1 / 20

Gosod Ffiniau

Gosod Ffiniau. Gweithgaredd ar gyfer grwpiau bach. Dychmygwch………. Polisi Ymddygiad yr Ysgol. Yn yr un grwpiau – 5/10 munud Trafodwch bolisi ymddygiad eich ysgol Beth sy’n gweithio? Beth sy’ ddim yn gweithio? Beth hoffech chi ei newid?. Yr Ysgol a’r Ystafell Ddosbarth.

arion
Download Presentation

Gosod Ffiniau

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Gosod Ffiniau

  2. Gweithgaredd ar gyfer grwpiau bach • Dychmygwch……….

  3. Polisi Ymddygiad yr Ysgol Yn yr un grwpiau – 5/10 munud • Trafodwch bolisi ymddygiad eich ysgol • Beth sy’n gweithio? • Beth sy’ ddim yn gweithio? • Beth hoffech chi ei newid?

  4. Yr Ysgol a’r Ystafell Ddosbarth I greu polisïau ymddygiad sy’n deg ac yn effeithiol mae angen ystyried: A chysondeb rhwng yr ystafelloedd dosbarth unigol ac ar draws yr ysgol

  5. 1. Rheolau • Diogelwch • Dibynadwyedd

  6. Mae’r rheolau mwyaf effeithiol: • yn glir ac yn gadarnhaol • yn rhai y gellir eu haddysgu • yn hawdd cyfeirio atyn nhw ac yn hawdd eu cryfhau • yn cael eu cymhwyso bob amser • i’w gweld yn yr ystafell ddosbarth • yn fach o ran nifer

  7. Mynnwch freuddwyd….

  8. Addysgu’r rheolau

  9. Disgyblion Iau

  10. 2. Arferion Dyma rai arferion gwael: • Cyrraedd yr ystafell ddosbarth yn llawn ffwdan. • Prinder cyfarpar sylfaenol. • Oedi wrth ymateb i arwydd yr athro i dalu sylw. • Newid o un gweithgaredd i’r llall. • Busnesa yng ngwaith pobl eraill ar ôl gorffen tasg yn fuan. • Gadael y lle yn flêr ar ôl gweithgaredd.

  11. 3. Hawliau Mae gan ddisgyblion ac athrawon hawliau yn yr ystafell ddosbarth. Mae gan ddisgyblion yr hawliau canlynol: ►Bod yn ddiogel ►Teimlo’n ddiogel ►Cael eu gwerthfawrogi ►Cael eu parchu ►Dysgu

  12. 4. Cyfrifoldebau Pa gyfrifoldebau sydd gan eich disgyblion? Gallai’r rhain gynnwys: • Trin plant eraill yn garedig. • Talu sylw, gwrando a chymryd rhan mewn gwersi. • Dysgu fod gan blant eraill syniadau gwahanol a sgiliau gwahanol a pheidio â gwneud hwyl am eu pennau oherwydd hynny.

  13. 5. Gwobrau • Beth sy’n ysgogi’ch disgyblion? • Mae hyn yn gysylltiedig â chymhelliant (Pennod 5 yn Rob Long) sef “a state of readiness or eagerness to change, which may fluctuate from one time or situation ot another. This state is one that can be influenced” (Miller a Rollnick, 1991). • Pwyntiau i’w cofio: • Does dim cymhelliant gan bob disgybl • Mae angen gwobrau anghynhenid ar rai disgyblion • Mae angen gwobrau amlwg ar rai disgyblion • Mae cymhelliant yn dibynnu ar y sefyllfa

  14. Gwobrausy’n cael eu rhoi’n syth, sy’n gysonac yn deg Yn y dosbarth, • byddwch yn effro i’w ‘dal nhw’n bod yn dda’ • byddwch yn barod i ganmol am ymdrechu ac ymroi • byddwch yn brydlon wrth roi cydnabyddiaeth i’r rheini sy’n ymateb i reolau ac arferion y dosbarth • byddwch yn gyflym i ddiolch i unigolion, grwpiau a’r dosbarth cyfan • trefnwch strwythur gwobrwyo

  15. Gwobrau i’r dosbarth cyfan • Marblis mewn jar • Peli mewn gôl • Tics ar ddarn o bapur gyda gwobrau da

  16. Cosbau Os oes rhaid cosbi, mae’n bwysig fod yn cosbau: • yn glir ac yn ddealladwy i bawb (disgyblion, athrawon, rhieni a gofalwyr) • yn cael eu defnyddio’n deg a gyda chysondeb • yn cael eu derbyn fel yr ymateb rhesymol i ymddygiad penodol • yn gymesur â’r camymddwyn neu’r methiant i gydymffurfio • yn dryloyw ac yn gronnus

  17. Trefnu i LwyddoTrefnu’r Ystafell Ddosbarth • Lle • Golau’r ystafell ddosbarth • Tymheredd • Y defnydd o liwiau • Lefelau sain neu sŵn (gweler Rob Long, tt.82 – 84)

  18. Gair pellach am baratoi a chynllunio gwersi: Un ffordd o wneud yn siŵr fod ymddygiad annerbyniol yn cael ei gadw i’r lleiafswm yw cynllunio a pharatoi gwersi’n dda :

  19. Strwythur Gwersi:

  20. AMSER EGWYL

More Related