1 / 7

Treaty

Wedi darllen y ffynhonnell hon, sut yn eich barn chi roedd pobl yr Almaen yn teimlo ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf?.

bjorn
Download Presentation

Treaty

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Wedi darllen y ffynhonnell hon, sut yn eich barn chi roedd pobl yr Almaen yn teimlo ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf? “Trwy’r drysau yn y pen pellaf … daeth y pedwar swyddog o Ffrainc, Prydain, America a’r Eidal. Ac yna, yn unig a thruenus, daeth y ddau Almaenwr, Dr. Muller a Dr. Bell. Mae’r distawrwydd yn ddychrynllyd … Maent yn cadw eu golygon oddi wrth y dwy fil o lygaid sy’n rhythu arnynt, gan syllu i fyny tua’r nenfwd. Maent yn wyn fel y galchen … Mae tensiwn cyffredinol i’w deimlo. Maent yn arwyddo. Mae pethau’n ymlacio … Aros ar ein heistedd a wnaethom ni tra roedd yr Almaenwyr yn cael eu harwain i ffwrdd fel carcharorion o’r doc.” (Harold Nicolson, Peacemaking,(1919) Treaty

  2. Beth mae’r ffynhonnell hon yn ei ddweud am deimladau pobl Prydain tuag at yr Almaen yn 1918? “Os caiff y llywodraeth hon ei hethol, bydd yr Almaenwyr yn talu pob ceiniog; mae nhw am gael eu gwasgu, fel y byddwn yn gwasgu lemon, nes bydd yr hadau’n gwichian.” (Syr Eric Geddes, Rhagfyr 1918) Syr Eric Geddes oedd Gweinidog Arfau Prydain, bu hefyd yn Oruchwyliwr y Llynges a Phrif Arglwydd y Morlys ar wahanol adegau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

  3. A yw’r wybodaeth isod yn eich helpu i ddeall pam roedd cymaint o bobl eisiau dial wedi’r rhyfel? Cafodd tua 8 miliwn o bobl eu lladd Roedd cost y rhyfel tua £9,000 miliwn Gwnaed difrod enfawr i dir, cartrefi, ffermydd a ffatrïoedd Bu farw miliynau eto o bobl wedi’r rhyfel oherwydd newyn ac afiechyd “Yn Ffrainc a Gwlad Belg, lle digwyddodd y rhan fwyaf o’r ymladd, dinistriwyd 300,000 o dai, 6,000 o ffatrïoedd, 1,000 milltir o reilffordd, 2,000 o fragdai a 112 o byllau glo… Mewn rhai ffyrdd, ni lwyddodd y ddynoliaeth erioed i ddod dros erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf.” John D. Clare, First World War (1994) A yw’r wybodaeth uchod yn eich helpu i ddeall pam roedd cymaint o bobl eisiau heddwch wedi’r rhyfel?

  4. Disgrifiwch ymateb pobl yr Almaen i Gytundeb Versailles? (2 farc) CBAC, Papur 1, Astudiaeth Fanwl, Mehefin 2004 Cynllunio eich ateb:

More Related