1 / 10

Symud

Symud. At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1. Tasg 1. Cyflymder symud. Dewiswch un o’ch golygfeydd lle mae’r mwyaf o symud. Y marferwch heb fawr ddim symud gan neb o’r actorion ac eithrio un a fydd yn symud o gwmpas.

alma
Download Presentation

Symud

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Symud • At ddefnydd TGAU • Celfyddydau Perfformio • CBAC • Uned 1 ac Uned 3 • Tasg 1

  2. Tasg 1 Cyflymder symud • Dewiswch un o’ch golygfeydd lle mae’r mwyaf o symud. • Ymarferwch heb fawr ddim symud gan neb o’r actorion ac eithrio un a fydd yn symud o gwmpas. • Ymarferwch yr olygfa gyda gwahanol bobl yn symud ac yn aros yn llonydd. • Penderfynwch ar gyflymder yr olygfa a faint o symud y dylai pob cymeriad ei wneud.

  3. Tasg 2 Geiriau allweddol Grwpiau o 4. • Senario tŷ bwyta • Mae gan bob unigolyn brop o fewn yn yr olygfa a gair perthnasol i’r olygfa, e.e. gallai un dysgwr gael bwydlen, gallai un gael dŵr, ac ati. • Dechreuwch berfformio’n fyrfyfyr ond dim ond pan fyddwch chi neu gymeriad arall yn dweud eich gair allweddol y cewch chi ddod i mewn neu fynd allan. • Nod y dasg yw canfod rheswm i ddod i mewn neu fynd allan o’r olygfa fel bod cyfiawnhad dros eich symudiad.

  4. Tasg 3 Golygfa mainc parc • Byddeichathro/athrawesyngosoddwy gadair yng nghanol y llwyfan fel mainc parc. • Byddeich hanner chi’n cael rhif ac yn sefyll mewn rhes yn barod i ddod ar y llwyfan. Yr hanner arall fydd y gynulleidfa. • Bydd gan bob un ohonoch chi reswm dros ddod i mewn i’r olygfa, e.e. aros i gyfarfod â hen ffrind sy’n hwyr yn cyrraedd.

  5. Tasg 4 Gorwneud Mewn grwpiau, ymarferwch eich golygfa, ond gan fynd dros ben llestri a gorwneud y symudiadau a’r emosiynau fel eu bod yn hollol eglur.

  6. Tasg 5 Newid Symudiad • Symudwch o gwmpas y gofod yn niwtral. • Wrth newid lleoliad, mae angen ichi newid eich symudiadau i awgrymu’r lleoliad. Dyma enghreifftiau o leoliadau: torf fawr o bobl, yr Arctig mewn storm eira, y jyngl, lôn gefn dywyll a bygythiol liw nos. • Nawr rhowch gynnig ar wahanol gyflymderau, mynd i wahanol gyfeiriadau a gydag ystumiau corff gwahanol.

  7. Tasg 6 Emosiynau • Gweithiwch gyda phartner. • Bydd un partner yn cerdded o gwmpas y lle ond yn gorfod cyfleu emosiwn drwy ei symudiadau. • Rhaid i’r partner arall geisiodyfalu pa dymer neu emosiwn sy’n cael ei gyfleu yn ôl y ffordd y mae’n symud.

  8. Tasg 7 Osgo • Yn unigol, dewiswch olygfeydd allweddol i’ch cymeriad o’ch drama. • Dewiswch 3 phwynt allweddol yn y stori ac arbrofwch gyda newid osgo’r cymeriad ar y pwyntiau hynny.

  9. Tasg 8 Cyfathrebu dieiriau • Dewiswch olygfa bwysig o safbwynt symud. • Ymarferwch yr olygfa’n fud, gan ganolbwyntio ar symud ac ystumiau i gyfleu ystyr.

  10. Mae Gweithgareddau Estyn ar gael yn y Nodiadau i Athrawon

More Related