1 / 44

Sbardun i ddigwyddiad 1 A) Technolegau ar lefel aelwydydd

Sbardun i ddigwyddiad 1 A) Technolegau ar lefel aelwydydd. A1) Dangosydd trydan amser real. Dangosydd trydan amser real. Sut mae’n gweithio? Dangos faint o drydan rydych chi’n ei ddefnyddio mewn amser real mewn watiau a £ Dangos costau trydan cronnus a graff o’r defnydd dros amser

liz
Download Presentation

Sbardun i ddigwyddiad 1 A) Technolegau ar lefel aelwydydd

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Sbardun i ddigwyddiad 1 A) Technolegau ar lefel aelwydydd

  2. A1) Dangosydd trydan amser real Dangosydd trydan amser real Sut mae’n gweithio? • Dangos faint o drydan rydych chi’n ei ddefnyddio mewn amser real mewn watiau a £ • Dangos costau trydan cronnus a graff o’r defnydd dros amser • Defnyddio clip ar gebl y mesurydd i fesur y defnydd o drydan – bydd yn cael ei gysylltu o bell â’ch mesurydd deallus yn y dyfodol Sut alla i gael un? • Cysylltwch â’ch cyflenwyr ynni – mae rhai yn eu darparu am ddim gyda thollau penodol • Prynwch un ar-lein • Yn y dyfodol, efallai y cânt eu darparu gan gyflenwyr fel rhan o fesuryddion deallus yng Nghymru, Lloegr a’r Alban (ac yng Ngogledd Iwerddon o bosibl). 2

  3. A1) Dangosydd trydan amser real Faint fydd yn ei gostio? O ddim i £100 ar hyn o bryd, £30 i’w brynu fel arfer Efallai y caiff ei ddarparu am ddim fel rhan o’r broses o osod mesuryddion deallus (yn debygol o ddechrau tua 2012) Gallai arbed hyd at 5 y cant oddi ar eich bil drwy leihau gwastraff Beth sydd ei angen arna i? Mae angen i chi roi trawsyrrydd ar gebl eich mesurydd trydan A phlygio eich dangosydd Gallwch hefyd ei gysylltu â’ch cyfrifiadur i ddadansoddi eich defnydd o drydan ymhellach 3

  4. A2) Rheolyddion gwres Rheolyddion gwres Sut mae’n gweithio? • Mae thermostat yn diffodd y boeler pan fo’r ystafell yn ddigon cynnes • Gyda rheolydd ar y rheiddiaduron, gallwch newid y gofynion gwresogi ym mhob ystafell • Gall rhaglennydd bennu pryd mae’r gwres ymlaen neu i ffwrdd Sut alla i gael un? • Gan blymwr • O siop ‘DIY’ 4

  5. A2) Rheolyddion gwres Faint fydd yn ei gostio? Rhwng £100 a £200, yn dibynnu ar ba reolyddion sydd eisoes wedi’u gosod Gallech arbed hyd at 5% o’ch bil gwresogi drwy reoli gwres yn well a defnyddio’r boeler yn fwy effeithlon Beth sydd ei angen arna i? Rydych chi angen plymwr i osod rheolyddion thermostatig ar y rheiddiaduron Rydych chi angen trydanwr neu blymwr cymwys i osod rheolyddion rhaglenadwy ar y boeler 5

  6. A3) Mesuryddion deallus Mesuryddion deallus Sut mae’n gweithio? • Yn y dyfodol, bydd mesuryddion nwy a thrydan yn “siarad” gyda’ch cyflenwr ynni, er mwyn gallu darparu: • biliau hollol gywir • adborth amser real pan fydd wedi’i gyfuno ag uned arddangos • cyngor a chynhyrchion wedi’u teilwra ar gyfer aelwydydd; • tariffau sy’n amrywio yn ôl yr adeg o’r dydd. Sut alla i gael un? • Bydd mesuryddion deallus yn cael eu cyflwyno’n raddol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban (a Gogledd Iwerddon o bosibl) i bob defnyddiwr erbyn diwedd 2020, gan ddechrau mewn blwyddyn neu ddwy. • Mae un cyflenwr ynni bach eisoes yn cynnig mesuryddion deallus gyda gwasanaethau fel dadansoddi ar-lein 6

  7. A3) Mesuryddion deallus Faint fydd yn ei gostio? Caiff ei ddarparu am ddim fel rhan o’r broses o gyflwyno mesuryddion deallus ledled y wlad (yn debygol o ddechrau oddeutu 2012). Gallai arbed rhwng 1 a 4 y cant o’ch bil drwy’ch galluogi i wastraffu llai, a rhoigwasanaethau eraill i chi Beth sydd ei angen arna i? Bydd mesuryddion deallus yn cymryd lle’r mesuryddion presennol yn eich cartref neu’r tu allan, a bydd yn cael ei osod gan eich cyflenwr Bydd cyflenwyr yn datblygu gwasanaethau newydd, fel gwell biliau, cyngor wedi’i dargedu a thariffau newydd, a’u cynnig i gwsmeriaid 7

  8. A4) Inswleiddio wal geudod Inswleiddio wal geudod Sut mae’n gweithio? • Yn y mwyafrif o dai a adeiladwyd ar ôl y 1920au, mae’r waliau allanol yn cynnwys dwy haen gyda bwlch aer bach neu ‘geudod’ rhyngddynt sy’n golygu bod llawer o wres yn cael ei golli y tu allan • Bydd llawer llai o wres yn dianc trwy’r waliau wrth lenwi’r bwlch gyda deunydd inswleiddio, a bydd yn cynorthwyo i atal anwedd. Sut alla i ei osod? • Cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni neu eich cyflenwr ynni i ganfod gosodwr cofrestredig • Bydd yn cynnal arolwg yn eich tŷ, cytuno ar ddyfynbris a gwneud y gwaith

  9. A4) Inswleiddio wal geudod Faint fydd yn ei gostio? Rhwng £200 a £500 £160 y flwyddyn a 400kg CO2, gyda gwres canolog nwy – arbedwch hyd at ddwywaith cymaint os mai trydan yw eich gwres canolog Beth sydd ei angen arna i? Byddwch angen tŷ sydd â wal geudod, sef tai sydd wedi’u hadeiladu rhwng 1930 ac 1990 fel arfer. Gellir ei osod i chi mewn tua 2 i 3 awr ac ar ôl ei osod, yr oll sydd angen i chi wneud yw mwynhau’r manteision!

  10. A5) Inswleiddio wal solet, allanol Inswleiddio Allanol Sut mae’n gweithio? • Mae deunydd inswleiddio addurnol sy’n dal dŵr yn cael ei osod ar du allan eich wal • Mae angen i’r inswleiddio fod rhwng 50 a 100mm o drwch • Mae’n cynorthwyo i atal gwres rhag dianc o’ch cartref ac yn cynorthwyo i atal anwedd Sut alla i ei osod? • Cysylltwch â’ch cwmni cyflenwi ynni neu’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni i ganfod gosodwr cofrestredig • Bydd yn cynnal arolwg yn eich tŷ, cytuno ar ddyfynbris a gwneud y gwaith

  11. A5) Inswleiddio wal solet, allanol Faint fydd yn ei gostio? Tua £5,600. Mwy yn dibynnu ar faint eich cartref. Llai os ydych chi eisoes yn gwneud gwaith ar eich tŷ. Arbedwch oddeutu £500 y flwyddyn ar filiau ynni a dros 2 dunnell o CO2 y flwyddyn Beth sydd ei angen arna i? Y dyhead i arbed arian ac allyriadau CO2 yw’r cwbl sydd ei angen arnoch chi, ynghyd â’r arian i’w osod. Os ydych chi’n gwneud gwaith adnewyddu neu atgyweirio allanol gall fod yn gyfle perffaith i inswleiddio’r waliau allanol, yn enwedig gan y dylai arbed arian i chi yn yr hirdymor.

  12. A6) Inswleiddio wal solet, fewnol Inswleiddio Mewnol Sut mae’n gweithio? • Gosodir haenau bwrdd plastr/ inswleiddio yn syth ar du mewn eich wal. Gorau po dewaf fydd y bwrdd. Maent yn achosi i lai o wres ddianc drwy’ch waliau a thu allan • Fel arfer mae’r byrddau yn 90mm o drwch ac yn cynnwys bwrdd plastr gyda deunydd inswleiddio Sut alla i ei osod? • Cysylltwch â’ch cwmni cyflenwi ynni neu’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni i ganfod gosodwr cofrestredig • Bydd yn cynnal arolwg yn eich tŷ, cytuno ar ddyfynbris a gwneud y gwaith

  13. A6) Inswleiddio wal solet, fewnol Beth sydd ei angen arna i? Y dyhead i arbed arian a’r arian i’w osod. Y parodrwydd i ddelio â’r aflonyddwch gan ei fod yn golygu symud socedi trydan a switshis golau. Bydd eich ystafell ychydig yn llai ar ôl ei hinswleiddio, ond dim ond waliau allanol sy’n cael eu gwneud. Faint fydd yn ei gostio? Tua £3,500 (mwy yn dibynnu ar faint eich tŷ) Gallech arbed oddeutu £470 ar filiau ynni a dros 2 dunnell o CO2 y flwyddyn

  14. A7) Inswleiddio dan y llawr Inswleiddio Dan y Llawr Sut mae’n gweithio? • Gellir inswleiddio lloriau pren drwy godi’r estyll a gosod gwlân sinidr gyda rhwydau rhwng y distiau. • Gallwch hefyd ddefnyddio tiwb o ddeunydd selio, fel silicon, i lenwi bylchau rhwng estyll a byrddau sgertin a rhwystro drafftiau Sut alla i ei osod? • Gall hwn fod yn brosiect ‘DIY’ rhesymol a gallwch gael yr holl ddeunyddiau a chyngor angenrheidiol o’ch siop ‘DIY’ leol • Fel arall, gallwch gysylltu â’ch cyflenwr ynni am fanylion cyswllt gosodwr addas

  15. A7) Inswleiddio dan y llawr Beth sydd ei angen arna i? Mae angen i chi allu cael at y lle dan y llawr, drwy godi eich estyll fel arfer. Gall hwn fod yn brosiect ‘DIY’, felly bydd angen i chi fynd i’ch siop ‘DIY’ i brynu’r deunyddiau a chael cyngor. Neu gallwch dalu i weithiwr proffesiynol Faint fydd yn ei gostio? Tua £20 i selio bylchau a thua £90 i inswleiddio’r estyll os ydych chi’n ei wneud eich hun. Bydd yn ddrutach talu i rywun proffesiynol wneud y gwaith. Arbedwch tua £75 ar filiau ynni a 200 kg o CO2 y flwyddyn trwy selio bylchau ac inswleiddio eich llawr

  16. A8) Inswleiddio’r atig Inswleiddio’r Atig Sut mae’n gweithio? • Mae’n gweithio fel blanced, yn dal gwres sy’n codi o’r tŷ. Dylech hefyd ystyried lagio eich pibellau ar yr un pryd i gael y canlyniadau mwyaf effeithlon • Mae gan rai adeiladau rywfaint o ddeunydd inswleiddio yn yr atig eisoes, ond gallech gynyddu’r lefel hon i 300mm i ostwng eich biliau ynni ymhellach. Sut alla i ei osod? • Gall hwn fod yn brosiect ‘DIY’ rhesymol a gallwch gael yr holl ddeunyddiau a chyngor angenrheidiol o’ch siop ‘DIY’ leol • Fel arall, gallwch gysylltu â’ch cyflenwr ynni am fanylion cyswllt gosodwr addas

  17. A8) Inswleiddio’r atig Beth sydd ei angen arna i? Gall hwn fod yn brosiect ‘DIY’ neu gallwch dalu i weithiwr proffesiynol wneud popeth ar eich rhan! Rydych chi’n colli lle storio os nad ydych chi’n codi’r trawstiau, sy’n fwy o waith Yn y naill achos a’r llall, byddwch angen gwagio’ch atig yn llwyr cyn gallu gosod y deunydd inswleiddio. Faint fydd yn ei gostio? Tua £500. Arbedwch rhwng £80 a £150 ar filiau ynni a 80+kg o CO2 y flwyddyn. Byddai’r gost a’r arbedion ar gyfer inswleiddio ychwanegol yn is.

  18. A9) Ffenestri gwydr dwbl Ffenestri Gwydr Dwbl Sut mae’n gweithio? • Mae’n maglu aer rhwng y ddwy chwarel o wydr, gan greu rhwystr er mwyn colli llai o wres a lleihau swn ac anwedd Sut alla i gael un? • Cysylltwch â’ch cwmni cyflenwi ynni neu’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a gallant argymell gosodwr cymeradwy • Bydd yn cynnal arolwg yn eich tŷ, cytuno ar ddyfynbris a gwneud y gwaith

  19. A9) Ffenestri gwydr dwbl Faint fydd yn ei gostio? Dibynnu’n fawr ar faint eich tŷ, a faint o ffenestri gwydr dwbl rydych chi am eu gosod – ond disgwyliwch dalu miloedd o bunnoedd am y gwaith. (Gallwch ddewis gosod ffenestr gwydr dwbl yma ac acw yn unig) Arbedwch hyd at £140 ar filiau ynni a 720kg o CO2 y flwyddyn Beth sydd ei angen arna i? Bydd angen i chi fod yn berchen rhydd-ddaliad yr eiddo lle rydych chi’n byw, a gallu gwneud newidiadau i’w ymddangosiad allanol. Chwiliwch am y logo Arbed Ynni wrth ddewis eich ffenestri gan mai’r rhain yw’r rhai mwyaf effeithlon o ran ynni

  20. A10) System wresogi adnewyddadwy i gymryd lle eich boeler cyfredol Boeler Biomas Sut mae’n gweithio? • Llosgi pelenni, logiau neu sglodion pren fel tanwydd • Llwythwch â llaw neu gyda hopran awtomatig (ar gyfer systemau mwy, drutach) • Rydych chi’n gwresogi’r dŵr ac ystafelloedd eich tŷ heb ddefnyddio nwy a dim llawer o drydan Sut alla i gael un? • Cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (Cymru a Lloegr), Action Renewables (Gog Iwerddon) neu gwmni lleol sy’n gosod systemau gwresogi adnewyddadwy • Bydd yn cynnal arolwg yn eich tŷ, cytuno ar ddyfynbris a gwneud y gwaith • Bydd rhai cwmnïau yn cael gwared â’ch hen foeler

  21. A10) System wresogi adnewyddadwy i gymryd lle eich boeler cyfredol Faint fydd yn ei gostio? Rhwng £5,000 a £14,000 Gallai arbed tua £460 y flwyddyn i chi ar eich biliau ynni, a 6 thunnell o CO2 y flwyddyn Mae costau tanwydd yn dibynnu ar ba mor agos ydych chi at gyflenwr a’r tanwydd rydych chi’n ei ddefnyddio, h.y. sglodion neu belenni Beth sydd ei angen arna i? Lle i storio tanwydd Bydd angen lle nad ydych chi’n byw ynddo fel seler, garej neu ystafell storio ar gyfer y boeler Awyrell sy’n bodloni manylebau Bydd angen i chi brynu tanwydd yn rheolaidd

  22. A11) Pwmp sy’n codi gwres o’r ddaear Pwmp sy’n Codi Gwres o’r Ddaear Sut mae’n gweithio? • Mae’n defnyddio’r ynni sydd wedi’i gloi yn y ddaear yn eich gardd i wresogi’ch cartref a’ch dŵr poeth • Mae’n defnyddio dolen yn y ddaear a phwmp sy’n codi gwres. Yn yr un ffordd ag y mae’ch oergell yn defnyddio oerydd i dynnu gwres o’r tu mewn, mae’n tynnu gwres o’r ddaear, ac yn ei drosglwyddo i’ch cartref Sut alla i gael un? • Cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (Cymru a Lloegr), Action Renewables (Gog Iwerddon) neu gwmni lleol sy’n gosod systemau gwresogi adnewyddadwy • Bydd yn cynnal arolwg yn eich tŷ, cytuno ar ddyfynbris a gwneud y gwaith • Bydd rhai cwmnïau yn cael gwared â’ch hen foeler

  23. A11) Pwmp sy’n codi gwres o’r ddaear Beth sydd ei angen arna i? Lle y tu allan ar gyfer y ddolen ddaear a daear sy’n addas i gloddio ffos neu dwll turio. Mae dolenni fertigol dan y ddaear yn defnyddio llai o le ond yn ddrutach. Gellir cyfuno pympiau gyda rheiddiaduron, ac maent yn gweithio’n well fyth gyda systemau gwresogi dan y llawr neu reiddiaduron mawr. Faint fydd yn ei gostio? Rhwng £6,000 a £12,000 Gallech arbed hyd at £300 mewn tŷ a wresogir gan nwy a hyd at £1000 mewn tŷ a wresogir gan drydan – mwy gyda system wresogi dan y llawr. Arbed 2 i 7.5 tunnell o garbon deuocsid y flwyddyn

  24. A12) Pwmp gwres o’r awyr Pwmp Gwres o’r Awyr Sut mae’n gweithio? • Amsugno gwres o’r tu allan i wresogi adeiladau. • Mae’n gweithio’r un ffordd â’r pwmp sy’n codi gwres o’r ddaear ond yn tynnu gwres o’r aer y tu allan ac yn gwresogi’ch cartref a dwr poeth. • Mae 2 fath; aer-i-aer i wresogi ystafelloedd ac aer-i-ddwr i wresogi dŵr Sut alla i gael un? • Cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (Cymru a Lloegr), Action Renewables (Gog Iwerddon) neu gwmni lleol sy’n gosod systemau gwresogi adnewyddadwy • Bydd yn cynnal arolwg yn eich tŷ, cytuno ar ddyfynbris a gwneud y gwaith • Bydd rhai yn cael gwared â’ch hen foeler

  25. A12) Pwmp gwres o’r awyr Beth sydd ei angen arna i? Lle ar wal allanol y tu allan i’ch tŷ i osod y coil anweddu. Gellir cyfuno pympiau gyda rheiddiaduron, ac maent yn gweithio’n well fyth gyda systemau gwresogi dan y llawr neu reiddiaduron mawr. Faint fydd yn ei gostio? Rhwng £7,000 a £10,000 Gallech arbed rhwng £300 a £850 y flwyddyn ar filiau gwresogi a 800kg i 6 thunnell o garbon deuocsid y flwyddyn

  26. A13)Micro CHP (Gwres a Phwer Cyfunedig) Micro CHP (Gwres a Phwer Cyfunedig Sut mae’n gweithio? • Mae’n cynhyrchu trydan yn ogystal â gwres ar gyfer cartrefi, mewn un broses unigol drwy ddefnyddio injan. • Mae’n defnyddio tanwydd ffosil. Mae’r rhan fwyaf yn rhedeg ar nwy, ond gall rhai ddefnyddio amrywiaeth o danwyddau, gan gynnwys cerosin Sut alla i gael un? • Mae hon yn dechnoleg newydd ac felly gallai fod yn anodd cael gafael arni i ddechrau • Cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (Cymru a Lloegr), Action Renewables (Gog Iwerddon) neu gwmni lleol sy’n gosod systemau gwresogi adnewyddadwy

  27. A13)Micro CHP (Gwres a Phwer Cyfunedig) Beth sydd ei angen arna i? Mae angen galw mawr a sefydlog, 12 awr y diwrnod, 7 niwrnod yr wythnos, i’w wneud yn gosteffeithiol Mae’n rhaid i chi fod â’r bwriad o’i gadw yn yr hirdymor gan na ellir ei symud bob tro Faint fydd yn ei gostio? Rhwng £2,500 a £3,500 Mae’r dechnoleg yn parhau i gael ei threialu. Awgryma ymchwil gychwynnol y gallai arbed rhwng £150 - £215 i chi y flwyddyn ar filiau ynni, a hyd at 1.5 tunnell o CO2 y flwyddyn

  28. A14) Paneli solar i gynhyrchu gwres Paneli solar ar gyfer dwr poeth Sut mae’n gweithio? • Mae’n defnyddio gwres o’r haul i weithio ochr yn ochr â’ch gwresogydd dŵr confensiynol • Mae paneli solar yn cael eu gosod ar eich to ac yn casglu gwres o belydriad yr haul. Defnyddir hwnnw wedyn gan system trosglwyddo gwres i wresogi dŵr sy’n cael ei gadw yn eich silindr dŵr poeth Sut alla i gael un? • Nid oes angen caniatâd cynllunio yng Nghymru a Lloegr, ond mae angen yng Ngogledd Iwerddon • Cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (Cymru a Lloegr), Action Renewables (Gog Iwerddon) neu gwmni lleol sy’n gosod systemau gwresogi adnewyddadwy

  29. A14) Paneli solar i gynhyrchu gwres Beth sydd ei angen arna i? 3-4 metr sgwâr o do sy’n wynebu o’r de-ddwyrain i’r de-orllewin ac sy’n derbyn golau haul uniongyrchol Cawod sy’n rhedeg o’r cyflenwad dŵr poeth – nid trydan System wresogi dŵr gydnaws Faint fydd yn ei gostio? Rhwng £3,000 a £5,000 Gallech arbed tua £60 y flwyddyn ar filiau ynni, a thua 300 kg o CO2 y flwyddyn Gall ddarparu 60% o’r dwr poeth y mae arnoch ei angen

  30. A15) Paneli solar i gynhyrchu trydan Paneli solar i gynhyrchu trydan Sut mae’n gweithio? • Defnyddio ynni’r haul i greu trydan drwy baneli ar eich to • Angen golau haul uniongyrchol i gynhyrchu trydan, ond gall gynhyrchu rhywfaint o bwer ar ddiwrnod cymylog hefyd • Defnyddio celloedd sydd wedi’u gwneud o haenau o ddeunydd lled-ddargludo fel silicon i droi golau’r haul yn drydan Sut alla i gael un? • Nid oes angen caniatâd cynllunio yng Nghymru a Lloegr, ond mae angen yng Ngogledd Iwerddon • Cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (Cymru a Lloegr), Action Renewables (Gog Iwerddon) neu gwmni lleol sy’n gosod systemau gwresogi adnewyddadwy

  31. A15) Paneli solar i gynhyrchu trydan Faint fydd yn ei gostio? Rhwng £9,000 a £15,000 Gallech arbed tua £250 y flwyddyn ar filiau ynni, ac 1 dunnell o CO2 y flwyddyn Gallwch werthu trydan dros ben yn ôl i’r grid Beth sydd ei angen arna i? To neu wal sy’n wynebu o fewn 90 gradd i’r de, heb adeiladau na choed mawr yn ei gysgodi To cryf i gynnal y paneli gan eu bod yn drwm

  32. A16) Tyrbin gwynt bach Tyrbin gwynt Sut mae’n gweithio? • Defnyddio grym y gwynt i gylchdroi llafnau aerodynamig sy’n troi rotor sy’n cynhyrchu trydan • Mae 2 fath o dyrbin: tyrbinau annibynnol wedi’u gosod ar fastiau a thyrbinau wedi’u gosod ar y to • Nid oes gan y mwyafrif o ardaloedd ddigon o wynt iddynt weithio’n effeithiol. Tyrbinau sydd wedi’u gosod ar fastiau ac sy’n dalach nag adeiladau cyfagos yw’r gorau Sut alla i gael un? • Bydd angen cynnal asesiad proffesiynol i ganfod a yw’r gwynt yn ddigon cyflym a bydd angen i chi siarad â’ch cyngor lleol am faterion cynllunio cyn gosod un • Cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (Cymru a Lloegr) neu Action Renewables (Gog Iwerddon) am fanylion gweithiwr proffesiynol addas i’w osod

  33. A16) Tyrbin gwynt bach Beth sydd ei angen arna i? Lle addas i osod y tyrbin, sef copa bryn, sy’n wastad, clir ac agored yn ddelfrydol. Mae angen i’r ardal fod heb ormod o dyrfedd, a heb rwystrau fel adeiladau a choed mawr Ardal sy’n cynhyrchu gwynt ddigon cyflym i sicrhau eich bod yn derbyn digon o drydan Faint fydd yn ei gostio? Rhwng £1,500 a £19,000 Nid oes digon o ddata i wybod faint o CO2 ac arian y gallwch eu harbed. Ystyrir yn gyffredinol bod tyrbinau ar y to yn fuddsoddiadau gwael. Mae rhai annibynnol yn well

  34. Sbardun i ddigwyddiad 1 B) Technolegau ar lefel gymunedol

  35. B1) Fferm wynt Tyrbin gwynt Sut mae’n gweithio? • Defnyddio grym y gwynt i gylchdroi llafnau aerodynamig sy’n troi rotor sy’n cynhyrchu trydan • Gweithio’r un ffordd â thyrbin gwynt bach, ond mae’n llawer mwy ac yn fwy effeithiol. Gellir ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan ar gyfer cannoedd neu filoedd o gartrefi Sut alla i gael un? Mae’r rhain yn darparu pwer ar gyfer nifer o adeiladau yn y gymuned Siaradwch â’ch Cyngor Lleol a dechreuwch drafod â’ch cymdogion

  36. B1) Fferm wynt Faint fydd yn ei gostio? Mae costau’n amrywio’n ôl maint y system. Ar hyn o bryd mae’r mwyafrif o ffermydd gwynt yn cyflenwi’r grid yn uniongyrchol, nid y cartrefi cyfagos. Mae rhai datblygwyr yn cynnig cyfranddaliadau mantais i’r gymuned leol neu swm o arian fel rhodd, weithiau bydd yn % penodol o incwm y fferm wynt. Beth sydd ei angen arna i?Mae’r rhain yn fwyaf addas ar gyfer parciau diwydiannol, ysgolion ac ati. Mae angen copa bryn, sy’n wastad, clir ac agored yn ddelfrydol. Mae angen i’r ardal fod heb ormod o dyrfedd a heb rwystrau fel adeiladau a choed mawr Ardal sy’n cynhyrchu gwynt ddigon cyflym i sicrhau eich bod yn derbyn digon o drydan

  37. B2) Ynni Dwr Graddfa Fechan Ynni Dwr Graddfa Fechan Sut mae’n gweithio? • Defnyddir yr ynni mewn dŵr (ynni potensial neu ynni cinetig) i droi tyrbin sy’n cynhyrchu trydan. • Ceir systemau o feintiau a chynlluniau amrywiol, o’r rhai a ddefnyddir mewn ffrydiau i systemau cymuned gyfan sy’n gallu darparu llawer iawn o drydan. • Mae dau gategori cyffredinol: y rhai sydd angen argae i weithredu, a’r rhai sy’n defnyddio llif yr afon Sut alla i gael un? Cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (Cymru a Lloegr) neu Action Renewables (Gog Iwerddon) Gan fod afonydd yn cael eu diogelu yn y DU, bydd angen cynnal asesiad amgylcheddol ar unrhyw safle posibl.

  38. B2) Ynni Dwr Graddfa Fechan Beth sydd ei angen arna i? Dŵr – naill ai ffrwd, afon neu bwll mawr, llyn neu gronfa ddŵr Dylai’r safle fod mor agos â phosibl at y fan y mae angen y trydan Asesiad amgylcheddol Faint fydd yn ei gostio? Mae’r costau’n amrywio yn ôl maint y system Rhwng tua £20 a £25,000 am gynllun domestig Mae’r costau cynnal a chadw yn barhaus, ond yn isel fel arfer Gall systemau ynni dwr barhau am ddegawdau.

  39. B3) Boeler biomas cymunedol Boeler biomas cymunedol Sut mae’n gweithio? Mae’n addas ar gyfer lefel gymunedol, e.e. stad unigol, bloc o fflatiau, ysgol bentref, eglwys ac ati. Bydd gweithredydd system yn eich cysylltu â’r rhwydwaith a byddwch yn derbyn gwres i’ch system gwres canolog – e.e. eich rheiddiaduron – drwy gyfnewidydd gwres. Mae’n defnyddio defnydd organig (e.e. sglodion coed) fel tanwydd i’r stofiau a’r boeleri. Byddai’r gwres yn cael ei ddosbarthu drwy bibell wres / rhwydwaith gwres Sut alla i gael un? Siaradwch â’ch Cyngor Lleol a dechreuwch drafod â’ch cymdogion

  40. B3) Boeler biomas cymunedol Faint fydd yn ei gostio? Dylech gael eich cysylltu am ddim a thalu i’r gweithredydd am y gwres a ddefnyddir. Bydd yn costio tua’r un faint bob blwyddyn â phrynu nwy a byddwch yn arbed tua 3 tunnell o CO2 y flwyddyn Beth sydd ei angen?Llecyn dwysedd uchel lle gellir cyfiawnhau cost cyfalaf rhwydwaith gwres. Gellir cyflawni hyn orau drwy gysylltu hefyd â busnesau, ysgolion ac ati. Bydd angen system gwres canolog arferol gyda rheiddiaduron ac ati. Bydd y cyfnewidydd gwres yn cymryd llai o le na’ch boeler a thanc dwr poeth.

  41. B4) Pwmp gwres maint diwydiannol Pwmp Gwres Maint Diwydiannol Sut mae’n gweithio? Mae’n addas ar gyfer lefel gymunedol, e.e. stad unigol, bloc o fflatiau, ysgol bentref, eglwys ac ati. Bydd gweithredydd system yn eich cysylltu â’r rhwydwaith a byddwch yn derbyn gwres i’ch system gwres canolog drwy gyfnewidydd gwres. Daw’r gwres o bwmp gwres mawr Sut alla i gael un? Siaradwch â’ch Cyngor Lleol a dechreuwch drafod â’ch cymdogion

  42. B4) Pwmp gwres maint diwydiannol Beth sydd ei angen?Llecyn dwysedd uchel lle gellir cyfiawnhau cost cyfalaf rhwydwaith gwres. Gellir cyflawni hyn orau drwy gysylltu hefyd â busnesau, ysgolion ac ati. Bydd angen system gwres canolog arferol gyda rheiddiaduron a lle i osod y dolenni daear. Bydd y cyfnewidydd gwres yn cymryd llai o le na’ch boeler a thanc dŵr poeth. Faint fydd yn ei gostio? Dylech gael eich cysylltu am ddim a thalu i’r gweithredydd am y gwres a ddefnyddir yn ôl y mesurydd. Dylech ddisgwyl talu yr un faint neu lai na’r hyn rydych chi’n ei dalu am nwy, a byddwch yn arbed tua ½ tunnell o CO2 y flwyddyn.

  43. B5) Gwresogi ardal gyda system gwres a phwer cyfunedig sy’n defnyddio tanwydd biomas neu wastraff Sut mae’n gweithio? • Mae’r gwres dros ben yn cael ei gasglu o system gwres a phwer cyfunedig sy’n defnyddio tanwydd biomas neu wastraff • Mae rhwydwaith o bibelli (wedi’u gosod mewn strydoedd fel pibelli nwy gan weithredydd rhwydwaith) yn cludo dwr poeth ar wres o 90º - 110°C i ddarparu gwres i gartrefi, busnesau ac adeiladau sector cyhoeddus. • Rydych chi’n cysylltu â’r rhwydwaith drwy gyfnewidydd gwres sy’n cymryd lle eich boeler. • Byddwch yn arwyddo contract gyda’r gweithredydd system a fydd yn darparu’r cyfnewidydd gwres a’r mesurydd, yn ei gysylltu â’ch system gwres canolog ac yn cael gwared â’ch hen foeler.

  44. B5) Gwresogi ardal gyda system gwres a phwer cyfunedig sy’n defnyddio tanwydd biomas neu wastraff Faint fydd yn ei gostio? Dylech gael eich cysylltu am ddim a thalu i’r gweithredydd am y gwres a ddefnyddir yn ôl y mesurydd. Dylech ddisgwyl talu yr un faint neu lai na’r hyn rydych chi’n ei dalu am nwy, a byddwch yn arbed tua 3.5 tunnell o CO2 y flwyddyn. Beth sydd ei angen?Llecyn dwysedd uchel lle gellir cyfiawnhau cost cyfalaf rhwydwaith gwres. Gellir cyflawni hyn orau drwy gysylltu hefyd â busnesau, ysgolion ac ati. Bydd angen system gwres canolog arferol gyda rheiddiaduron ac ati. Bydd y cyfnewidydd gwres yn cymryd llai o le na’ch boeler a thanc dŵr poeth.

More Related