1 / 14

Seiberfwlio

Seiberfwlio. Pan fydd technoleg dda yn mynd yn ddrwg……. Bod yn ddiogel yn seiberofod. Beth ydyw?.

justus
Download Presentation

Seiberfwlio

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Seiberfwlio Pan fydd technoleg dda yn mynd yn ddrwg…….. Bod yn ddiogel yn seiberofod

  2. Beth ydyw? • Mae seiberfwlio’n digwydd pan fydd plant neu bobl ifanc yn eu harddegau’n defnyddio’r we, neu ffonau symudol neu unrhyw fath arall o dechnoleg i fygwth, herian neu godi cywilydd ar berson arall.

  3. Gall technoleg fod yn beth da... • Mae’n caniatáu i bobl gysylltu â’u cyfoedion, eu ffrindiau a’u teuluoedd • Mae’n rhan gadarnhaol, cynhyrchiol a chreadigol o weithgareddau ac o ddatblygu hunaniaeth • Dylid ei hyrwyddo i ddatblygu defnyddwyr technoleg hyderus • Dylid ei defnyddio i hybu arloesedd, e-ddiogelwch a sgiliau llythrennedd digidol

  4. Gall technoleg fod yn beth drwg….. • O’i ddefnyddio’n negyddol, mae’n caniatáu i bobl fwlio eraill drwy gyfrwng: • ffonau symudol • y rhyngrwyd / safleodd rhwydweithio cymdeithasol • y cyfryngau digidol – delweddau, fideos, sain • MSN (negeseuon)

  5. Mae ei effaith yn ymestyn ymhell • gall ddigwydd 24/7 • gall ddigwydd yn y cartref, sydd i fod yn lle ‘diogel’.

  6. Mae ei effaith yn ymestyn ymhell • gall y gynulleidfa fod yn eang iawn • gall fod yn anodd iawn osgoi’r bwli • mae’n aml yn anodd gwybod pwy yw’r seiberfwli gan y gall guddio y tu ôl i enw ffug ac nid yw byth yn yr un lle ffisegol • gall y bwli fod o wahanol genhedlaeth neu gall ddigwydd rhwng cyfoedion/ffrindiau

  7. Ydych chi wedi bod yn seiberfwli? • Ydych chi wedi: • anfon neges heb feddwl • anfon jôc a allai beri gofid i rywun • dweud rhywbeth negyddol ar-lein • meddwl y gellid anfon y neges at grŵp ehangach • postio llun heb ofyn caniatâd y sawl sydd yn y llun yn fwriadol neu’n anfwriadol?

  8. Beth ddylech chi ei wneud yn ei gylch? Cadw tystiolaeth o seberfwlio drwy arbed negeseuon, e-byst a sgyrsiau MSN a chreu sgrin lun o dudalennau gwe.

  9. Beth ddylech chi ei wneud yn ei gylch? Peidiwch ag ateb Peidiwch byth ag ateb neges gas. Os medrwch, blociwch y bwli.

  10. Beth ddylech chi ei wneud yn ei gylch? Dweud wrth rywun • oedolyn y gallwch ymmddiried ynddo • y bobl sy’n rhedeg y wefan, y gwasanaeth technoleg neu ddarparwr y gwasanaeth ffôn. • yr heddlu (achosion difrifol)

  11. Syniadau i atal seberfwlio • Parchu eraill bob amser – cymerwch ofal o’r hyn rydych yn ei ddweud ac yn ei anfon. Mae’n bosibl i negeseuon a delweddau gael eu gweld yn gyhoeddus a gallant fod ar-lein am byth. • Diogelu – eich cyfrifon ysgol a’ch cyfirfon ar-lein a’ch ffôn symudol drwy ddefnyddio cyfrinair – peidiwch â’i ddatgelu i neb! • ‘Ffrindiau’ – dim ond pobl rydych yn eu hadnabod go iawn ac y gallwch ymddiried ynddynt, a neb arall

  12. Os yw’n digwydd i chi… • Peidiwch â defnyddio gwefannau mae’r bwli’n eu defnyddio a blociwch gyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn sy’n anfon negeseuon cas • Gallai newid eich enw defnyddiwr helpu. • Ac, fel ym mhob a achos o fwlio, mae dweud wrth oedolyn am yr hyn sy’n digwydd yn WIRIONEDDOL bwysig hefyd..

  13. Help! • DYWEDWCH WRTH RYWUN • Ffoniwch Childline ar 0800 1111 • Gwefannau defnyddiol….. • www.kidsmart.org.uk • www.digizen.org • www.cybermentors.org.uk

  14. Peidiwch â bod yn rhan o seiberfwlio. O’i weld, gofynnwch am help, a’i stopio.

More Related