1 / 13

Sut i wneud bag llaw

Sut i wneud bag llaw. Dewis o rubannau. Dewis o edau ar gyfer pwythau cyferbyniol a gwneud. siswrn. Dewis o ffabrig (20cm x 30cm yw maint y bag rydyn ni’n ei argymell). Dewis o fotymau. Dewis o secwinau. handlenni. Rhai o’r pethau y byddwch eu hangen i wneud bag llaw. Pinnau (sylwch

golda
Download Presentation

Sut i wneud bag llaw

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Sut i wneud bag llaw Dewis o rubannau Dewis o edau ar gyfer pwythau cyferbyniol a gwneud siswrn Dewis o ffabrig (20cm x 30cm yw maint y bag rydyn ni’n ei argymell) Dewis o fotymau Dewis o secwinau handlenni Rhai o’r pethau y byddwch eu hangen i wneud bag llaw.

  2. Pinnau (sylwch sut y maent wedi cael eu gosod) Rhubannau cyferbyniol Pwythau rhedeg i dacio’r rhubannau. Cam 1 Ychwanegu nodweddion addurnol. Dewiswch y rhubannau a’r addurniadau i’r bag. Gwiriwch fod y lliwiau’n gweddu i’w gilydd neu’n gyferbyniol ayyb. 2. Piniwch y rhubannau yn eu lle. 3. Taciwch y rhubannau’n defnyddio tacio neu bwythau rhedeg – Pam? 4. Pwyth hawdd sy’n mynd i fyny ac i lawr yw pwyth rhedeg.

  3. Ychwanegu pwythau tacio Cam 2 Pwyth rhedeg i dacio’r rhubannau i gyd. Taciwch y rhubannau i gyd a thynnwch bob un pin. Mae tacio’r rhubannau’n ei gwneud hi’n haws i wnio ar y peiriant – dydy’r pinnau ddim ar y ffordd. Dylai’r tacio fynd i mewn ac allan o’r ffabrig er mwyn gosod y rhuban yn sownd ar y ffabrig.

  4. Cam 3 Ychwanegu nodweddion addurnol eraill – peiriant gwnio. Pwyth rhedeg i dacio’r rhubannau i gyd. 1. Dewiswch eich pwythau addurnol, mae canllaw yn help i gael llinell syth. Beth allech chi ei ddefnyddio fel canllaw? Troed y peiriant gwnio 2. Daliwch ati i ychwanegu pwythau i’r bag nes bod pob un rhuban wedi cael ei osod i greu patrwm deniadol. 3. Tynnwch bob un o’r pwythau tacio. Pwyth igam ogam mewn pwythau lliw gwahanol.

  5. Cam 4 Tacluso’r ymylon crai. Yna ei blygu i lawr, ei smwddio a’i wnio. Pwythau igam ogam ar yr ymyl crai sydd ar dop y bag. 1. Tacluswch yr ymylon crai sydd ar dop y bag. Pa bwyth allech chi ddefnyddio? 2. Cofiwch dacluso’r ymyl crai sydd ar gefn y bag. 3. Plygwch 3cm i lawr o ymyl ucha’r/top y bag sydd wedi cael ei dacluso. Tynnu’r pwythau tacio.

  6. Pwyth syth. Pinnau Cam 5 Troed y peiriant gwnio Tacluso top y bag – y blaen. 1. Smwddiwch yr ymyl top. 2. Adiwch binnau – pa ffordd dylai pennau’r pinnau wynebu? 3. Pwythau syth ar hyd ymyl y ffabrig - Ble dylid gosod ymyl troed y peiriant gwnio? 4. Cofiwch dacluso’r ymylon blaen a’r ymylon sydd ar gefn y bag. Plygwch drosodd tua 3cm ar yr ochr tu chwithig. Ochr anghywir y ffabrig

  7. Troed y peiriant gwnio Cam 6 Rhan gefn y bag. pinnau Rhan gefn y bag. Byddwch angen ail ddarn o ffabrig sy’n union yr un maint â’r darn cyntaf. Yna dilynwch yr un camau i dacluso’r top. 1. Pwythau igam ogam ar y top 2. Plygwch drosodd 3cm a’i smwddio. 3. Pwythau syth i’w gadw’n ei le. Pwyth syth. Ail ddarn o ffabrig Blaen y bag –edrych o’r cefn.

  8. Cam 6a Ymylon wedi’u tacluso Pwythau igam ogam ac yna pwyth syth. Nawr dylech fod â dau ddarn o ffabrig sy’n edrych yn debyg i hyn. Ar un darn mae rhubanau a phwythau addurno, mae’r ail ddarn yn blaen. Nawr bydd rhaid i chi roi’r ddau darn at ei gilydd i greu’r bag. Ochr gywir ffabrig 1 Ochr anghywir ffabrig 2 Rhubanau a phwythau addurno.

  9. Gosod yr ymylon sydd ar y dde gyda’i gilydd. Cam 7 Rhoi’r bag gyda’i gilydd. Gosodwch binnau yr holl ffordd o amgylch y bag. Bydd angen dal cefn a blaen y bag gyda’i gilydd. Defnyddir semau i wneud hyn. Sêm ydy dau ddarn o ffabrig sydd wedi cael eu pwytho at ei gilydd. 1. Gosodwch gefn a blaen gyda’r ochr gywir at ei gilydd. 2. Rhowch binnau i ddal cefn a blaen y bag gyda’i gilydd -Ydych chi’n cofio unrhyw reol am sut i osod y pinnau?

  10. Troed y peiriant gwnio Cam 7 Gwneud y semau - 2 1. Defnyddiwch bwythau syth i wneud bag sydd ar siap U. 2. Dechreuwch yn y gornel top ar y chwith a rhedeg rhai pwythau ar i lawr, yna gwrthdroi, ac yna parhau ymlaen at y gornel sydd ar y dde yn y gwaelod gan STOPIOychydig cyn y diwedd – y nodwydd yn dal yn y ffabrig – pam? 3. Codwch y droed – 90 gradd ac yna pwythau syth ar hyd y gwaelod – Ble rydych chi’n stopio? 4. Unwaith eto STOPIWCH – y nodwydd yn y ffabrig – trowch 90 gradd – ac yna pwythau syth i dop y bag ac yna gwrthdroi a rhoi rhai pwythau ar i nôl.

  11. Pwyth igam ogam Cam 8 Sylwch ar y pwythau igam ogam – pam mae dau ohonynt yn anghywir? Tacluso’r ymylon crai 1. Sut mae hi’n bosibl tacluso’r ymylon crai? 2. Gosodwch y peiriant i wneud pwythau igam ogam. Dechreuwch ar y chwith yn y top – i lawr at waelod y bag. 3. Nodwydd i lawr a throwch 90 gradd ac ar hyd y gwaelod. STOP. 4. Nodwydd i lawr yn y ffabrig – trowch 90 gradd a phwythau igam ogam ar hyd top y bag – pwyth gwrthdro. Adolygu’n sydyn!

  12. Cam 8 Tacluso’r corneli Pwyth igam ogam Unwaith rydych wedi pwytho’r holl ffordd o amgylch y bag ac wedi defnyddio pwythau igam ogau i dacluso’r ymylon y cam nesaf yw torri ymylon y corneli. Bydd torri’r ffabrig sydd dros ben yn gwneud y corneli’n daclus a gwastad pan rydych yn troi’r bag y ffordd iawn. Byddwch yn ofalus i beidio torri trwy’r pwythau syth neu bydd gennych dwll yn eich bag!! Pwyth syth. Byddwch yn ofalus i beidio torri heibio fan hyn. Os ydych yn ansicr gofynnwch i’ch athro am gymorth. Torri’r corneli i ffwrdd.

  13. Opsiwn 1. Handlen hir Opsiwn 2. Dwy handlen fer. Da iawn, rydych wedi cwblhau eich bag. Cam 9 Cwblhau’r bag. 1.Trowch y bag y tu chwith allan a’i presiwch gyda haearn smwddio cynnes. 2. Rhowch handlen y bag yn sownd – efallai y bydd angen i’ch athro eich helpu i wneud hyn. 3. Cymerwch ofal wrth smwddio’r rhubannau, gall ffabrig synthetig. doddi.

More Related