1 / 26

Symud Creadigol yn y Cyfnod Sylfaen

Symud Creadigol yn y Cyfnod Sylfaen. Dyddiad Lleoliad. Erbyn diwedd y cwrs hwn bydd gan ymarferwyr wybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o’r canlynol:. beth yw Symud Creadigol y cyfnodau graddol ar gyfer datblygu Symud Creadigol a Dawns gwaith cynllunio a chyflwyno effeithiol

yul
Download Presentation

Symud Creadigol yn y Cyfnod Sylfaen

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. SymudCreadigolyn y CyfnodSylfaen Dyddiad Lleoliad

  2. Erbyn diwedd y cwrs hwn bydd gan ymarferwyr wybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o’r canlynol: • beth yw Symud Creadigol • y cyfnodau graddol ar gyfer datblygu Symud Creadigol a Dawns • gwaith cynllunio a chyflwyno effeithiol • gan ddefnyddio ystod o gyd-destunau a symbyliadau • er mwyn cyflwyno cyfleoedd ar gyfer Symud Creadigol mewn darpariaeth barhaus a darpariaeth â ffocws • er mwyn cyflwyno ystod o gyfleoedd symbylol ar gyfer unigolion, grwpiau bach a dosbarthiadau cyfan, dan do ac yn yr awyr agored • y CD-ROM a’r adnoddau Symud Creadigol

  3. Erbyn diwedd y cwrs hwn bydd ymarferwyr yn gallu gwneud y canlynol: • gwella sgiliau Symud Creadigol plant • nodi sut y mae Symud Creadigol yn cyfrannu at ofynion y Cyfnod Sylfaen • dechrau nodi sut y gall y dull gweithredu hwn gyfoethogi arferion cyfredol • dechrau llunio cynllun gweithredu ar gyfer Symud Creadigol

  4. Trosolwgo’rcwrs • Cyflwyniad • Agweddau ar Symud Creadigol • beth, ble, gyda, sut ac i beth • Llunio dawnsiau • Dysgu ac addysgu o ansawdd • Mapiau dilyniant • Cynllunio gan ddefnyddio Cardiau Thema a Mapiau Dilyniant • Defnyddio’r dull chwe cham • Gwerthuso, gosod targedau a holi • Cynllunio gweithredu • Gwybodaeth bellach • Dilyniant a pharhad • Trosolwg o’r adnodd • Sesiwn lawn

  5. Cyflwyniad • Y Darlun Mawr • Cysylltiadau â ‘Chwarae i Ddysgu’ • Symud Creadigol yn y Cyfnod Sylfaen • Gorchmynion Symud Creadigol • Beth yw Symud Creadigol? • Gall Symud Creadigol gyflawni’r canlynol…

  6. Y Darlun Mawr • Y Cyfnod Sylfaen: • mae’n gyfannol ei natur, ac yn seiliedig ar gyfnod datblygiad plentyn, nid ei oedran; • mae’r plant yn ganolbwynt iddo; • rhaid iddo sicrhau cydbwysedd rhwng dysgu strwythuredig drwy weithgareddau a gychwynnir gan y plant, a gweithgareddau sydd dan gyfarwyddyd yr ymarferwr; • rhaid iddo ddatblygu hunanddelwedd y plant a’u teimladau o hunan-barch, gan fod y rhain wrth wraidd y cyfnod hwn; • mae’n rhoi mwy o bwyslais ar yr amgylchedd awyr agored fel adnodd; • dylai ddarparu cwricwlwm eang, cytbwys, sydd wedi’i wahaniaethu; • rhaid i’r ‘Meysydd Dysgu’ ategu’i gilydd a gweithio gyda’i gilydd i ddarparu dull gweithredu trawsgwricwlaidd. Ni ddylid ymdrin â nhw ar eu pen eu hunain; dylid rhoi pwyslais ar ddatblygu sgiliau’r plant ar draws y ‘Meysydd Dysgu’; • rhaid iddo ddefnyddio Asesu ar gyfer Dysgu; • rhaid iddo adlewyrchu’r Fframwaith Sgiliau; • rhaid i ymarferwyr ddeall, ysbrydoli a herio potensial plant ar gyfer dysgu.

  7. Cysylltiadau â ‘ChwaraeiDdysgu’ • Mae’r adnodd yn cynorthwyo ymarferwyr i ddarparu cyfleoedd i blant ddatblygu, defnyddio, mireinio ac addasu’r sgiliau technegol a gyflwynwyd yn ‘Chwarae i Ddysgu’; • Mae’n defnyddio lluniau i symbylu syniadau ar gyfer Symud Creadigol; • Gellir defnyddio llawer o’r Cardiau Gweithgareddau a’r Straeon yn ‘Chwarae i Ddysgu’ fel symbyliad ar gyfer Symud Creadigol; • Mae’n defnyddio terminoleg a chysyniadau cyson; • Gellir defnyddio cryno-ddisgiau sain ‘Chwarae i Ddysgu’ fel symbyliad ar gyfer Symud Creadigol neu fel cyfeiliant; • Nid yw’r adnoddau’n gynlluniau gwersi neu’n gynlluniau uned, ond gellir eu defnyddio fel man cychwyn i symbylu syniadau pellach y gellir eu datblygu’n hawdd i ddarparu profiadau dysgu wedi’u gwahaniaethu; • Mae’r ddau adnodd yn ymdrin â dilyniant yn yr un modd: ‘Wrth iddynt ddatblygu’, ‘Wrth iddynt wneud cynnydd’ ac ‘Wrth iddynt ddod yn fwy medrus’.

  8. Symud Creadigol yn y Cyfnod Sylfaen • Ceir 7 ‘Maes Dysgu’ yn y Cyfnod Sylfaen • Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol • Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu • Datblygiad Mathemategol • Datblygu’r Gymraeg • Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd • Datblygiad Corfforol • Datblygiad Creadigol. • Mae symud creadigol yn rhan o Ddatblygiad Creadigol, ynghyd â chelf, crefft a dylunio, a cherddoriaeth.

  9. Gorchmynion Symud Creadigol Dylai sgiliau plant ym maes symud creadigol gael eu meithrin a’u hybu wrth iddynt ddefnyddio eu synhwyrau, eu dychymyg a’u profiad. Dylai gweithgareddau symud creadigol a gynigir yn y Cyfnod Sylfaen alluogi plant i wneud cynnydd o safbwynt eu gallu i: • archwilio a mynegi ystod o hwyliau a theimladau trwy gyfrwng amrywiaeth o symudiadau; • datblygu eu hymatebion i wahanol symbyliadau megis cerddoriaeth, lluniau, geiriau a syniadau; • datblygu eu rheolaeth trwy gysylltu symudiadau er mwyn creu cyfres o wahanol lwybrau a siapiau â’u cyrff; • gweithio ar eu pen eu hunain a gydag eraill i esgus, ymateb yn fyrfyfyr a meddwl yn ddychmygus; • gweithio ar eu pen eu hunain, gyda phartner neu mewn grŵp bach i ddatblygu eu syniadau eu hunain a syniadau pobl eraill a’u helpu i fyfyrio ynghylch y syniadau hynny; • perfformio symudiadau neu batrymau, gan gynnwys rhai sy’n perthyn i ddawnsiau gwerin Cymreig a dawnsiau o ddiwylliannau eraill.

  10. Ystod Dylid rhoi cyfleoedd i blant: • archwilio’r amgylcheddau dysgu a geir dan do ac yn yr awyr agored, ymchwilio iddynt a’u defnyddio; • cymryd rhan mewn gwahanol fathau o weithgareddau chwarae ac ystod o weithgareddau a gaiff eu cynllunio, gan gynnwys y rheiny a gychwynnir gan y plant; • cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt weithio fel unigolion ac mewn grwpiau; • defnyddio ystod eang o adnoddau a symbyliadau; • profi traddodiadau a dathliadau o wahanol ddiwylliannau; • cael profiad o gelf, crefft, gwaith dylunio, cerddoriaeth a dawnsiau o Gymru a diwylliannau eraill.

  11. Beth yw Symud Creadigol?Pam y dylid rhoi’r cyfle i blant ddatblygu eu sgiliau Symud Creadigol?

  12. AgweddauarSymudCreadigol • Beth? • Ble? • Gyda? • Sut? • I beth?

  13. Beth? Gweithrediadau Dawns Sylfaenol • Teithio • Troi • Neidio • Ystumio • Llonyddwch

  14. Ble? • Cyfeiriad • Lefel • Llwybrau • Ymwybyddiaeth ofodol

  15. Gyda? • Gyda phwy? • ymarferwr • partner • grŵp bach • dosbarth cyfan • Gyda beth? • propiau

  16. Sut? • Dynameg • Egni • Llif • Maint y symudiad • Cyflymder • Ansawdd • Dyfeisiau coreograffig

  17. I beth? • cyfeiliant • byrfyfyr

  18. Symbyliadau • Cyffyrddol – defnyddio prop • Syniadaethol – defnyddio cysyniadau neu bynciau trafod • Cinesthetig – defnyddio patrymau symud • Clywedol – defnyddio cerddoriaeth, geiriau, cerddi • Gweledol – defnyddio lluniau, darluniau, dyluniadau, clipiau fideo • Defnyddio symbyliadau yn yr amgylchedd dysgu a’u cysylltu â’r ddarpariaeth barhaus

  19. Cynllunio Cynorthwyo taith ddysgu plentyn Tasg â ffocws Arsylwi ac asesu Cyfoethogi’r ddarpariaeth Cynllunio Darpariaeth barhaus Rôl yr ymarferwr

  20. Llunio dawnsiau • Datblygu syniadau Symud Creadigol dros sawl sesiwn • Dawnsiau i unigolion, parau, grwpiau bach a’r dosbarth cyfan • Strwythur dawns – dull creu stori – dechrau, canol a diwedd • Defnyddio’r dull chwe cham

  21. Sut – dyfeisiaucoreograffig • Symudiadau unffurf – yr un gweithrediadau ar yr un pryd • Canon – yr un gweithrediadau ond gan ddechrau ar adegau gwahanol, fel tonau crynion mewn cerddoriaeth • Ailadrodd – perfformio gweithred, sawl gweithred neu gymal cyfan unwaith eto fel bod yr ail berfformiad yn union yr un fath â’r perfformiad cyntaf. O.N. Nid yw Arwain a Dilyn yn ddyfais goreograffig ynddo’i hun - mae naill ai’n Symudiad Unffurf neu’n Ganon gan ddefnyddio Trefniant Gofodol penodol, h.y. Un o flaen y llall / un y tu ôl i’r llall

  22. Dysgu ac addysgu o ansawdd • Mapiau Dilyniant • Cynllunio • Defnyddio Mapiau Thema • Holi • Gwerthuso a gosod targedau

  23. Cynllunio Gweithredu Nodwch: - y camau gweithredu i’w cymryd yn y tymor byr a chanolig o ganlyniad i fynychu’r cwrs Symud Creadigol; - y meini prawf ar gyfer llwyddo y byddwch yn eu defnyddio i fesur effaith y cwrs ar safonau dysgu ac addysgu; - y dystiolaeth y byddwch yn ei chasglu i gadarnhau bod yr effaith honno wedi’i chael; - sut y byddwch yn adrodd ynghylch cynnydd/arfer da, ac i bwy y byddwch yn adrodd yn ei gylch.

  24. Gwybodaethbellach • Dilyniant a pharhad • CD-ROM ac adnoddau

  25. Dilyniant a Pharhad • Chwarae i Ddysgu • Plymio i’r Pwll – Nofio yn y Cyfnod Sylfaen • Modiwl 1, 2, 3 Gweithgareddau Gymnasteg • Dawns CA2 • Iechyd, ffitrwydd a lles • Rôl yr arweinydd pwnc

  26. Sesiwn lawn • Ailystyried canlyniadau’r cwrs • Ailystyried y cynllun gweithredu • Cwblhau’r gwaith gwerthuso

More Related