1 / 20

Cyflwyniad i gyfieithwyr a darpar-gyfieithwyr ar ddeall a defnyddio termau technegol

Cyflwyniad i gyfieithwyr a darpar-gyfieithwyr ar ddeall a defnyddio termau technegol. Delyth Prys Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr. Help! Beth yw ’ r gair Cymraeg am. Prif neges heddiw: PEIDIWCH meddwl term Saesneg = term Cymraeg OND YN HYTRACH meddyliwch

barney
Download Presentation

Cyflwyniad i gyfieithwyr a darpar-gyfieithwyr ar ddeall a defnyddio termau technegol

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Cyflwyniad i gyfieithwyr a darpar-gyfieithwyr ar ddeall a defnyddio termau technegol Delyth Prys Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr

  2. Help! Beth yw’r gair Cymraeg am ... • Prif neges heddiw: PEIDIWCH meddwl term Saesneg = term Cymraeg OND YN HYTRACH meddyliwch term Saesneg = cysyniad= term Cymraeg • Ac mae help ar gael ☺

  3. Peryglon cyfieithu heb ddeall

  4. Rhai o wahanol gysyniadau “mole”

  5. “Mole” gyda dadamwyswyr yn y Porth Termau

  6. Rhai o wahanol gysyniadau “register”

  7. Rhai o wahanol gysyniadau “term”

  8. Rhybudd: gall term gynnwys mwy nag un gair • Mae’n bwysig edrych ar y term yn ei gyfanrwydd a pheidio cyfieithu un gair ar y tro • Gall y term yn ei gyfanrwydd fod yn hollol wahanol mewn dwy iaith e.e. terms of reference cylch gorchwyl mole wrench tyndro hunanafael chest register llais y frest

  9. Cofiwch fod angen edrych ar derm aml-air yn ei gyfanrwydd yn hytrach na chyfieithu un gair ar y tro

  10. Rhai termau i’ch baglu yn cynnwys y gair “register”

  11. Os oes diffiniad yn y geiriadur termau, darllenwch ef!

  12. I helpu deall y cysyniad Defnyddiwch eiriaduron neu wyddoniaduron (uniaith os oes raid!) sy’n esbonio’r term Edrychwch ar y dadamwysydd (disambiguator) Chwiliwch am ddiffiniad o’r term Holwch eich cwsmer beth yn union yw’r ystyr

  13. Rhagnodi v. Disgrifio Iaith • Mae geiriaduron cyffredinol yn disgrifio iaith fel y mae yn ei holl gyfoeth • Felly mae’n bosib cael nifer o gyfystyron yn cael eu rhestru (yn cynnwys amrywiadau o ran cywair, tafodiaith etc) • Enghreifftiau: Geiriadur yr Academi, Geiriadur Prifysgol Cymru, Geiriadur Cyffredinol Cysgair • Defnyddiwch y rhain i chwilio am gyfystyron, ac i gael cymorth cyffredinol

  14. Geiriaduron terminoleg safonol • Mae geiriaduron termau safonol yn rhagnodi pa dermau ddylid eu defnyddio • Felly ni cheir dewis o dermau fel arfer (mae’r dewis wedi’i wneud drosoch yn y broses safoni) • Enghreifftiau: Y Termiadur Addysg, Termau Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg, Yr holl eiriaduron a gynhwysir yn y Porth Termau Cenedlaethol • TermCymru

  15. Y cwsmer biau pennu’r geiriaduron rhagnodol Mae rhai cyrff yn nodi pa eiraduron termau y mae’n rhaid i’w cyfieithwyr eu dilyn e.e.rhaid i sefydliadau addysgol, arholwyr a darparwyr adnoddau addysgol ddilyn Y Termiadur Addysg, rhaid i gyfieithwyr y Llywodraeth ddilyn TermCymru Gall hyn olygu weithiau fod angen defnyddio termau gwahanol yn ôl y cwsmer

  16. Pryd i ddefnyddio termau technegol • Mewn cyweiriau technegol • Dogfennau swyddogol a chyhoeddus • Cyhoeddiadau academaidd • Pan gewch gyfarwyddyd gan y cwsmer i wneud hynny • Nid (o raid) mewn cyweiriau annhechnegol • Deunydd deongliadol i’r cyhoedd • Hysbysebion a deunydd sgwrsiol Cf. Arddulliadur Cyfieithwyr Llywodraeth Cymru – ceir yno ganllawiau manylach ar hyn

  17. Pa adnoddau sydd ar gael? • Geiriaduron cyffredinol (disgrifiadol) • uniaith e.e. The Oxford Dicitonary of English • dwyieithog e.e. Geiriadur yr Academi • Geiriaduron arbenigol (rhagnodol) • fel arfer ar gyfer meysydd penodol e.e. coedwigaeth, gwaith cymdeithasol, ac ar gyfer defnyddwyr penodol e.e. Addysg Uwch

  18. Adnoddau sydd ar gael • Y Termiadur Addysg (termau swyddogol Adran Addysg Llywodraeth Cymru) http://www.termiaduraddysg.org/ • Termau Addysg Uwch y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (yn cynnwys diffiniadau): http://www.colegcymraeg.ac.uk/termau/ • Porth Termau Cenedlaethol Cymru (yn cynnwys y ddau uchod a llawer mwy) http://termau.org/porth/

  19. Adnoddau gwerthfawr eraill • Casgliad termau cyfieithwyr Llywodraeth Cymru: http://www.termcymru.cymru.gov.uk/ • Cysgeir o fewn y pecyn Cysgliad (os nad oes cyswllt gwe gennych) • Geiriaduron papur nad ydynt ar gael yn electronig: • Geiriadur Cerddoriaeth Rhydychen (Curiad) • Geiriadur Baillière i Fydwragedd (Bangor) • Geiriadur y Gyfraith (Gwasg Gomer)

  20. Hefyd, beth am... greu eich rhestr eich hun o dermau Er mwyn: • dysgu termau newydd • cael rhestr hwylus ar gyfer pwnc neu broject penodol • casglu rhestr i’w rhoi mewn cof cyfieithu

More Related