1 / 101

Pwy a beth? Trafodwch

Pwy a beth? Trafodwch. Yr Athro John Lennox, Prifysgol Rhydychen. ‘The more I understand Science the more I believe in God because of my wonder at the breadth, sophistication and integrity of his creation.’. Yr Athro Stephen Hawkings.

Download Presentation

Pwy a beth? Trafodwch

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Pwy a beth? Trafodwch

  2. Yr Athro John Lennox, Prifysgol Rhydychen • ‘The more I understand Science the more I believe in God because of my wonder at the breadth, sophistication and integrity of his creation.’

  3. Yr Athro Stephen Hawkings • ‘Because there is a law such as gravity, the universe can and will create itself from nothing…It is not necessary to invoke God to light the blue touch paper and set the universe going.’

  4. Atebion yn y wasg i Stephen Hawkings • ‘How can the universe be a consequence of the theories that we invented to describe it? To me that’s just like saying that the Lake District is a consequence of an Ordnance Survey map. And where did the Laws of Physics come from if not from God?’ • Peter Coles, Athro Astrophysics, Prifysgol Caerdydd • ‘Physics on its own will not settle the question of why there is something rather than nothing. Belief in God is not about plugging a gap in explaining how one thing relates to another within the universe. It is the belief that there is an intelligent, living agent on whose activity everything ultimately depends for its existence.’ • Archesgob Rowan Williams

  5. Duw, Bywyd a Marwolaeth Chwilio am Ystyr

  6. Beth yw ystyr y termau hyn? • CREDINIWR/ THEISTIAD • AGNOSTIG • ANGHREDINIWR (ATHEIST) Enwch bobl enwog sydd yn arddel y safbwyntiau hyn.

  7. CONTINIWM / LLINELL FFYDD CREDINIWR AGNOSTIG ANFFYDDIWR (THEISTIAD) Ffydd------------Amheuaeth----------Dim Ffydd Credu yn Nuw---Ansicr---------Ddim yn credu

  8. Taflen Waith • Mewn grwpiau o 3 darllenwch baragraff yr un- trafodwch ystyr y geiriau allweddol • THEISTIAD • AGNOSTIG • ANFFYDDIWR Darllenwch y datganiadau a phenderfynwch pa safbwynt mae’r datganiad yn ei ddangos.

  9. Ystyr y Termau CREDINIWR/ FFYDDIWR/THEISTIAD • Mae Duw yn bodoli • Ffydd yn Nuw fel bod goruchaf hollalluog • Ymddiried yng ngrym Duw fel Creawdwr- yr Un y tu ôl i bopeth • Parchu Duw a’r greadigaeth

  10. Ystyr y Termau AGNOSTIG • Nid oes modd gwybod • Nid yw’n bosib gwybod a yw Duw yn bodoli ai peidio • Mae cael prawf o fodolaeth Duw y tu hwnt i wybodaeth dyn • Yn ansicr a yw’n bosib gwybod a oes y fath beth a Duw yn bod

  11. Ystyr y Termau ANGHREDINIWR/ ANFFYDDIWR -ATHEIST • Person sy’n credu nad oes Duw • Dychymyg yw’r syniadau am Dduw • Yn sicr nad yw Duw yn real • Rhywun sy’n sicr nad oes angen credu mewn Duw

  12. Safbwynt Sir Isaac Newton? Gwyddonydd 1643-1747 • ‘Pe na bai unrhyw dystiolaeth arall, byddai’r bawd ar ben ei hun yn fy argyhoeddi o fodolaeth Duw.’

  13. Taflen Waith • Grwpiau o 3- darllenwch y datganiadau a nodwch yn eich llyfrau pa safbwynt mae’n dangos

  14. TASG • Heb drafod nodwch fel unigolion ble ydych chi ar y llinell ffydd? • Trafodwch mewn parau • Cymharwch eich lleoliad • Trafodwch • a ydych wedi symud ar y llinell yn ystod eich bywyd? • Pam ydych chi wedi datblygu’r safbwynt yma? • Pa ddylanwadau sydd wedi bod arnoch chi?

  15. Tasg Gwaith Par • Gwaith Par- Trafodwch y dystiolaeth dros ac yn erbyn bodolaeth Duw + rhestrwch y pwyntiau • Darllenwch y safbwyntiau gwahanol= pa rai sy’n debyg i’ch safbwynt chi- rhowch nhw yn nhrefn eu pwysigrwydd i chi

  16. DYLANWADAU AR SAFBWYNTIAU POBL AM DDUW • Teulu • Cymdeithas • Testun Sanctaidd e.e. Y Beibl • Profiadau personol mewn bywyd- rhai cadarnhaol a rhai negyddol

  17. Gwers 2

  18. Sut mae disgrifio natur Duw? • Edrychwch ar y daflen lluniau • Mewn parau gwnewch restr o eiriau sy’n codi o’r lluniau sy’n disgrifio Duw a sut un yw Duw

  19. Geiriau a ddefnyddir i ddisgrifio Duw a natur Duw? • Yr Un y tu ôl i bopeth • Creawdwr Hollalluog • Bod mawr • Y Dwyfol • Bod Goruchaf • Pŵer Grymus • Realiti eithaf • Pensaer Gwych • Tad/ Mam • Barnwr • Hollalluog • Hollbwerus • Hollwybodus • Creawdwr

  20. Edrychwch ar y lluniau yn y sleid nesaf • Rhestrwch rai esiamplau o sut mae pobl yn cael profiad o Dduw ac yn ymateb i Dduw. • Sut mae credinwyr yn ymateb i Dduw wrth addoli? • Pa mor bwysig yw addoli?

  21. Profiad o Dduw ac Ymateb i Dduw

  22. Profiad o Dduw- Sut? • Gwyrth • Caredigrwydd • Gweddi • Addoli • Darllen Testun Sanctaidd fel Y Beibl • Teimlad Mewnol • Rhyfeddod a Harddwch Natur

  23. Sut mae pobl yn ymateb i Dduw? • Gweddio • Addoli • Pregethu ac Addysgu • Cysegru /Rhoi eich bywyd yn llwyr i wasanaethu Duw/ Vocation - mynach/lleuan/offeiriad Catholig • Pererindod- teithio i fan dwyfol e.e. Tŷ Ddewi/ Lourdes-yn teimlo’n agosach at Dduw • Gwasanaethu/Helpu eraill- gwaith elusengar e.e. Y Fam Teresa • Encilio/ astudio/ myfyrio- man dawel- ‘retreat’

  24. GWERS 3

  25. NODAU A SGILIAU’R WERS • Deall mwy am • 1. Ystyr cymuned ffydd • 2. Ystyr addoli • 3. Sut mae teulu Cristnogol yn addoli • Ymarfer y sgiliau –GWRANDO AR EIN GILYDD, MEDDWL, CYFATHREBU, GWEITHIO GYDAG ERAILL

  26. Beth yw CYMUNED FFYDD? Grŵp neu deulu neu gwmni o bobl grefyddol Sut mae pobl yn perthyn i gymuned ffydd? Seremoniau derbyn Talu degwm/swm o arian i gynnal y gymuned ffydd Mynychu digwyddiadau/ gwasanaethau/ dathliadau/ gwyliau fel cymuned CYMUNED FFYDD

  27. Beth yw Addoli? • Pobl yn teimlo eu bod yn cael perthynas a chyswllt uniongyrchol gyda Duw trwy addoliad • Addoli yn cynnwys gweddio, darllen testun sanctaidd (y Beibl), canu emynau,dysgu mwy am y grefydd trwy wrando ar bregeth • Addoli yn cynnwys dathlu gwyliau crefyddol arbennig i gofio am hanes e.e. Nadolig/Pasg • Addoli yn ffordd i gredinwyr ddangos cariad a pharch at Dduw • Addoli yn ffordd iddynt ddiolch i Dduw am bob rhodd yn y greadigaeth e.e. Gwasanaeth Cynhaeaf

  28. Beth yw ystyr ADDOLI Yn yr eglwys/capel? • cyd-addoli pob dydd Sul • mynd i’r eglwys/capel ar wyliau arbennig e.e. Nadolig, Pasg, Gŵyl Ddewi, Cynhaeaf, priodas, bedyddio, angladd • gweddio mewn gwasanaeth neu mewn cwrdd gweddi • darllen y Beibl a thrafod mewn cyfarfod Beiblaidd • canu emynau • Gwrando ar bregeth

  29. CRISTNOGAETHAddoli Gwasaneth Y Cymun- Holy Communion • rhannu gwin a bara i gofio am swper olaf Iesu Grist a gwaed a chorff Iesu Grist ar y groes • Gwasanaeth cymun arbennig yn cael ei gynnal yn yr egwlys/capel

  30. Gŵyl y Nadolig • Mae Cristnogion yn dathlu genedigaeth Iesu Grist fel Mab Duw ar 25 Rhagfyr. • Yn rhannu anrhegion Nadolig, ac yn bwyta bwyd arbennig ar ddydd penblwydd Iesu • Yn mynd i’r eglwys/capel i addoli – Gwyl y Geni, canu carolau,

  31. Gŵyl y Pasg- • cofio croesholio Iesu Grist ar y groes a’i atgyfodiad • y bedd gwag- Iesu wedi concro marwolaeth • Gwaredwr- marw dros bechodau pobl

  32. Dydd Gwener y Groglith/ Good Friday • Y diwrnod y bu farw Iesu ar y groes. Mae gwasanaethau ym mhob eglwys Gristnogol ar yr amser y croeshoeliwyd Iesu. • Mae’r gwasanaethau hyn yn rhai difrifol/dwys wrth i Gristnogion gofio am ddioddefaint Iesu ar y groes. • Darllen hanes y croeshoelio o’r Beibl • Canu emynau sy’n son am obaith yr atgyfodiad • Gweddio

  33. Sut mae Cristnogion yn addoli yn y cartref? • Gweddio yn unigol neu fel teulu • Gweddi cyn dechrau pryd o fwyd- dweud diolch i Dduw • Mynd heb rywbeth/ ymprydio adeg y Grawys (Lent)

  34. Nodau’r wers Thema ADDOLI • Cofio o’r wers ddiwethaf sut mae Cristnogion yn addoli • Deall mwy am sut mae Iddewon yn addoli • Ymarfer ateb cwestiwn TGAU ar y pwnc a deall sut i gael y marciau uchaf • Ymarfer a datblygu’r sgiliau gwrando, meddwl, cyfathrebu a gweithio gydag eraill

  35. SutmaeCristnogionynaddoli?

  36. Addoli, Dathliadau a Gwyliau Iddewig • Darllen y Torah- yn rhan bwysig o bob gwasanaeth yn y synagog • Y Torah yw'r rhan o’r Beibl Iddewig sy'n dweud wrth gredinwyr sut berthynas ddylai fod rhyngddynt â Duw ac mae'n cynnwys pum llyfr Y Gyfraith sef pum llyfr cyntaf y Beibl. Yma ceir rheolau byw ar gyfer pob Iddew.

  37. Cadw’r Shabbat-diwrnod sanctaidd • Dydd Sadwrn- diwrnod o orffwys, a gwyliau i’r Iddewon • Mae’r Shabbat yn ddiwrnod sanctaidd sydd yn dechrau ar fachlud yr haul ar nos Wener i fachlud yr haul ar nos Sadwrn. • Cynhelir seremoni arbennig yn y cartref ar nos Wener i ddathlu’r Shabbat yn cynnwys darllen rhannau o’r Tanukah a gweddio

  38. Gwersi yn y synagog am y ffydd Iddewig a’r iaith Hebraeg- Yn cael eu cynnal cyn y ‘Bar Mitzvah’ tra bod y plentyn yn tyfu i fyny ‘Cheder’- Gwersi Paratoi

  39. ‘Bar Mitzvah’ a ‘Bat Mitzvah’

  40. Mab y Gorchymyn- Bar Mitzvah • Seremoni derbyn i gymuned y synagog ar gyfer bechgyn 13 oed- yr adeg y daw bachgen yn ddyn • Digwydd y ddefod ar y Saboth (y dydd Sadwrn) agosaf i ben-blwydd y bachgen yn 13. • Bydd y plentyn yn cael ei hyfforddi gan y Rabbi gan ddysgu digon o Hebraeg i allu darllen o'r ysgrythurau Sanctaidd. • Ar ddiwedd y gwasanaeth disgwylir i'r bachgen fyw yn unol â'r gyfraith Iddewig am y gweddill o'i fywyd. • Mae’r bachgen yn addo cadw deddfau’r Torah, gwisgo’r ‘tallith’(siol weddi) ac ymprydio ar adeg ‘Yom Kippur’ • I'r teulu mae hon yn ddefod hollbwysig yn natblygiad y bachgen, a cheir parti mawr.

  41. Bat-Merch y Gorchymyn-Bat Mitzvah • Merched yn cael seremoni ‘Bat Mitzvah’ • Yn digwydd yn agos i'w pen-blwydd yn 12 oed. • Felly disgwylir i ferched gadw at y gyfraith Iddewig flwyddyn yn gynharach na bechgyn.

  42. 8 dydd o ddathlu bod yr Iddewon, 3,000 o flynyddoedd yn ôl, wedi llwyddo dianc o’r Aifft lle roeddent yn gaethweision o dan Pharoh Ramses 2. Moses oedd eu harweinydd a fe oedd wedi eu harwain allan o’r Aifft trwy’r Môr Coch. Roedd hyn ar ôl i Dduw danfon 10 pla i berswadio Pharo i adael y bobl yn rhydd. Mae Pesach yn golygu Pasio Drosodd sef bod y 10 pla a ddanfonwyd gan Dduw wedi ‘pasio dros’ yr Iddewon ac ond wedi effeithio ar yr Eifftiaid Dathlu trwyb gael gwledd fawr a bwyd arbennig-SEDER; gemau i’r plant a darllen yr hanes fel teulu o lyfr yr ‘Hapgadah’ Pesach/ Passover/ Pasg

  43. Gofyn i Dduw am faddeuant am unrhyw addewidion /rheolau a dorrwyd ganddynt. Diwrnod Gwneud yn Iawn – diwrnod i’r Iddewon ddweud eu bod yn flin am y pethau drwg yn eu bywyd a dod yn bur unwaith eto – cyfle iddynt gael maddeuant gan Dduw a gwneud yn iawn hefyd gyda’u cyd-ddyn. Ni wneir unrhywbeth ar y diwrnod ac y mae’r Iddewon yn ymprydio (dim bwyd na diod am 25 awr) Y noson cyn ‘Yom Kippur’ mae’r Iddewon yn mynd i’r synagog i weddio Ar ol ‘Yom Kippur’ mae’r Iddewon yn dechrau blwyddyn newydd o geisio cadw eu haddewidion i Dduw Dathlu’r Yom Kippur-ymprydio

  44. IddewonynAddoli

  45. Sut mae Iddewon yn addoli? • Mynd i’r synagog ac addoli yn y cartref • Darllen y Torah • Gweddio • Canu salmau • Seremoniau a gwyliau arbennig yn y synagog ac yn y cartref- e.e. cadw’r ‘shabbat’, dathlu’r ‘yom kippur’, dathlu’r ‘Pesach’- bwydydd arbennig, bwyd ‘kosher’ • Gwisgo ‘talith’ a ‘kippah’- dangos parch • Gwisgo’r ‘tefillin’ i gadw geiriau’r ‘shema’ yn agos i’w calon • Cyffwrdd â’r ‘mezzuzah’ wrth ddrws y tŷ- y ‘shema’

  46. Cwestiynau TGAU • 1. Sut mae credinwyr yn ymateb i Dduw trwy addoli? • 2. Pa mor bwysig yw addoli i gredinwyr? • 3. Sut mae credinwyr crefyddol yn gallu rhoi eu bywyd i’w crefydd? I GAEL Y MARCIAU UCHAF Defnyddio’r termau crefyddol Rhoi esiamplau o’r crefyddau ac enwi’r crefyddau Rhoi dadansoddiad/eglurhad manwl i ateb y cwestiwn ac i ddangos eich bod yn deall y safbwynt crefyddol yn dda

  47. ‘Parchedig Ofn’ – Beth yw ystyr y term? Trafodwch mewn parau.

  48. Parchedig Ofn Ystyr? Ymdeimlad o ofn a pharch ar yr un pryd Cael eich syfrdanu’n llwyr gan ymdeimlad o bresenoldeb Duw Mae harddwch eithriadol rhywbeth bron yn eich gwneud yn fud a byr eich anadl Cymaint eich rhyfeddod a’ch syndod eich bod yn teimlo’n fach, yn ostyngedig a di-nod

More Related