1 / 42

CROESO I HYFFORDDIANT CYNRYCHIOLWYR ACADEMAIDD Y MYFYRWYR 2011

CROESO I HYFFORDDIANT CYNRYCHIOLWYR ACADEMAIDD Y MYFYRWYR 2011. Dydd Mawrth 8 fed Tachwedd 2011, y Neuadd Fawr, Undeb y Myfyrwyr 6.30-8.30. #AcademicRepsCSU. 6.30 : Cyflwyniad: Beth yw Cynrychiolydd y Myfyrwyr?: rolau a chyfrifoldebau (Gan yr Is-ganghellor a Sam Reid)

jens
Download Presentation

CROESO I HYFFORDDIANT CYNRYCHIOLWYR ACADEMAIDD Y MYFYRWYR 2011

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. CROESO I HYFFORDDIANT CYNRYCHIOLWYR ACADEMAIDD Y MYFYRWYR 2011 Dydd Mawrth 8fed Tachwedd 2011, y Neuadd Fawr, Undeb y Myfyrwyr 6.30-8.30 #AcademicRepsCSU

  2. 6.30: Cyflwyniad: Beth yw Cynrychiolydd y Myfyrwyr?: rolau a chyfrifoldebau (Gan yr Is-ganghellor a Sam Reid) 7.00: Ymarfer Sgiliau Cyfathrebu (Sarah Halpin, Jason Dunlop) 7.30: Cyflwyniad ar Sgiliau Cyfarfod (Sam Reid) 7.40: Ymarferion sy'n seiliedig ar senarios mewn grwpiau llai 8.20: Crynodeb a Diolch (Sam Reid) 8.30: I'r gegin am damaid o fwyd! (CROESO I BAWB) YR AGENDA

  3. Dr. David Grant Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd

  4. Pwy ydw i? Sam Reid: Swyddog Materion Academaidd a'r Brifysgol Cyfrifoldebau allweddol: • Cynrychioli pob myfyriwr mewn perthynas â holl waith Undeb y Myfyrwyr sy'n ymwneud â'r profiad academaidd • Cynrychioli myfyrwyr ar y pwyllgorau academaidd uchaf yn y Brifysgol • Gwrando ar y Myfyrwyr ac ymgyrchu dros faterion a phryderon allweddol.

  5. Rhedir yr Undeb gan wyth Swyddog Etholedig llawn amser... Ac wyth swyddog rhan-amser! • Olly Smith • Pennaeth Cyfryngau Myfyrwyr • Sarah Halpin • Integreiddio Gofal Iechyd • Ollie Devon • Llywydd yr Undeb Athletau • Chris Davies • Lles a Chyfathrebu • Marcus Coates-Walker • Llywydd • Harry Newman • Swyddog Cymdeithasau • Nick Matthew • Cyllid a Masnach

  6. MAE GENNYM HEFYD WYTH SWYDDOG ETHOLEDIG RHAN-AMSER Swyddog Anableddau Swyddog Moesegol ac Amgylcheddol Cath Mackintosh Alec Care Swyddog Myfyrwyr Aeddfed Swyddog Merched Nick Holbrook Claire Travers Swyddog LGBT+ Swyddog Myfyrwyr Rhyngwladol Kate Boddington Usman Malik Swyddog Ôl-raddedig Swyddog Myfyrwyr Cymraeg Owain Lewis Hassan Alfarra

  7. Canlyniadau Dysgu • Nodi materion ac anghenion myfyrwyr • Gallu cyfleu i fyfyrwyr mai chi yw eu cynrychiolydd • Mynychu cyfarfodydd a chyfleu barn pobl eraill yn ogystal â'ch barn chi eich hun • Codi materion a phryderon myfyrwyr gyda staff ac Undeb y Myfyrwyr • Cysylltu â chynrychiolwyr eraill a'r Undeb mewn perthynas â materion sy'n effeithio ar eu cwrs • Gallu ymgyrchu neu helpu eraill i ymgyrchu (h.y. yr Undeb) yn effeithiol dros faterion perthnasol • Gallu trefnu fforymau a chyfarfodydd myfyrwyr i sicrhau eich bod bob amser yn ymwybodol o'r darlun llawn • Yn olaf, ac yn bwysicach fyth, gweithredu fel cyswllt rhwng myfyrwyr, staff ac Undeb y Myfyrwyr a darparu adborth i'r partïon perthnasol bob amser.

  8. BETH YW UNDEB Y MYFYRWYR? • Rydym yn sefydliad sy'n ceisio hyrwyddo buddiannau ein 29,000 o fyfyrwyr. Ar hyn o bryd, rydym wedi ein rhestru yn y 5ed safle yn y DU, a dyma rai o'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig: Siop Swyddi Cyngor a Chynrychiolaeth Uned Datblygu Myfyrwyr Gwirfoddoli Myfyrwyr (dros 1,000 o fyfyrwyr) Gwasanaeth Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd (y gorau yn y DU) 200 o glybiau a chymdeithasau Clwb nos mwyaf diogel a rhataf Caerdydd Papur newydd, sianel deledu a gorsaf radio myfyrwyr llwyddiannus Man gweithio cymdeithasol di-alcohol newydd – Y Lolfa Undeb Symudol ar gyfer cyrraedd myfyrwyr Cymorth Lles

  9. YN ANNIBYNNOL AR Y BRIFYSGOL Apeliadau Academaidd Cyngor ariannol Y Ganolfan Cynghori a Chynrychioli Camau disgyblu Cyngor ar Dai • Mae hyn yn wahanol i’r Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr yn y Brifysgol. Ni all gynnig cyngor ar apeliadau na chamau disgyblu academaidd. Mae Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr yn cynnig cyngor ar: • Anableddau • Cwnsela • Cymorth bugeiliol • Cyngor ariannol h.y. Cael cymorth ariannol: cronfeydd ariannol wrth gefn. Clust garedig i wrando ar eich problemau

  10. Sut rydyn ni'n defnyddio Cynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr?

  11. Rydym yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi yn rheolaidddros yr e-bost am yr hyn sy'n digwydd yn y Brifysgol • Source of information • Campaigns • e.e. JSTOR a'r prosiect Materion Asesu • Yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol • Digwyddiadau fel y Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr • Ar gyfer grwpiau ffocws am brosiectau a syniadau • e.e. Siarter y Myfyrwyr (2011-12)

  12. CYNRYCHIOLAETH ACADEMAIDD YN Y BRIFYSGOL AC UNDEB Y MYFYRWYR: BLE?

  13. LLYS Llywodraethu SENEDD CYNGOR Safonau Academaidd ac Ansawdd Polisi ac Adnoddau Bwrdd Rheoli'r Brifysgol Penaethiaid Ysgolion Bwrdd Gweithrediadau Strwythur y Brifysgol Rhwydweithiau Polisi Addysg a Myfyrwyr, Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu, Staff ac Amrywiaeth 27 o Ysgolion Academaidd Cydlynydd Cynrychiolwyr y Myfyrwyr Panel Myfyrwyr-Staff

  14. Cynrychiolaeth Myfyrwyr Llys Llywodraethu SENEDD CYNGOR Safonau Academaidd ac Ansawdd Polisi ac Adnoddau Bwrdd Rheoli'r Brifysgol Penaethiaid Ysgolion Bwrdd Gweithrediadau Rhwydweithiau Polisi Addysg a Myfyrwyr, Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu, Staff ac Amrywiaeth 27 o Ysgolion Academaidd Cydlynydd Cynrychiolwyr y Myfyrwyr Panel Myfyrwyr-Staff

  15. Strwythur democrataidd yr Undeb BWRDD CYFARWYDDWYR GUMC BWRDD YMDDIRIEDOLWYR GUMC Y Brifysgol CYFARFOD CYFFREDINOL Referenda Swyddog Materion Academaidd a’r Brifysgol CYNGOR Y MYFYRWYR CYNGOR YR UNDEB ATHLETAU CYNGOR Y CYMDEITHASAU Y CYNGOR ACADEMAIDD CYNRYCHIOLWYR ACADEMAIDD Y MYFYRWYR CLYBIAU’R UNDEB ATHLETAU CYMDEITHASAU Paneli Myfyrwyr-Staff

  16. Strwythur y Gynrychiolaeth Academaidd... Y Brifysgol Swyddog Materion Academaidd a’r Brifysgol STUDENT COUNCIL Y CYNGOR ACADEMAIDD Mae’r Cyngor Academaidd yn cynnwys dau Uwch Gynrychiolydd, un myfyriwr israddedig ac un myfyriwr ôl-raddedig a etholir o bob ysgol. Mae'r Cyngor yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn ac mae'r cyfarfod cyntaf ddydd Llun 5ed Rhagfyr. CYNRYCHIOLWYR ACADEMAIDD Y MYFYRWYR Paneli Myfyrwyr-Staff + Rhwydweithiau Polisi

  17. Beth yw rolau a chyfrifoldebau Cynrychiolydd Academaidd y Myfyrwyr o fewn y system hon?

  18. Rhowch wybod i'r myfyrwyr mai chi yw eu cynrychiolydd • Sicrhewch eich bod yn monitro nodau ac amcanion eich cwrs a sicrhewch fod y nodau a'r amcanion hyn yn cael eu cyflawni gan yr addysgu a gewch, neu'r cymorth y gallai fod ei angen arnoch... • Ewch i gyfarfodydd y Panel Myfyrwyr-Staffa chyfrannwch atynt • Sicrhewch fod staff a myfyrwyr yn parhau i gyfathrebu • Cysylltwch ag Undeb y Myfyrwyr a myfyrwyr eraill

  19. Gweithiwch mewn partneriaeth â chynrychiolwyr eraill ar faterion o bryder cyffredin, boed hwy'n faterion yn eich ysgolion chi neu'n faterion sy'n peri pryder i sawl ysgol. • Rhowch ADBORTH i'ch carfan o fyfyrwyr ar ganlyniadau a goblygiadau cyfarfodydd • Cyfeiriwch faterion o bryder mawr i Undeb y Myfyrwyr neu'r Ganolfan Cyngor a Chynrychiolaeth • Gallwch fod yn aelod o Bwyllgorau a rhwydweithiau polisi amrywiol yn y Brifysgol • Gwnewch yn siŵr bod y myfyrwyr yn gwybod mai chi yw eu cynrychiolydd • Sicrhewch eich bod yn nodau ac amcanion eich cwrs a bod y rhain yn cael eu cyflawni gan yr addysgu a gewch. • Ewch i gyfarfodydd y Panel Myfyrwyr-Staff a chyfrannwch atynt a chynrychiolwch farn eich carfan o fyfyrwyr. • Cynhaliwch drefniadau cyfathrebu rhwng staff a myfyrwyr • Cyfathrebwch ag Undeb y Myfyrwyr (h.y. Y Swyddogion Etholedig... FI yn bennaf)

  20. Pa fath o broblemau y byddwch yn ymdrin â hwy? • Dyddiadau cau cyrsiau • Rhestrau Darllen • Diffyg llyfrau • Costau cudd cyrsiau h.y. taflenni ac ati • Pa mor gyflym y caiff gwaith ei farcio • Asesu: amserlen arholiadau, nifer yr arholiadau ac ati • Darlithiau sy'n cael eu canslo • Problemau gyda thiwtoriaid • Arferion gwahaniaethol • Diffyg cyfleusterau • Llwyth gwaith • D.S. Byddwch yn dod ar draws llawer o faterion nad ydynt yn ymwneud ag ochr academaidd y Brifysgol. Gellir cyfeirio'r materion hyn at bobl eraill, at yr Undeb, at y Gwasanaethau Myfyrwyr ac ati.

  21. Pam bod gennym Gynrychiolwyr Myfyrwyr? • Er mwyn gwneud yn siŵr bod Llais y Myfyrwyr yn sicrhau bod y Brifysgol yn canolbwyntio ar fyfyrwyr. • I hyrwyddo cynhwysiant myfyrwyr yn Strwythur y Brifysgol. • Er mwyn gwella profiad myfyrwyr. • Cyfle i fod yn rhagweithiol a gwneud newidiadau er budd myfyrwyr • Er mwyn casglu barn myfyrwyr • Er mwyn sicrhau bod y Brifysgol yn ymateb i bryderon myfyrwyr ac yn darparu rhaglen addysg fwy effeithiol • Er mwyn nodi syniadau a mentrau newydd a fyddai'n helpu myfyrwyr gyda'u hastudiaethau. • Mae Llais y Myfyrwyr yn un o ofynion proses adolygu'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) ac mae cefnogaeth wleidyddol ar gyfer cynnwys dysgwyr yn fwy.

  22. Mae'n edrych yn dda ar y CV Sgiliau rheoli amser Sgiliau cyfathrebu Rheoli pobl Gwneud gwahaniaeth i'ch addysg CHI Ac addysg eich cyd-fyfyrwyr! Beth yw'r buddiannau i chi o fod yn Gynrychiolydd? Dysgu sut i gyflawni pethau yn y Brifysgol Sgiliau arwain

  23. Myfyriwr yn dod atoch â phroblem Rydych chi'n penderfynu a yw'r broblem yn berthnasol i ochr academaidd y Brifysgol YDY NAC YDY Cyfeiriwch y mater at eich Panel Myfyrwyr-Staff • Cyfeiriwch hwy at y cyswllt perthnasol (os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â'r Swyddog Materion Academaidd a'r Brifysgol) e.e. • Materion lles - Swyddog Lles Undeb y Myfyrwyr NEU • Os yw'r sefyllfa'n un brys, cyfeiriwch y mater at y Swyddog Materion Academaidd a'r Brifysgol a all roi cyngor i chi ar yr hyn i'w wneud a phwy i siarad ag ef. Siaradwch â'ch Cydlynydd Cynrychiolwyr y Myfyrwyr NEU

  24. Chi yw LLYGAID a CHLUSTIAU'r corff myfyrwyr sy'n bwydo gwybodaeth i fforymau uwch fel y gellir delio â materion yn effeithiol er mwyn gwella profiad y myfyriwr.

  25. Ymarfer Cyfathrebu (Sarah Halpin, Swyddog Integreiddio Gofal Iechyd a Jason Dunlop, Prif Weithredwr Undeb y Myfyrwyr)

  26. Crynodeb o'r Ymarfer Cyfathrebu

  27. Crynodeb o'r Ymarfer Cyfathrebu Arolygon papur newydd/ar-lein Gofynnwch i bobl godi eu dwylo mewn darlithoedd Cyhoeddiadau mewn darlithoedd Caffi Syniadau Cynhaliwch drafodaethau â grwpiau seminar, cyn neu ar ôl y dosbarth. Sut y gallwch gyfathrebu â myfyrwyr eraill? Dangoswch yr Adroddiad Blynyddol i bobl a gofynnwch iddynt roi sylwadau arno Negeseuon e-bost Facebook Twitter

  28. Sgiliau Cyfarfod Rhai awgrymiadau o ran sut i fanteisio i'r eithaf ar eich cyfarfodydd...

  29. GWNEWCH Y CANLYNOL • Dewch o hyd i gofnodion blaenorol a'u darllen i weld pa fath o faterion a godwyd yn y gorffennol. • Sicrhewch eich bod yn gwybod sut i gael eitem ar yr agenda • Cynhaliwch gyfarfodydd â chynrychiolwyr myfyrwyr a myfyrwyr eraill cyn y cyfarfod • Paratowch nodiadau os ydych yn bwriadu siarad • Os oes anghydfod ceisiwch helpu i ddod o hyd i ateb • Siaradwch yn glir Os na allwch fynychu, anfonwch eich ymddiheuriadau. • Cymerwch ran yn y cyfarfod... dyma eich cyfle i fynegi eich barn

  30. PEIDIWCH Â GWNEUD Y CANLYNOL • Torri ar draws eraill pan fyddant yn siarad • Bod yn ofn mynegi eich barn ar fater neu godi unrhyw faterion o ddiddordeb. (Gall hyn fod yn broblem, yn enwedig pan fydd aelodau o staff yn yr ystafell) • Colli eich tymer • Peidiwch â bod yn rhy negyddol. Byddwch yn negyddol dim ond pan fydd hynny'n atgyfnerthu eich dadl • Peidiwch â bod yn hwyr gan y bydd hyn yn torri ar draws y cyfarfod.

  31. Beth i'w wneud ar ôl cyfarfod? • Rhowch wybod i fyfyrwyr eraill am yr hyn a ddigwyddodd yn y cyfarfod: • Rhowch adborth iddynt ar lafar neu drwy e-bost ar y prif bwyntiau a drafodwyd • Unwaith y caiff y cofnodion eu hysgrifennu, sicrhewch y cânt eu dosbarthu • Rhowch wybod i'ch carfan o fyfyrwyr os byddwch yn ennill rhywbeth ar eu rhan yn y cyfarfod • (Yn ogystal ag anfon y cofnodion, gallech nodi unrhyw benderfyniadau mawr a wnaed ynghyd â chamau gweithredu allweddol) • Nodwch pwy y bydd angen i chi siarad ag ef nesaf er mwyn rhoi'r camau gweithredu ar waith • Rhowch wybod am yr hyn a ddigwyddodd yn sgîl y cyfarfod diwethaf yn y cyfarfod nesaf. Drwy wneud hyn, gallwch ddwyn unigolion i gyfrif am beidio â chyflawni eu tasgau neu drafod problemau y daethpwyd ar eu traws wrth geisio eu cyflawni.

  32. Os rydych yn gwneud yr holl bethau hyn heb wneud unrhyw gynnydd neu eich bod yn dod ar draws problemau, gallwch gysylltu â'ch uwch gynrychiolydd a all geisio eich helpu. Os na fydd hyn yn bosibl, bydd yn cysylltu â mi ac, fel Undeb, byddwn yn ceisio helpu. ..... MAE'N HOLLBWYSIG BOD Y DDOLEN ADBORTH RHWNG MYFYRWYR, STAFF A'R UNDEB YN UN GAEËDIG o.n. Cofiwch na fydd pob mater a gaiff ei godi o fewn eich cylch gwaith chi, felly cyfeiriwch y materion hyn at y partïon perthnasol. Ch

  33. SENARIOS

  34. YN YSTOD Y SENARIOS DYLECH FOD WEDI: • Ymarfer adnabod y mathau o faterion sy'n cael eu codi • Gofyn i'ch hun: sut mae cael y wybodaeth hon i mewn i’r system? • Yna gofyn i'ch hyn sut y caiff y wybodaeth hon ei bwydo allan o'r system? • Yna dylech fod wedi gwerthuso'r broses, beth fyddai wedi gweithio yn eich ysgol chi ac, os na weithiodd hyn, beth oedd y rheswm am hynny a sut y gallech fod yn fwy effeithiol.

  35. e.e. Senario 1: ADBORTH • Nodwch y materion: Yn gyntaf mae angen i ni nodi pam bod angen i ni siarad am adborth • Weithiau mae staff a myfyrwyr yn gwneud camgymeriadau: Nid yw staff yn darparu digon neu nid yw ansawdd yr hyn a ddarperir yn ddigon da, mae myfyrwyr yn disgwyl lefelau rhy uchel o adborth... Nid yw'r staff a'r myfyrwyr yn gweld llygad am lygad o ran adborth amserol a defnyddiol • Bellach mae gennym bolisi yn y Brifysgol sy'n ymwneud â’r adborth y dylid ei roi • Felly: Mae angen i staff ddarparu adborth amserol a defnyddiol; mae angen i fyfyrwyr wneud defnydd gwell o'r adborth hwn i helpu i wella eu dysgu;

  36. Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl a beth sydd rhaid i chi ei wneud! Adeiladol, defnyddiol ac ystyrlon Defnyddio adborth i symud ymlaen Darllenadwy a chlir Peidiwch ag edrych ar y marc yn unig Amserol - o fewn 4 wythnos Rôl i gynrychiolwyr myfyrwyr?

  37. Yn amlwg nid yw'r adborth a ddarperir yn ddigonol yn ôl safonau'r polisi adborth newydd. • Rhowch gyngor i'r myfyriwr godi'r mater yng nghyfarfod y Panel Myfyrwyr-Staff a chrybwyll bod y polisi adborth yn bodoli am reswm ac y dylid ei weithredu'n unol â hynny. • Yna caiff hyn ei nodi yn y cofnodion, a dylai eich uwch gynrychiolydd gyfeirio'r mater at y Cyngor Academaidd a rhoi gwybod i'r Swyddog Materion Academaidd a'r Brifysgol. • Os nad yw'r sefyllfa wedi gwella erbyn cyfarfod nesaf y Panel Myfyrwyr-Staff, codwch y mater eto ac yna ystyriwch godi’r mater gyda Phennaeth eich Ysgol neu'r Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu.

  38. Crynodeb

  39. Yr hyn y mae Undeb y Myfyrwyr yn ei ddisgwyl gan Gynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr: • Dylech fod yn barod ar gyfer cyfarfodydd y Paneli Myfyrwyr-Staff. • Dylech roi adborth rheolaidd i fyfyrwyr ar yr hyn sy'n digwydd yn y cyfarfodydd. • Ceisiwch farn myfyrwyr cyn codi materion gyda'r panel • Dylech wybod ble i gyfeirio myfyrwyr yn dibynnu ar y mater dan sylw • Sicrhewch fod myfyrwyr eraill yn ymwybodol ohonoch. • Os nad yw materion yn cael eu datrys, dylech wybod pwy i gysylltu ag ef: h.y. Swyddog Academaidd/y Ganolfan Cynghori a Chynrychioli/Pennaeth Ysgol

  40. Yr hyn y gall Cynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr ei ddisgwyl gan Undeb y Myfyrwyr: • Cymorth: • Cymorth o ran dwyn materion i sylw'r Brifysgol • Cymorth ar ffurf canllawiau ymhob rhan o strwythurau amrywiol yr Undeb a'r Brifysgol. • Byddwn yn eich cefnogi gyda materion yr hoffech ymgyrchu drostynt • Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy'n digwydd yn y Brifysgol • Hyfforddiant rheolaidd i wella eich sgiliau h.y. Hyfforddiant i gadeiryddion ac ysgrifenyddion y Paneli Myfyrwyr-Staff, hyfforddiant Uwch Gynrychiolwyr.

  41. Canlyniadau Dysgu • Nodi materion ac anghenion myfyrwyr • Cyfleu i fyfyrwyr mai chi yw eu cynrychiolydd • Mynychu cyfarfodydd a chyfleu barn pobl eraill yn ogystal â'ch barn chi • Codi materion a phryderon myfyrwyr gyda staff ac Undeb y Myfyrwyr • Cysylltu â chynrychiolwyr eraill a'r Undeb mewn perthynas â materion sy'n effeithio ar y cwrs • Ac yna ymgyrchu neu helpu pobl eraill i ymgyrchu (h.y. yr Undeb) yn effeithiol dros faterion perthnasol • Trefnu fforymau a chyfarfodydd myfyrwyr i sicrhau eich bod bob amser yn ymwybodol o'r darlun llawn • Yn olaf, ac yn bwysicach fyth, gweithredu fel cyswllt rhwng myfyrwyr, staff ac Undeb y Myfyrwyr a darparu adborth i'r partïon perthnasol bob amser.

  42. DIOLCH Peidiwch ag anghofio am yr Hyfforddiant i Gynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr ar 8fed Tachwedd 2011 am 6.30pm yn y Neuadd Fawr (SUON) SwyddogAcademaidd@caerdydd.ac.uk 02920781428

More Related