1 / 13

Amddiffyn y genedl

Radar. Darganfyddiad Cyfeiriad Radio (RDF: Radio Direction-finding). Amddiffyn y genedl. Llinell amser radar. Ffeithiau am radar. Diagramau radar a gweithgareddau. Radar – Ffeithiau Diddorol.

aysel
Download Presentation

Amddiffyn y genedl

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Radar Darganfyddiad Cyfeiriad Radio (RDF: Radio Direction-finding) Amddiffyn y genedl

  2. Llinell amser radar Ffeithiau am radar Diagramau radar a gweithgareddau

  3. Radar –FfeithiauDiddorol Yn y Môr Tawel roedd radar wedi canfod awyrennau llu awyr Japan oedd ar fin ymosod ar ganolfan llynges yr Unol Daleithiau, yn Pearl Harbour. Cafodd y signalau eu hanwybyddu! Wrth fomio dinas Hamburg yn yr Almaen, roedd awyrennau Prydain yn gollwng stribedi alwminiwm. Roedd y stribedi hyn yn ymyrryd yn ddifrifol ar sgriniau radar yr Almaenwyr. Dechreuodd wyddonwyr Prydain arbrofi gydag offer darganfod cyfeiriad radio, RDF. Ychwanegwyd 17 gorsaf radar newydd i’r gadwyn o orsafoedd ‘Chain Home’ ar hyd arfordir Lloegr. 1935 1937 1939 1941 1943 1945 Defnyddiwyd offer ymyrryd ar radar yn helaeth yn ystod y dyddiau’n arwain at Oresgyn Ewrop (Dydd-D). Y bwriad oedd rhwystro’r Almaenwyr rhag canfod pryd a ble byddai milwyr Prydain a’r U.D.A. yn glanio. ‘Arbrawf Biggin Hill’’. Arbrofion ymarferol ar radar wnaethpwyd gan yr RAF. Roedd Llynges yr Almaen wedi creu set radar oedd yn gweithio yn 1934. Awst 1940. Mae’r Luftwaffe yn targedu gorsafoedd radar yn y gobaith am ‘ddallu’ Prydain.

  4. Y gorsafoedd radar oedd amddiffyniad cyntaf Prydain. Roedden nhw’n helpu i ganfod awyrennau’r gelyn cyn iddyn nhw gyrraedd Ynysoedd Prydain. Byddai’r signalau’n cael eu taflu o drosglwyddyddion radio ac ar draws y sianel. Byddai’r signalau’n bownsio nôl i’r gorsafoedd derbyn radar. Roedd awyrennau’r gelyn yn ymddangos fel ‘smotiau’ ar y sgrin radar. Roedd y ‘smotiau’ hyn yn rhoi darlun eithaf cywir o faint, safle, uchder a phellter cyrch gelyn oddi wrth arfordir Prydain.

  5. Sut mae Radar yn gweithio? Mae trosglwyddydd yn anfon signal radio i’r awyr mewn hyrddiadau byr. Os yw’r signal yn cyfarfod â gwrthrych (awyren) bydd y signal radio’n cael ei adlewyrchu nôl at dderbynnydd. Bydd hyn yn ymddangos ar sgrin radar fel naid neu bigyn ar linell wastad, hir. Roedd modd defnyddio hyn i weithio allan yn fras gyfeiriad, pellter ac uchder yr awyren. Byddai’r wybodaeth yn cael ei phasio ymlaen i’r Ystafell Reoli. Yna, byddai awyrennau ymladd yn cael eu sgramblo a byddai Rheolaeth Awyrennau Ymladd yn cyfeirio’r awyrennau hynny at y targed. Curiad EcoDarged – mae bod dros y marc 60 yn golygu bod yr awyrennau 60 milltir i ffwrdd. 20 40 60

  6. Cliciwch ar y sgrin i ddilyn llif y wybodaeth Derbyn gwybodaeth o’r gorsafoedd derbyn radar. Mae’r Ystafell Hidlo Gwybodaeth ym mhencadlys Rheoli Awyrennau Ymladd yn dechrau plotio cyrchoedd y gelyn. Pasio gwybodaeth ymlaen i Bencadlys y Grŵp. Mae Corfflu’r Gwylwyr yn anfon gwybodaeth ychwanegol at y rheolwyr fel y daw awyrennau’r gelyn i’r golwg. Mae sgwadronau’n cael eu sgramblo yn ôl yr angen ac yn cael eu tywys at awyrennau’r gelyn gan y rheolwyr.

  7. Gallai erialau derbyn y mastiau radar fod hyd at 350 troedfedd o uchder. Er bod y mastiau’nymddangosynfregusroeddennhw’ndargedauanoddi’r Luftwaffe eu taro. Gorsaf Chain Home, Dover Roedd y gorsafoedd radar ynaneluiganfodsignalaudros y Sianel (MôrUdd). *RDF oeddyrenwgwreiddiolar radar – (Radio Direction Finding).

  8. Does dim syndod fod gorsafoedd radar yn dargedau allweddol i’r Luftwaffe yn ystod Brwydr Prydain. • 12 AwstYmosododd 14 o awyrennau Bf 109 y Luftwaffe arorsafoedd radar, yncynnwysPevensey, Rye, Dover a Ventnor. • Roeddmaintbychan y gorsafoeddyneugwneudyndargedauanoddeu taro. Roeddtairo’rpedairgorsafyngwblweithredoletoerbyndiwedd y dydd. 15 AwstUnwaitheto, effeithiwydarorsafoedd radar Pevensey a Rye pan doroddbomiau’r Luftwaffe y prifwifrautrydan. Digwyddoddyr un pethiorsaf radar Foreness a doedd ‘run o’rtairgorsafyngweithio am y rhanfwyafo’rdydd. 16 AwstGorchmynoddGoering ibeidioymosodarorsafoedd radar Prydainrhagor. Mae’nymddangosfelpenderfyniadtyngedfennol, ondroedd Goering ynbenderfynol o ganolbwyntioeihollymdrechionardargedupriffeysyddawyrPrydain. Gwnaethhyn “yngngolwg y ffaithnadoesyr un ohonynt (y gorsafoedd radar a ymosodwydarnynt) wedicaeleudinistriohydynhyn.”

  9. Allwch chi farcio gyfeiriad llif y wybodaeth ar y diagram? Maes Awyr Corfflu’r Gwylwyr Pencadlys Grŵp ‘Ystafell Rheoli Sector’ Pencadlys Rheoli Awyrennau Ymladd Gorsafoedd Radar

  10. Allwch chi farcio ar y diagram gyfeiriad llif y wybodaeth? Maes Awyr Corfflu’r Gwylwyr Pencadlys Grŵp ‘Ystafell Rheoli Sector’ Pencadlys Rheoli Awyrennau Ymladd Gorsafoedd Radar

  11. Gosodwch y wybodaeth gywir yn y blychau gwag. Darganfyddiad Cyfeiriad Radio (Radio Direction Finding) oedd yr enw gwreiddiol ar radar. Gorsafoedd radar Yn aml roedd y rhain yn gallu amcangyfrif maint, safle, uchder a phellter rhengoedd awyrennau’r gelyn. Mastiau radar

  12. Beth rydych chi’n gallu ei gofio am radar a sut roedd yn cael ei ddefnyddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd?

  13. Ysgrifennwch baragraff byr sy’n disgrifio’r system amddiffynnol oedd yn bodoli i amddiffyn Prydain rhag ymosodiadau o’r awyr?

More Related