1 / 13

Modiwl 5: Sicrhau ansawdd

Modiwl 5: Sicrhau ansawdd. Beth yw system sicrhau ansawdd?. Edrychwch ar y delweddau hyn er mwyn cael syniadau am y rhesymau dros ddefnyddio systemau sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

nassor
Download Presentation

Modiwl 5: Sicrhau ansawdd

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Modiwl 5: Sicrhau ansawdd

  2. Beth yw system sicrhau ansawdd? Edrychwch ar y delweddau hyn er mwyn cael syniadau am y rhesymau dros ddefnyddio systemau sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae system sicrhau ansawdd yn mesur perfformiad gwasanaeth ar sail nifer o safonau i weld pa mor dda mae'n rhedeg ac i sicrhau bod gofal o ansawdd da yn cael ei ddarparu. Modiwl 5: Sicrhau ansawdd

  3. Pa ffactorau sy'n effeithio ar sicrwydd ansawdd? Mae'r safonau mae'n rhaid i wasanaethau eu cyrraedd yn dibynnu ar amryw o ffactorau fel deddfwriaeth, codau ymddygiad a rheoliadau. Cliciwch ar y dylanwadau isod i'w paru â lliwiau pennawd y tri ffactor. Cliciwch yma i weld yr atebion. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith (1974) Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth Diogelu data Deddf Safonau Gofal (2000) Atebolrwydd gwasanaethau Codi a chario Dilyn arferion gweithio diogel Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (1995) Rheoliadau Deddfwriaeth Codau ymddygiad Modiwl 5: Sicrhau ansawdd

  4. Dulliau sicrhau ansawdd Arolygu a monitro Gweithdrefnau cwyno Hyfforddi staff Gwobrau am ansawdd gwasanaethau ? ? Sicrhau ansawdd Graddio â sêr ? ? Cofrestriad proffesiynol Rheoli perfformiad Ymgynghori â'r cyhoedd Faint o ddulliau sicrhau ansawdd allwch chi feddwl amdanyn nhw? Trafodwch hyn ac wedyn cliciwch ar bob un o'r delweddau isod i weld ein hawgrymiadau neu cliciwch yma i gael diagram gwag i'w lenwi. Modiwl 5: Sicrhau ansawdd

  5. Monitro Caiff gwasanaethau eu monitro a'u harolygu'n fewnol ac yn allanol, ac mae hyn yn rhoi gwybodaeth am ansawdd gofal. Cliciwch ar y sectorau isod i gael gwybod pwy yw'r cyrff arolygu. Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Estyn (Cymru) ac Ofsted (Lloegr) Gofal iechyd Gofalcymdeithasol Gwasanaethau plant Modiwl 5: Sicrhau ansawdd

  6. Gweithdrefnau cwyno Rhaid i bob gwasanaeth weithredu gweithdrefn gwyno, a rhoi canllawiau clir am beth i'w wneud os nad yw rhywun yn fodlon ar y gwasanaeth. Cliciwch ar yr eicon fideo i weld clip am y ffordd i gwyno yn y GIG ac wedyn atebwch y cwestiynau isod. Cofnodwcheichsyniadauyma: Pryd dylech chi gwyno? Pan nad ydych chi’n fodlon ar y gwasanaeth rydych wedi'i dderbyn. Dylech chi wneud hyn ar unwaith. Beth yw manteision gweithdrefn gwyno? Mae'n rhoi hyder i ddefnyddwyr gwasanaethau yn eu gallu i ddylanwadu ar lefel y gwasanaeth maen nhw’n ei dderbyn Modiwl 5: Sicrhau ansawdd

  7. Ymgynghori â defnyddwyr Gall defnyddwyr gwasanaethau helpu i ddatblygu a gwella gwasanaethau mewn nifer o ffyrdd. Faint o fathau o ymgynghori cyhoeddus allwch chi feddwl amdanyn nhw?Cliciwch ar bob un o'r lluniau isod i weld rhai awgrymiadau. Anfon holiaduron i deuluoedd neu eu dosbarthu Blychau i ddefnyddwyr gwasanaethau adael awgrymiadau'n di-enw Fforymau cleifion lle mae unigolion yn siarad ar ran defnyddwyr ? Ymgynghori â'r cyhoedd ? ? PALS: mae'n rhoi cyngor ac yn datrys problemau i gleifion y GIG Taflenni am y gwasanaethau sydd ar gael Modiwl 5: Sicrhau ansawdd

  8. Rheoli perfformiad Monitro perfformiad gwasanaethau a staff ar sail targedau penodol. Pennu targedau Hyfforddiant Pennu ffyrdd o drechu gwendidau Pennu ffyrdd o geisio cyrraedd y targedau Datblygiad Proffesiynol Parhaus Monitro perfformiad staff a gwasanaethau ar sail y targedau Adnabod gwendidau Arsylwi Asesu Modiwl 5: Sicrhau ansawdd

  9. Hyfforddi staff Mae gwahanol fathau o hyfforddiant yn cael eu darparu i staff mewn gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a phlant i sicrhau eu bod yn gallu darparu gofal effeithiol. Pa fathau o hyfforddiant allwch chi feddwl amdanyn nhw? Codi a chario Mathau o hyfforddiant Cymorth cyntaf Diogelwch tân Iechyd a diogelwch Modiwl 5: Sicrhau ansawdd

  10. Cofrestriadau proffesiynol Mae cofrestriad proffesiynol yn dangos lefel cymhwysedd yr unigolyn. Gyda pha gyrff proffesiynol mae'r unigolion isod yn debygol o gael eu cofrestru? Y Cyngor Addysgu Cyffredinol Meddyg Y Cyngor Meddygol Cyffredinol Athro/ Athrawes Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth Nyrs Modiwl 5: Sicrhau ansawdd

  11. Gwobrau ansawdd a graddio â sêr Beth mae'r delweddau hyn yn ei ddangos? Mae Nod Siarter yn wobr am ansawdd ac yn ffordd o wobrwyo arfer da. Gall pob corff yn y sector cyhoeddus wneud cais am asesiad ffurfiol i gael Nod Siarter. Mae graddau sêr yn ddangosyddion perfformiad a ddefnyddir yn y GIG. Maen nhw’n dangos pa mor dda mae gwasanaeth yn cael ei redeg. Caiff y gwasanaethau sgôr rhwng dim a thri. Modiwl 5: Sicrhau ansawdd

  12. Datblygiad proffesiynol parhaus Dylai gweithwyr ddysgu am yr arferion diweddaraf, adnabod eu gwendidau a chwilio am ffyrdd o ddelio â'r rhain. Mae hyn yn hyrwyddo gofal o ansawdd da. Sut gall gweithwyr gofal barhau i ddatblygu'n broffesiynol? Cofnodwch bedwar syniad ychwanegol isod ac wedyn cliciwch i weld ein hawgrymiadau. Mentora unigolion eraill neu gael eich mentora gan rywun mwy profiadol. Ennill cymwysterau ychwanegol. • Mynd ar gyrsiau allanol i ddiweddaru gwybodaeth. • Dilyn cwrs sefydlu fel y byddwch yn dilyn polisïau a gweithdrefnau. • Hyfforddiant mewnol. • Darllen am newidiadau mewn ymarfer. Modiwl 5: Sicrhau ansawdd

  13. Cwestiynau i'w trafod • Pam mae'n bwysig i ddefnyddwyr gwasanaethau allu rhoi adborth am eu gofal? • Pam mae angen codau ymddygiad hyd yn oed os yw deddfwriaeth wedi'i gwneud? • Pam mae angen i weithwyr gofal barhau i ddatblygu'n broffesiynol, er eu bod wedi ymgymhwyso i weithio yn y sector? Modiwl 5: Sicrhau ansawdd

More Related