1 / 12

Rhifau Arbennig

Rhifau Arbennig. Lluosrifau, ffactorau, eilrifau, odrifau, rhifau sgwâr, rhifau ciwb, rhifau cysefin, israddau. Odrifau ac Eilrifau. Odrifau yw rhifau na ellir rhannu â 2 heb adael gweddill, e.e. 1, 3, 5, 7, 21, 57, 109, 251 ayb.

dermot
Download Presentation

Rhifau Arbennig

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Rhifau Arbennig Lluosrifau, ffactorau, eilrifau, odrifau, rhifau sgwâr, rhifau ciwb, rhifau cysefin, israddau

  2. Odrifau ac Eilrifau Odrifau yw rhifau na ellir rhannu â 2 heb adael gweddill, e.e. 1, 3, 5, 7, 21, 57, 109, 251 ayb Eilrifau yw rhifau y gellir rhannu â 2 heb adael gweddill, e.e. 2, 4, 6, 8, 22, 58, 110, 252 ayb Nodwch 5 odrif ac eilrif arall: Odrifau ................................................ Eilrifau ................................................

  3. Lluosrifau Ystyr lluosrif yw rhif y gellir rhannu â rhif llawn arall gan beidio â gadael gweddill. e.e. Lluosrifau 6 yw 6, 12, 30 neu 66 ayb. Mae hyn oherwydd y gellir lluosi 6 ag 1, 2, 5 neu 11 gan roi rhif llawn. Lluosrifau 18 yw 18, 36, 54, 90, 180. Mae hyn oherwydd y gellir lluosi 18 ag 1, 2, 3, 5 neu 10 gan roi rhif llawn.

  4. Ffactorau Ystyr ffactor yw unrhyw rif y gellir rhannu rhif ag ef gan beidio â gadael gweddill e.e. Ffactorau 6 yw 1, 2, 3, 6. Mae hyn oherwydd y gellir rhannu 6 ag 1, 2, 3 neu 6 gan roi rhif llawn a dim gweddill. Ffactorau 18 yw 1, 2, 3, 6, 9, 18. Mae hyn oherwydd y gellir rhannu 18 ag 1, 2, 3, 6, 9, 18 gan roi rhif llawn a dim gweddill.

  5. Rhifau Cysefin Ceir rhif cysefin pan fo 2 a dim ond 2 ffactor gan rif, sef 1 a’r rhif ei hun. Er enghraifft, mae 2 yn rhif cysefin gan mai dim ond 1 a 2 yw ei ffactorau. Mae 7 yn rhif cysefin gan mai dim ond 1 a 7 yw ei ffactorau. Nid yw 9 yn rhif cysefin gan fod 1,3 a 9 yn ffactorau iddo. Nodwch 6 rhif cysefin arall: .............................................................................

  6. Ffactorau Cyffredin Ystyr ffactor cyffredin yw rhif sy’n ffactor i fwy nag un rhif. Er enghraifft, mae 2 yn ffactor cyffredin 6 a 10 gan fod 2 yn un o ffactorau 6 a 10. Mae 3 yn ffactor cyffredin 12 a 21 gan fod 3 yn un o ffactorau 12 a 21. Nid yw 5 yn ffactor cyffredin 10 a 21 gan nad yw 5 yn un o ffactorau 10 a 21. Nodwch ffactorau cyffredin 27 a 42:.......................................................................

  7. Ffactor Cyffredin Mwyaf Ystyr ffactor cyffredinmwyaf yw’r rhif mwyaf sy’n ffactor o ddau rif. Er enghraifft, Ffactorau 12 yw 1, 2, 3, 6 a 12. Ffactorau 30 yw 1, 2, 3, 5, 6, 10, 15 a 30. Mae gan 12 a 30 y ffactorau cyffredin 1, 2, 3 a 6. Felly ffactor cyffredin mwyaf 12 a 30 yw 6. Nodwch ffactor cyffredin mwyaf 22 a 48:.....................................................................

  8. Rhifau Sgwâr Ystyr rhif sgwâr yw’r ateb a geir pan rydym yn lluosi rhif llawn â’i hun. E.e. Mae 1 yn rhif sgwâr oherwydd mae 1x1=1 Mae 9 a 64 yn rhifau sgwâr, oherwydd mae 3x3=9 ac 8x8=64 Nid yw 8 yn rhif sgwâr oherwydd ni allwn luosi rhif llawn â’i hun a chael ateb o 8. Nodwch 5 rhif sgŵar arall: ............................................................................

  9. Rhifau Ciwb Ystyr rhif ciwb yw’r ateb a geir pan rydym yn lluosi rhif llawn â’i hun ddwywaith. E.e. Mae 1 yn rhif sgwâr oherwydd mae 1x1x1=1 Mae 8 a 64 yn rhifau ciwb, oherwydd mae 2x2x2=8 ac 4x4x4=64 Nid yw 20 yn rhif ciwb oherwydd ni allwn luosi rhif llawn â’i hun ddwywaith a chael ateb o 20. Nodwch 5 rhif ciwb arall: ............................................................................

  10. Israddau Ystyr isradd yw rhif pan rydym yn ei luosi â’i hun nifer arbennig o weithiau sy’n rhoi ateb penodol. E.e. Mae 3 yn ail-isradd 9 oherwydd mae 3x3=9. Mae 5 yn trydydd-isradd 125 oherwydd mae 5x5x5=125. Nid oes rhaid i israddau fod yn rhifau llawn, er enghraifft mae 2.7 yn ail-isradd 7.89, ac mae 6.31 yn drydydd-isradd 251.239591.

  11. C O R L A T Cromfachau O pwerau Rhannu Lluosi Adio Tynnu

  12. 4 x (6 ÷ 3) + 42 – 1 4 x 2 + 42 – 1 4 x 2 + 16 – 1 8 + 16 – 1 24 – 1 23 C O R L A T • (8 – 4)3 ÷ 8 + 2 x 5 43÷ 8 + 2 x 5 64 ÷ 8 + 2 x 5 8 + 2 x 5 8 + 10 18

More Related