1 / 23

DPP CBAC 2012

DPP CBAC 2012. SESIWN 3 Newidiadau HY2 i’w haddysgu o fis Medi 2012 a’u harholi ym mis Mai 2013 (a) y fanyleb / cynnwys (b) neilltuo amser (c ) nifer y ffynonellau (d) is-gwestiynau arddull newydd (e) newidiadau i’r cynllun marcio. DPP CBAC 2012.

evers
Download Presentation

DPP CBAC 2012

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. DPP CBAC 2012 SESIWN 3 Newidiadau HY2 i’w haddysgu o fis Medi 2012 a’u harholi ym mis Mai 2013 (a) y fanyleb / cynnwys (b) neilltuo amser (c ) nifer y ffynonellau (d) is-gwestiynau arddull newydd (e) newidiadau i’r cynllun marcio

  2. DPP CBAC 2012 NEWIDIADAU HY2 I’W HADDYSGU O FIS MEDI 2012 A’U HARHOLI GYNTAF YN HAF 2013 Cafodd newidiadau i unedau TAG Hanes UG, HY1 a HY2 eu hachredu gan y rheoleiddiwr arholiadau, OFQUAL. Byddan nhw’n dod i rym ar gyfer eu haddysgu gyntaf ym mis Medi 2012. Bydd yr arholiadau cyntaf yn arddull ddiwygiedig HY2 ar gael ym mis Mai 2013. Mae’r fanyleb a’r deunyddiau asesu enghreifftiol wedi’u diwygio ar gyfer holl Astudiaethau Manwl HY2 ar gael ar wefan CBAC http://www.cbac.co.uk

  3. DPP CBAC 2012 ASTUDIAETH FANWL HY2 – BETH SYDD DDIM WEDI NEWID Does dim newid ym manyleb na chynnwys HY2. Bydd angen i chi ddysgu’r fanyleb gyfan. Gall y cwestiynau seiliedig ar ffynonellau gael eu tynnu o’r fanyleb gyfan, neu’r rhan helaethaf ohoni fel y mae nawr, a bydd hynny’n digwydd. Fydd yna ddim newid yn nifer y cwestiynau cyfan yn HY2. Gall ymgeiswyr ddewis UN cwestiwn o’r DDAU gaiff eu cynnig.

  4. Newidiwyd dyraniad amser HY2 – gostyngiad o 10 munud. Bydd yn 80 munud o hyd, fel y dangoswyd ar y Deunyddiau Asesu Enghreifftiol.

  5. DPP CBAC 2012 ASTUDIAETH FANWL HY2 – BETH SY WEDI NEWID Bydd yna BEDWAR yn hytrach na’r pum is-gwestiwn cyfredol. Fe’n gwahoddwyd i ddileu’r is-gwestiwn dibynadwyedd (yr hen is-gwestiwn c) am ei bod yn ymddangos ei fod yn hybu ymatebion mecanyddol wrth lawer, y mwyafrif yn ôl pob tebyg, o’r ymgeiswyr. Fe’n gwahoddwyd hefyd i ddiwygio pob un o’r is-gwestiynau eraill i ryw raddau ac felly mae’r holl is-gwestiynau wedi newid i ryw raddau. Dilynir pob is-gwestiwn gan nodyn atgoffa o’r hyn sydd ei angen gan bob myfyriwr. Bydd y rhain yn gyfarwyddiadau syml megis Esboniwch eich ateb gan ddadansoddi a gwerthuso cynnwys ac awduraeth Ffynonellau A a B gan ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol.

  6. DPP CBAC 2012 ASTUDIAETH FANWL HY2 – BETH SY WEDI NEWID Bydd yna CHWECH yn hytrach na’r pum ffynhonnell gyfredol. Roedd gennym bryder ynghylch y strwythur blaenorol am fod yna beth gorgyffwrdd yn y defnydd o’r PUM ffynhonnell. Bydd defnyddio chwe ffynhonnell yn lleihau, i raddau helaeth, y mater gorgyffwrdd, yn arbennig yn y cwestiynau (b) ac (c) mwy newydd . Bydd yr holl is-gwestiynau, gan gynnwys yr is-gwestiwn (d) mwy newydd – y cwestiwn trosfwaol – yn canolbwyntio ar ffynonellau penodol er mwyn ceisio lleihau swm y gorgyffwrdd i fyfyrwyr.

  7. DPP CBAC 2012 ASTUDIAETH FANWL HY2 – BETH SY WEDI NEWID Mae’r holl gynlluniau marcio wedi newid a’r un modd y dyraniadau marcio. Yn gyffredinol mae’r cynlluniau marcio yn dilyn yr un strwythur ag yn HY1 er bod AA1 ac AA2 wedi’u cyfannu trwyddi draw, yn ôl y galw. Mae’r derminoleg a ddefnyddir yn y cynllun marcio yn gyson seiliedig ar y disgrifwyr perfformiad ar gyfer Hanes UG, a geir yn y meini prawf pwnc ar gyfer Hanes. Gwelir amrediad cyfan y cynlluniau marcio ar gyfer yr holl Astudiaethau Manwl yn www.cbac.co.uk Mae set gyflawn o DAE ar gael ar wefan CBAC.

  8. ASTUDIAETH FANWL HY2 – GOSODIAD Y PAPUR ARHOLIAD

  9. ASTUDIAETH FANWL HY2 – GOSODIAD Y PAPUR ARHOLIAD

  10. DPP CBAC 2012 ASTUDIAETH FANWL HY2 – BETH SY WEDI NEWID BYDD YR IS-GWESTIYNAU – (a): yn asesu gwybodaeth o derm neu ymadrodd hanesyddol a ddefnyddir gan awdur. Beth mae awdur Ffynhonnell Ch yn ei olygu wrth y frawddeg ‘Pe bai America a Lloegr yn ddoeth fe fydden nhw’n anfon arian i ni i ymladd Bolsieficiaeth’? Yn eich ateb fe’ch cynghorir i drafod cynnwys ac awduraeth y ffynhonnell ac i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol.[8] Bydd Is-gwestiwn (a) yn disgwyl diffiniad o derm hanesyddol neu ymadrodd a ddefnyddir yn un o’r ffynonellau. Mae’r cwestiwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeiswyr ddarparu esboniad sydd wedi’i osod yn y cyd-destun hanesyddol y cafodd ei greu. Bydd angen i’r ymgeiswyr felly i wneud defnydd o briodoliad y ffynhonnell i ddeall yr hyn roedd yr awdur yn ei olygu yn y cyd-destun y cafodd ei greu.

  11. Y disgwyliad yn yr ymateb i gwestiwn (a): asesiad o ymadrodd hanesyddol neu gysyniad a ddefnyddir gan awdur Disgwylir i ymgeiswyr ddefnyddio eu gwybodaeth eu hunain am y cyfnod i ddangos dealltwriaeth o’r ymadrodd ac o’r cyd-destun y cafodd ei ddefnyddio ynddo. Disgwylir i ymgeiswyr ddadansoddi cynnwys ac awduraeth y ffynhonnell. Gall rhai o’r materion i’w hystyried cynnwys: * Yn ganolog i bropaganda’r Natsïaidoedd y syniad mai Bolsieficiaeth / Comiwnyddiaeth oedd achos holl broblemau’r Almaen a’r bygythiad i’r gymdeithas Almaenaidd. Adlewyrchwyd hyn yn Nhân y Reichstag a gysylltid ag ofn y byddai Comiwnyddiaeth yn codi’i ben. * Mae hefyd yn adlewyrchu barn gyhoeddus gyfredol ym Mhrydain ac America a welai Sosialaeth Genedlaethol yn rwystr rhag ymlediad Bolsieficiaeth ar draws Ewrop a dyna pam y mae’r awdur yn apelio am arian gan Brydain ac America * Mae safbwynt yr awdur yn nodedig am ei fod yn dangos bod gweision cyhoeddus megis athrawon yn arddel safbwynt swyddogol Natsïaethac mae’n dangos bod y Natsïaidyn llwyddo i annog y proffesiynau trwy bropaganda i gefnogi polisi’r Natsïaid. Hyn oedd yn cyfrif am natur gefnogol naws y ffynhonnell a’r safbwynt gwrth-gomiwnyddol.

  12. GRID ASESU RHAN (a) Targed: AA1; AA2a Cyfanswm: 8 Ffocws: Dwyn i gof, dethol a defnyddio gwybodaeth hanesyddol briodol yn ei chyd-destun; gwerthuso deunydd ffynhonnell

  13. DPP CBAC 2012 ASTUDIAETH FANWL HY2 – BETH SY WEDI NEWID BYDD YR IS-GWESTIYNAU – (b): yn asesu pwysigrwydd neu arwyddocâd datblygiad hanesyddol. (b) Pa mor bwysig oedd propaganda yn y Drydedd Reich? Eglurwch eich ateb trwy ddadansoddi a gwerthuso cynnwys ac awduraeth Ffynonellau A a B gan ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol. [16] Bydd is-gwestiwn (b) yn disgwyl esboniad o bwysigrwydd neu arwyddocâd digwyddiad neu ddatblygiad hanesyddol. Bydd angen i ymgeiswyr ddadansoddi a gwerthuso cynnwys ac awduraeth y ddwy ffynhonnell a nodwyd a hefyd defnyddio eu gwybodaeth eu hunain wrth ateb y cwestiwn hwn. Bydd angen i’r ymgeiswyr ganolbwyntio ar briodoleddau’r ffynonellau a bwrw ati i ddarparu esboniad llawn o bwysigrwydd neu arwyddocâd y mater o dan sylw mewn perthynas â’r ymholiad hanesyddol a osodwyd.

  14. Y disgwyliad yn yr ymateb i gwestiwn (b): asesiad o bwysigrwydd neu arwyddocâd datblygiad hanesyddol. Gall ymgeiswyr ystyried rhai o’r materion canlynol: * Mae ffynhonnell A yn awgrymu bod propaganda yn sylfaenol i’r rhaglen Natsïaidd a’i fod wedi treiddio i bob agwedd o gymdeithas Almaenaidd. Y bwriad oedd codi’r genedl i gefnogi Sosialaeth Genedlaethol a Hitler * Cynigia ffynhonell B agwedd gyffelyb am ei fod yn ymddangos yn cyfiawnhau sefydlu’r Weinyddiaeth newydd trwy bwysleisio rhan allweddol propaganda mewn creu cefnogaeth * Mae Geary yn sicr yn gweld propaganda yn bwysig yn y Drydedd Reich. Rhoddir ei safbwynt gyda chymorth ôl-ddoethineb am ei fod yn ymwybodol o swyddogaeth propaganda yn cyflyru cyfran helaeth o bobl yr Almaen. Mae ei farn yn gyson â’r syniad bod Natsïaethyn dotalitaraidd. Mae ei safbwynt wedi’i dargedu tuag at ei gynulleidfa o fyfyrwyr Safon Uwch. * Fel Natsi amlwg roedd safbwynt Goebbels tuag at bropaganda wrth reswm yn gadarnhaol ac yn gefnogol o’i bwysigrwydd i’r Drydedd Reich. Goebbels sy’n cyflwyno wyneb swyddogol Natsïaethmewn cynhadledd i’r wasg a dylid ei ystyried yng nghyd-destun y ffaith ei fod yn perfformio gerbron cynulleidfa o newyddiadurwyr.

  15. GRID ASESU RHAN (b) Targed: AA1; AA2a Cyfanswm: 16 Ffocws: Dwyn i gof, dethol a defnyddio gwybodaeth hanesyddol briodol yn ei chyd-destun; dadansoddi a gwerthuso deunydd ffynhonnell er mwyn trafod ei bwysigrwydd/arwyddocâd

  16. DPP CBAC 2012 ASTUDIAETH FANWL HY2 – BETH SY WEDI NEWID BYDD YR IS-GWESTIYNAU – (c): yn asesu gallu’r ymgeisydd i egluro gwahanol ddehongliadau hanesyddol. (c) Ydych chi’n cytuno â’r dehongliad mai’r Natsïaid oedd yn gyfrifol am y Tân yn y Reichstag? Eglurwch eich ateb trwy ddadansoddi a gwerthuso cynnwys ac awduraeth Ffynonellau C ac Ch a chan ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol. [24] Bydd is-gwestiwn (c) yn disgwyl i ymgeiswyr ddadansoddi a gwerthuso sut mae agweddau o’r astudiaeth fanwl a ddewiswyd wedi’u dehongli neu eu cyflwyno mewn ffyrdd gwahanol a hefyd i ddefnyddio gwybodaeth hanesyddol briodol ynglŷn â’r agwedd hon. Gofynnir i ymgeiswyr roi barn ddilys wedi’i chefnogi ar ddehongliad penodol, e.e.: Ydych chi’n cytuno â’r dehongliad mai’r Natsïaid oedd yn gyfrifol am y Tân yn y Reichstag?Disgwylir iddyn nhw ddefnyddio cynnwys ac awduraeth y ddwy ffynhonnell fydd wedi’u dewis ac i ddefnyddio eu gwybodaeth eu hunain i drafod a chynnig barn ddilys ynghylch y dehongliad hwn. Dylai’r ymgeiswyr fod yn abl i gyflwyno eu gwybodaeth am ddehongliadau eraill yn rhan o’u hateb.

  17. Y disgwyliad yn yr ymateb i gwestiwn (c): asesiad o allu’r ymgeisydd i egluro gwahanol ddehongliadau hanesyddol. * Gwahoddir ymgeiswyr i gymryd rhan mewn dadl ynghylch pwy oedd yn gyfrifol am y Tân yn y Reichstag. Mae’r ddadl yn adnabyddus a dylai’r ymgeiswyr fod yn abl i ystyried p’un a yw’r dehongliad yn ddilys neu oes yna unrhyw hygrededd i fersiwn ‘swyddogol’ y Natsïaid? * Mae ffynhonnell C yn awgrymu er bod Van der Lubbe wedi cymryd rhan mae’n debygol bod y Natsïaid wedi chwarae rhyw ran ac mae hynny felly’n cefnogi’r dehongliad yn y cwestiwn. Dyma farn cyn-ddiplomydd a fyddai yn ôl pob tebyg yn ymdroi mewn cylchoedd gwleidyddol ar y pryd ac mae ei farn yn debygol o fod yn ddilys er iddi gael ei hysgrifennu yn ei hunangofiant. Ond dylid nodi bod y gred mai gan y Natsïaid roedd fwyaf i ennill o’r Tân wedi’i gyfleu’n helaeth ymysg diplomyddion a newyddiadurwyr tramor ar y pryd ac felly dylid ei drin â gofal * Mae ffynhonnell Ch yn enghraifft o’r safbwynt swyddogol Natsïaidd ar y Tân fel y cafodd ei gyfleu i drigolion yr Almaen a chefnoga ddehongliad gwahanol sy’n bwrw’r bai ar y Comiwnyddion. Gwelir effeithlonrwydd propaganda o’r fath o edrych ar ddarn yn nyddiadur athro ysgol. Mae’r ffaith fod y Natsïaid wedi cydlynu’r holl broffesiynau yn taflu elfen o amheuaeth ynghylch cywirdeb y ffynhonnell hon ac felly mae’n ddiffygiol a heb ei chefnogi gan lawer o dystiolaeth mewn gwirionedd. Dengys pa mor berswadiol oedd dylanwad propaganda Natsïaidd pan oedden nhw am i syniad gael ei gredu. * Gallai’r ymgeiswyr yn wir ystyried dehongliad arall sef fod Van der Lubbe yn gweithredu ar ei ben ei hun fel arf yn nwylo’r Natsïaid. Mae’n bosibl ei fod yn anarchydd yn ymosod ar unrhyw symbol o awdurdod.

  18. ASSESSMENT GRID FOR PART (c) Target: AO1; AO2a; AO2b Total mark: 24 Focus: Recall, selection and deployment of appropriate historical knowledge in context; analysis and evaluation of how aspects of the past have been interpreted and represented in different ways GRID ASESU RHAN (c) Targed: AA1; AA2a; AA2b Cyfanswm: 24 Ffoces: Dwyn i gof, dethol a defnyddio gwybodaeth hanesyddol briodol yn ei gyd-destun; dadansoddi a gwerthuso sut y dehonglwyd agweddau ar y gorffennol a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd

  19. DPP CBAC 2012 ASTUDIAETH FANWL HY2 – BE SY WEDI NEWID BYDD YR IS-GWESTIYNAU – (ch): yn asesu gallu’r ymgeisydd i ystyried materion yr astudiaeth fanwl ehangach ond bydd yn canolbwyntio’n uniongyrchol ar dair ffynhonnell wedi’u dewis gan yr Uwch Arholwr. • (ch) Pa mor ddefnyddiol yw Ffynonellau B, D ac DDi ddeall yr Almaen Natsïaidd, 1933-1939? • Yn eich ateb fe’ch cynghorir i ddadansoddi a gwerthuso cynnwys ac awduraeth y ffynonellau hyn ac i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol. [32] Bydd is-gwestiwn (ch) yn disgwyl gwerthusiad o ddefnyddioldeb y tair ffynhonnell ddewisol yng nghyd-destun yr astudiaeth fanwl a wnaed. Disgwylir i ymgeiswyr ddangos eu gallu i ddadansoddi a gwerthuso cryfderau a chyfyngiadau’r ffynonellau a ddewiswyd gan ddangos sgiliau gwerthuso ffynhonnell. Dylid rhoi ystyriaeth i gynnwys ac awduraeth y ffynonellau a ddewiswyd er mwyn trafod materion megis dibynadwyedd, gogwydd, pwrpas a dilysrwydd, yn unol â’r hyn sy’n briodol, wrth ystyried eu defnyddioldeb. Dylid hefyd ystyried cyfyngiadau’r ffynonellau a ddewiswyd yng nghyd-destun ehangach yr astudiaeth fanwl.

  20. Y disgwyliad yn yr ymateb i gwestiwn (ch): asesiad o allu’r ymgeisydd i ystyried materion ehangach yr astudiaeth fanwl yn canolbwyntio ar ffynonellau dethol. * Mae’r ffynonellau’n ddefnyddiol iawn i gynorthwyo i egluro rhai agweddau ar fywyd yn yr Almaen Natsïaidd gan gynnwys meysydd megis y defnydd o bropaganda (Ffynhonnell B) a rheolaeth o sefydliadau a gynorthwyodd i sefydlu unbennaeth Natsïaidd (Ffynhonnell D). Ceir hefyd gyfeiriad at fater allweddol polisi tramor Natsïaeth o ganol i ddiwedd 1930au (Ffynhonnell DD) * Mae’r ffynonellau’n darparu safbwynt dau wleidydd amlwg, un yn Almaenwr a’r llall yn Sais, yn ogystal ag enghraifft o farn ddychanol Americanaidd. Mae angen gwerthuso’r awduraeth o ran ei ddefnyddioldeb. Roedd Goebbels yn cynrychioli’r safbwynt Natsïaidd swyddogol a thrwy hynny byddai’n llwyddo i gyflawni ei uchelgais bersonol ac mae’n debyg felly o ddatgelu gwir natur a chyfeiriad y gyfundrefn yn arbennig mewn araith yn 1933 yn fuan wedi dod i rym. Mae ffynhonnell D yn gartŵn dychanol o gylchgrawn rhyddfrydol / asgell chwith Americanaidd sy’n debygol o gondemnio polisi Natsïaidd fel gweithred o ryfel yn erbyn rhyddid unigol pobloedd yr Almaen. Mae’n rhaid ystyried ei fod yn safbwynt gwrthrychol wrth benderfynu ei gywirdeb. Mae ffynhonnell DD yn cyflwyno rhwystredigaethau gwleidydd Prydeinig sydd wedi methu â dofi Hitler ac felly gwna un ymdrech olaf i dargedu pobl yr Almaen mewn araith ar y radio. Er bod sylwadau Chamberlain yn ddilys ai ceisio achub ei groen ei hun a’i enw da y mae mewn gwirionedd? * Mae yna gyfyngiadau i ddefnyddioldeb y casgliad. Er bod y ffynonellau yn darparu elfennau o’r astudiaeth fanwl ni chyfeirir yn uniongyrchol at amrediad o agweddau allweddol o fywyd yn yr Almaen ar y pryd. Byddai hyn yn cynnwys y defnydd o frawychu, effaith polisïau economaidd a hiliol Natsïaidd yn ogystal â pholisïau addysg, ieuenctid a thramor ar ddechrau’r 1930au a’r rhan a chwaraewyd gan y Blaid Natsïaidd. * Bydd peth trafodaeth ynghylch yr amrediad ehangach o ffynonellau y gellid eu defnyddio i ddeall datblygiadau yn yr Almaen Natsïaidd yn ystod y cyfnod hwn a chulni amrediad a’r math o ffynonellau a ddewiswyd ar gyfer yr ymholiad hwn.

  21. GRID ASESU RHAN (ch) Targed: AA1; AA2a; AA2b Cyfanswm: 32 Ffocws: Dwyn i gof, dethol a defnyddio gwybodaeth hanesyddol briodol yn ei gyd-destun; dadansoddi a gwerthuso amrediad o ddeunydd ffynhonnell gyda dirnadaeth

More Related