1 / 17

ADOLYGU GRAMADEG

ADOLYGU GRAMADEG. Rheolau ENW ANSODDAIR ARDDODIAD RHAGENW. Chwiliwch am y gwallau yn y brawddegau canlynol ac yna ar lafar, ceisiwch gywiro’r brawddegau yn ôl y drefn arferol: GWALL CYWIRIAD ESBONIAD

teigra
Download Presentation

ADOLYGU GRAMADEG

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. ADOLYGU GRAMADEG Rheolau ENW ANSODDAIR ARDDODIAD RHAGENW

  2. Chwiliwch am y gwallau yn y brawddegau canlynol ac yna ar lafar, ceisiwch gywiro’r brawddegau yn ôl y drefn arferol: GWALL CYWIRIAD ESBONIAD Bydd yr atebion yn cael eu datgelu fesul un. Mae nifer y gwallau yn y brawddegau wedi ei nodi mewn cromfachau ar ddiwedd y frawddeg. Mae esiampl i chi ar y sleid nesaf.

  3. Mae’r merch mwyaf ifanc yn y dosbarth yn tal ac yn tenau iawn. [4] • mae’r merch > mae’r ferch Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod 2. mwyaf ifanc > ieuengaf Gradd eithaf yr ansoddair ifanc yw ‘ieuengaf’ 3. yn tal > yn dal Ansoddair yn dilyn yr ‘yn’ traethiadol yn treiglo’n feddal 4. yn tenau > yn denau Ansoddair yn dilyn yr ‘yn’ traethiadol yn treiglo’n feddal

  4. Aeth y fachgen i gweld ei modryb. [3] • y fachgen y bachgen Nid yw enw unigol gwrywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod 2. i gweld i weld Angen treiglad meddal ar ôl yr arddodiad ‘i’. • ei modryb ei fodryb Treiglad meddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘ei’ gwrywaidd.

  5. Mae sian yn merch dymunol. [3] • sian Sian Angen llythyren fawr i enw priod. • yn merch yn ferch Enw yn treiglo’n feddal ar ôl yr ‘yn’ traethiadol. • merch dymunol merch ddymunol Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal.

  6. Mae’r blwyddyn hwn yn blwyddyn naid. [3] • Mae’r blwyddyn Mae’r flwyddyn Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod. • blwyddyn hwn blwyddyn hon Angen yr ansoddair dangosol benywaidd gyda’r enw benywaidd. • yn blwyddyn yn flwyddyn Enw yn treiglo’n feddal ar ôl yr ‘yn’ traethiadol.

  7. Mae fy brawd yn cael ei penblwyddyfory. [2] • fy brawd fy mrawd Angen treiglad trwynol ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘fy’. • ei penblwydd ei benblwydd Angen treiglad meddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘ei gwrywaidd.

  8. Roedd prif mynedfa’r ysgol ar cau yn dilyn y damwain. [3] • prif mynedfa prif fynedfa Ansoddair o flaen enw yn achosi i’r enw dreiglo’n feddal. • ar cau ar gau Angen treiglad meddal ar ôl yr arddodiad ‘ar’. • y damwain y ddamwain Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod.

  9. Mae’r coeden derwen yn tal iawn. [3] • mae’r coeden mae’r goeden Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod. • coeden derwen coeden dderwen Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal • yn tal yn dal Ansoddair yn treiglo’n feddal ar ôl yr ‘yn’ traethiadol.

  10. Cafodd y fachgen mwyaf drwg yn y ddosbarth ei cosbi. [4] • y fachgen y bachgen Nid yw enw unigol gwrywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod. • mwyaf drwg gwaethaf Gradd eithaf yr ansoddair drwg yw ‘gwaethaf’. • y ddosbarth y dosbarth Nid yw enw unigol gwrywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod. • ei cosbi ei gosbi Treiglad meddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘ei’ gwrywaidd.

  11. Edrychodd y mam ar hi’n blin. [3] • y mam y fam Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod • ar hi arni hi Angen yr arddodiad yn ei ffurf redadwy 3ydd person unigol • yn blin yn flin Ansoddair yn treiglo’n feddal ar ôl yr ‘yn’ traethiadol.

  12. Mae’r cath du yn dof iawn. [3] • Mae’r cath Mae’r gath Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod 2.cath du cath ddu Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal. • yn dof yn ddof Ansoddair yn treiglo’n feddal ar ôl yr ‘yn’ traethiadol.

  13. Roedd llawer o fobl yn y drama. [2] • o fobl o bobl Angen treiglad meddal ar ôl yr arddodiad ‘o’. Treiglad meddal y llythyren ‘p’ yw ‘b’nid ‘f’. • y drama y ddrama Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod

  14. Roedd gan fo cur yn ei pen. [3] • gan fo ganddo fo Angen yr arddodiad yn ei ffurf redadwy 3ydd person unigol. • ganddo fo cur ganddo fo gur Treiglad meddal ar ôl yr arddodiad ‘gan’. • ei pen ei ben Angen treiglad meddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘ei’ gwrywaidd.

  15. Bydd dathlu yn yr ysgol hwn y blwyddyn nesa. [2] • ysgol hwn ysgol hon Angen yr ansoddair dangosol benywaidd gydag enw benywaidd. • y blwyddyn y flwyddyn Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod

  16. Hwn yw’r merch mwyaf da. [3] • Hwn Hon Angen y rhagenw dangosol benywaidd. • yw’r merch yw’r ferch Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod • mwyaf da gorau Ffurf gywir gradd eithaf yr ansoddair ‘da’ yw ‘gorau’

  17. Roedd y merch a gwelwyd ar y stryd yn digartref. [3] y merch y ferch Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod a gwelwyd a welwyd Treiglad meddal ar ôl y rhagenw perthynol ‘a’ yn digartef yn ddigartref Ansoddair yn dilyn yr ‘yn’ traethiadol yn treiglo’n feddal

More Related