1 / 22

Caneuon Gwersyll

Aderyn Melyn Ar Hyd Y Nos Bingbong Ble Mae Daniel Cân Y Cawr Canu Roc A Rôl Dacw Ti Yn Eistedd Dathlwn Glod (Ymdeithgan Yr Urdd) Daw Hyfryd Fis Don Y Meicrodon. Franz O Wlad Awstria Hei Mistar Urdd Hen Feic Peni-ffardding Fy Nhaid Hen Wlad Fy Nhadau Het Tri Chornel

vita
Download Presentation

Caneuon Gwersyll

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Aderyn Melyn Ar Hyd Y Nos Bingbong Ble Mae Daniel Cân Y Cawr Canu Roc A Rôl Dacw Ti Yn Eistedd Dathlwn Glod (Ymdeithgan Yr Urdd) Daw Hyfryd Fis Don Y Meicrodon Franz O Wlad Awstria Hei Mistar Urdd Hen Feic Peni-ffardding Fy Nhaid Hen Wlad Fy Nhadau Het Tri Chornel Joio Yn Y Jambori Nant Y Mynydd Nefol Dad Oes Gafr Eto? Pen, Ysgwyddau, Coesau, Traed Sosban Fach Caneuon Gwersyll

  2. ADERYN MELYN Aderyn melyn i fyny yn y goeden banana, banana Aderyn melyn i fyny yn y goeden banana, Cytgan:Paid a mynd i ffwrdd Paid a fflio i ffwrdd Paid a mynd i ffwrdd Paid a fflio i ffwrdd Paid a mynd i ffwrdd Paid a mynd i ffwrdd nawr Ww, 3,2,1, Cha Cha Cha. Aderyn gwyrdd i fyny yn y goeden ciwcymber, ciwcymber Aderyn gwyrdd i fyny yn y goeden ciwcymber, Cytgan Aderyn coch i fyny yn y goeden tomato, tomato Aderyn coch i fyny yn y goeden tomato, Cytgan Aderyn brown i fyny yn y goeden siocled, siocled Aderyn brown i fyny yn y goeden siocled, Cytgan Aderyn oren i fyny yn y goeden Fanta, Fanta Aderyn oren i fyny yn y goeden Fanta. Cytgan nôl

  3. AR HYD Y NOS Holl amrantau'r sêr ddywedant Ar hyd y nos, Dyma'r ffordd i fro gogoniant Ar hyd y nos, Golau arall yw tywyllwch I arddangos gwir brydferthwch Teulu'r nefoedd mewn tawelwch Ar hyd y nos. O mor siriol gwena seren Ar hyd y nos, I oleuo'i chwaer ddaearen Ar hyd y nos, Nos yw henaint pan ddaw cystudd, Ond i harddu dyn a'i hwyrddydd Rhown ein golau gwan i'n gilydd Ar hyd y nos. nôl

  4. BINGBONG Cytgan: Bing, bong, bing bong be. Bing, bong, bing bong be. Bing, bong, bing bong be. Bing, bong, bing bong be. Dau gi bach yn mynd i'r coed Esgid newydd ar bob droed, Dau gi bach yn dwad adre, Wedi colli un o'u sgidie. Cytgan Ma' nhw'n dwedydd ac yn sôn Mod i'n caru yn Sir Fôn; Minnau sydd yn caru'n ffyddlon Dros y dŵr yn Sir Gaernarfon. Cytgan Mae Ffair y Borth yn nesu, Caf deisen wedi ei chrasu, A chwrw poeth o flaen y tân A geneth lân i'w charu. Cytgan Bum yn claddu hen gydymaith A gododd yn fy mhen i ganwaith; Ac rwy'n amau, er ei briddo, Y cyfyd yn fy mhen i eto. Cytgan nôl

  5. BLE MAE DANIEL? Ble mae Daniel? Ble mae Daniel? Yn ffau’r llewod Yn ffau’r llewod Am beth? Am beth? Am iddi beidio addoli’r ddelw. nôl

  6. CÂN Y CAWR Roedd bachgen bach o’r enw Twm, Roedd rhywbeth yn ei boeni, Er bwyta bwydydd o bob math, Doedd Twmi ddim yn tyfu. Roedd ei ffrindiau i gyd yn fwy na fo, A Twmi yn bitw bychan Bob nos a dydd roedd y bachgen prudd Yn gwneud dim on breuddwydio am fod yn Cytgan: Cawr mawr A’i ben o yn bell o’r llawr Cawr mawr Y mwyaf yn y byd. Un diwrnod yfodd Twmi bach Botelaid o ffisyg hudol, Ac yna’n syth fe dyfod Twm yn gaaawr anhygoel. Fe dyfodd Twm yn fwy na’r tai, Yn fwy na’r coed a’r bryniau, A nawr ma’ Twmi o ddydd i ddydd A’i ben yn y cymylau, mae o’n Cytgan nôl

  7. CANU ROC A RÔL Mae fy nghorff yn teimlo’n aflonydd, Mae ‘na gyffro yn fy ngwaed, Rwy bron a marw eisiau symud, A neidio’n uchel ar fy nhraed. Mae fy llais i eisiau gweiddi, Does ‘na ddim dewis arall ar ôl Ond bloeddio, dawnsio, jeifio, joio, Canu roc â rôl. Cytgan: Rwy’n canu roc a rôl yn y bore Rwy’n canu roc a rôl yn y p’nawn, Rwy’n canu roc a rôl yn yr hwyr Cenwch roc â rôl – bydd popeth yn iawn. Rwy’n cribo ‘ngwallt yn ôl fel gwallt Elvis, Mae’r sgidiau swêd yn dynn am fy nhraed, Mae sn y drymiau’n cynnig y curiad Dim ond cydio mewn gitâr sy raid, Pan ddaw sn y gân a’r rhythum i nghlustiau Does ‘na ddim dewis arall ar ôl Ond bloeddio, dawnsio, jeifio, joio Canu roc a rôl. Cytgan nôl

  8. DACW TI YN EISTEDD Dacw ti yn eistedd y deryn du, Brenin y goedwig fawr wyt ti. Can, dere deryn, Can, dere deryn, Dyna un hardd wyt ti. nôl

  9. DATHLWN GLOD (Ymdeithgan yr Urdd) Dathlwn glod ein cyndadau, Enwog gewri Cymru fu; Gwŷr yn gweld y seren ddisglair Trwy y cwmwl du, Ar ôl llawer awel groes, Atgyfodwn yn ein hoes, Hen athrawon dysg a moes Cymru Fu. Cytgan Sain, Cerdd a chân, Hen Gymru lân Heddiw lanwo Gymru wen Cymru lân Plant Cymru fu, Hen Gymru gu, Codwn enw Cymru lân. Bonedd gwlad gyda'u gwerin, Foesymgrymant ger ei bron, Merched mwyn a llanciau Rhoddant gêd ar allor hon; Dewch a'i thelyn feinlais fwyn, Hen alawon syml eu swyn, Adlais odlau grug a brwyn Cymru Fu. Cytgan nôl

  10. DAW HYFRYD FIS Daw hyfryd fis Mehefin cyn bo' hir A chlywir y gwcw'n canu'n braf yn ein tir Braf yn ein tir, braf yn ein tir. Gwcw, gwcw, gwcw'n canu'n braf yn ein tir. nôl

  11. DON Y MEICRODON Beth am bwdin reis, jeli neis, Neu deisen sbeis i Nain? Ac fe hoffwn i gael bwyd Tseini Neu gyrri o’r Dwyrain. Cau y drws – mae’r golau’n goch, Eiliad fer – sŵn y gloch. Tê neu swper unrhyw bryd, Don sy’n gwneud y gwaith i gyd. Cytgan: Don y meicrodon ydw i, Y brenin yn eich cegin chi, Byth yn meddwl mynd ar streic, Fi, Don y Meicro. Beth am bryd go lew, Dau bysgodyn tew Efo sglodion silicôn. Bara lawr, dwy sosej fawr A wyau o Sir Fôn. Cau y drws – mae’r golau’n goch, Eiliad fer – sŵn y gloch. Tê neu swper – unrhyw bryd, Don sy’n gwneud y gwaith i gyd. Cytgan nôl

  12. FFRANZ O WLAD AWSTRIA Roedd Ffranz o wlad Awstria Yn iodlan ar fynydd mawr Pan ddaeth cwymp mawr o eira A’i fwrw’n fflat i’r llawr. Cytgan: Olia ci, olia cici ac olia cwcw, swish, swish, Olia cici ac olia cwcw, swish, swish, Olia cici ac olia cwcw, Olia cici ac o. Roedd Ffranz o wlad Awstria Yn iodlan ar fynydd mawr Pan ddaeth arth fawr ffyrnig A’i fwrw’n fflat i’r llawr. Cytgan Roedd Ffranz o wlad Awstria Yn iodlan ar fynydd mawr Pan ddaeth ci St Bernard A’i fwrw’n fflat i’r llawr. Cytgan Roedd Ffranz o wlad Awstria Yn iodlan ar fynydd mawr Pan ddaeth ei annwyl gariad A’i gusannu’n fflat i’r llawr. Cytgan Roedd Ffranz o wlad Awstria Yn iodlan ar fynydd mawr Pan ddaeth tad ei annwyl gariad A’i saethu’n fflat i’r llawr. Cytgan nôl

  13. HEI, MISTAR URDD Cytgan: Hei, Mistar Urdd yn dy coch, gwyn a gwyrdd Mae hwyl i’w gael ymhobman yn dy gwmni. Hei, Mistar Urdd, tyrd am dro ar hyd y ffyrdd Cawn ganu’n cân i holl ieuenctid Cymru. Gwelais di’r tro cyntaf ‘rioed yn y gwersyll ger y lli A chofiaf am yr hwyl fu yno’n hir Dyddiau hir o heulwen haf, y cwmni gorau fu Ac af yn ôl i aros cyn bo hir. Cytgan Noson hir o aeaf oer, fe welais di drachefn Dangosaist fod ‘na rywle i mi fynd. Dyma aelwyd gynnes iawn a chriw ‘run fath â fi A chyfle i adnabod llawer ffrind. Cytgan Diolch i ti, Mistar Urdd, dangosaist i mi’n glir Fod gennyt rywbeth gwych i’w roi i mi Gwersyll haf a chwmni braf mewn cangen ymhob tre’ A gobaith i’r dyfodol ynot ti. Cytgan nôl

  14. HEN WLAD FY NHADAU Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi, Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri; Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd, Tros ryddid gollasant eu gwaed. Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i’m gwlad. Tra môr yn fur i’r bur hoff bau, O bydded i’r hen iaith barhau. nôl

  15. HEN FEIC PENI-FFARDDING FY NHAIDMae 'na rai sydd yn hoffi trafeilio Yn gyfforddus a swel mewn M.G., Mae rhai eraill yn dewis y bysus a'r trên Ond mae'n llawer iawn gwell gennyf fi -­ Cytgan Hen feic peni-ffardding fy nhaid Well sticio at hwnnw sydd raid, Bydd y dyrfa yn heidio i'm gweld i yn reidio Hen feic peni-ffardding fy nhaid. Cytgan Aeth y trip ysgol SuI rhyw ddiwmod Draw i Fangor am dro efo'r traen, Ond er cysgu yn hwyr ni chynhyrfais i ddim, A chyrhaeddais y ddinas o'u blaen. Pan yn reidio ar spid ryw ben bore Fe ddaeth plismyn mewn car ar fy ôl, Ond fe bedlais yn wallgo' â'm trwyn ar y bar,A phan stopiais rown i yn y North Pôl. Cytgan Mi bridaf fel pob creadur gwirion Os caf afael ar ferch fach gwerth chweil, Ond ni chrymaf 'run tacsi i'm cludo i'r llan, Mi af yno fy hunan mewn steil. Cytgan nôl

  16. HET TRI CHORNEL Mae gen i het dri chornel, Tri chornel sydd i'm het, Ac os nad oes tri chomel, Nid honno yw fy het. nôl

  17. JOIO YN Y JAMBORI Rwy’n teimlo cân yn dod Mae’r rhythm yn fyw, Rwy’n teimlo cân yn dod Ymunwch â’r criw. Cura dy ddwylo, Côd ar dy draed, Canu hon sydd rhaid. Joio yn y Jambori, Joio yn y Jambori. Mae gen i ffrindiau da, Cyfeillion di-ri, Mae gen i ffrindiau da, A mae lle i ti. Cura dy ddwylo, Côd ar dy draed, Canu hon sydd rhaid. Joio yn y Jambori, Joio yn y Jambori. Mae’r iaith yn dod yn fyw Yng nghymoedd y De Mae’r iaith yn dod yn fyw, Fe fydd yma le. Cura dy ddwylo, Côd ar dy draed, Canu hon sydd rhaid. Joio yn y Jambori, Joio yn y Jambori Joio yn y Jambori, Dere lawr i’r jamba Pawb yn ‘neud y Samba, Dawnsio dawns y Mamba, La la la la Bamba, Dere lawr i’r Jambori!! nôl

  18. NANT Y MYNYDD Nant y Mynydd groyw, loyw Yn ymdroelli tua'r pant, Rhwng y brwyn yn sisial ganu, ana bawn i fel y nant. Mewn a mas, mewn a mas (x4) Grug y mynydd yn eu blodau, Edrych arnynt hiraeth ddug, Am gael aros ar y bryniau Yn yr awel efo'r grug. Nôl a mlaen, nô1 a mlaen (x4) Adar mân y mynydd uchel Godant yn yr awel iach; O'r naill drum i'r llall yn hedeg, O na bawn fel deryn bach. Lan a lawr, lan a lawr (x4) Mab y mynydd ydwyf innau Oddi cartref yn gwneud cân; Ond mae nghalon ar y mynydd Efo'r grug a'r adar mân. Troi a throi, troi a throi (x4) nôl

  19. NEFOL DAD Nefol Dad, mae eto'n nosi,Gwrando lef ein hwyrol weddi ­Nid yw'r nos yn nos i ti; Rhag ein blino gan ein hofnau,Rhag pob niwed i'n heneidiau, Yn dy hedd, o cadw ni. Cyn i'r caddug gau amdanom, Taena d'adain dyner trosom Gyda thi, tawelwch sydd; Yn dy gariad mae ymgeledd, Yn dy fynwes mae tangnefedd, Wedi holl flinderau'r dydd. nôl

  20. PEN, YSGWYDDAU, COESAU, TRAED Pen, ysgwyddau, coesau, traed, Coesau, traed. Pen, ysgwyddau, coesau, traed, Coesau, traed. Llygaid, clustiau trwyn a cheg, Pen, ysgwyddau, coesau, traed. nôl

  21. OES GAFR ETO? Oes gafr eto? Oes heb ei godro Ar y creigiau geirwon Mae'r hen afr yn crwydro. Gafr wen, wen, wen Ie finwen, finwen, finwen. Foel gynffonwen, foel gynffonwen Ystlys wen a chynffon wen, wen, wen. Oes gafr eto? Oes heb ei godro Ar y creigiau geirwon Mae'r hen afr yn crwydro. Gafr las, las, las Ie finlas, finlas, finlas. Foel gynffonlas, foel gynffonlas Ystlys las a chynffon las, las, las. a.y.b. nôl

  22. SOSBAN FACH Mae bys Meri Ann wedi brifo A Dafydd y gwas ddim yn iach; Mae’r baban yn y crud yn crio A’r gath wedi sgrapo Joni bach. Cytgan: Sosban Fach yn berwi ar y tân Sosban fawr yn berwi ar y llawr A’r gath wedi crafu Joni bach. Dai Bach y Sowldiwr Dai bach y Sowldiwr Dai Bach y Sowldiwr A chwt’i grys e mas Cytgan Mae bys Meri Ann wedi gwella, A Dafydd y gwas yn ei fedd; Mae’r babi yn y crud wedi tyfu A’r gath wedi huno mewn hedd. Cytgan nôl

More Related