1 / 18

Sefydlu Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG)

Sefydlu Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG). Trefniadau Sefydlu Statudol Medi 2012. Amcanion trefniadau sefydlu. Cysondeb o ran strwythur a chymorth Hyblygrwydd o fewn patrymau cyflogaeth amrywiol

cullen
Download Presentation

Sefydlu Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG)

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Sefydlu Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG) Trefniadau Sefydlu Statudol Medi 2012

  2. Amcanion trefniadau sefydlu • Cysondeb o ran strwythur a chymorth • Hyblygrwydd o fewn patrymau cyflogaeth amrywiol • Profiad o’r radd flaenaf i Athrawon Newydd Gymhwyso (yn cynnwys y cyfle i ddilyn gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol) • Proses deg sy’n rhoi’r un cyfle i bawb • Asesu trylwyr

  3. Trefniadau o fis Medi (1) • - Cyfnod sefydlu yn cynnwys 380 sesiwn – sy’n cyfateb i un flwyddyn ysgol • - Bydd pob cyfnod dysgu o hanner diwrnod neu fwy yn cyfrif tuag at gyfnod sefydlu pob ANG • - Ni ellir rhoi hyn ar waith yn ôl-weithredol – dim ond tymhorau cyfan neu hanner tymhorau dilynol ellir eu ‘dwyn ymlaen’ cyn 1 Medi ar gyfer y rheiny sydd eisoes wedi dechrau eu cyfnod sefydlu • - Dim terfyn amser o ran cwblhau’r cyfnod sefydlu • - Dileu’r ‘rheol 5 mlynedd’ ar gyfer athrawon cyflenwi

  4. Trefniadau o fis Medi (2) • Goruchwylio ac asesu* yn ôl Safonau Athrawon wrth eu Gwaith (PTS) • Yn ymarferol, darperir y cymorth a’r hyfforddiant gan: • Fentoriaid allanol ac yn yr ysgol • Trwy ddigwyddiadau a gweithgareddau eraill a ddarperir gan yr Awdurdod Lleol/gonsortia • Bydd y corff priodol (CP) yn defnyddio tystiolaeth gan yr ysgol a’r mentor allanol wrth asesu • Bydd y Mentor Allanol (MA) yn cydgysylltu’r dystiolaeth • *Bydd ANG a ddechreuodd ar eu cyfnod sefydlu cyn 1 Medi 2012 yn parhau i ddilyn yr un trefniadau ar gyfer goruchwylio, cymorth ac asesu ag oedd ar waith ar ddechrau’r cyfnod sefydlu.

  5. Trefniadau o fis Medi (3) Sefydlu mewn sefydliadau addysg bellach ac ysgolion annibynnol • Gellir cynnal y cyfnod sefydlu mewn sefydliad addysg bellach ac ysgol annibynnol cyhyd â’u bod yn bodloni’r meini prawf a nodir yn y Rheoliadau. • Gall yr ALl godi tâl am y gwasanaethau a ddarparant yn eu rôl fel CP (yn cynnwys y gost o ddarparu MA).

  6. Swyddogaethau a chyfrifoldebau (1) • Bydd ANG: • Yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi a datblygu • Yn nodi ac yn cynnal cofnod o dystiolaeth o fodloni Safonau Athrawon wrth eu Gwaith (PTS) • Yn sicrhau bod CyngACC yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am statws ac yn cael gwybod am bob cyfnod cyflogaeth

  7. Swyddogaethau a chyfrifoldebau (2) • Bydd y Pennaeth: • Yn darparu’r hysbysiadau gofynnol i CyngACC • Yn neilltuo mentor yn yr ysgol i ddarparu cymorth o ddydd i ddydd • Yn sicrhau bod yr ANG yn dilyn amserlen sydd 10% yn llai ar ben yr 10% yn llai a neilltuir ar gyfer Cynllunio, Paratoi ac Asesu (CPA) • Yn cydlynu â’r mentor allanol (MA) • Yn cydweithio â’r MA i ddarparu tystiolaeth a fydd yn cyfrannu at yr asesiad terfynol

  8. Swyddogaethau a chyfrifoldebau(3) • Bydd y Mentor yn yr Ysgol (MY): • Yn darparu hyfforddiant a chymorth mentora o ddydd i ddydd i gefnogi’r ANG gydol y cyfnod sefydlu • Yn pennu blaenoriaethau datblygu proffesiynol i’r ANG am y flwyddyn yn seiliedig ar Broffil Mynediad Gyrfa a PTS • Yn arsylwi ar yr ANG yn dysgu • Yn cefnogi’r ANG i nodi’r dystiolaeth sy’n dangos ei fod yn bodloni gofynion PTS • Yn darparu tystiolaeth i’r MA o gynnydd yr ANG • Yn cydlynu â’r CP yn ôl y gofyn

  9. Swyddogaethau a chyfrifoldebau(4) • Bydd y Mentor Allanol (MA): • Yn monitor cynnydd yr ANG o ran bodloni’r blaenoriaethau • Yn cwrdd â’r ANG o leiaf ddwywaith yn ystod y flwyddyn • Yn sicrhau ansawdd y trefniadau sefydlu drwy weithio ar y cyd â MA eraill, MY a’r pennaeth • Yn arsylwi ar yr ANG yn dysgu • Yn darparu cymorth mentora ychwanegol i’r ANG • Yn casglu tystiolaeth asesu gan y Pennaeth a’r MY • Yn asesu’r holl broffiliau sefydlu yn ôl PTS • Yn darparu tystiolaeth briodol i’r CP • Yn cynorthwyo ANG sy’n dilyn gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol

  10. Swyddogaethau a chyfrifoldebau(5) • Bydd y Corff Priodol (CP): • Yn gyfrifol yn gyffredinol am sicrhau bod y cyfnod sefydlu yn bodloni gofynion statudol • Yn gweithio gyda’r MA a’r MY i sicrhau ansawdd trefniadau sefydlu’r ysgol • Yn ymyrryd os bydd angen • Yn darparu cymorth yr ALl/Consortia i bob ANG • Yn neilltuo Mentor Allanol i’r ANG mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru • Yn defnyddio tystiolaeth asesu i wneud y penderfyniad terfynol ar ganlyniad y cyfnod sefydlu ac yn rhoi gwybod i’r CyngACC

  11. Cyfnod sefydlu(1)yn seiliedig ar fodel tri thymor, amser llawn • Tymor 1: • Anfon ffurflenni hysbysu Athro mewn Ymarfer Addysgol i’r CyngACC • Y Pennaeth yn neilltuo Mentor yn yr Ysgol (MY) • MY yn pennu blaenoriaethau i’r ANG yn seiliedig ar Broffil Mynediad Gyrfa (CEP) a Safonau Athrawon wrth eu Gwaith (PTS) • MY/Pennaeth yn arsylwi ar yr ANG yn dysgu • Yr ANG yn casglu tystiolaeth o sut mae wedi bodloni PTS • MY yn adolygu’r dystiolaeth gyda’r ANG – rhannu’r adolygiad dros dro gyda’r Corff Priodol (CP) • Cymorth a digwyddiad(au) ALl/Consortia • CP/Llywodraeth Cymru yn neilltuo MA ar ddiwedd y tymor 1af

  12. Cyfnod sefydlu(2) yn seiliedig ar fodel tri thymor, amser llawn • Tymor 2: • MY yn parhau i ddarparu cymorth mentora ac yn arsylwi ar y dysgu • MA yn cwrdd â’r Pennaeth, MY ac yn adolygu’r trefniadau sefydlu • MA yn arsylwi ar yr ANG yn dysgu ac yn adolygu’r cynnydd mewn cyfarfod PTS • MA yn darparu cymorth mentora ar gyfer gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol • Yr ANG yn casglu tystiolaeth bellach yn unol â PTS • MY yn adolygu’r dystiolaeth gyda’r ANG - rhannu’r adolygiad dros dro â’r CP

  13. Cyfnod sefydlu(3) yn seiliedig ar fodel tri thymor, amser llawn • Tymor 3: • MY a’r MA yn arsylwi ar yr ANG yn dysgu • MY a’r MA yn darparu mentora pellach ac yn adolygu tystiolaeth yr ANG yn unol â PTS • MA yn cwrdd â’r Pennaeth a’r MY am y tro olaf i gasglu tystiolaeth asesu • MA yn cynnal cymedroli rhanbarthol • MA yn darparu tystiolaeth i’r CP • CP yn gwneud ei benderfyniad terfynol ar ganlyniad y cyfnod sefydlu

  14. Athrawon rhan-amser • Yr un gofynion a hawliau yn union ag athrawon llawn amser, ac eithrio y bydd y cyfnod ar gyfer cwblhau’r cyfnod sefydlu (380 sesiwn) yn hirach nag yn achos athro llawn amser. • Felly, dylai athrawon rhan-amser hefyd: • Gymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi a datblygu • Nodi a chynnal cofnod o dystiolaeth o fodloni PTS • Sicrhau bod y CyngACC yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am statws ac yn cael gwybod am bob cyfnod cyflogaeth

  15. Athrawon cyflenwi tymor byr • Rhaid rhoi gwybod i’r CyngACC wrth ddechrau cyfnod sefydlu, gan nodi ym mha ardal ALl mae’r athro’n debygol o weithio – bydd y CyngACC yn rhoi gwybod i’r CP • Cynnal cofnod o’r sesiynau a gwblhawyd yn y Proffil Sefydlu – gellir ond cyfrif y rhai o 1 Medi 2012 • Hysbysu’r CyngACC yn rheolaidd pan gwblheir sesiynau – o leiaf bob hanner tymor • Bydd y CP yn darparu cymorth lle bo hynny’n ymarferol • Y Pennaeth a’r MY yn darparu cefnogaeth o ddydd i ddydd i’r ANG • Ar ôl 190 sesiwn, y CP yn neilltuo MA os bydd y mwyafrif o’r sesiynau wedi’u dilyn • Dileu’r ‘rheol 5 mlynedd’

  16. Tystiolaeth Asesu • Tystiolaeth o fodloni pob un o’r Safonau Athrawon wrth eu Gwaith (PTS) – enghreifftiau yn codi o’r ymarfer • ANG yn casglu tystiolaeth wrth iddo fynd yn ei flaen, gydol y flwyddyn • Tystiolaeth yn cael ei chofnodi yn y Proffil Sefydlu – gall gyfeirio at dystiolaeth mewn mannau eraill • Y Proffil Sefydlu yn adeiladu ar y Proffil Mynediad Gyrfa, gan arwain i’r Cofnod Adolygu a Dysgu Ymarfer (PRD) • MY a’r MA yn adolygu ac yn cefnogi

  17. Cyllid • Y Corff Priodol: • £350 fesul ANG i oruchwylio trefniadau sefydlu a phrosesau asesu • Ysgolion: • £2100 fesul ANG i gynorthwyo gyda chost amserlen lai er mwyn cefnogi’r ANG i gymryd rhan mewn gweithgareddau datblygiad proffesiynol. (Bydd CyngACC yn rheoli hyn ar ran Llywodraeth Cymru felly mae’n hollbwysig bod ysgolion yn rhoi gwybod i CyngACC pan benodir ANG) • Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyllido cost MA a ffioedd cyrsiau Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol ac adnoddau dysgu

  18. Cysylliadau • Y Tîm Sefydlu: • Wendy Marinos • wendy.marinos@wales.gsi.gov.uk • Giulia Vidal • giulia.vidal@wales.gsi.gov.uk • Ebost sefydlu: • inductioninfo@Wales.GSI.Gov.UK

More Related