1 / 72

PANTOMEIM

PANTOMEIM. CYNNWYS YR UNED. Prosiect Pantomeim. Geirfa Allweddol. Gweithgaredd 1 : Cyflwyno’r Pantomeim. Gweithgaredd 2: Mynd i siopa !. Gweithgaredd 3 : Adolygiad Pantomeim. Gweithgaredd 4: Cymeriadau Pantomeim. Gweithgaredd 5: Perfformiad Dosbarth “Jac ar goeden ffa”.

prem
Download Presentation

PANTOMEIM

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. PANTOMEIM

  2. CYNNWYS YR UNED Prosiect Pantomeim Geirfa Allweddol Gweithgaredd 1 : Cyflwyno’r Pantomeim Gweithgaredd 2: Myndisiopa! Gweithgaredd 3 : Adolygiad Pantomeim Gweithgaredd 4: Cymeriadau Pantomeim Gweithgaredd 5: Perfformiad Dosbarth “Jac ar goeden ffa” Gweithgaredd 6 : Creu Pantomeim eich hun!

  3. Gweithgaredd 7: Perfformio eich Panto! Gweithgaredd 8: Gwerthuso eich Panto! Gweithgaredd 9 : Cwis Panto! Tasgau Cychwyn neu Diwedd gwersi Anagramau 1 Anagramau 2 Chwilair

  4. GEIRFA ALLWEDDOL Erbyn diwedd yr uned yma fe fyddwch wedi dysgu ystyr y geiriau yma: GOLYGFA / GOLYGFEYDD PANTOMEIM ADOLYGIAD CYMERIADAU STOC GWISGOEDD PLOT LLUNIAU LLONYDD ADRODDWR

  5. PANTOMEIM Math arbennig o theatr sy’n cael ei berfformio yn ystod cyfnod y Nadolig. Mae’n cynnwys canu, dawnsio, diweddglo hapus, cynulleidfa yn cymryd rhan a llawer o chwerthin!!

  6. CYMERIADAU STOC Dim cymeriadau naturiol bob dydd fel ni. Maent yn gymeriadau anrealistig, dros ben llestri. Mewn Pantomeim mae’r cymeriadau unai yn ddrwg neu’n dda.

  7. PLOT Cynnwys y stori

  8. GOLYGFA / GOLYGFEYDD Golygfa yw rhan o ddrama. Mae drama wedi ei rhannu i mewn i wahanol olygfeydd. Rydym yn newid golygfa os… oes newid amser neu newid lleoliad.

  9. GWISGOEDD Gwisg yw’r hyn mae’r actor yn ei wisgo i actio’r cymeriad. Mae gwisg cymeriad pantomeim yn adlewyrchu ei bersenoliaeth

  10. ADOLYGIAD Trafod perfformiad arbennig gan rhoi eich barn chi am wahanol nodweddion y perfformiad. (Review)

  11. LLUNIAU LLONYDD Llun llonydd yw pan mae actorion yn rhewi ar lwyfan mewn sefyllfa arbennig. I greu llun llonydd diddorol ac effeithiol mae angen - Lefelau - Dyfnder y llwyfan - Osgo ac ystumiau - Mynegiant wynebol - Ffocws llygaid.

  12. ADRODDWR Rhywun sydd yn siarad gyda’r gynulleidfa. Mae’r adroddwr yn gallu cyfwlyno’r cymeriadau ac adrodd rhannau o’r stori i’r gynulleidfa.

  13. PROSIECT PANTOMEIM!! Gwaith Ymchwil Unigol : Ewch ati i ymchwilio am wybodaeth am y Pantomeim Prydeinig. Bydd angen i chi ei gyflwyno fel prosiect ar bapur neu fel cyflwniad Power Point. COFIWCH chwilio am wybodaeth am y canlynol: - Beth yw Pantomeim? - Hanes y Panomeim. - Pantomeim enwog - Cymeriadau Pantomeim. - Llwyfan Pantomeim. - Unrhyw bwyntiau diddorol eraill - Cwis neu Chwilair ar y diwedd.

  14. Beth ydi PANTOMEIM? DAME Chwedlau a straeon plant Canu a Dawnsio Llwyfan lliwgar Cynulleidfa yn cymryd rhan Doniol Pobl enwog. Drwg yn erbyn y Da Diweddglo hapus Cymeriadau Stoc Anifail Caneuon enwog gyda geiriau newydd Digwydd yn ystod tymor y Nadolig Stori garu – plot tebyg

  15. Pantomiem Enwog Aladdin Cinderella Dick Whittington Peter Pan Jac a'r goeden ffa Allwch chi feddwl am fwy?

  16. PLOT PANTO Mae plot Pantomeim yn chwedl neu stori i blant wedi ei haddasu ar gyfer y llwyfan. Gwelir yr un math o gymeriadau ym mhob Pantomeim – Cymeriadau Stoc. Er bod bob pantomeim yn wahanol mae’r un prif ddigwyddiadau i’w gweld ym mhob panto! Dyma blot “syml” Pantomeim….

  17. Mae’r dyn da a’r ddynes dda yn cyfarfod ac yn syrthio mewn cariad…. Rhyw ddigwyddiad – fel arfer y dyn drwg yn dwyn y ddynes dda…. Mae’r dyn da gyda chymorth ei fam (Y Dame), ei ffrindiau, ei anifial a’r gynulleidfa yn mynd i chwilio am y dyn drwg…. Mae’r dyn da yn achub y ferch ac yn ymladd gyda’r dyn drwg…. Da yn ennill y drwg. Mae’r dyn drwg yn troi yn dda…. Diweddglo hapus - Priodas rhwng y dyn da a’r ddynes dda.

  18. MYND I SIOPA!! Heddiw mi fydd angen i chi fynd i siopa! Ond yn wahanol i’r arfer nid mynd i siopa am nwyddau y byddwch chi, ond mynd i siopa am wybodaeth! Bydd angen i chi weithio fel tîm er mwyn casglu gymaint o wybodaeth ac y gallwch chi, cyn i’r amser redeg allan!! Byddwch yn casglu gywbodaeth am Y Pantomeim Prydeinig.

  19. Camau y wers : • Rhannu eich hunain i mewn i grwpiau o 4 neu 5. 2) Pob grŵp i gael taflen wybodaeth am y Pantomeim • Creu poster yn cyflwyno prif bwyntiau y daflen • wybodaeth. • Dewis aelodau o’ch tîm i fynd i gasglu • gwybodaeth ac aelodau eraill i aros yn eich siop chi • i werthu gwybodaeth i’r grwpiau eraill. 5) Byddwch ond yn cael 3 munud yn mhob siop! • Ar ôl bod i bob siop, mae angen i chi adrodd yn ôl • yr wybodaeth a gasglwyd i weddill y grŵp.

  20. Cam 4: • Rhaid dewis aelodau o eich tim i fynd i gasglu • gwybodaeth, ac aelodau eraill i aros yn eich siop chi • i werthu gwybodaeth i’r grwpiau eraill. Faint o bobl sydd am aros yn eich siop i werthu? Sut ydych am wneud hyn?

  21. MYFYRIO AR Y DASG!! Oeddech chi yn llwyddiannus yn casglu a chyflwyno y wybodaeth? Oedd eich dull chi o gasglu gwybodaeth yn effeithiol? Buasech chi yn ei newid y tro nesaf?

  22. Pa sgiliau wnaethoch chi eu defnyddio yn ystod y wers heddiw? A SUT!!! Myfyrio? Blaenoriaethu? Trafod? Gwrando? Cydweithio? Datrys Problemau? Casglu gwybodaeth? Penderfynu? Egluro? Cwestiynu? Cynllunio?

  23. LLWYFAN PANTOMEIM Dyma lun o lwyfana ddefnyddir mewn Pantomeim. Enw ar y math yma o Lwyfan i’w Llwyfan Bwa Proseniwm. OCHR DDE OCHR CHWITH LLWYFAN CYNULLEIDFA Mae yna ddwy ochr i’r llwyfan, ochr dde a’r ochr chwith. Cofwich mai o safbwynt yr ACTOR yw’r ochrau hyn ac nid o safbwynt y gynulleidfa. Yn draddodiadol yn y theatr mae ochr dde y llwyfan wedi ei chysylltu gyda’r nefoedd a’r ochr chwith wedi ei chysylltu gydag uffern. Felly daw’r cymeriadau da o ochr dde y llwyfan a’r cymeriadau drwg o’r ochr chwith.

  24. CYMERIADAU STOC Beth yw CYMERIADAU STOC? Math o gymeriad rydych yn ei weld ar lwyfan Pantomeim. Cymeriadau anrealistig, sydd yn actio dros ben llestri. Mae’r cymeriadau yma unai yn dda neu’n ddrwg.

  25. CYMERIADAU STOC Allwch chi feddwl am wahanol fathau o gymeriadu stoc mewn pantomeim? Trafodwch gyda partner, yna llewnch y siart corryn isod.

  26. Ymarfer Cynhesu Cerddwch o amgylch y dosbarth gan arddangos y teimladau isod drwy eich SYMUDIADAU a MYNEGIANT WYNEBOL. COFIWCH ACTIO DROS BEN LLESTRI!!! CAS DRWG HAPUS HYDERUS OFNUS BLIN

  27. TASG – CYFARWYYDO EIN GILYDD Rydym am ganolbwytnio ar ddau gymeriad stoc heddiw sef Cymeriad Da a chymeriad Drwg TASG 1 Cyfarwyddo dau aelod o’r dosbarth ar sut bydd y cymeriadau yma yn cerdded, dal eu corff, mynegiant wynebol ac ystumiau. Un yn gymeriad DA a’r llall yn cymeriad DRWG.

  28. Camau bach / mawr? Sut gerddediad? Tempo – cyflym / araf? Cefn syth / cerfngrwm? Osgo? (siap y corff) Ysgwyddau yn nol/ ymlaen? Mynegiant wynebol? Ystumiau breichiau? Cyfarwyddo Cymeriadau da a drwg

  29. Uchel? Traw Isel? Cyflym? Tempo Cryf? Araf? Cryfder Tawel? Tasg 2 Cyfawryddo dau aelod arall o’r dosbarth ar eu defnydd o’r llais. Un cymeriad yn dda ac un cymeriad yn ddrwg.

  30. TASG 3 Grwpiau o 4 Bydd dau berson yn creu symudiadau y cymeriadau (un da ac un drwg) Bydd dau berson arall yn creu llais i gyd-fynd gyda’r symudiadau yma. Mi fydd angen i chi greu golygfa o tua munud o hyd, mewn arddull pantomeim. Cofwich * Mae’r da yn ennill y drwg * Symudiadau dros ben llestri * Siarad gyda’r gynulleidfa * Cymeriadau da, ochr dde y llwyfan, * Cymeriadau drwg, ochr chwith y llwyfan

  31. Dyma fi wedi dy ddal di. Mwahahah! Helo ffrindiau…

  32. NOD Y WERS Erbyn diwedd y wers fe fyddwch wedi….. • - Meddwl yn feirniadol am bantomeim • yr ychydig chi wedi ei weld. • - Ysgrifennu adolygiad yn trafod Pantomeim • proffesiynol. • Gwerthuso gwaith eich gilydd, a gosod • targedau er mwyn gwella a datblygu eich • gwaith ymhellach.

  33. TASG 1 – Gwaith Grwp • Trafodwch mewn grŵp bantomeim rydych • chi wedi ei weld. Dylech drafod y pwyntiau yma: • Beth oedd yn dda am y pantomeim? • Beth oedd dim cystal am y pantomeim? • Sut gymeriadau oedd yn y pantomeim? • Sut wisgoedd oedd gan y cymeriadau? • Beth oedd plot y pantomeim?

  34. TASG 2 Ysgrifennwch adolygiad theatr yn trafod Pantomeim rydych chi wedi’i weld. Dyma amlinelliad o beth dylech chi ei gynnwys ym mhob paragraff. Adolygiad Pantomeim Paragraff 1af Beth aethoch chi weld ac yn lle? Pryd aethoch chi i weld y perfformiad? Beth oedd stori'r perfformiad? e.e. Fe es i weld perfformiad o’r Pantomeim Aladdin yn Theatr Gogledd Cymru, Llandudno ar y 22ain o Ragfyr…..

  35. 2il baragraff Cymharu gyda pantomeim arall wyt ti wedi ei weld o’r blaen. Pa un oedd orau gen ti? Pam? e.e. Mi rydw i hefyd wedi gweld Pantomeim o’r enw Cinderella. Roedd yn well gen i Aladdin oherwydd……. 3ydd Paragraff Oedd gennych chi hoff gymeriad? Pa un? Sut gymeriad oedd o/hi? (da / drwg / doniol) Sut oedd y cymeriad yn – symud - gwisgo - defnyddio ei lais. Sut gymeriadau eraill oedd ar y llwyfan? 4ydd Paragraff Wnaethochchi fwynhau'r perfformiad? Pam? (Cofiwch son am y gerddoriaeth, y goleuadau, yr actio, y plot a.y.y.b.)

  36. TASG 3 Marcio gwaith ein gilydd Darllenwch adolygiad pantomeim eich partner. Edrychwch os ydynt wedi llwyddo i drafod pob un o’r pwyntiau yma. (Rhowch DIC yn y bocs os yw eich partner wedi trafod y pwynt.) Pa bantomeim aeth o /hi i’w wylio, ac yn lle? Crynhoi plot y pantomeim. Cymharu â phantomeim arall maent wedi ei weld, Enw ei hoff gymeriad a pham? Oedden nhw wedi mwynhau a pham? Sut allai o/hi wella ei adolygiad? Rhowch darged iddynt sut i wella’r gwaith.

  37. NOD Y WERS • Erbyn diwedd y wers mi fyddwch wedi…….. • Darllen fersiwn o’r pantomeim • “Jac ar goeden ffa.” • Rhannu mewn i grwpiau a pherfformio golygfa • o’r Pantomeim. • Dysgu beth yw ADRODDWR a • LLUNIAU LLONYDD a’i ychwanegu at eich perfformiad. • - Creu perfformiad dosbarth o’r Pantomeim.

  38. Y STORI JAC A’R GOEDEN FFA Un tro roedd bachgen ifanc golygus o’r enw Jac. Roedd Jac yn byw gyda’i fam mewn hen fwthyn bach blêr. Roedden nhw’n dlawd iawn, a doedd ganddyn nhw ddim arian i brynu bwyd. Un bore galwodd Mam Jac arno. Roedd golwg drist iawn arni. “Beth sy’n bod mam?” gofynnodd Jac yn syth. “Jac bach does gennym ni ddim arian, dim bwyd, dim byd. Mae’n wir ddrwg geni Jac ond mae’n rhaid i ni werthu’r fuwch.” Meddai’r fam. “Oh na mam! Dim Beti!” Dywedodd Jac. “Does gennym ni ddim byd arall i’w werthu. Dos a hi i’r farchnad heddiw Jac.” Yn ben isel a thrist cychwynnodd Jac a Beti ar eu taith i’r farchnad. Cyn cyrraedd y dref gwelodd hen ŵr ar ochr y ffordd….

  39. “Ydi’r fuwch yna ar werth?” gofynnodd yr hen ŵr. “Ydi,” meddai Jac, “Ar y ffordd i’r farchnad ydw i rŵan.” “Mi roi bum ffeuen i ti amdani” cynigiodd yr hen ŵr. Chwerthin wnaeth Jac. “Mae hi werth llawer mwy na hynny!”Meddai a chychwyn yn ei flaen. “Aros!” gwaeddodd yr hen wr ar ei ôl, “Ffa hud ydi’r rhain. Mi ddôn nhw a chyfoeth mawr iti. Chei di fyth gynnig fel hyn eto!” Arhosodd Jac ac edrychodd ar yr hen wr ac ar y sach o hadau yn ei law. Wel, meddyliodd Jac wrtho’i hun, does gen i ddim byd i’w golli! Ffarweliodd Jac gyda Beti'r fuwch a chychwynnodd ar ei daith yn ôl adref gyda’r ffa yn ei boced.

  40. Cyrhaeddodd Jac adra ac adroddodd yr hanes wrth ei fam. Roedd ei fam yn gandryll gyda Jac. “Sut yda ni i fod i brynu bwyd rŵan?”gwaeddodd arno. Lluchiodd y fam y ffa allan drwy’r ffenest. “Rwyt ti’n dwp iawn weithia’ Jac!” Aeth Jac i’w wely yn ddigalon iawn y noson honno gan ddifaru'r hyn roedd wedi ei wneud. Deffrodd bore wedyn a chafodd sioc fawr wrth edrych allan drwy’r ffenestr. Yno yn tyfu o’i flaen yn uchel i’r awyr oedd coeden anferth. Rhedodd at ei fam. “Roedd yr hen ŵr yn dweud y gwir!” meddai Jac, “Ffa hud! Edrychwch! Mi ddringa i’r goeden i weld beth sydd uwchben y cymylau!” “Paid â bod yn wirion!” meddai ei fam. Ond doedd Jac ddim yn gwrando, roedd wedi cychwyn dringo’r goeden.

  41. Dringodd Jac y goeden yn uwch ac yn uwch, nes cyrraedd y pen uchaf. Edrychodd yn geg agored o’i gwmpas. Roedd o wedi cyrraedd gwlad ddieithr! Yn y wlad yma roedd popeth yn anferth o fawr. Roedd Jac ar lwgu ac aeth at y tŷ agosaf a churo ar y drws. Daeth hen wraig allan - anferth o hen wraig, cawres. Roedd hi’n garedig a rhoddodd frecwast i Jac. Wedi iddo orffen bwyta clywodd Jac sŵn fel daeargryn a llais dwfn yn taranu. “RWY’N CLYWED OGLAU OGLAU IACH OGLAU GWAED RHYW GYMRO BACH!” Cydiodd yr hen wraig yn Jac a’i guddio yn y popty.“Dim smic!” meddai wrtho, “ mae fy ngŵr yn bwyta bechgyn bach i frecwast.” “Does neb yma!” meddai’r wraig wrth ei gŵr. “ Bwyta dy uwd yn dawel.”

  42. Wedi iddo orffen bwyta ei uwd gwaeddodd y cawr ar yr iâr oedd yn eistedd ar y stôl wrth y drws. “DODWY!” Roedd Jac yn sbecian o’r ochr a beth welai ond yr iâr yn dodwy ŵy aur. “Mae’n rhaid imi ddwyn yr iâr!” Meddai wrtho ei hun. Ymhen ychydig dechreuodd y cawr gysgu’n drwm. Sleifiodd Jac o’r popty a gafael yn yr iâr a rhedeg gyda’r iar i lawr y goeden ffa mor gyflym ag y gallai. “Mam ! Mam,” gwaeddodd. Daeth ei fam allan, “ Mi fyddwn ni’n gyfoethog rŵan!” Gorchmynnodd Jac i’r iâr ddodwy, a gyda rhyfeddod gwelodd mam Jac wy aur yn nwylo Jac! “O Jac bach, gwyrth!”

  43. Drannoeth penderfynodd Jac fynd i’r wlad unwaith eto. Dringodd i fyny’r goeden a sleifiodd i mewn i dŷ'r cawr. Mewn ychydig clywodd y llais mawr unwaith eto. “RWY’N CLYWED OGLAU OGLAU IACH OGLAU GWAED RHYW GYMRO BACH” “Mi chwiliai amdano,” meddai’r wraig. “Mae o wedi dwyn yr iâr ac mae o yn haeddu cael ei fwyta!” Ond roedd Jac wedi cuddio mewn lle da, ac wedi chwilio am oriau rhoddodd y wraig a’r cawr ffidil yn y to a dechrau bwyta eu brecwast.

  44. Wedi gorffen bwyta ei frecwast gwaeddodd y cawr “CÂN” a’r delyn aur wrth ei ymyl. Dyma’r delyn yn cychwyn canu ac ymhen ychydig roedd y cawr yn cysgu’n drwm. Neidiodd Jac allan a chydio yn y delyn a rhedeg nerth ei draed, ond roedd gan y delyn lais a galwodd, “Meistr, Meistr!” Deffrodd y cawr a rhuo yn uchel. Rhedodd yn drwsgl ar ôl Jac ond roedd Jac yn heini ac yn medru rhedeg fel y gwynt. Cyrhaeddodd ben y goeden ffa a dechreuodd ddringo i lawr. Roedd y cawr yn dringo i lawr hefyd. Llithrodd Jac i lawr ynghynt…. ac ynghynt…. ac ynghynt. “MAM!” gwaeddodd “Dewch a’r fwyell – BRYSIWCH” Neidiodd i’r ddaear a chydiodd yn y fwyell a tharo’r goeden ffa a’i holl nerth. Doedd yr ergyd gyntaf dim digon i’w thorri ac roedd y cawr yn dod yn nes ac yn nes.

  45. Cododd Jac y fwyell eto ….ac eto. O’r diwedd syrthiodd goeden a’r cawr i lawr gyda sŵn ofnadwy. Roedd y cawr yn ddigon trwm i wneud twll mawr yn y ddaear wrth syrthio a diflannodd ef a’r goeden i mewn i’r twll i grombil y ddaear. Roedd Jac a’i fam wrth eu boddau. Doedd dim byd yn eu poeni nhw wedyn gyda’r iâr yn dodwy wyau aur iddyn nhw a’r delyn yn canu mor swynol. Y DIWEDD

  46. TASG 1 Byddwchyncaelrhano’rpantomeimi’wberfformiofelgrŵp. Byddangeni chi benderfynupwysyddynchwarae pa gymeriad. Cofiwch Gallwch chi ddefnyddioADRODDWRiadroddrhano’r stori, neuigyflwyno’rcymeriadau. Gallwchhefydgaelcymeriadaufel yr iâr, y delyn a Beti y Fuwch.

  47. COFIWCH PANTOMEIM rydych yn berfformio, felly mae angen ychwanegu nodweddion Pantomeim at eich perfformiad. Cynulleidfa yn cymryd rhan DAME BETH YW NODWEDDION PANTO? EGNI DONIOL Diweddglo hapus Cymeriadau Stoc Actio dros ben llestri

  48. TASG 2 Ychwnegwch LLUNIAU LLONYDD at eich perffomriad. Un ar gychwyn eich golygfa ac un ar ddiwedd eich golygfa. BETH YW LLUN LLONYDD? Llunllonyddywsymudiadwedieirewifelllun gangamera. Ermwyncreullunllonyddda mae’nrhaid …… - Defnyddio LEFELAU. - Defnyddio DYFNDER y llwyfan. - MYNEGIANT WYNEBOL clir (dangostemiladau’rcymeriad.) - OSGO ac YSTUM pendant.

  49. TASG 3 PERFFORMIAD DOSBARTH Cam 1) Pawb i greu eu lluniau llonydd cyntaf. Cam 2) Bydd pob golygfa yn ei dro yn cael ei berfformio. Cam 3) Wedi gorffen perfformio eich golygfa, byddwch yn creu eich ail llun llonydd ac yn rhewi ynddo. Cam 4) Bydd y grŵp nesaf yn “dadmer” o’u llun llonydd ac yn perfformio eu golygfa nhw.

  50. Oedd pob rhan o’r stori yn glir? Sut aeth eich perfformiad fel dosbarth? Oedd eich LLAIS yn glir? Gwerthuso!! Pa sgiliau a ddefnyddiwyd gennych yn ystod y wers? Oedd eich symudiadau yn glir a phendant? Wnaethoch chi ddefnyddio nodweddion pantomeim?

More Related