1 / 17

Streic y Penrhyn

Streic y Penrhyn. Hanes pwysig y diwydiant llechi. Pam fod hanes streic y Penrhyn yn ddiddorol. Parhaodd y streic am dair blynedd o 1900 i 1903. Gwelwyd dechrau’r dirywiad yn y diwydiant llechi yn dilyn y streic.

alvaro
Download Presentation

Streic y Penrhyn

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Streic y Penrhyn Hanes pwysig y diwydiant llechi

  2. Pam fod hanes streic y Penrhyn yn ddiddorol. • Parhaodd y streic am dair blynedd o 1900 i 1903. • Gwelwyd dechrau’r dirywiad yn y diwydiant llechi yn dilyn y streic. • Achoswyd drwg deimlad mawr rhwng pobl ardal Chwarel y Penrhyn (sy’n parhau hyd heddiw rhwng rhai teuluoedd).

  3. Sut y cychwynnodd y streic?

  4. Roedd y chwarelwyr eisiau perthyn i Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Roedden nhw eisiau casglu arian yn y gwaith i ymaelodi â’r Undeb. Roedden nhw eisiau gwell amodau gwaith. Nid oedd Yr Arglwydd Penrhyn yn fodlon i’r chwarelwyr gasglu arian i ymaelodi ag Undeb yn ei weithle. Roedd anghytundeb rhwng y chwarelwyr â pherchennog y chwarel, Yr Arglwydd Penrhyn, G.Douglas Pennant.

  5. Dyma lun o’r Arglwydd Penrhyn

  6. Roedd Yr Arglwydd Penrhyn yn amhoblogaidd iawn yn ardal chwarel y Penrhyn ( Bethesda). Pam? • Roedd o wedi etifeddu y chwarel a’r rhan fwyaf o’i gyfoeth gan ei dad. • Doedd o ddim am adael i’r chwarelwyr ymuno ag Undeb. • Cafodd nifer o’r chwarelwyr eu cloi allan am flwyddyn o’r chwarel yn 1896 ar ôl anghytuno â’r Arglwydd Penrhyn.

  7. Dyma rybudd o’r flwyddyn 1895 gan Yr Arglwydd Penrhyn a rheolwr y chwarel, E.A.Young am y newidiadau oedd yn gwynebu’r chwarelwyr.

  8. Dyma ffynhonnell wreiddiol o gyfnod y streic cyntaf yn 1897 sef poster gan y rheolwr i berswadio’r chwarelwyr i ddod yn ôl i’w gwaith.

  9. Beth ddigwyddodd yn y streic fawr? • Aeth bron i 3,000 o chwarelwyr ar streic. • Cafodd y chwarelwyr eu cloi allan o’r chwarel am dair blynedd. • Aeth tua 400 o ddynion yn ôl i weithio yn y chwarel yn y flwyddyn 1901. • Am weddill cyfnod y streic, roedd y dynion yma a’u teuluoedd yn cael eu galw yn “Fradwrs” gan weddill y chwarelwyr.

  10. Nid oedd bywyd y “Bradwrs” yn hawdd ar ôl penderfynu dychwelyd i’w gwaith yn y chwarel. • Torrwyd ffenestri eu tai. • Roedd y chwarelwyr eraill yn eu hanwybddu. • Cafodd eu teuluoedd eu hanwybyddu. • Roedd plant y chwarelwyr yn ymladd gyda plant y “bradwrs” • Rhoddwyd arwyddion ar ddrysau tai y sawl oedd ar streic yn datgan “ Nid oes bradwr yn y ty hwn”.

  11. Dyma bosteri rhybuddion streic y Penrhyn

  12. Ffynhonnell wreiddiol arall yw’r ffotograff yma o bwyllgor y streic

  13. Mae’r darlun yma yn dangos Pwyllgor y Chwarelwyr yn cyfarfod â’r Arglwydd Penrhyn.

  14. Pwy oedd yn iawn? • Roedd yr Arglwydd Penrhyn eisiau’r chwarel i wneud elw er mwyn cael cyfoeth iddo’i hun ac i’r ardal. • Doedd o ddim yn hoffi’r syniad o rhywun o’r tu allan (sef Undeb) yn awgrymu iddo sut i redeg ei fusnes yn y chwarel. • Roedd o’n teimlo bod y chwarelwyr yn cael cyflog têg.

  15. Beth oedd barn y streicwyr? • Roedd y chwarelwyr yn teimlo nad oeddynt yn cael chware têg. • Doedd yr Arglwydd Penrhyn ddim yn berson hawdd i’w gyfarfod a chael trafodaeth. • Roedd y chwarelwyr yn teimlo nad oedd Yr Arglwydd yn perthyn i’r ardal. • Roedd yr Arglwydd yn Sais cyfoethog ac yr oedd y chwarelwyr yn Gymry tlawd.

  16. Pam aeth y “bradwrs” sef y chwarelwyr yn ôl i’w gwaith yn 1901? • Roeddynt yn dlawd iawn oherwydd effaith y streic ac angen cyflog unwaith eto. • Roeddynt wedi cael eu perswadio i ddychwelyd i’w gwaith gan addewid o godiad cyflog.

  17. Pwy oedd yn iawn?Beth yw eich barn chwi?

More Related