1 / 22

Rhagenw perthynol

Rhagenw perthynol. Beth yw rhagenw perthynol?. Mae’r rhagenw perthynol yn cyfateb i ‘which’ neu ‘that’ yn Saesneg. Ystyriwch y brawddegau canlynol: Roedd y ferch a g anodd yn y cyngerdd yn wych. Dyma’r lleidr a w elwyd ar y teledu neithiwr. Mae’r nofel a dd arllenais yn dda.

hong
Download Presentation

Rhagenw perthynol

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Rhagenw perthynol

  2. Beth yw rhagenw perthynol? Mae’r rhagenw perthynol yn cyfateb i ‘which’ neu ‘that’ yn Saesneg. Ystyriwch y brawddegau canlynol: Roedd y ferch aganodd yn y cyngerdd yn wych. Dyma’r lleidr awelwyd ar y teledu neithiwr. Mae’r nofel addarllenais yn dda. Roedd y wers agefais heddiw’n ddiddorol. * Sylwch ar y TREIGLAD MEDDAL sy’n dilyn y rhagenw perthynol *

  3. Pryd fyddwn i’n defnyddio rhagenw perthynol? Rydym yn defnyddio rhagenw perthynol ar ddechrau cymal perthynol/ansoddeiriol. Gwaith y cymal hwnnw yw rhoi gwybodaeth ychwanegol i ni am y goddrych yn y prif gymal e.e. Roedd y bachgenawelais ar y teledu neithiwr, yn canu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst. Rydyn ni’n cael mwy o wybodaeth am y ‘bachgen’ yn y prif gymal

  4. Sut i ddefnyddio’r rhagenw perthynol ‘a’? • Mae’n bwysig cofio mai dechrau cymal fyddwn ni gyda’r rhagenw perthynol ‘a’. • Y gyfrinach yw creu prif gymal syml, ac yna ychwanegu ein gwybodaeth am y goddrych yn y prif gymal drwy greu cymal perthynol/ansoddeiriol.

  5. Mae’r rhagenw perthynol ‘a’ yn cymryd lle enw ac ymuno dwy frawddeg e.e. Dyma Sion. Achubodd Sion yr eneth. Yn hytrach nag ail-adrodd Sion, gallwn ddefnyddio’r rhagenw perthynol i ymuno’r ddwy frawddeg ac ychwanegu ein gwybodaeth am Sion. e.e. Dyma Sion a achubodd yr eneth

  6. Gwelwn fod yr ‘a’ yn gwneud yn lle yr enw Sion, mae’n cyfeirio’n ôl at Sion. Mae Sion felly’n RHAGFLAENYDD i’r rhagenw perthynol ‘a’: Dyma Sionaachubodd yr eneth o’r afon Hwn yw’r dyna saethodd y ci defaid Caia losgodd ei wallt yn fflam y gannwyll

  7. SYLWER… Mae’n beth doeth cadw’r rhagenw perthynol yn agos at ei ragflaenydd e.e. Dyma’r fercha welais neithiwr. Cafodd y planta dorrodd y ffenestr ffrae gan yr athro.

  8. Creu cymal perthynol… Beth am greu cymal perthynol yn dilyn y canlynol: Roedd y ferch… Mae’r plant… Bydd yr athro… Mae’r gân… Clywodd y plismon… Cofiwch gychwyn pob cymal gydag ‘a’

  9. Beth am greu? Isod, mae cychwyn y cymal wedi ei roi i chi. Cofiwch greu prif gymal syml o’i flaen a chreu brawddeg ystyrlon e.e. a welodd Roedd y ferch a welodd y ddamwain ddoe wedi dychryn yn arw.

  10. Creu brawddegau… a gafodd a welais a ddarllenais a ganodd a enillodd Byddwch yn gwirio gwaith eich gilydd ar ôl creu’r brawddegau

  11. Rhagenw perthynol negyddol Y ffurf negyddol yw ‘na’/‘nad’ e.e. Dywedodd y ferch na chafodd ei dewis ei bod yn siomedig iawn. Mae’r cymal perthynol yn rhoi mwy o wybodaeth i ni am y ‘ferch’ yn y prif gymal.

  12. Beth am greu cymalau gyda’r rhagenw perthynol negyddol… Roedd y ferch… Mae’r plant… Bydd yr athro… Mae’r gân… Clywodd y plismon… Cofiwch gychwyn pob cymal gyda’r rhagenw perthynol ‘na’

  13. Creu brawddegau… na freuddwydiodd nad oedd na chafodd na welais na ddewiswyd Byddwch yn gwirio gwaith eich gilydd ar ôl creu’r brawddegau

  14. Rhagenw perthynol ‘y’/’yr’ Defnyddir y rhagenw perthynol Y, YR neu ‘R pan ddylynir y rhagenw perthynol gan ragenw personol neu arddodiad personol Rhagenw personol = fy, dy, ei, ein, eich, eu Arddodiad personol = arddodiad rhedadwy e.e. arno fo, amdanyn nhw, iddi hi, wrthon ni, ganddyn nhw, ata i a.y.y.b.

  15. Enghraifft Dyma’r car yr eisteddodd yr eliffant arno. Dyma’r dyn y gwelais ei gar yn yr afon. Yma, mae arddodiad rhedadwy yn dilyn y rhagenw perthynol. Yma, mae rhagenw personol yn dilyn y rhagenw perthynol

  16. Creu brawddegau… Wrth greu brawddegau yn defnyddio’r rhagenw perthynol ‘y’, ‘yr’ neu ‘’r’, mae’n hanfodol bwysig fod arddodiad rhedadwy neu ragenw personol yn y frawddeg. Mae’n bwysig creu prif gymal syml.

  17. Beth am greu? y clywais yr anfonodd y darllenais y cofiodd y breuddwydiais Gwirio Oes gennych chi arddodiad rhedadwy neu ragenw personol dilyn y rhagenw perthynol yn eich brawddeg?

  18. Ble mae’r gwallau? Dyma’r man a welais ei ysbryd neithiwr. Sylwch DOES DIM TREIGLAD AR ÔL Y RHAGENW PERTHYNOL ‘Y’

  19. Mae’r merch a ddarllenais amdani yn diddorol iawn.

  20. Mae’r disgybl a anfonodd y prifathro llythyr ato, wedi ei wahardd am camymddwyn.

  21. Mae’r coeden derwena welais ei lun yn y papur wedi tyfu’n anferth.

  22. Crynhoi… • Rydym yn defnyddio rhagenw perthynol ar ddechrau cymal perthynol/ansoddeiriol • Mae treiglad meddal ar ôl y rhagenw perthynol ‘a’ • Rhaid defnyddio’r rhagenw perthynol y, yr neu ‘r pan fydd rhagenw personol neu arddodiad rhedadwy yng ngweddill y frawddeg

More Related