1 / 31

Brecwast Cytbwys Campus

Brecwast Cytbwys Campus. I Mewn. Gweithgor Torfaen. Rydym yn Dysgu:-. Deall bod brecwast yn bryd pwysig . Adnabod y gwahanol grwpiau o fwyd a pha gynhyrchion sy'n perthyn i'r grwpiau hynny. Deall sut mae grwpiau bwyd yn ffurfio deiet cytbwys.

shanna
Download Presentation

Brecwast Cytbwys Campus

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Brecwast Cytbwys Campus I Mewn Gweithgor Torfaen

  2. Rydym yn Dysgu:- • Deall bod brecwast yn bryd pwysig. • Adnabod y gwahanol grwpiau o fwyd a pha gynhyrchion sy'n perthyn i'r grwpiau hynny. • Deall sut mae grwpiau bwyd yn ffurfio deiet cytbwys. • Deall y dylai bwydydd brecwast ddod o amrywiaeth o grwpiau bwyd er mwyn sicrhau bod y brecwast yn gytbwys. • Deall rheolau diogelwch a hylendid wrth weithio gyda bwyd. • Cynllunio a pharatoi brecwast cytbwys. Diwedd

  3. ALLWEDD Yn ôl i’r dudalen hafan. Mae’n eich tywys i ddiwedd y sioe. Diwedd Symud yn ôl. Symud ymlaen. Nodiadau a gweithgareddau athrawon. Diwedd

  4. Defnyddiwch bin ysgrifennu bwrdd gwyn rhyngweithiol i esbonio beth yw brecwast a pham mae’n bwysig yn eich barn chi. Beth yw brecwast a pham mae ei angen arnom ni? Diwedd

  5. Nodiadau i Athrawon • Y disgyblion i lunio map meddwl ynghylch beth maent yn meddwl yw ystyr y gair brecwast a pham mae brecwast yn bryd pwysig. • Trafodwch y ffaith fod gan rai ysgolion glwb brecwast. Y disgyblion i drafod a ydynt yn meddwl bod hyn yn syniad da neu beidio gan roi rhesymau. Diwedd

  6. BETH YW BRECWAST? Brecwast yw pryd cyntaf y dydd, a fwyteir fel rheol yn y bore. Daw'r enw o'r cysyniad nad ydych wedi bwyta tra roeddech yn cysgu, felly rydych yn ymprydio yn ystod y cyfnod hwnnw, ac rydych yn torri'r ymprydio gyda'r pryd o fwyd (‘break your fast’). Diwedd

  7. PAM MAE ANGEN BRECWAST ARNOM NI? Mae brecwast yn cael effaith hudol ar ein cyrff, mae'n rhoi tanwydd ac egni i'n cyrff er mwyn dechrau'r diwrnod. Diwedd

  8. BETH YDYCH YN EI FWYTA I FRECWAST? Defnyddiwch gyda phin bwrdd gwyn. Diwedd

  9. NODIADAU I ATHRAWON • Dylai'r disgyblion gofnodi beth gawsant i frecwast ac ymchwilio i ba grwpiau bwyd maent yn perthyn ac a yw'n gytbwys. • Trafodwch a yw'r disgyblion yn meddwl bod y cynhyrchion brecwast yn iach neu beidio. Diwedd

  10. Grwpiau Bwyd Pa fwydydd sy’n garbohydradau? Cliciwch arnyn nhw i gael gwybod Carbohydradau Diwedd

  11. Carbohydradau Mae carbohydradau yn rhoi egni i chi. Fe'u cewch mewn bwydydd siwgraidd a startsh megis tatws, reis, pasta,grawnfwydydd, bara a rhai ffrwythau a llysiau. Diwedd

  12. Cywir! Mae’n garbohydrad. Diwedd

  13. Anghywir! Nid yw’n garbohydrad. Diwedd

  14. Grwpiau Bwyd Pa fwydydd sy’n broteinau? Cliciwch arnyn nhw i gael gwybod Proteinau Diwedd

  15. Cywir! Mae’n brotein. Diwedd

  16. Anghywir! Nid yw’n brotein. Diwedd

  17. PROTEINAU Mae proteinau yn helpu eich corff i dyfu a'i adfer ei hunan. Fe'u cewch mewn cigoedd, dofednod, pysgod, wyau, cynhyrchion llaeth a ffa. Diwedd

  18. GRWPIAU BWYD Pa fwydydd sy’n frasterau? Cliciwch arnyn nhw i gael gwybod. Brasterau Diwedd

  19. BRASTERAU Mae brasterau yn rhoi egni ac maent yn helpu i gryfhau eich corff. Fe'u cewch mewn cynhyrchion llaeth, cigoedd coch, rhai dofednod a physgod. Diwedd

  20. Cywir! Mae’n fraster. Diwedd

  21. Anghywir! Nid yw’n fraster. Diwedd

  22. GRWPIAU BWYD ERAILL Mae’n eich helpu i dreulio eich bwyd. Fe gewch ffibr mewn llawer o fwydydd megis grawnfwydydd, bara, ffrwythau a llysiau. Ffibr Mwynau Mae haearn yn dda i’r gwaed. Mae calsiwm yn dda i’ch esgyrn. Ceir mwynau mewn llawer o fwydydd, ond yn enwedig mewn ffrwythau a llysiau ffres. Fitaminau Mae fitaminau'n dda er mwyn cadw eich corff yn iach. Maent yn dda i’ch croen, esgyrn a dannedd. Fe'u ceir yn bennaf mewn cynhyrchion llaeth (llaeth, wyau a menyn), ffrwythau a llysiau ffres. Diwedd

  23. BETH YW DEIET CYTBWYS? Beth yw deiet cytbwys? Diwedd

  24. Deiet Cytbwys Mae'n rhaid i chi gael carbohydrad, protein, braster, fitaminau, mwynau a ffibr yn y meintiau cywir. Os nad oes digon o brotein, ni fyddwch yn gallu tyfu'n iawn ac ni fyddwch yn gallu eich adfer eich hunan h.y. ni fydd clwyfau'n gwella'n iawn. Os nad ydych yn cael digon o fwydydd sy'n cynnwys egni, byddwch yn teimlo'n flinedig iawn oherwydd ni fydd gennych ddigon o egni. Os oes gennych ormod o fwydydd sy'n cynnwys egni, byddwch yn mynd dros bwysau. Diwedd

  25. YDY HWN YN DDEIET CYTBWYS? Diwedd

  26. Llusgwch eitemau o’r cynhyrchion brecwast at y plât i ddangos eich cynllun brecwast dewisol. Diwedd

  27. RHEOLAU HYLENDID COFIWCH!! • Golchwch eich dwylo bob amser cyn gweithio gyda bwyd. • Sychwch arwynebau’n lân bob amser cyn paratoi bwyd. • Cadwch gigoedd amrwd a rhai wedi coginio ar wahân. Allwch chi feddwl am ragor? Diwedd

  28. RHEOLAU DIOGELWCH • Dylai oedolyn eich goruchwylio os byddwch yn ddefnyddio cyllell • Pan fyddwch yn defnyddio offer twym, sicrhewch bod oedolyn yn bresennol. A allwch chi feddwl am ragor? Diwedd

  29. Brecwast Cytbwys Campus Unwaith y byddwch wedi paratoi ac wedi bwyta eich brecwast campus, byddwch yn llawn egni ac yn barod i fynd i'r afael â'r diwrnod!!! Gweithgareddau Athrawon Diwedd

  30. NODIADAU I ATHRAWON Gweithgareddau • Ysgrifennwch lythyr ffurfiol i uwchfarchnadoedd lleol yn gofyn am gael ymweld â nhw er mwyn edrych ar ystod o gynhyrchion brecwast a blasu rhai cynhyrchion. • Y disgyblion yn blasu ystod o gynhyrchion brecwastac yn rhoi eu sylwadau ar eu blas a chofnodi i ba grwpiau bwyd maent yn perthyn. • Cofnodwch wybodaeth maethol ar gyfer amrywiaeth o gynhyrchion brecwast. • Cynhelwch arolwg ysgol i ddarganfod pa gynhyrchion brecwast sydd fwyaf poblogaidd yn yr ysgol. Dadansoddwch y canlyniadau ac arddangoswch nhw fel graffiau. Diwedd

  31. NODIADAU I ATHRAWON Mwy of Weithgareddau. • Ymarfer defnyddio offer a chyfarpar yn ddiogel ac yn hylan • Ymarfer torri a mesur gan ddefnyddio offer addas. • Mini fenter clwb brecwast – prisio cynhyrchion brecwast a’u gwerthu i wneud elw. • Creu bwydlenni ar gyfer brecwastau. • Ysgrifennu set o gyfarwyddiadau ar gyfer gwneud brecwastau. • Dylunio posteri i hysbysebu clwb brecwast yn yr ysgol. Diwedd

More Related