1 / 6

DARLLENWCH YR HANES!

DARLLENWCH YR HANES!. Arth Sbectolog yn Dychwelyd i Warchodfa yn Ecwador…. A allwch chi ddarganfod pedair ffaith ynghylch yr Arth Sbectolog?. Sut effeithiwyd ar eu cynefin, yn eich barn chi?. Rwyf yn frodor o Dde America – nid wyf yn byw yn unrhyw le arall!.

zaria
Download Presentation

DARLLENWCH YR HANES!

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. DARLLENWCH YR HANES! Arth Sbectolog yn Dychwelyd i Warchodfa yn Ecwador….

  2. A allwch chi ddarganfod pedair ffaith ynghylch yr Arth Sbectolog? Sut effeithiwyd ar eu cynefin, yn eich barn chi?

  3. Rwyf yn frodor o Dde America – nid wyf yn byw yn unrhyw le arall! Nid wyf yn gwisgo sbectol – Oherwydd y ffwr gwyn o gwmpas fy llygaid mae'n edrych fel pe bawn yn gwneud! A OEDDECH CHI'N GWYBOD? Gallai arth fenyw roi genedigaeth i 1 neu 2 genau ar y tro ar ôl bod yn dorrog am 8 i 8½ mis Y fi yw'r lleiaf o'r eirth ac rwyf yn dal i fod yn rhywogaeth mewn perygl Rwyf yn feistr ar ddringo coed a byddaf yn bwyta cnau, ffrwythau a dail yn bennaf. Weithiau, efallai byddaf yn bwyta anifeiliaid bychain megis ceirw hefyd.

  4. Y STORI FAWR Arth Sbectolog yn Dychwelyd i Warchodfa yn Ecwador…. Gwelwyd teulu o Eirth Sbectolog rhai lathenni yn unig o gaban Maquipucuna, a leolir yn un o'r gwarchodfeydd preifat mwyaf yn Ecwador. Dyma'r tro cyntaf ers wyth mlynedd bron iawn i eirth gael eu gweld yn yr ardal. Roedd y bobl leol, sydd wedi bod yn gefnogol iawn i anghenion yr eirth ers tro, wedi cynhyrfu'n fawr gan hyn. Mae Maquipucuna yn golygu 'llaw dyner’ ac mae hyn yn bendant yn disgrifio agwedd y bobl tuag at eu coedwig law. Agorwyd y caban ym 1998 a'i nod oedd gwarchod y goedwig drwy addysg, ecodwristiaeth a thyfu cnydau. Mae'r ardal o gwmpas y caban yn dynfa bwysig i fywyd gwyllt, yn un o ddwy yn unig yn Ecwador ac o bymtheg ar hugain yn yr holl Fyd.

  5. Camau ar gyfer arbed cynefin • Mae perchenogion y caban yn gweithio gyda phobl leol i ddatblygu eu sgiliau e.e. fel arweinwyr twristiaid. • Mae'r arian a godir yn cael ei roi yn ôl i'r bobl leol a fydd yn ei ddefnyddio i helpu i gadw ac i ddiogelu'r goedwig. • Mae ailgylchu'n bwysig iawn ac fe dyfir yr holl fwyd yn lleol ac yn organig, mae hyn yn cael ond ychydig o effaith ar yr amgylchedd. • Dyluniwyd y caban fel y byddai'n ymdoddi i'w amgylchoedd - defnyddiwyd pren a defnyddiau naturiol eraill yn unig. • Mae'r offer glanhau a ddefnyddir yn y caban yn fioddiraddadwy. • Mae ysgolion yn Quito (prif ddinas Ecwador) yn ymweld â'r caban i ddysgu am gynaladwyedd a rôl y goedwig.

  6. A ydych CHI yn dinistrio cynefin?... Mae’r niferoedd o ddraenogod yng Nghymru yn syrthio. Yn ôl rhai amcangyfrifon byddant wedi diflannu o'r wlad erbyn 2025! Beth allwch CHI ei wneud? Meddyliwch am weithredoedd y bobl yng nghaban Maquipucuna. A allech chi wneud gweithredoedd tebyg? Beth am ddatblygu gwarchodfa natur ar dir eich ysgol? Sut allwch chi leihau eich effaith ar eich amgylchedd lleol? Dathlwch amrywiaeth y planhigion a'r anifeiliaid yn eich ardal chi! www.bbc.co.uk/breathingplaces/schools

More Related