1 / 18

brodwaith

brodwaith. Brodweithio Drwy Gymorth Cyfrifiadur. Mae peiriant brodio drwy gymorth cyfrifiadur yn trosi brasluniau sydd wedi cael eu tynnu â llaw neu â chyfrifiadur yn ddyluniadau wedi’u pwytho’n gyflym iawn.

linnea
Download Presentation

brodwaith

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. brodwaith

  2. Brodweithio Drwy Gymorth Cyfrifiadur. Mae peiriant brodio drwy gymorth cyfrifiadur yn trosi brasluniau sydd wedi cael eu tynnu â llaw neu â chyfrifiadur yn ddyluniadau wedi’u pwytho’n gyflym iawn.. Gall dyluniadau fod yn frodwaith sengl syml neu gallant gael eu datblygu’n ddelweddau mwy cymhleth. Gallwch ddefnyddio brodio drwy gymorth cyfrifiadur i osod haenau dros dechnegau eraill megis Bondaweb neu batic. Gellir defnyddio sganiwr llaw neu raglen cyfrifiadurol o’r enw PEdesign i gopio i mewn ddyluniadau.

  3. Dylunio brodwaith ar gyfer clustog 50mm 50mm Gan y byddwn yn defnyddio sganiwr llaw i greu ein logo bydd angen i chi gofio nifer o bethau : 1. Y maint mwyaf i’r logo – pam? 2. Dim ond mewn du y gallwch luniadu’ch dyluniadau – pam? 3. Bydd yn rhaid i chi ystyried y manylder yn eich dyluniadau – dydy’r sganiwr ddim yn gallu ymdopi â mân linellau neu ysgrifennu. Pa un o’r dyluniadau hyn fydd yn sganio orau?

  4. Dylunio brodwaith ar gyfer clustog. Os ydych yn dylunio’n defnyddio cyfrifiadur bydd angen i chi ystyried yr agweddau canlynol: • Gadewch ddigon o le gwag o amgylch y dyluniad pan rydych yn ei luniadu/ argraffu. • gwnewch yn siwr nad yw eich dyluniad yn rhy agos at ymyl y dudalen. Bydd y sganiwr yn nodi ymyl y dudalen ac yn ei gofnodi fel llinell, bydd hyn yn difetha’ch dyluniad. • er mwyn osgoi gwastraffu adnoddau gwiriwch faint eich dyluniad cyn ei argraffu. • argraffwch y dyluniad mewn dau faint gwahanol ar un dudalen – un ychydig yn fwy na’r llall a’r ddau ar wahan ar ganol y dudalen.

  5. Tri sgwar y tu mewn i’w gilydd – dyluniad syml on effeithiol. Dyma’r dyluniad gorau – mae’r cylch yn newid i sgwar. Dydy’r dyluniadau chwyrlïad ddim mor ddiddorol â’r rhai eraill. Mae’r siap amlinellol yn dda iawn ond mae angen i ganol y dyluniad fod yn fwy eglur. Lluniadwch ystod o syniadau posibl ar gyfer brodiweithio drwy gyfrwng cyfrifiadur., Mae’r llinellau trymach yn edrych yn well Pa ddyluniad ydych chi’n hoffi orau a pham?

  6. Sut i ddefnyddio’r peiriant brodweithio Sgrin gyffwrdd Peiriant brodio. Braich frodio Byddwchangen peiriant brodio a ffram frodio blastig.Dewiswch eich dyluniad ar y sgrin gyffwrdd.

  7. Sut i ddefnyddio’r peiriant brodio Gwahanwch dop a gwaelod y ffram. Rhowch edau yn y lliwiau rydych wedi’u dewis ar gyfer y brodwaith yn y peiriant a’r bobin..

  8. Sut i ddefnyddio’r peiriant brodio Gosodwch ffabrig cefnidir yn y ffram. Mae hyn yn helpu i gadw’r ffabrig yn gadarn ac yn atal y dyluniad rhag ymestyn.

  9. Sut i ddefnyddio’r peiriant brodio Gosodwch eich ffabrig yn y ffram, gwiriwch nad yw wedi plyguo gwbl, yn enwedig oddi tanodd. Byddyn rhaid i’r ffabrig fod yn dynn yn y ffram er mwyn i’r peiriant brodio weithio’n iawn.

  10. Sut i ddefnyddio’r peiriant brodio Gosodwch ytop yn y ffram iddal y gwahanol haenau gyda’i gilydd. Gwnewch yn siwr fod y ffabrig yn dynn.

  11. Sut i ddefnyddio’r peiriant brodio Llithrwch y ffram i mewni fraich y peiriant brodio. Gwiriwch fod y ffram i mewn yn iawn acnad yw’r ffabrig wedi plygu yn rhywle oddi tanodd. Gwiriwch fod y brodwaith wedi ei osod yn y lle cywir a’ifody maint cywir. (ar y sgrin gyffwrdd) Sgrin gyffwrdd Braich frodio.

  12. Sut i ddefnyddio’r peiriant brodio Pwyswch y botwm brodio gwyrdd a gadewchi’r peiriantwneud y gwaith i gyd. Bydd wedyn yn dechrau gwnio’ch dyluniad. Os ydych yn cael problemau fel nodwydd neu edau’n torri pwyswch y botwm gwyrdd i stopio’r peiriant. Bydd y peiriant yn eich hysbysu o unrhyw broblemau. . . Botwm cychwyn.

  13. Sut i ddefnyddio’r peiriant brodio Gwiriwch fod popeth yn iawn ( osoes angen gallwch redeg y peiriant eto gan y bydd yn cydweddu gyda’r gweddill cyn i chi symudy ffram neu’r ffabrig). Unwaith rydych wedi gorffen tynnwch y ffram o’r peiriant yn ofalus.

  14. Sut i ddefnyddio’r peiriant brodio Torrwch yr edafedd ar eich brodwaith i’w dacluso ac rydych wedi gorffen! Da iawn.

  15. Esiamplau o ddyluniadau brodwaith Haenau o ffabrig sydd wedi cael eu torri ar ôl brodio. Syniadau dylunio Dyluniadau brodwaith amlinellol. Dyluniad blodau Dyluniadau brodwaith sydd wedi cael eu llenwi

  16. Esiamplau o ddyluniadau brodwaith Ffynonellau ysbrydoliaeth Syniadau dylunio Bwyd yn ysbrydoliaeth Dyluniadau brodwaith amlinellol o ddyluniadau pobi

  17. Esiamplau o ddyluniadau brodwaith

  18. Esiamplau o glustogau sydd wedi’u brodio

More Related