1 / 11

Bondaweb

Bondaweb. Beth yw Bondaweb?. Mae glud ar ddwy ochr y defnydd hwn. Pan mae haearn smwddio’n cael ei roi ar y ffabrig mae’r glud yn toddi ac yn glynu i’r ffabrig neu’r papur.

connie
Download Presentation

Bondaweb

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Bondaweb

  2. Beth yw Bondaweb? Maeglud ar ddwy ochr y defnydd hwn. Pan mae haearn smwddio’n cael ei roi ar y ffabrig mae’r glud yn toddi ac yn glynu i’r ffabrig neu’r papur. Gellir ei ddefnyddio i ddal hemiau neu gellir ei beintio i wneud effeithiau diddorol. Gellir creu ystod eang o batrymau a dyluniadau – stribedi, blodau, dyluniadau haniaethol ayyb . Gweler syniadau dylunio. Perygl ! Rhaid cymryd gofal wrth ei ddefnyddio – wrth ei smwddio mae’n rhaid i chi gofiogosod y papur ar y top neu mi fydd y defnydd yn mynd yn sownd yn yr haearn smwddio ac yn gwneud llanast.

  3. Sut i: Torri darn o Bondaweb. Mae’n ddefnydd ddrud felly ceisiwch osgoi defnyddio darnau mawr.

  4. Sut i: Defnyddio paent ffabrig. Dechreuwch beintio’r bondaweb yn y lliwiau rydych wedi’u dewis. Mae paent metelig yn gweithio’n dda iawn yn y dechneg hon. Ystyriwch pa liwiau sy’n gweithio’n dda gyda’i gilydd a pha rai sydd ddim.

  5. Sut i: Dechreuwch beintio’ch patrwm ar ochr arw’r Bondaweb (yr ochr sydd â glud arno) Gallwch beintio unrhyw batrwm rydych yn ei ddymuno. Dotiau polca wnaeth ysbrydoli’r patrwm hwn – gallai hwn fod y prif ddyluniad neu’r cefndir i waith dylunio pellach. Mae’n bwysig cofio hyn.

  6. Sut i : Parhau i ddatblygu’ch dyluniad drwy beintio lliwiau eraill. Gallwch lenwi’ch tudalen Bondaweb â lliwiau neu adael bylchau lle dydych chi ddim angen lliwiau. Cadwch mewn cof yr effeithiau sydd i’w cael wrth gyfuno gwahanol liwiau.

  7. Sut i: Ychwanegu lliwiau eraill nes eich bod wedi cwblhau’ch dyluniad. Unwaith rydych wedi gorffen peintio’r Bondaweb gadewch iddo sychu. Gallwch ddefnyddio sychwr gwallt er mwyn arbed amser ac i sicrhau fod y paent yn hollol sych. Rhybudd diogelwch – byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio sychwr gwallt, peidiwch â gosod y ffroenell yn rhy agos i’r Bondaweb.

  8. Sut i: Mae’n rhaid gweithio’n ofalus Cofiwch fod yr haearn smwddio’n boeth. Gosodwch y bondaweb ar eich ffabrig. COFIWCH – mae’n rhaid i’r ochr bapur fod yn wynebu ar i fyny. Dylai’r glud paentiedig fod mewn cyswllt â’r ffabrig ac nid yr haearn smwddio. Gosodwch yr haearn smwddio ar y Bondaweb ac wrth i chi smwddio bydd y gwres yn ymdoddi’r glud a’r paent i’r ffabrig. Bydd haen o bapur silicon dros y Bondaweb yn eich helpu i osgoi gadael marciau llosgi.

  9. Sut i: Mae’n rhaid i chi weithio’n ofalus. Cofiwch fod y Bondaweb yn boeth – gadewch iddo oeri. Gadewch i’r papur oeri, neu fel arall byddwch yn llosgi’ch hun. Dechreuwch blicio’r papur oddi ar y ffabrig. Dylai’r glud a’r paent lynu i’r ffabrig. Os dydy hyn ddim yn digwydd smwddiwch y Bondaweb eto, ond mae’n rhaid gorchuddio’r haearn smwddio â’r papur silicon.

  10. Sut i: Dylai eich dyluniad fod ar y ffabrig. Gall yr effaith amrywio, weithiau mae effaith wedi cracio’n edrych yn dda iawn. Gallwch nawr ddefnyddio ystod o dechnegau gwahanol i ddatblygu’ch dyluniad ymhellach. Pa dechnegau allech chi eu defnyddio i ychwanegu lliw a gwead pellach i’r dyluniad Bondaweb lliw?

  11. Sut i: Cyfuno technegau Mae’r technegau bondaweb yn gweithio’n dda pan maen nhw’n cael eu cyfuno â thechnegau eraill, megis brodwaith peiriant rhydd, brodio cyfrifiadurol a siapiau sydd wedi cael eu torri allan gan dorrrwr laser. Dydy hi ddim yn bosibl golchi’r defnydd ac mae hyn yn anfantais. Mae’r dyluniad gyferbyn yn gyfuniad o sawl techneg. Mae’r streipiau metelig yn esiampl o Bondaweb. Defnyddwyd papur troslunio smwddio ymlaen i ychwnaegu’r llythrennau. Mae’r effaith wedi treulio ar y Bondaweb wrth iddo sychu’n ychwanegu effaith gweadeddol gwych.

More Related