1 / 27

Tony Price – Adran Hanes

Caerfyrddin Canoloesol. Ysgol Dyffryn Taf. Tony Price – Adran Hanes. Er nad yw map John Speed , 1610 yn perthyn i’r canoloesoedd mae’n rhoi darlun gweddol glir o batrwm Caerfyrddin yn y cyfnod hwnnw - ni fu newid mawr yn y dref rhwng y Canoloesoedd a Chyfnod y Stiwartiaid.

dai
Download Presentation

Tony Price – Adran Hanes

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Caerfyrddin Canoloesol Ysgol Dyffryn Taf Tony Price – Adran Hanes

  2. Er nad yw map John Speed , 1610 yn perthyn i’r canoloesoedd mae’n rhoi darlun gweddol glir o batrwm Caerfyrddin yn y cyfnod hwnnw - ni fu newid mawr yn y dref rhwng y Canoloesoedd a Chyfnod y Stiwartiaid. CAERFYRDDIN 1610 – Map John Speed Y Canoloesoedd Cyfnod y Tuduriaid Cyfnod y Stiwartiaid c.1000 - 1485 c.1485 - 1603 c. 1603 - 1714

  3. CAERFYRDDIN 1610 – Map John Speed Lle mae’r Afon Tywi?

  4. CAERFYRDDIN 1610 – Map John Speed Lle mae’r gorthwr canoloesol?

  5. CAERFYRDDIN 1610 – Map John Speed Lle mae’r eglwys?

  6. Rydych am fynd ar daith o gylch Caerfyrddin yn y canoloesoedd. Ar y dudalen nesaf cliciwch ar y labeli er mwyn dysgu mwy am y rhan honno o’r dref. Ychwanegwyd lluniau cyfoes er mwyn cymharu y dref ganoloesol a’r hyn sydd yno heddiw.

  7. Y Gorthwr Y Bont Stryd y Brenin Stordai’r Cei Yr Eglwys Stryd y Cei Porth Tywyll Y Felin Y Priordy Heol Awst Llun gan Neil Ludlow. Fe'i atgynhyrchir gyda chaniatad caredig Archeoleg Cambria ac Amgueddfa Sir Caerfyrddin DIWEDD

  8. Y Gorthwr (Keep) Castell pren mwnt a beili a adeiladwyd yn 1109 oedd y cyntaf ar y safle yma. Ail-adeiladwyd y castell pren gwreiddiol o gyfnod Harri'r Iaf mewn carreg yn ystod y 13eg ganrif. Rhoddwyd to carreg ar y gorthwr (shell keep) yn ystod teyrnasiad Edward I, a dyma oedd ei ganolfan llywodraethol yn Ne Cymru. Gallwch ddringo i ben y waliau a chael golygfa dros y dref gyfoes.

  9. Heol y Brenin Datblygodd Heol y Brenin y tu allan i waliau gwreiddiol Caerfyrddin Newydd, ond roedd pen uchaf y stryd o fewn y dref Rufeinig ac felly yn rhan o'r Hen Gaerfyrddin. (Mae Caerfyrddin Newydd yn cyfeirio at y rhan o'r dref a ddatblygodd yng nghysgod y castell tra bod Hen Gaerfyrddin yn cynnwys yr anheddiad a ddatblygodd o'r dref Rufeinig. Roedd y ddwy dref arwahan hyd nes y cawsant eu huno yn nheyrnasiad Harri VIII). Adeiladwyd y waliau mwyaf diweddar a amgylchynai y Caerfyrddin Newydd estynedig yng nghyfnod Harri V ac roeddynt yn gorffen ym mhen pellaf y stryd. Mae lonydd culion megis Lon Jackson yn dangos mor gyfyng oedd y strydoedd canoloesol. Un o drigolion canoloesol cynnar Caerfyrddin sef William Kyng sydd yn rhoi yr enw ar y stryd.

  10. Eglwys y Santes Fair Yn y gorffennol Eglwys Santes Fair oedd yr adeilad pwysicaf yn sgwar Caerfyrddin ond erbyn heddiw Neuadd y Dref sydd yn hawlio y lle hwnnw. Roedd yr eglwys efallai yn dyddio'n ol i'r 1240’au ac fe'i gelwid yn "Rood Church" am fod croes (rood) i'w cael y tu allan. Gelwir un o'r strydoedd gerllaw yn Heol y Santes Fair hyd heddiw. Roedd yn eglwys gyfoethog lle roedd pobl yn talu i gael canu offeren er cof am eneidiau eu perthnasau marw. Cafodd ei diddymu yn nheyrnasiad Edward VI yn ystod y diwygiad Protestanaidd.

  11. Porth Tywyll Dyma oedd y fynedfa i'r dref ar gyfer teithwyr a masnachwyr o'r gorllewin ac hefyd y prif lwybr at y caeau oedd yn tyfu cnydau yr ochr yna i'r dref. I gyrraedd y fynedfa rhaid oedd croesi pont fechan dros y Wynveth. Gorchuddiwyd y nant ar ddiwedd yr 18'ed ganrif ac adeiladwyd ffordd ar gyfer wageni i lawr at y cei - Heol Las sydd yma heddiw.

  12. Heol Awst Dim ond ychydig o dai oedd yn Heol Awst. Roedd y caeau oedd yma yn agored i'r bobl gael eu pori ar Awst 1af sef diwrnod Lammas. Enw'r stryd yn Saesneg yw Lammas Street.

  13. Y Bont Adeiladwyd cyfres o bontydd pren gerllaw'r safle yma ers cyfnod y Rhufeiniaid. Dyma oedd y man isaf lle y gellid croesi yr afon Tywi hyd nes yr adeiladwyd y rheilffordd. Adeiladwyd y bont garreg gyntaf yn 1233, ac adeiladwyd y bont bresennol yn 1938.

  14. Stryd y Cei Yng nghyfnod y Tuduriaid byddai'r masnachwyr cyfoethog yn byw yn y stryd yma. Erbyn hyn adeiladwyd tai eraill yn lle y rhai pren gwreiddiol oedd yno yn yr 18ed ganrif ond mae'r stryd yn dal i ddilyn y llwybr o ganol y dref i lawr at y cei. Cafodd y stryd ei phalmantu yn 1770.

  15. Y Felin Dwr o nant Wynveth oedd yn cynnig pwer i'r felin. Mae'r nant yn dal i lifo o dan Heol Las. Roedd y felin yn agos at y cei er mwyn gallu allforio grawn yn hwylus. Yn 1251 rhoddodd Henry III ganiatad fel y gallai Henry le Arblaster droi dwr i nant Wynveth er mwyn gweithio'r felin. Yn dilyn hyn derbyniodd Henry III draean o elw'r felin.

  16. Stordai’r Cei Byddai llongau o bob rhan o Ewrop yn dadlwytho cargo ar y cei ac fe fyddai'r nwyddau yn cael eu cadw yn y stordai. Roedd y stordai yn y cyfnod hwnnw ychydig yn uwch i fyny yr afon na'r adeilad presennol a arferai fod yn Ganolfan Treftadaeth. Yn 1324 cafodd pob llong a allai gludo 40 tunnell neu fwy o win eu gorfodi i wasanaeth y Brenin.

  17. Y Priordy Mae archfarchnad Tesco yn wedi ei adeiladu ar safle yr hen Briordy. Dyma un o ganolfannau mwyaf y mynaich Ffransisgaidd a elwid y Brodyr Llwyd yng ngwledydd Prydain. Roedd y mynaich yn pregethu ac yn gofalu am y rhai hynny oedd yn sâl ac mewn angen yn yr ardal. Yn y Priordy roedd beddau pwysigion lleol gan gynnwys Rhys ap Thomas, (a fu'n cynorthwyo Henry Tudor i drechu Richard III). Symudwyd bedd Rhys i Eglwys St. Pedr wedi diddymu'r mynachlogydd yn y 1530au. Nid oes sicrwydd pryd y sefydlwyd y Priordy ond mae'r cofnod cynharaf yn dangos fod William de Valence, mab Iarll Penfro wedi ei gladdu yn yr eglwys yno.

More Related