1 / 26

Rheoli Perfformiad Rhan A

Rheoli Perfformiad Rhan A. Cyflwyniad i'r Rheoliadau Rheoli Perfformiad Diwygiedig Ionawr 2011 (i'w rhoi ar waith erbyn mis Ionawr 2013). Amcanion y Sesiwn. Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i'w rhoi ar waith yn effeithiol

molimo
Download Presentation

Rheoli Perfformiad Rhan A

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Rheoli PerfformiadRhan A Cyflwyniad i'r Rheoliadau Rheoli Perfformiad Diwygiedig Ionawr 2011 (i'w rhoi ar waith erbyn mis Ionawr 2013)

  2. Amcanion y Sesiwn • Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i'w rhoi ar waith yn effeithiol • Adolygu rôl rheoli perfformiad wrth godi safonau yn eich ysgol • Adolygu sut y bydd rheoli perfformiad yn rhan o gyd-destun ehangach proses gwella'r ysgol • Adolygu gweithredu'r broses rheoli perfformiad gan gynnwys rolau a chyfrifodebau'r rhai sy'n rhan ohoni

  3. Gofynion Diwygiedig Amserlen • Rheoliadau Diwygiedig a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2012 • Defnyddio'r trefniadau diwygiedig erbyn 31 Rhagfyr 2012 Diwygiadau • Mae gan reoli perfformiad gysylltiad clir â - safonau a phrofiadau proffesiynol • blaenoriaethau ysgol gyfan a chenedlaethol • data perfformiad disgyblion • cynnydd tâl • Mwy o gyfranogiad gan yr Awdurdod Lleol ym mhroses rheoli perfformiad ysgolion • Mae gan Estyn fynediad i amcanion perfformiad penaethiaid • Dylech gadw dogfennau Rheoli Perfformiad am o leiaf 3 blynedd

  4. Diben Rheoli Perfformiad (RhP) 'Mae rheoli perfformiad yn helpu ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith penaethiaid fel unigolion ac arweinwyr timau ysgolion. Mae'n gosod fframwaith i athrawon ac arweinwyr i gytuno ar flaenoriaethau ac amcanion a'u hadolygu yng nghyd-destun cynllun gwella'r ysgol. Mae'n canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arweinyddiaeth yn fwy effeithiol er lles disgyblion, athrawon ac ysgolion.' Canllawiau Llywodraeth Cymru Mai 2012

  5. Rôl Rheoli Perfformiad yn y Broses Gwella Ysgolion Mae Rheoli Perfformiad yn cefnogi:- • ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith ymarferwyr fel unigolion ac mewn timau • athrawon i ddiwallu anghenion plant a gwella safonau Mae Rheoli Perfformiad yn arddangos ymrwymiad yr ysgol i:- • ddatblygu'r holl ymarferwyr yn effeithiol • sicrhau boddhad yn y swydd • lefelau uchel o arbenigedd • dilyniant ymarferwyr yn eu galwedigaeth ddewisol

  6. Y Cylch Gwerthuso AdolyguCynllunio Hunanfyfyrio Hunanddadansoddi Cyfarfod adolygu Gwerthuswr Dadansoddiad strategol Datganiad gwerthuso a Gosod Amcanion Gwerthusai Cytuno ar amcanion Monitro Adolygiadau anffurfiol yn ystod y flwyddyn Arsylwi addysgu Ffynonellau cytunedig eraill o dystiolaeth sy'n briodol i rôl yr athro

  7. Rolau a Chyfrifoldebau

  8. Rolau a Chyfrifoldebau yn y Broses Rheoli Perfformiad Aelodau Allweddol • Y corff llywodraethu/y corff priodol • Y Pennaeth • Gwerthuswr /gwerthuswyr • Gwerthusai / Gwerthuseion • Yr Awdurdod Lleol • Llywodraeth Cymru

  9. Cyfrifoldebau'r Corff Llywodraethu/Corff Priodol Rhaid i'r corff llywodraethu/cyrff perthnasol: • adolygu a chytuno ar y polisi rheoli perfformiad yn flynyddol • monitro effeithiolrwydd ac effaith y broses rheoli perfformiad • adolygu rheoli perfformiad y pennaeth drwy banel gwerthuso • rhoi unrhyw broses apelio ar waith • cadw copi o ddatganiadau'r pennaeth am o leiaf 3 blynedd • anfon copi o ddatganiad y pennaeth at y Prif Swyddog Addysg (PSA)

  10. Myfyrio a Thrafod - Hunanwerthuso A. Ym mha ffordd y mae'r corff llywodraethu'n: 1. adolygu ac yn cytuno ar y polisi Rheoli Perfformiad? 2. monitro effeithiolrwydd ac effaith y broses rheoli perfformiad? 3. adolygu rheoli perfformiad y pennaeth drwy banel gwerthuso? 4. rhoi unrhyw broses apelio ar waith? B.Sut mae rheoli perfformiad yn rhan o broses gwella'r ysgol? C. Oes unrhyw agweddau ar gyfraniad y llywodraethwyr at reoli perfformiad athrawon y gellir eu gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 1 i hwyluso'r drafodaeth

  11. Cyfrifoldebau'r Pennaeth o fewn y broses Rheoli Perfformiad Dylai penaethiaid: • adolygu a chytuno ar bolisi RhP gyda'r Corff Llywodraethu a'r ALl • pennu amseru cylch gwerthuso’r ysgol • penodi gwerthuswr ar gyfer pob athro yn yr ysgol a sicrhau bod gwerthuswyr yn cynnal eu cyfrifoldebau • sicrhau monitro addysgu ac adborth datblygu • sicrhau bod gan athrawon gynlluniau unigol a datblygiad proffesiynol a dargedir sy'n cefnogi gwella'r ysgol gyfan • adrodd am effeithiolrwydd gweithdrefnau RhP yr ysgol yn flynyddol i'r corff llywodraethu • cadw copi o'r holl ddatganiadau arfarnu dros y 3 blynedd ddiwethaf • llunio adroddiad ysgrifenedig i'r corff llywodraethu ynghylch y broses RhP yn yr ysgol o leiaf unwaith y flwyddyn

  12. Myfyrio a Thrafod - Hunanwerthuso A. Ym mha ffordd y mae'r pennaeth yn • adolygu'r polisi RhP ac yn cytuno arno gyda'r Corff Llywodraethu a'r ALl? • pennu amseru cylch gwerthuso’r ysgol? • penodi gwerthuswr ar gyfer pob athro yn yr ysgol a sicrhau bod yr gwerthuswr yn cynnal eu cyfrifoldebau? • sicrhau monitro addysgu ac adborth datblygu? • sicrhau bod gan yr athro gynlluniau unigol a datblygiad proffesiynol a dargedir sy'n cefnogi gwella'r ysgol gyfan? • adrodd am effeithiolrwydd gweithdrefnau RhP yr ysgol yn flynyddol i'r corff llywodraethu? B. Sut mae RhP yn rhan o brosesau gwella'r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 2 i hwyluso'r drafodaeth

  13. Rôl yr Gwerthuswr/Gwerthuswyr (Athro, Pennaeth, Llywodraethwr, Enwebai ALl) Rhaid i Gwerthuswyr: • Gytuno a chofnodi amcanion gyda'r gwerthusai • Monitro ac adolygu perfformiad y gwerthusai trwy gydol y cyfnod • Trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol y gwerthuseion • Paratoi'r datganiad gwerthuso blynyddol • Gwneud argymhellion ysgrifenedig lle mae‘r gwerthusai’n gymwys am gynnydd tâl yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (STPCD), lle y bo'n addas.

  14. Cyfrifoldebau'r Gwerthuswr / Gwerthuswyr Maent yn cynnal eu cyfrifoldebau drwy:- • gynllunio'r cylch gwerthuso gyda'r gwerthusai • gosod yr amcanion drwy ystyried adolygiad perfformiad y cylch blaenorol • trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol • parhau i adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn erbyn amcanion yn rheolaidd trwy gydol y cylch RhP (adolygiad ffurfiannol) • cynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda'r gwerthusai / gwerthuseion (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn) • gweithredu'n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad • trefnu bod datganiad gwerthuso llawn neu ychwanegiad i'r datganiad gwerthuso ar gael i'r personél priodol

  15. Myfyrio a Thrafod - Hunanwerthuso A. Ym mha ffyrdd y mae gwerthuswyr yn: 1. cynllunio'r cylchred gwerthuso gyda'r gwerthusai? 2. gosod yr amcanion drwy ystyried adolygiad perfformiad y cylch blaenorol? 3. trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol? 4. adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn erbyn amcanion yn rheolaidd drwy'r cylch RhP (adolygiad ffurfiannol)? 5. gweithredu'n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad? 6. cynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda'r gwerthuseion (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn)? 7. trefnu bod y datganiad gwerthuso ar gael i'r personél priodol? B Sut mae Rheoli Perfformiad yn rhan o broses gwella'r ysgol? C. Oes unrhyw agweddau ar reoli perfformiad y gellir eu gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 3 i hwyluso trafodaeth

  16. Rôl y Gwerthuseion (Athro neu Bennaeth) Dylai'r gwerthuseion: • drafod, cynllunio a gosod amcanion gyda'r gwerthuswr • cymryd rhan mewn trefniadau monitro ac adolygu • trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol

  17. Cyfrifoldebau'r Gwerthuseion Rhaid i'r gwerthuseion: • drafod a gosod amcanion gyda'r gwerthuswr / gwerthuswyr, cymryd sylw o gyd-destun yr ysgol, disgrifiad swydd a'r safonau proffesiynol priodol • hwyluso'r broses drwy nodi a darparu data perthnsaol a thystiolaeth o berfformiad • cymryd rhan mewn trefniadau monitro • cynnal a chadw cofnod datblygu arfer ac adolygu diweddar • cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol • trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol i gefnogi arfer proffesiynol

  18. Myfyrio a Thrafod A. Ym mha ffyrdd y mae gwerthuswyr yn: 1. trafod gosod amcanion gyda'r gwerthuswr o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a'r safonau proffesiynol priodol? 2. hwyluso'r broses drwy nodi a darparu data a thystiolaeth priodol? 3. cymryd rhan wrth fonitro trefniadau a chynnal a chadw cofnod datblygu adolygu ac arfer diweddar? 4. cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol? 5. trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol i gefnogi arfer proffesiynol? B. A yw RhP yn rhan o broses gwella'r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau ar RhP y gellir eu gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 4 i hwyluso'r drafodaeth

  19. Yr Awdurdod Lleol Rhaid i'r Awdurdod Lleol: • gymeradwyo polisi RhP yr ysgol • enwebu un neu ddau o werthuswyr yr ALl i wasanaethu ar banel gwerthuso'r pennaeth • ymgynghori â'r pennaeth ar enwebai/enwebeion yr ALl • darparu enwebeion ar gyfer y broses apeliadau • derbyn a chadw datganiad gwerthuso'r pennaeth wedi'i lofnodi a'i ddyddio am dair blynedd • sicrhau bod gweithdrefnau gwerthuso yn eu lle i athrawon digyswllt

  20. Adolygu'r Broses Rheoli Perfformiad

  21. Y Polisi Rheoli Perfformiad ‘Dylai'r polisi osod fframwaith er mwyn i'r holl staff gytuno ac adolygu blaenoriaethau ac amcanion o fewn cyd-destun cynllun datblygu'r ysgol a'u hanghenion datblygu eu hunain. Bydd yn eu helpu gyda'r nod o ddatblygu'r holl staff a helpu, lle y bo'n addas, i godi safonau cyrhaeddiad i ddisgyblion.’ Rheoli Perfformiad i Athrawon LlC 073/2012

  22. Polisi Rheoli Perfformaid Rhaid bod y polisi rheoli perfformiad yn glir ynghylch: • rhoi ar waith • disgwyliadau • blaenoriaethau • monitro ac asesu • adolygu

  23. Elfennau Allweddol Polisi Rheoli Perfformiad • Cyflwyniad: yr hyn y mae'r polisi'n ceisio'i gyflawni • Rolau a chyfrifoldebau • Amserlen ar gyfer adolygiadau • Y Cylch Rheoli Perfformiad • Y Weithdrefn Apelio • Cyfrinachedd • Mynediad i ddeilliannau

  24. Broses Rheoli Perfformiad Nodir arfer gorau rheoli perfformiad drwy: • ymrwymiad i gyrhaeddiad a lles disgyblion; • gwerthfawrogi'r rôl hanfodol sydd gan athrawon; • ymddiriedaeth rhwng yr athro a'r gwerthuswr, sy'n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i'w datblygu'n drwyadl; • annog rhannu arfer da; • integreiddio rheoli perfformiad yn yr ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli'r ysgol.

  25. Myfyrio a Thrafod A. Ym mha ffyrdd y mae'r Polisi Rheoli Perfformiad yn 1. integreiddio'r broses rheoli perfformiad yn ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli'r ysgol. 2. hyrwyddo eglurder ar • weithredu'r broses, • rolau, cyfrifoldebau a disgwyliadau'r cyfranogwyr • Gwerthuso effeithiolrwydd y polisi 3. creu awyrgylch o barch ac ymddiriedaeth proffesiynol 4. annog lledaenu arfer da 5. nodi anghenion datblygu proffesiynol i gefnogi arfer proffesiynol ? B. A yw Rheoli Perfformiad yn rhan o broses gwella'r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau ar Reoli Perfformiad y gellir eu gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 6 i hwyluso'r drafodaeth

  26. Ac yn olaf.... ‘Mae rheoli perfformiad yn rhoi sylw i wneud addysgu ac arweinyddiaeth yn fwy effeithiol er lles disgyblion, athrawon ac ysgolion.’ Rheoli Perfformiad i Athrawon LlC 073/2012

More Related