1 / 10

Electra – Soffocles

Electra – Soffocles. Electra. Mae stori’r ddrama ‘Electra’ yn rhan o stori hirach teulu brenhinol Mycenae. Ysgrifenodd Euripides ddrama o’r un enw ’Electra’ tua’r un cyfnod Stori Electra yw drama ganol trioleg ‘Yr Orestes’ gan Aeschylus.

arin
Download Presentation

Electra – Soffocles

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Electra – Soffocles

  2. Electra • Mae stori’r ddrama ‘Electra’ yn rhan o stori hirach teulu brenhinol Mycenae. • Ysgrifenodd Euripides ddrama o’r un enw ’Electra’ tua’r un cyfnod • Stori Electra yw drama ganol trioleg ‘Yr Orestes’ gan Aeschylus. • Mae tair drama’n rhoi llun o deulu brenhinol Mycenae, Tŷ Artemis • Roedd Soffocles yn ymwybodol o ddrama Aeschylus pan yn ysgrifennu ‘Electra’

  3. Electra • Mae fersiwn Aeschylus yn canolbwyntio ar stori y teulu gyda Electra’n rhan o’r stori • Mae Soffocles yn canolbwyntio ar gymeriad Electra a’i safle yn y palas. Mae’r gynulleidfa’n ymwybodol bod ei brawd Orestes wedi dychwelyd i ladd eu mam a’u llys-dad. • Yn nrama Euripides mae cymeriadau Electra ac Orestes yn rhai cas a dieflig. Nid yw hyn yn wir yn nrama Soffocles.

  4. Y Stori • Mae mam Electra ac Orestes, Clytemnestra, wedi lladd eu tad Agamemnon, gyda’i chariad Aegisthus. • Mae Orestes wedi diflannu ac mae Electra a’i chwaer, Chrysothemis, yn dal i fyw yn y palas • Mae Electra am ladd ei mam a chariad ei mam. • Dyma beth sydd wedi digwydd cyn dechrau’r ddrama.

  5. Electra • Mae’r ddrama’n digwydd o flaen palas Agamemnon yn Mycenae. Daw tri dyn i’r llwyfan: • Orestes • Pylades, cyfaill Orestes • Hyfforddwr Orestes • Mae’n fore, ac mae’r tri yn trafod eu cynlluniau ar ôl clywed gorchymyn Apollo.

  6. Electra • Mae Apollo wedi gorchymyn i Orestes ddial ar ei fam am farwolaeth ei dad a bod rhaid gwneud hyn ei hun, heb gymorth byddin. • Mae’r hyfforddwr am fynd i’r palas a chyhoeddi bod Orestes wedi marw yn Delffi. • Mae Orestes a Pylades yn mynd at fedd Agamemnon ag offrymau ac er mwyn casglu hwy i’w defnyddio i dwyllo pawb mai llwch Orestes oedd ynddo.

  7. Daw Electra i’r golwg ar ei phen ei hun. Mewn araith mae hi’n cyfarch y bore ac yn sôn yn drist am ei galar dros ei thad. • Mae’r corws yn ymddangos – 15 o wragedd Mycenae. Cydymdeimla’r corws gydag Electra yn ei phrofedigaeth. Maent yn poeni am ei chyflwr meddwl. • Yn yr adran nesaf daw chwaer Electra, Chrysothemis i mewn, yn cario offrymau i roi ar fedd ei thad. Mae’r ddwy yn anghytuno ynglŷn â’u hagwedd at eu mam. Electra am ei herio, Chrysothemis am fyw bywyd tawelach, llai ymosodol.

  8. Electra • Mae Electra’n llwyddo i berswadio ei chwaer i daflu’r offrymau o’r neilltu gan fod duwiau dial ar droed i ddial ar ei mam. • Daw Clytemnestra i’r golwg. Mae Clytemnestra’n egluro nad hi yn unig laddodd eu tad ond y duwiau, gan ei fod e wedi aberthu eu chwaer Iphigenia. Ond mae Electra’n ei herio gan ofyn pam ei bod hi wedi cymryd cariad Aegisthus ac yna ei briodi.

  9. Electra • Daw’r hyfforddwr i mewn gan gyhoeddi bod Orestes wedi marw. Clytemnestra yn hapus, Electra’n galaru. Electra’n gwrthod mynd i mewn i’r palas nawr. • Chwaer Electra’n dweud bod offrymau newydd ar fedd eu tad. Mae hi’n credu mai rhai Orestes ydynt, ond dywed Electra wrthi bod Orestes wedi marw, a bod yn rhaid iddi hi ladd eu mam yn awr. • Y corws yn canu cân o gydymdeimlad.

  10. Electra • Daw Orestes a‘i was i mewn gan ddweud wrth Electra pwy ydyw. Electra’n gorfoleddu • O hyn at ddiwedd y ddrama, mae Orestes yn mynd i’r palas ac yn lladd ei fam. • Daw Aegisthus i’r palas gan ddisgwyl gweld corff Orestes ond fe wêl corff Clytemnestra • Lleddir Aegisthus gan Orestes a‘i was • Y corws yn y diwedd yn dweud bod cyfiawnder wedi ei weithredu nawr.

More Related