1 / 37

Brandio

Brandio. Cynlluniau – 2 sesiwn. Canlyniadau 1 Cyflwyniad – Cymysgedd Marchnata – Nodiadau (10 mun.) Cyflwyniad – “Cynnyrch” DVD Nodiadau – diffiniad “brandio” (14 mun.) Tasg Hwyl Lluniau (3 mun.) Gwaith 2 funud ar sleid 14 ac yna trafod cwestiwn 1 i 4 (5 mun.)

noura
Download Presentation

Brandio

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Brandio

  2. Cynlluniau – 2 sesiwn Canlyniadau 1 Cyflwyniad – Cymysgedd Marchnata – Nodiadau (10 mun.) Cyflwyniad – “Cynnyrch” DVD Nodiadau – diffiniad “brandio” (14 mun.) Tasg Hwyl Lluniau (3 mun.) Gwaith 2 funud ar sleid 14 ac yna trafod cwestiwn 1 i 4 (5 mun.) Egluro Gweithgaredd Gwerthuso Brand Rhoi taflenni Gwerthuso Brand – llyfryn 4 tudalen A4 lliw – 1 yr un Y myfyrwyr yn cwblhau’r gwerthusiadau (12 – 15 mun.) Trafod barn/ casgliadau SESIWN 2 I gychwyn – Chwarae â defnydd pacio go iawn – disgrifio’r sefyllfa (10 mun.) Cymhwyso bod yn Ddylunydd Brand (25 mun.) Gwerthuso gwaith ei gilydd (5 mun.) Nodiadau – Manteision ac anfanteision brandio (5 mun.) Casgliadau (5 mun.)

  3. Canlyniadau:

  4. 4. Elfen y Cymysgedd Marchnata Y “Cymysgedd Marchnata” yw’r cyfuniad o 4 ffactor allweddol mae cwmnïau’n rhoi at ei gilydd er mwyn nid yn unig ein cael ni i BRYNU eu cynnyrch, ond i BARHAU I’W BRYNU! Mae’r Cymysgedd Marchnata yn cynnwys 4 elfen (y 4P yn y Saesneg) • Cynnyrch (Product) • Lleoliad (Place) • Hyrwyddo (Promotion) • Pris (Price)

  5. Un o’r elfennau yw “Cynnyrch” Gwneir i gynhyrchion sefyll allan drwy agweddau fel eu DYLUNIAD, ENWAU BRAND a PHECYNNU. Cawn weld yr hyn sydd gan y DVD i’w ddweud wrthym am “Cynnyrch” yn y cyflwyniad, cyn i ni astudio brandio yn fwy manwl…. Mae “Cynnyrch” yn ymwneud â’r hyn sy’n UNIGRYW am y cwmni sy’n gwneud i ni feddwl ei fod yn fwy arbennig na’i gystadleuwyr.

  6. Brandio yw’r ddelweddaeth mae cwmni’n ei defnyddio i wneud i ni ei ADNABOD a sylwi arno yn hytrach na’i gystadleuwyr. Gall brandio gynnwys defnyddio dewis CYSON o liw neu LOGO. Gall y “Brand” fod y cwmni e.e. MORRISONS; neu gall amrywiaeth o gynnyrch fod yn “Frand” e.e. “Lynx”(sy’n cael ei wneud gan Unilever). Brandio - Diffiniad

  7. Rydw i’n mynd i ddangos rhai lliwiau a delweddau i chi am ychydig eiliadau. Ar gyfer pob un, ysgrifennwch y cwmni neu’r cynnyrch CYNTAF a ddaw i’ch meddwl pan welwch chi’r lliw neu’r ddelwedd. Tasg Hwyl: Pŵer Lliw !

  8. Beth yw’r BRAND CYNTAF rydych chi’n meddwl amdano pan welwch chi’r lliw hwn?

  9. Beth yw’r BRAND CYNTAF rydych chi’n meddwl amdano pan welwch chi’r lliw hwn?

  10. Beth yw’r BRAND CYNTAF rydych chi’n meddwl amdano pan welwch chi’r lliw hwn?

  11. Beth yw’r BRAND CYNTAF rydych chi’n meddwl amdano pan welwch chi’r lliw hwn?

  12. Beth yw’r BRAND CYNTAF rydych chi’n meddwl amdano pan welwch chi’r lliw hwn?

  13. Beth yw’r BRAND CYNTAF rydych chi’n meddwl amdano pan welwch chi’r lliw hwn?

  14. Sut mae cwmnïau’n ein cael ni i adnabod brand newydd pan ddaw allan? Yn eich barn chi, a fyddai costau SEFYDLU brand fel hyn yn isel, yn ganolig neu’n uchel a pham? Pam mae cwmnïau’n mynd i’r holl drafferth o greu brandiau ar gyfer eu cynhyrchion? Gwnewch y dasg nesaf i ddarganfod i ba raddau mae’r delweddau mae cwmnïau’n eu defnyddio yn cysylltu â’r segment o’r farchnad maen nhw eisiau anelu ato…. Gwaith Tasg.

  15. Pa Segment o’r Farchnad? Rhyw? Grwpiau Oedran? Grwpiau Incwm? Addasrwydd y lliwiau/ y ddelwedd a ddefnyddir ar gyfer y brand ag ystyried eu marchnad darged…. Dadansoddi Brand – Yorkie

  16. Dadansoddi Brand – Galaxy Bubbles • Pa Segment o’r Farchnad? • Rhyw? • Grwpiau Oedran? • Grwpiau Incwm? • Addasrwydd y lliwiau/ y ddelwedd a ddefnyddir ar gyfer y brand ag ystyried eu marchnad darged….

  17. Dadansoddi Brand – Elizabeth Shaw • Pa Segment o’r Farchnad? • Rhyw? • Grwpiau Oedran? • Grwpiau Incwm? • Addasrwydd y lliwiau/ y ddelwedd a ddefnyddir ar gyfer y brand ag ystyried eu marchnad darged….

  18. Dadansoddi Brand – Bassett’s Allsorts • Pa Segment o’r Farchnad? • Rhyw? • Grwpiau Oedran? • Grwpiau Incwm? • Addasrwydd y lliwiau/ y ddelwedd a ddefnyddir ar gyfer y brand ag ystyried eu marchnad darged….

  19. Dadansoddi Brand:

  20. Dadansoddi Brand: Beirniadaethau (criticisms) posibl o’r brandio a’r defnydd pacio ….

  21. Dadansoddi Brand: Beirniadaethau (criticisms) posibl o’r brandio a’r defnydd pacio ….

  22. Dadansoddi Brand:

  23. Term nesaf I Ddechrau – Lluniwch frawddegau gan ddefnyddio’r termau allweddol hyn… Brandio Cymysgedd Marchnata Y Lle Iawn Pwynt Gwerthu Unigryw (USP) Segment o’r Farchnad Merched 25-40 oed Dynion 18-25 oed Marchnad Darged Cystadleuwyr Yr Adeg Iawn Y bobl iawn Marketing Cynnyrch Marchnata Hyrwyddo Lleoliad Unigryw Pris

  24. Brandio 2 a 3 Gwerthuso Dyluniadau Brand – SUT a PHAM mae dyluniadau brand yn helpu i gyrraedd marchnad darged?

  25. Canlyniadau – 2 sesiynau…

  26. Ysgrifennwch eich teimladau ar y tudalennau a ddarparwyd – byddwch yn barod i GYFIAWNHAU eich barn! Gwerthuso a chymharu Brandio amrywiaeth o siocledi a melysion….. Gan ddefnyddio’r delweddau sydd wedi’u darparu, mae gennych tua 10 munud i wneud gwerthusiad o’r brandiau ar y taflenni lluniau a roddir i chi. Edrychwch yn fanwl ar y defnydd pacio/ lliwiau/ delweddau/ gweadau/ logos/ A’R enw – wrth lunio eich barn.

  27. Adborth a Chasgliadau… • Rhowch adborth am y 4 cynnyrch…. • FELLY… SUT a PHAM mae brandio a delweddaeth brand yn helpu busnes i gyrraedd ei farchnad darged?

  28. Dychmygwch eich bod yn gweithio i Adran Farchnata Unilever. Dewiswch unrhyw UN cynnyrch o’r rhestr isod: Siampŵ Chwistrell Corff (Body Spray) Aftershave Gel Gwallt Chwistrell Gwallt (Hairspray) Colur Eich Tro Chi ….. Mae angen i chi ddylunio enw BRAND a DELWEDD BRAND ar gyfer cynnyrch newydd yn y categori a ddewiswch …...

  29. ENW addas ar gyfer y cynnyrch Meddyliwch am SIÂP addas ar gyfer y defnydd pacio Meddyliwch am LIW addas ar gyfer y defnydd pacio Meddyliwch am Ddefnydd addas ar gyfer y pecynnu Brasluniwch y cynnyrch. Brasluniwch y logo os ydych yn dewis un Ysgrifennwch eich Manyleb Brand gan GYFIAWNHAU y penderfyniadau rydych chi wedi eu gwneud Canllawiau’r Dasg PWY yw eich MARCHNAD DARGED (oedran; rhyw; incwm uchel neu isel)

  30. Ydy’r person: Wedi gwneud dewis priodol o ran: Enw Lliw Siâp Logo Defnydd Pacio ar gyfer eu segment dewisol o’r farchnad? Ydyn nhw wedi cyfiawnhau eu penderfyniadau (gwan/ cadarn)? Adolygiad cyflym

  31. Cyfnerthu ein gwaith ar: Y CYNNYRCH, Brandio, Targedu Segmentau o’r Farchnad.

  32. Canlyniadau

  33. Manteision ac Anfanteision Brandio: Manteision Anfanteision Cost ei ddatblygu a’i sefydlu Gallu lansio cynhyrchion cyfatebol dan yr un enw brand – e.e. siampŵ; cyflyrydd (conditioner); chwistrell gwallt. Gallu codi PRISIAU UWCH Gallu cael enw gwael yn ogystal ag enw da os nad yw ansawdd yn cael ei gynnal Cynyddu teyrngarwch (loyalty) Enwau brand llwyddiannus yn GALLU cysylltu â chynnyrch (e.e. “Hoover”) Gallu cael ei gopïo/ bron â chael ei gopïo

  34. Manteision ac Anfanteision Brandio: Anfanteision: • Cost ei ddatblygu a’i sefydlu • Gallu cael ei gopïo/ bron â chael ei gopïo • Gallu cael enw gwael yn ogystal ag enw da os nad yw ansawdd yn cael ei gynnal Manteision: • Cynyddu teyrngarwch (loyalty) • Gallu codi PRISIAU UWCH • Enwau brand llwyddiannus yn GALLU cysylltu â chynnyrch (e.e. “Hoover”) • Gallu lansio cynhyrchion cyfatebol dan yr un enw brand – e.e. siampŵ; cyflyrydd (conditioner); chwistrell gwallt.

  35. Ydy brandio yn syml neu’n gymhleth i’w ddylunio? Eglurwch (3 marc Lefel 2 – Gradd D) Ydy brandio yn cymryd amser neu’n gyflym i’w drefnu? Rhowch resymau dros eich ateb (Lefel 2 – Gradd D – 3 marc)? Sut mae ymchwil marchnata yn helpu wrth ddatblygu brand newydd? Eglurwch eich ateb yn glir a rhowch enghraifft. (Lefel 2 – Gradd C – 5 marc) I ba raddau mae brandio yn cysylltu â’r pris sy’n cael ei godi a’r farchnad darged? A oes cyswllt cryf neu gyswllt gwan rhyngddynt? Eglurwch eich pwynt gydag enghreifftiau. (10 marc – Lefel 3 – Graddau B - A*) Ydy brandio yn hanfodol neu’n anhanfodol ar gyfer llwyddiant cynnyrch? Trafodwch ac eglurwch eich syniadau. (8 marc – Lefel 3 – Graddau B - A*). Brandio – Casgliadau, Trafodaeth ac Ysgrifennu:

  36. Mark scheme - Question 3 • Sut mae ymchwil marchnata yn helpu wrth ddatblygu brand newydd? Eglurwch eich ateb yn glir a rhowch enghraifft. (Lefel 2 – Gradd C – 5 marc) Ydyn nhw’n DIFFINIO ymchwil marchnata NEU ydyn nhw’n DIFFINIO BRAND? (1 marc) Ydyn nhw’n egluro yn glir ac yn gywir bod ymchwil marchnata yn helpu datblygiad brand newydd oherwydd ei fod yn gallu cael ei ddefnyddio i weld a yw’r segment targed yn hoffi’r enw sydd wedi ei ddewis; dyluniad y pecynnu a’r pris? (3 marc os maen nhw I GYD yn cael eu cynnwys) Ydyn nhw’n rhoi ateb synhwyrol? (1 marc)

  37. Mark scheme - Question 4 • I ba raddau mae brandio yn cysylltu â’r pris sy’n cael ei godi a’r farchnad darged? A oes cyswllt cryf neu wan rhyngddynt? Eglurwch eich pwynt gydag enghreifftiau. (10 marc – Lefel 3 – Graddau B - A*). Ydyn nhw’n DIFFINIO brandio? (1 marc) Ydyn nhw’n diffinio marchnad DARGED neu bris? (1 marc) Ydyn nhw’n trafod y cysylltiad rhwng brand a phris? Eglurwch sut y gallwch chi gael brandiau cost-isel; brandiau cyffredin a brandiau moeth (luxury brands) OND mae’n rhaid i ENW a phecynnu/ delwedd y brand gysylltu â’r ddelwedd brand sydd wedi ei ddewis OS ydych chi i godi’r pris rydych chi’n dymuno ei godi (e.e. mae gan fagiau llaw Radley ddelwedd brand dethol gyda’u logo enwog o’r ci bach – mae hyn yn golygu eu bod nhw’n GALLU codi pris uwch am eu bagiau llaw). Ydyn nhw’n trafod pwysigrwydd dyluniad, delwedd a phecynnu er mwyn apelio at eich marchnad darged? (hyd at 5 marc) Ydyn nhw’n ysgrifennu casgliad sy’n rhoi BARN ynglŷn ag ydyn nhw’n teimlo bod cyswllt cryf rhwng brandio, y pris a godir a’r farchnad darged, ac yn CYFIAWNHAU eu barn yn argyhoeddiadol? (hyd at 3 marc)

More Related