1 / 13

Gwneud Gwahaniaeth i Ymddygiad a Phresenoldeb Cynllun Gweithredu ar gyfer 2011-2013

Gwneud Gwahaniaeth i Ymddygiad a Phresenoldeb Cynllun Gweithredu ar gyfer 2011-2013. Gwella ymddygiad a phresenoldeb i helpu i godi safonau mewn ysgolion. Cyflwyniad.

pavel
Download Presentation

Gwneud Gwahaniaeth i Ymddygiad a Phresenoldeb Cynllun Gweithredu ar gyfer 2011-2013

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Gwneud Gwahaniaeth i Ymddygiad a PhresenoldebCynllun Gweithredu ar gyfer 2011-2013 Gwella ymddygiad a phresenoldeb i helpu i godi safonau mewn ysgolion

  2. Cyflwyniad Bu nifer o ddatblygiadau mawr mewn addysg yng Nghymru ers lansio’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Ymddygiad a Phresenoldeb ym mis Mawrth 2009. Oherwydd y datblygiadau hyn, a’r ffaith bod llawer o’r pwyntiau gweithredu yn yr hen gynllun wedi’u cwblhau, mae angen cynllun newydd, â ffocws clir, i gyflawni blaenoriaethau’r Gweinidog. Mae’r ddogfen hon yn nodi ein cynllun i’r dyfodol i wella ymddygiad a phresenoldeb yng Nghymru. Cefndir Roedd yr Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb (ACYP), a gyhoeddwyd ym mis Mai 2008, yn cynnwys 19 o argymhellion craidd a 73 o argymhellion ategol. Ymateb Llywodraeth Cymru i’r adolygiad hwn oedd y Cynllun Gweithredu ar Ymddygiad a Phresenoldeb. Nod y cynllun gweithredu oedd cael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifanc trwy sefydlu dulliau a phrosesau newydd i wella a datblygu dull cydlynus o hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a phresenoldeb a helpu i ddatblygu arferion cyson ledled Cymru.

  3. Yr angen am newid Mae Addysgu’n Gwneud Gwahaniaeth Yn ei araith, Mae Addysgu’n Gwneud Gwahaniaeth, yn Chwefror 2011, nododd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, ei 20 blaenoriaeth ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Roedd y Gweinidog yn ymateb i dystiolaeth am danberfformiad ysgolion yng Nghymru o nifer o ffynonellau, gan gynnwys canlyniadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) ar gyfer 2009. Mae’r blaenoriaethau yn ceisio gwella llawer o agweddau yn ymwneud ag addysgu, dysgu, atebolrwydd a chydweithio. Yn y cyd-destun hwn, nododd y Gweinidog yr angen i adfywio ac ailfireinio ein dull o drin ymddygiad a phresenoldeb: ‘Bydd y cam nesaf yn canolbwyntio ar ganlyniadau a gwella ymddygiad er mwyn codi safonau. Bydd pob athro sydd newydd gymhwyso yn dilyn modiwlau datblygu mewn rheoli ymddygiad fel rhan o'u proses sefydlu’. ‘Bydd data presenoldeb yn cael ei gwestiynu'n llym fel elfen allweddol o broffil cyhoeddus blynyddol newydd ysgolion, gan symud ymlaen at bolisi dim goddefgarwch i driwantiaeth.’

  4. Yr angen am newid • Bu cynnydd da o ran ymddygiad yn y blynyddoedd diweddar os cymharwn gyfraddau gwahaddiadau o ysgolion â gwledydd eraill yn y DU. Fodd bynnag, nid yw’r sefyllfa o ran presenoldeb cystal. Cyfraddau presenoldeb Cymru yw’r isaf yn y DU. Fel y dywedodd y Gweinidog: 'Pe bai lefelau presenoldeb Cymru ar yr un lefel â rhai Lloegr, byddai ein pobl ifanc yn cael wyth wythnos yn ychwanegol o ddysgu ar gyfartaledd ar draws eu gyrfa ysgol. Dwy ran o dair o dymor.' Mae ffigurau presenoldeb yng Nghymru wedi gwella yn y blynyddoedd diwethaf, ond maent yn dal yn isel ac mae angen gweithredu’n llymach i ysgogi gwelliant. • Nawr yw’r amser i symud ymlaen oddi wrth adroddiad ACYP a datblygu cynllun gweithredu newydd sydd nid yn unig yn adlewyrchu blaenoriaethau’r Gweinidog, ond hefyd yn sicrhau ran greiddiol i ymddygiad a phresenoldeb yn y mentrau sy’n cael eu datblygu a’u rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru. 4

  5. Y Cynllun Gweithredu Newydd ar gyfer Ymddygiad a Phresenoldeb 2011-2013 • Mae’n bwysig sylweddoli na ellir gwella ymddygiad a phresenoldeb heb edrych ar yr holl wasanaethau addysg a phlant. Er mwyn sicrhau bod y cynllun newydd yn gynaliadwy bydd yn allweddol bwysig sicrhau nid yn unigbod lle canolog iddo yng ngwaith yr Uned Safonau Ysgolion ond hefyd bod cysylltiad cryf rhyngddo a mentrau mawr eraill. Mae’r rhain yn cynnwys y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, Cymunedau Dysgu Proffesiynol, Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion, y Fframwaith Datblygiad Proffesiynol Parhaus a mentrau i leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), yn enwedig y Cynllun Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc. 5

  6. Dull mwy pendant o drin ymddygiad a phresenoldeb • Nodwyd yn yr Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb fod hyfforddi a datblygu yn faes mawr y dylid ei wella, gan fod tystiolaeth i awgrymu bod llawer o athrawon a staff eraill mewn ysgolion yn teimlo nad oedd ganddynt y sgiliau i ddelio ag ymddygiad gwael yn y dosbarth a bod llawer ohonynt heb dderbyn fawr ddim hyfforddiant ar yr agwedd hon yn ystod eu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon. 1 Hyfforddi a Datblygu • I sicrhau dull cyson, bydd perfformiad ysgolion ac awdurdodau lleol o ran presenoldeb, ymddygiad ac addysg heblaw yn yr ysgol yn cael ei asesu’n fanylach gan ei gysylltu â’r dulliau newydd o fonitro safonau, gwelliant a chynnydd sy’n cael eu datblygu gan Uned Safonau Ysgolion Llywodraeth Cymru. 2 Safonau ac Atebolrwydd • Bydd gwaith datblygu yn ceisio gwella’r modd y cyd-drefnir y gefnogaeth a roddir gan y gwahanaol asiantaethau i’r disgyblion sydd â’r anghenion mwyaf a thrwy hyn gyflwyno arferion mwy effeithlon a chost-effeithiol ledled Cymru 3 Dull holistaidd o roi cefnogaeth i unigolion ac Anghenion Dysgu Ychwanegol

  7. Y Cynllun Gweithredu Newydd ar gyfer Ymddygiad a Phresenoldeb – 2011-2013 • Datblygu modiwlau hyfforddi ar reoli ymddygiad a phresenoldeb i’w cyflwyno trwy Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon, Hyfforddiant Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Parhaus. • Ariannu hyfforddiant mewn rhaglenni rheoli ymddygiad a werthuswyd yn dda. • Hyrwyddo arferion adferol mewn ysgolion, gan gydweithio â’r Heddlu trwy Raglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan. • Datblygu fframwaith hyfforddi a datblygu a gyrfaol ar gyfer y Gwasanaeth Lles Addysg. Hyfforddi a Datblygu • Datblygu Fframwaith Dadansoddi Presenoldeb i’w ddefnyddio gan awdurdodau lleol. • Sicrhau y cynhwysir presenoldeb yn y system bandio newydd ar gyfer ysgolion a’r wybodaeth a gyhoeddir gan ysgolion. • Cyflwyno casgliad cenedlaethol o ddata ar waharddiadau ar lefelau’r disgybl a’r ysgol i’w ddefnyddio ar gyfer meincnodi. • Cynnal trafodaeth ‘agored a gonest’ flynyddol ag awdurdodau lleol i drafod eu perfformiad ar waharddiadau / presenoldeb a disgyblion sy’n derbyn Addysg Heblaw yn yr Ysgol. Safonau ac Atebolrwydd Dull holistaidd o roi cefnogaeth i unigolion ac Anghenion Dysgu Ychwanegol • Defnyddio’r wybodaeth a gesglir trwy’r cynlluniau peilot ar ymddygiad a phresenoldeb er mwyn goleuo dulliau sy’n cael eu datblygu at y dyfodol o roi cefnogaeth i unigolion trwy’r cynlluniau peilot ar Anghenion Dysgu Ychwanegol ac er mwyn diwygio’r broses ddatganiadau yn y dyfodol. • Cyhoeddi cynllun gweithredu ar wella Addysg Heblaw yn yr Ysgol a’i roi ar waith.

  8. Hyfforddi a Datblygu – Rhagor o fanylion am beth a wneir 1. Datblygu modiwlau hyfforddi ar reoli ymddygiad a phresenoldeb i’w cyflwyno trwy Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon, Hyfforddiant Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Parhaus Datblygu modiwlau yn ystod 2011-12 i’w rhoi ar waith o ddechrau’r flwyddyn academaidd 2012-13 ymlaen. Byddant yn rhan o’r ymagwedd ehangach at gymwysterau, hyfforddiant a safonau sy’n cael ei datblygu. Bydd y modiwlau yn defnyddio’r deunyddiau sydd eisoes wedi’u datblygu gan Lywodraeth Cymru ar yr agweddau hyn ac mae cryn nifer ohonynt ar gael, gan gynnwys y Llawlyfr Rheoli Ymddygiad ar gyfer ysgolion uwchradd a dogfennau cyfarwyddyd a dogfennau arferion gorau ar gynnwys a chynorthwyo disgyblion a grwpiau anogaeth. 2. Ariannu hyfforddiant mewn rhaglenni rheoli ymddygiad a werthuswyd yn dda Er mwyn cynnal momentwm wrth i’r modiwlau hyfforddi gael eu datblygu, darperir cyllid i awdurdodau lleol yn 2010-2011 a 2011-2012 at y pwrpas arbennig o hyfforddi athrawon a staff cynorthwyol mewn technegau rheoli ymddygiad. Bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol ddefnyddio’r cyllid ar gyfer rhaglenni hyfforddiant a werthuswyd yn dda – er enghraifft, Rhaglen Rheolaeth Dosbarth i Athrawon y Blynyddoedd Rhyfeddol; Hyrwyddo Strategaethau Meddwl Amgen (PATHS); Rhaglen Atal Bwlio (BPP) Olweus; ac Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu. Rydym hefyd yn awyddus i gynnal y momentwm o ran ymyrraeth ar oedran cynnar, gan fod y dystiolaeth yn awgrymu mai dyna sy’n debygol o fod fwyaf effeithiol. I’r diben hwn darperir cyllid i ehangu nifer y sesiynau ‘hyfforddi’r hyfforddwyr’ a gynhelir yn Rhaglen y Blynyddoedd Rhyfeddol a ddarperir gan Brifysgol Bangor. Bydd yn canolbwyntio ar yr elfen Rheolaeth Dosbarth i Athrawon ac elfennau therapiwtig a darperir yr arian ynghyd â chyllid arall a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rhaglen rianta’r Blynyddoedd Rhyfeddol. 8

  9. Hyfforddi a Datblygu – Rhagor o fanylion am beth a wneir (parhad). 3. Hyrwyddo arferion adferol mewn ysgolion, gan gydweithio â’r Heddlu trwy Raglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan • Mae’r dystiolaeth yn awgrymu y gall defnyddio arferion adferol trwy ysgol gyfan helpu ysgolion i gynnal perthnasau cadarnhaol ymhlith eu disgyblion. Mae Llywodraeth Cymru am hyrwyddo defnyddio arferion adferol mewn ysgolion trwy eu cynnwys fel maes penodol yn y modiwlau sy’n cael eu datblygu ar gyfer hyfforddi a datblygu athrawon ym maes rheoli ymddygiad. Mae holl Swyddogion Cyswllt yr Heddlu ag Ysgolion sy’n cymryd rhan yn Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan wedi’u hyfforddi mewn defnyddio arferion adferol. Byddwn yn dal i weithio gyda’r Heddlu felly i weld sut orau y gallem rannu eu harbenigedd a’u gwybodaeth â staff ysgolion. 4. Datblygu fframwaith hyfforddi a datblygu a gyrfaol ar gyfer y Gwasanaeth Lles Addysg Mae gan Wasanaethau Lles Addysg yr awdurdodau lleol ran allweddol wrth hyrwyddo presenoldeb a gweithio gyda disgyblion sy’n absennol neu sydd â phresenoldeb gwael a’u rhieni/ gofalwyr. Rydym yn adlewyrchu hyn trwy gyhoeddi Fframwaeth Presenoldeb Cymru Gyfan yn benodol er mwyn hyrwyddo cysondeb yn arferion y Gwasanaethau Lles Addysg ledled Cymru. Tynnwyd sylw yn adroddiad ACYP a’r adolygiad o’r Gwasanaeth Lles Addysg a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru (2006) at yr angen i ddatblygu’r Gwasanaeth Lles Addysg, o ran sicrhau ei fod yn cydblethu’n briodol â gwasanaethau addysg eraill a bod ganddo gyfleoedd addas ar gyfer datblygiad a hyfforddiant. Oherwydd hynny byddwn yn parhau i weithredu’r hen gynllun a chomisiynu llunio fframwaith ar gyfer hyfforddi, datblygu a gyrfaoedd yn y Gwasanaeth Lles Addysg. 9

  10. Safonau ac Atebolrwydd – Rhagor o fanylion am beth a wneir 1. Datblygu Fframwaith Dadansoddi Presenoldeb i’w ddefnyddio gan awdurdodau lleol Er mwyn mynd i’r afael yn effeithiol â phresenoldeb gwael mae angen defnyddio’n strategol yr ystod eang o ddata sydd ar gael ar lefelau absenoldeb disgyblion unigol ac ysgolion. Mae datblygu Fframwaith Dadansoddi Presenoldeb yn golygu ceisio sefydlu dull safonedig a chadarn o ddadansoddi a defnyddio data presenoldeb. Bydd yn canolbwyntio ar adnabod problemau systematig mewn ysgolion, a sut y gellid mynd i’r afael â’r rhain, yn hytrach nag ymateb i’r rhai sydd â phresenoldeb gwael o ddydd i ddydd, fel sy’n digwydd eisoes, mae’n ymddangos. Bydd Fframwaith yn cael ei ddatblygu yng nghyd-destun nod Uned Safonau Ysgolion Llywodraeth Cymru o dynnu ynghyd ffynonellau data yn set gydlynus i’w defnyddio gan gonsortia ac awdurdodau lleol. Er bod gan y Gwasanaeth Lles Addysg ran allweddol wrth helpu i ddatblygu’r Fframwaith a’i roi ar waith wedyn, byddwn yn gweithio’n uniongyrchol â’r Gwasanaeth Lles Addysg i sicrhau eu bod yn defnyddio’n llawn yr ystod eang o ddata presenoldeb sydd ar gael iddynt. Gan weithio ochr yn ochr ag Uned Safonau Ysgolion a Chyfarwyddiaeth Ystadegol Llywodraeth Cymru byddwn yn datblygu Fframwaith Dadansoddi Presenoldeb a fydd yn canolbwyntio’n arbennig ar y rhai sy’n absennol yn fynych gan fod amrywiaeth eang trwy Gymru yn yr agwedd hon. Rhoddir y Fframwaith ar waith fesul cam yn yr holl awdurdodau lleol a’r Gwasanaethau Lles Addysg trwy gyfres o seminarau a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru. 2. Sicrhau y cynhwysir presenoldeb yn y system bandio newydd ar gyfer ysgolion a phroffil cyhoeddus blynyddol yr ysgolion Bwriedir cynnwys presenoldeb fel un o’r mesurau a ddefnyddir i benderfynu band o dan y drefn newydd y bwriedir ei rhoi ar waith o 2011-2012 ymlaen. Hefyd, bydd yn un o elfennau’r wybodaeth a gyhoeddir gan ysgolion. 10

  11. Safonau ac Atebolrwydd – Rhagor o fanylion am beth a wneir (parhad). 3. Cyflwyno casgliad cenedlaethol o ddata ar waharddiadau ar lefelau’r disgybl a’r ysgol i’w ddefnyddio ar gyfer meincnodi Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn casglu data ar waharddiadau ar lefel yr awdurdodau lleol yn unig. Byddwn yn cyflwyno casgliad canolog newydd o ddata ar waharddiadau ar lefel disgyblion i’w gwneud yn haws cymharu perfformiad ysgolion yn genedlaethol. Bwriedir cynnwys data ar waharddiadau wrth gasglu data CYBLD cyn pen dwy flynedd. Yn ogystal ag addasu systemau casglu data, bydd angen ystyried cywirdeb y data a bydd angen asesu yn arbennig a yw’r ysgolion yn adrodd ar eu holl waharddiadau, gan gynnwys y rhai pan nad ydynt wedi dilyn prosesau gwahardd ffurfiol fel y dylent. 4. Cynnal trafodaeth ‘agored a gonest’ flynyddol ag awdurdodau lleol i drafod eu perfformiad ar waharddiadau / presenoldeb a disgyblion sy’n derbyn Addysg Heblaw yn yr Ysgol Byddwn yn cynnal trafodaethau blynyddol â swyddogion allweddol mewn awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am wella presenoldeb ac ymddygiad mewn ysgolion, gan gynnwys penaethiaid cynhwysiant, rheolwyr gwasanaethau cefnogi ymddygiad a gwasanaethau lles addysg. Bydd y trafodaethau hyn yn gysylltiedig â’r trafodaethau blynyddol ehangach a gynhelir fel rhan o’r system bandio a ddatblygir gan yr Uned Safonau Ysgolion ond byddant yn rhoi cyfle i ystyried yn fanylach y data penodol a’r dulliau o fynd i’r afael ag ymddygiad a phresenoldeb. Byddai’r gwaith hwn hefyd yn fodd i adnabod arferion da y gellid eu rhannu ledled Cymru. 11

  12. Dull holistaidd o roi cefnogaeth i unigolion ac Anghenion Dysgu Ychwanegol– Rhagor o fanylion am beth a wneir 1. Defnyddio’r wybodaeth a gesglir trwy’r cynlluniau peilot ar ymddygiad a phresenoldeb er mwyn goleuo dulliau sy’n cael eu datblygu at y dyfodol o roi cefnogaeth i unigolion trwy’r cynlluniau peilot ar Anghenion Dysgu Ychwanegol ac er mwyn diwygio’r broses ddatganiadau yn y dyfodol Byddwn yn dal i gynnal nifer llai o gynlluniau peilot ar ymddygiad a phresenoldeb sydd wedi bod yn rhedeg yn 2009/10 a 2010/11 am un flwyddyn academaidd arall i sicrhau bod digon o amser i asesu a fu’r dulliau yn effeithiol ac a ellir eu trosglwyddo i ysgolion ledled Cymru. Ar sail y dadansoddiad cychwynnol, bydd 5 o’r 9 cynllun peilot, sef y rhai mwyaf effeithiol, yn parhau. Bydd y dystiolaeth o’r cynlluniau peilot ar ymddygiad a phresenoldeb yn bwydo i’r diwygiadau i’r fframwaith anghenion dysgu ychwanegol yn y dyfodol. Mae cysylltiadau cryf eisoes yn bodoli rhwng y rhain a’r cynlluniau peilot ar anghenion dysgu ychwanegol er mwyn sicrhau bod y pethau a ddysgir yn y ddwy set o gynlluniau peilot yn cael eu rhannu. 12

  13. Dull holistaidd o roi cefnogaeth i unigolion ac Anghenion Dysgu Ychwanegol – Rhagor o fanylion am beth a wneir (parhad). 2. Cyhoeddi cynllun gweithredu ar wella Addysg Heblaw yn yr Ysgol a’i roi ar waith Dangosodd yr ACYP yr amrywiaeth yn y mathau o Addysg Heblaw yn yr Ysgol ac yn yr ansawdd. Mae yn bennaf ar gyfer disgyblion sydd wedi’u gwahardd neu mewn perygl o gael eu gwahardd. Er bod nifer y disgyblion sy’n derbyn Addysg Heblaw yn yr Ysgol a ariennir gan yr awdurdod lleol yn gymharol fach (tua 2,400) bydd y dysgwyr hyn yn gyfran sylweddol o’r rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Mae darparuAddysg Heblaw yn yr Ysgol yn ddrud ac felly gallai canolbwyntio ar wella safonau Addysg Heblaw yn yr Ysgol ryddhau arian at ddibenion eraill a sicrhau bod y disgyblion sy’n derbyn Addysg Heblaw yn yr Ysgol yn derbyn addysg o’r ansawdd gorau ac yn fwy tebygol o gael eu derbyn yn ôl mewn addysg prif ffrwd neu hyfforddiant. Cynhaliwyd adolygiad fel rhan o’r cynllun gweithredu blaenorol, gan gynnwys rheolwyr cefnogi ymddygiad yr awdurdodau lleol, athrawon sy’n gofalu am unedau cyfeirio disgyblion ac Estyn. Cafodd groeso ac fe’i cyhoeddir yn fuan ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd hyn ar ffurf cynllun gweithredu ‘byw’ y gellir ei addasu’n rhwydd i adlewyrchu datblygiadau a blaenoriaethau ehangach. Un elfen allweddol yn y cynllun Addysg Heblaw yn yr Ysgol yw comisiynu prosiect ymchwil i ystyried y rhwystrau sy’n wynebu awdurdodau lleol wrth ddarparu addysg lawn amser ar gyfer disgyblion sydd wedi’u gwahardd. Bydd y prosiect ymchwil hwn hefyd yn adnabod gwahanol ddulliau’r awdurdodau o gael disgyblion yn ôl i addysg prif ffrwd a hyfforddiant a pha mor effeithiol ydynt a bydd yn cynhyrchu astudiaethau achos o arferion da. 13

More Related