1 / 8

At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1

At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1. Cerddoriaeth - Offerynnol TECHNEG OFFERYNNOL. Tasg 1 – Ymlacio yn eich osgo (sefyll). Sefwch â’ch cefn yn syth, gan gadw: eich clustiau’n uniongyrchol uwchben eich ysgwyddau; eich ysgwyddau uwchben eich cluniau;

huey
Download Presentation

At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBACUned 1 ac Uned 3 Tasg 1 Cerddoriaeth - Offerynnol TECHNEG OFFERYNNOL

  2. Tasg 1 – Ymlacio yn eich osgo (sefyll) • Sefwch â’ch cefn yn syth, gan gadw: • eich clustiau’n uniongyrchol uwchben eich ysgwyddau; • eich ysgwyddau uwchben eich cluniau; • eich traed ar wahân yn wynebu pum munud i un; • eich dwylo’n dal/cynnal eich offeryn neu ar yr allweddau. • Gyda gweddill y dosbarth dangoswch a chymharwch sut mae osgo da a gwael wrth sefyll yn effeithio ar chwarae gwahanol offerynnau.

  3. Tasg 2 - Ymlacio yn eich osgo (eistedd) • Eisteddwch â’ch cefn yn syth, gan gadw: • eich clustiau’n uniongyrchol uwchben eich ysgwyddau; • eich ysgwyddau uwchben eich cluniau; • eich traed yn gadarn ar lawr; • eich sodlau ychydig y tu ôl i goesau blaen y gadair; • eich dwylo’n dal/cynnal eich offeryn neu ar yr allweddau. • Gyda gweddill y dosbarth dangoswch a chymharwch sut mae osgo da a gwael wrth eistedd yn effeithio ar chwarae gwahanol offerynnau.

  4. Tasg 3 - Anadlu (chwythbrennau ac offerynnau pres) • Dechreuwch bob amser ag ymarferion anadlu i ddatblygu eich techneg. Dyma un ymarfer ichi roi cynnig arni : • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ymlacio’n llwyr. • Anadlwch allan i wagu’r ysgyfaint yn llwyr. • Anadlwch i mewn a gadael i gyhyrau’r bol ymlacio tuag allan, a theimlo eich asennau’n ehangu tuag allan. • Chwaraewch un nodyn a chadw’ch asennau wedi’u gwthio allan am gyhyd ag y gallwch. • Peidiwch â newid y nodyn o ran traw na chryfder, gweithiwch ar sain gyson a chyfoethog.

  5. Tasg 4 - Anadlu (chwythbrennau ac offerynnau pres) • Daliwch ati â’r ymarferion anadlu wrth ymarfer er mwyn datblygu eich techneg. Dyma un ymarfer ichi roi cynnig arni: • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ymlacio’n llwyr. • Anadlwch allan i wagu’r ysgyfaint yn llwyr. • Anadlwch i mewn a gadael i gyhyrau’r bol ymlacio tuag allan, a theimlo’ch asennau’n ehangu tuag allan. • Chwaraewch un nodyn a chadw’ch asennau wedi’u gwthio allan gan gyfrif i 10, ac wedyn i 15, 20. • Gwnewch yr ymarfer eto ond gan ddefnyddio cymal penodol allan o ddarn o gerddoriaeth.

  6. Tasg 5 – Brawddegu • Dylech geisio brawddegu drwy ddilyn marciau’r sgôr; fel rheol bydd y rhain wedi’u marcio â marc brawddegu, tawnodau yn yr alaw neu bwynt diweddeb. • Penderfynwch ar ddarn rydych chi’n ei wybod yn barod. • Canolbwyntiwch ar chwarae’r darn gan roi sylw i’r marciau brawddegu ac wedyn heb gymryd sylw o gwbl (gallwch greu eich marciau brawddegu eich hun). • Trafodwch gydag eraill sut mae hyn yn effeithio ar y perfformiad cyffredinol. • Gwrandewch ar recordiadau o offerynwyr eraill a marciwch ar gopi sut maen nhw’n rhoi sylw i’r brawddegu.

  7. Tasg 6 – Creu sain dda • Mae gan bob offeryn sain/tôn unigryw. Rhaid canolbwyntio bob amser ar greu’r ‘ansawdd sain’ gorau posibl; wnaiff hyn ddim ond datblygu gyda digonedd o ymarfer ac amser! • Mewn grŵp, dangoswch sain dda / wael ar eich offeryn eich hun i eraill a gofynnwch i’r grŵp am eu sylwadau ar y sain. • Gallent nodi sut roedd y ddwy sain yn wahanol. • Beth yw’r gofynion ar offeryn penodol er mwyn creu sain dda?

  8. Tasg 7 – Cynhesu i’r traw • Dysgwch alaw syml yn unsain mewn grŵp. • Rhannwch yr alaw rhwng yr holl offerynnau yn y grŵp, gan roi un nodyn i bob offeryn ei chwarae yn ei dro. • Ceisiwch berfformio fel grŵp. • Beth sy’n hawdd ac yn anodd am y dasg hon? • Ceisiwch amrywio’r tempo a’r ddynameg yn ystod y darn.

More Related