedran ymddeol,e.e.athrawon – 60 i 65oed. • Derbyn mewnfudwyr o wledydd LLEDd, e.e.Gwlad Pŵyl. Disgwyl iddynt dalu trethi i gynnal henoed.

  32. Polisiau rheoli geni yn Mauritius (GLlEDd) • Perthynas fregus rhwng poblogaeth ac adnoddau. • Poblogaeth isel yn golygu hanes o fewnforio caethweision Affricanaidd fel llafur i weithio ar y planigfeydd siwgr. • Poblogaeth yn dyblu rhwng 1940-70au oherwydd dirywiad yn y cyfradd marw.Ond cyfradd geni yn aros yn uchel oherwydd priodi cynnar, economi gryf, rôl y ferch. • Pabyddiaeth ac Islam yn erbyn rheoli poblogaeth. • 1965 – rhaglen cynllunio teulu i leihau cyfradd geni o 50/1000 (1950) i 20/1000 (1990). • Rhesymau – cynnydd yn oedran priodi, cwymp yr economi, newid mewn agwedd at faint teulu, cynnydd statws merched.

  33. Map o Mauritius

  34. Thema 2 – Ymchwilio i newidiadau yn Aneddiadau Gwledydd MEDd

  35. Hierarchaeth aneddiadau

  36. Continwwm trefol-gwledig

  37. Canfyddiad o le • CANFYDDIAD POBL (People Perception) – yw fod well gan bobl fyw yng nghefn gwlad oherwydd diogelwch, fwy tawel ac hamddenol, llai o sŵn traffig. Llai o lygredd aer, cyflymder bywyd yn arafach, mwy o hunaniaeth, llai o broblemau cymdeithasol fel cyffuriau.

  38. Strwythur cymdeithasol a diwylliannol aneddiadau • GWRTHDREFOLI - Yw symudiad pobl a gwaith o ardal fetropolitan i ardal di-fertopolitan.Pam? – pobl yn ymddeol, dianc o’r ‘rat race’ trefol, pobl hunan-gyflogedig, gwaith yn symud, eisiau magu teulu mewn awyrgylch ddiogel, dim llygredd, tawel. • MAESTREFOLI – symudiad i gyrion ardal drefol,e.e. Penarlâg, ger Caer.map Os. Rhos, ger Wrecsam.Map os Pentyrch a Llantwit Major ger Caerdydd.Map os • DIBOBLOGI – ardaloedd anghysbell yn colli poblogaeth,e.e. Corris, Canolbarth Cymru. Map os • AIL-DREFOLI – gwella ardal dinas fewnol,e.e. dociau Caerdydd. • GETOEIDDIO – ardal lle mae grwpiau ethnig yn crynhoi,e.e. Somaliaid yn Tre Bute, Caerdydd. • BONEDDIGEIDDIO – ardal sydd wedi dirywio yn gwella mewn ansawdd neu ddod yn fwy ffasiynol, e.e. Notting Hill, Llundain, Penarth, Bae Caerdydd • ARDALOEDD MYFYRWYR – yn crynhoi mewn ardal benodol o’r ddinas,e,e. Y Rhath, Caerdydd

  39. AMDIFADEDD • DANGOSYDDION – incwm, nifer o geir, diweithdra, nifer o rieni sengl. CAERDYDD : • 14 ward amddifad,e.e. Stad Cyngor Ely, Riverside a Tre Bute (Butetown). • Diweithdra uchel – Ely 51%. Uwch ymysg lleiafrifoedd ethnig. Tre Bute – 35%. Gweithgynhyrch a’r dociau wedi dirywio – glo wedi diflannu. Docwyr heb swyddi addas. 80% yn gweithio yn y sector tertaidd. • Incwm isel – merched yn ennill llai na dynion. • Strwythur oedran isel – 35% bobl ddu dan 16 oed.

  40. ARWAHANU • DANGOSYDDION – Hîl (race), statws (incwm), iaith, crefydd. CAERDYDD – • Cymdeithas ethnig hen wedi crynhoi yn y Bae (dinas fewnol),e.e. Tre Bute (Butetown) ers canrifoedd,e.e.Somaliaid. • Clysturu mewn “ghettos” oherwydd teimladau o unigrwydd, cynnal eu hunaniaeth (identity) a ymarfer eu credoau (beliefs).

  41. RHESYMAU • DEMOGRAFFIG – pobl ifanc a henoed ar incwm îs. Cyfansoddiad ethnig yn dibynnu ar y lefel o arwahanu. Ffactorau ‘gwthio’ a ‘thynnu’ yn bodoli. • ECONOMAIDD – dirwasgiad economaidd yr 1970/80au. Swyddi gweithgynhyrchu yn dioddef,e.e.Sheffield, Birmingham, Glasgow. Pobl ethnig ar incwm îs yn byw yn y canol. Twf economaidd yn arwain at BONEDDIGEIDDIO, sef ardal tlawd yn codi mewn safon,e.e. Notting Hill, Llundain, Map , Bae Caerdydd. • DIWYLLIANNOL – polisi amddiffynnol ac ymosodol yn ebyn rhagfarn,e.e. Mwslemiaid, Pwyliaid yn Wrecsam. Gwarchod iaith,e.e. Cymry Lerpwl. Gwarchod crefydd,e.e. Pabyddion yn ardal Clonrad, Belfast. • GWLEIDYDDOL – Mae polisiau mewnfudo wedi llacio o dan llywodraeth Lafur, llawer o Bwyliaid wedi dod i fewn I’r wald yn ddiweddaryn dilyn ymaelodaeth â’r UE, creu tensiynau. Pethau yn dechrau tynhau rwan gyda bygythiadau terfysgaeth, helyntion. • GWIRFODDOL (VOLUNTARY) – e.e. eisiau magu teulu, ymddeoliad. • GORFODOL (FORCED) – incwm, amddiffyn/cadw crefydd, ofn.

  42. WARDIAU CAERDYDD MAESTREFI RHIWBINA, LLANISHEN, CYNCOED, ST.MELLONS ELY A CAERAU ARDAL BAE CAERDYDD TRE BUTE – ARDAL AMDDIFAD

  43. Pynciau llosg dinas fewnol? • DAD-DDIWYDIANEIDDIO – proses o newid economaidd a chymdeithasol drwy ddirywiad neu golled diwydiant yn aml mewn diwydiannau trwm,e.e. Cau Dociau Caerdydd. • DIFFEITHDRA – safle tir brown. • TIR DIFFAITH – tir sydd wedi ei ddifrodi gan ddatblygiad diwydiannol ac wedi ei adel yn segur ac angen gwaith adnewyddu.

  44. AIL-DDATBLYGU BAE CAERDYDD • NÔD- ail-ddatblygu ardal oedd yn dirywio yn economaidd efo llawer o dir diffaith (derelict). A chreu dinas o safon rhyngwladol. • STRATEGAETH – adeiladu 372,000m² ar gyfer swyddfeydd a diwydiant, hamdden a siopa a 6,000 o dai newydd. Creu bae newydd drwy adeiladu bared a llyn o ddŵr croyw ar gôst o £191 miliwn.

  45. MAP STRYD O FAE CAERDYDD Map rhyngweithiol

  46. MAP FFORDD O DDINAS CAERDYDD

  47. CHWARAEON DIGWYDDIADAU CELFYDDYDAU TREFTADAETH BYWYD NOS BWYTA ALLAN

More Related