10 likes | 109 Views
Adwerthu Ffasiwn - Fashion & Retail. Casgliadau ‘Gwasgarol’ (Diffusion. Aseiniad 6.
E N D
AdwerthuFfasiwn - Fashion & Retail Casgliadau ‘Gwasgarol’ (Diffusion. Aseiniad 6 • Mae nifer o’r prif ddylunwyr megis Jasper Conran, John Rocha, Betty Jackson, Ben di Lisi, DKNY, i enwi dim ond rhai, wedi cynhyrchu casgliadau sydd ar gael mewn siopau adran mawr megis John Lewis, Debenhams neu Selfridges. Mae’r dillad yn cael eu cynhyrchu mewn symiau mwy ar gyfer casgliadau dillad parod i’w gwisgo. Maent yn ddrutach na brandiau mewnol y cwmnïau eu hunain ond maent yn galluogi cwsmer i brynu i mewn i’r ‘dylunydd’ am gost sylweddol is. Mae’r casgliadau ‘diffusion’ hyn wedi bod yn ail fusnes proffidiol i ddylunwyr; maent yn cefnogi’r gost o gynhyrchu’r dillad haute couture. Mae’r casgliadau ‘diffusion’ hyn wedi datblygu eu casgliadau i gynnwys nwyddau i’r cartref, gemwaith a cholur. • Edrychwch ar wefannau’r dylunwyr hyn. • (Cyngor: Mae nifer o ddylunwyr yn creu casgliadau ‘diffusion’ i Debenhams felly edrychwch ar eu gwefan hwy). • DKNY • John Rocha • Jasper Conran • Betty Jackson • Ysgrifennwch y nwyddau y maent yn eu gwerthu. • Pam ydych chi’n credu eu bod wedi datblygu i’r meysydd hyn?