1 / 10

Bywyd ym mhentref Boinyatso

Bywyd ym mhentref Boinyatso. Mae’r teulu Mahloane yn byw ym mhentref Boinyatso, un o’r pentrefi sydd yn anfon eu plant i Ysgol Maliele. Pentref bach traddodiadol yw Boinyatso yng nghysgod Mynydd Seqoqong. Y pentref o ben mynydd Seqoqong.

hoai
Download Presentation

Bywyd ym mhentref Boinyatso

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Bywyd ym mhentref Boinyatso Mae’r teulu Mahloane yn byw ym mhentref Boinyatso, un o’r pentrefi sydd yn anfon eu plant i Ysgol Maliele. Pentref bach traddodiadol yw Boinyatso yng nghysgod Mynydd Seqoqong. Y pentref o ben mynydd Seqoqong

  2. Ceir dau fath o dŷ yn y pentref – tŷ crwn (rondhabole) a thŷ sgwâr (heisi). heisi rondhabole

  3. Mae’r waliau wedi’u gwneud o gerrig a’r toeau o’r brwyn sydd yn tyfu ar lan yr afon. Gan fod llawer o’r teuluoedd yn fawr fel y teulu Mahloane, mae angen adeiladu mwy nag un tŷ ar eu darn o dir yn aml. Nid oes trydan na dŵr yn y tai. Ers talwm roedd y gwragedd yn cario dŵr o’r afon, ond bellach mae tap dŵr yng nghanol y pentref.

  4. Tra bod gan y teulu Mahloane gegin yn yr heisi, mae’r mwyafrif o’r gwragedd yn coginio ar dân coed tu allan. Fel llawer o wragedd ar draws Affrica mae Rethabile yn gallu cario llond pwced o ddŵr ar ei phen.

  5. Cynnau tân ar gyfer gwneud swper. Sosban papa yn ffrwtian.

  6. Y gwragedd sydd yn gyfrifol am y cartref. Hwy sydd yn gofalu am y plant a pharatoi’r bwyd yn ogystal â chasglu coed tân, plannu a chynaeafu’r cnydau grawn a llysiau. Plastro’r tŷ efo cymysgedd o glai a baw gwartheg. Mae Mmalekhola yn malu grawn.

  7. Y dynion a’r bechgyn sydd yn aredig y tir ac yn edrych ar ôl yr anifeiliaid. Yn fuan ar ôl i’r ceiliogod gyhoeddi ei bod yn gwawrio bydd y bechgyn yn gadael y pentref gyda’r gwartheg i dreulio’r diwrnod yn crwydro’r wlad yn chwilio am borfa. Khefa a’i wartheg yn gadael y pentref ar ddechrau diwrnod arall. Ntate Mphdolo y ffermwr ar fin cychwyn i chwilio am rai o’i wartheg.

  8. Byddant yn dychwelyd fel mae hi’n nosi ac yn rhoi’r gwartheg yn y Kraal (corlan) dros nos. Mae perchnogaeth anifeiliaid, yn arbennig gwartheg, yn arwydd o statws a chyfoeth, yn ogystal â chael eu defnyddio i dynnu’r gwydd ac i wrteithio’r tir. Mae Morena (pennaeth) Lekhotla yn ddyn pwysig iawn yn y pentref. Gwartheg y pennaeth yn gwisgo cadwyni crand. Morena Lekhotla

  9. Mae’n gwrando ar gwynion pobl ac yn penderfynu ar y ffordd orau i ddatrys problemau. Y rheswm mwyaf cyffredin dros gwyno yw gwartheg un ffermwr yn crwydro ar dir ffermwr arall ac yn bwyta yr india corn a’r ffa. Does dim cloddiau na ffensys yn Lesotho! Ar ddiwedd y prynhawn, a phawb wedi dod adref o’r ysgol, mae’r pentref yn llawn o sŵn plant allan yn chwarae. Does dim teledu, cyfrifiadur na Game Boy i’w cadw yn y tŷ wrth gwrs! Wedi’i wneud o duniau a photeli plastig, mae’r car modur hwn yn gweithio’n gampus. Chwarae tŷ bach.

  10. Mae canu a dawnsio traddodiadol yn chwarae rhan flaenllaw ym mywyd dyddiol plant ac oedolion Boinyatso. Mae Tsotheho yn chwarae ei Mamokhorong i ddiddori y gwartheg yn ystod y dydd. Genethod ifanc yn ymarfer dawns draddodiadol. Roedd bywyd yn Boinyatso yn ddifyr iawn a daeth yr wythnos i ben yn rhy gyflym o lawer. Gyda thristwch mawr y ffarwelwyd â’r teulu Mahloane, Morena Lekhotla a thrigolion y pentref bach hapus hwn yng nghanol Affrica.

More Related