1 / 41

Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio? . Mae’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol yn arolwg ar-lein ar ddisgyblion 7-16 oed ac ar yr athrawon sy’n gyfrifol am gyflwyno addysg gorfforol (AG) a chwaraeon ysgol.

fisk
Download Presentation

Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio? • Mae’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol yn arolwg ar-lein ar ddisgyblion 7-16 oed ac ar yr athrawon sy’n gyfrifol am gyflwyno addysg gorfforol (AG) a chwaraeon ysgol. • Gwahoddir pob ysgol yng Nghymru sydd â disgyblion 7 i 16 oed i gymryd rhan. • Mae’n edrych yn fanwl ar gyfranogiad plant a phobl ifanc mewn chwaraeon yn yr ysgol ac yn y gymuned, ac yn casglu gwybodaeth gan athrawon am y ddarpariaeth o weithgareddau AG a chwaraeon amrywiol mewn ysgolion ledled Cymru. • Mae’n ein helpu ni i ddeall y rôl y mae AG a chwaraeon yn ei chwarae mewn cyfrannu at les corfforol, cymdeithasol ac emosiynol y disgyblion i gyd. • Mae data’r arolwg yn galluogi i Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru gofnodi tueddiadau’r cyfranogiad mewn chwaraeon ac yn darparu tystiolaeth i helpu i ddylanwadu ar bolisïau chwaraeon ac i gynllunio’r gwaith o gyflwyno chwaraeon ledled Cymru.

  2. Edrych yn ôl ar Arolwg 2011 ar Chwaraeon Ysgol... Derbyniwyd bron i 40,000 o ymatebion gan ddisgyblion – derbyniwyd mwy na 27,000 o ymatebion yn ystod tair wythnos derfynol y gwaith maes. Cymerodd 580 oysgolion ran yn yr arolwg ar ddisgyblion, yr arolwg ar y ddarpariaeth neu’r ddwy elfen (432 cynradd a 148 uwchradd). Ar gyfartaledd, cymerodd y disgyblion 29.5 munud i lenwi’r arolwg - 37.8 munud i ddisgyblion cynradd a 23.7 munud i ddisgyblion uwchradd. Derbyniodd tîm ymchwil Chwaraeon Cymru fwy na 600 o ymholiadau am yr arolwg yn ystod cyfnod y gwaith maes, gan ysgolion yn bennaf ac yn ystod mis terfynol y gwaith maes yn bennaf. Cymhwysodd 198 o ysgolion – (149 o ysgolion cynradd a 49 o ysgolion uwchradd) i dderbyn adroddiadau unigol ar eu canlyniadau. Derbyniodd Blaenau Gwent, Conwy a Sir Benfro gyfres lawn o ganlyniadau. Cymhwysodd Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Thorfaen i gael dwy neu fwy o elfennau o ganlyniadau arolwg.

  3. Cynulleidfaoedd Allweddol • Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru – sylfaen i ddylanwadu ar bolisïau chwaraeon, monitro a chofnodi tueddiadau mewn cyfranogiad a darpariaeth ledled Cymru; • Ysgolion ac Arolygwyr Estyn – mae’n darparu tystiolaeth am sut mae chwaraeon ac AG yn yr ysgol yn cyfrannu at les disgyblion, gan ganolbwyntio ar y canlyniadau yn y Fframwaith Arolygu Cyffredin; • Awdurdodau lleol / Rhanbarthau / Consortia – data yn sail i gynllunio a chyflwyno lleol; • Cyrff rheoli cenedlaethol – edrych yn fanwl ar chwaraeon unigol penodol yn sail i gynllunio lleol, rhanbarthol a chenedlaethol; • Disgyblion a Llysgenhadon Ifanc.

  4. Manteision cymryd rhan Ysgolion

  5. Manteision cymryd rhan • Bydd yr ysgolion sy’n sicrhau sampl gytbwys o ymatebion yn derbyn adroddiad unigol ar eu canlyniadau. Byddant yn gallu dangos y canlynol: • Lefelau’r ymwneud ag AG a chwaraeon; • Cyfranogiad a mwynhad y disgyblion wrth ddysgu; • Ydi darpariaeth yr ysgol yn diwallu anghenion y dysgwyr i gyd? • Oes cysylltiadau’n cael eu gwneud â’r gymuned leol? • Tystiolaeth o wrando ar lais y disgyblion, gweithio gyda’r dysgwyr a rhoi cyfrifoldeb iddynt; • Eu bod yn monitro cynnydd dros amser. • Mae Estyn yn cydnabod yr arolwg fel adnodd effeithiol i ddangos tystiolaeth o les yn ei gyfarwyddyd hunanarfarnu i ysgolion.

  6. Yr Adroddiad Ysgol • Mae’r adroddiad i ysgolion unigol yn canolbwyntio ar y pedwar canlyniad lles a ddynodir yn Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn ar gyfer Ysgolion yng Nghymru: • Agweddau at gadw’n iach a diogel • Cyfranogiad a mwynhad wrth ddysgu • Ymwneud â’r Gymuned a gwneud penderfyniadau • Attitudes to keeping healthy and safe • Sgiliau cymdeithasol a bywyd

  7. Beth gall y data ei ddweud wrthym ni am les y disgyblion? • Agweddau at gadw’n iach a diogel: • Beth yw barn y disgyblion am y cyfraniad y mae AG a chwaraeon yn ei wneud at fod yn iach a sicrhau ffordd gytbwys o fyw? • Sut mae’r disgyblion yn teimlo am gymryd rhan mewn AG a Chwaraeon? Ydyn nhw’n gyfforddus yn cymryd rhan? • Ydi’r disgyblion yn dewis blaenoriaethu chwaraeon a hamdden gorfforol yn eu hamser hamdden? • Cyfranogiad a mwynhad wrth ddysgu: • Ydi’r disgyblion yn mwynhau AG a chwaraeon ysgol? Oes gwahaniaethau rhwng bechgyn a merched a gwahanol grwpiau blwyddyn? • Ydi’r disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol? • Ydi’r disgyblion yn awyddus i ymarfer a gwella eu sgiliau mewn AG a chwaraeon allgyrsiol?

  8. Beth gall y data ei ddweud wrthym ni am les y disgyblion? • Ymwneud â’r Gymuned a gwneud penderfyniadau: • Oes tystiolaeth o wrando ar lais y dysgwr? Ydi’r disgyblion yn cyflwyno syniadau am AG a chwaraeon ac yn teimlo bod yr ysgol yn gwrando ar eu barn? • Beth sy’n cymell eich disgyblion i gymryd rhan? Beth yw’r rhwystrau? • Ydi’r disgyblion yn cymryd rhan mewn chwaraeon mewn clwb cymunedol ac yn mynd i ganolfannau hamdden pan nad ydynt yn yr ysgol? • Sgiliau cymdeithasol a bywyd: • Ydi’r disgyblion yn teimlo bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i gymryd rhan? Oes gwahaniaethau rhwng y bechgyn a’r merched a’r gwahanol grwpiau blwyddyn? • Ydi’r disgyblion yn helpu ac yn ymwneud â gwersi AG a chwaraeon? • Ydi’r disgyblion yn hyderus i roi cynnig ar weithgareddau newydd? • Ydi’r disgyblion yn annog eu ffrindiau a’u teulu i gymryd rhan ac a ydynt yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth eu hunain?

  9. Manteision cymryd rhan • Cynigiwyd wyth gwobr o £1,000 ar gyfer offer chwaraeon mewn raffl i’r ysgolion (dwy ym mhob rhanbarth) a chafodd yr holl ysgolion a gymhwysodd dystysgrif. Dyma’r enillwyr yn 2011: • Ysgol Syr Thomas Jones, Ynys Môn • Ysgol Botwnnog, Gwynedd • Ysgol Gynradd Gymunedol Monkton Priory, Sir Benfro • Ysgol Gynradd Gatholig Sain Dewi, Torfaen • Ysgol Yr Eos, Rhondda Cynon Taf • Ysgol Gyfun Treorci, Rhondda Cynon Taf • Ysgol Gynradd Gymunedol Brynconin, Sir Benfro • Ysgol Gynradd Mount Pleasant, Casnewydd.

  10. Manteision cymryd rhan Awdurdodau Lleol

  11. Manteision cymryd rhan • Bydd yr Awdurdodau Lleol sy’n sicrhau nifer digonol o ymatebion i’r arolwg yn derbyn adroddiad penodol ar eu canlyniadau. Bydd yr adroddiad yn cynnwys y canlynol: • Y lefelau cymryd rhan mewn chwaraeon allgyrsiol a chlwb – pa mor aml mae pobl ifanc yn cymryd rhan? • Pa chwaraeon mae pobl ifanc yn cymryd rhan ynddynt mewn clybiau cymunedol? • Pa chwaraeon maen nhw eisiau cymryd mwy o ran ynddynt? • Beth yw’r rhwystrau sy’n atal cyfranogiad a beth fyddai’n annog pobl ifanc i wneud mwy o chwaraeon? • Ydi pobl ifanc yn defnyddio’r ganolfan hamdden a chyfleusterau cymunedol eraill fel parciau, caeau chwarae, pyllau nofio a pharciau sglefrio? • Ydi’r ysgolion yn yr awdurdod wedi gwneud cysylltiadau ffurfiol â chlybiau cymunedol, ac ym mha chwaraeon? • Ydi pobl ifanc yn aelodau o glybiau chwaraeon, ac ym mha chwaraeon? • Mae’r holl ddata’n cael eu rhannu fesul blwyddyn ysgol a rhyw.

  12. Manteision cymryd rhan • Gall staff awdurdodau lleol elwa o gefnogi proses yr arolwg – gall helpu i greu perthnasoedd da gydag ysgolion a disgyblion a helpu i ddylanwadu ar y gwaith o gynllunio a chyflwyno chwaraeon cymunedol yn y dyfodol. • 1. Yn ystod cyfnod y gwaith maes, gallai’r staff gynnig helpu ysgolion unigol wrth i’w disgyblion lenwi’r arolwg, oherwydd mae hyn yn cynnig cyfle i drafod chwaraeon yn uniongyrchol gyda defnyddwyr a dod i ddeall y cwsmeriaid. • 2. Gallai’r staff gynnwys ail gyfnod ‘adborth’ unwaith mae adroddiadau’r ysgolion a’r awdurdodau lleol wedi’u dosbarthu. Gellir trafod y canlyniadau hyn gydag athrawon a disgyblion a’u defnyddio fel sail ar gyfer cynllunio yn y dyfodol. Gellir cyfeirio disgyblion at glybiau neu weithgareddau lleol ac mae’r broses yn darparu cyfrwng i ddatblygu perthnasoedd da gyda staff a disgyblion ysgol. • Bydd yr adroddiadau unigol yn darparu sylfaen o dystiolaeth ar gyfer dylanwadu ar gynlluniau lleol. Mae’r arolwg yn cynnig cyfrwng i gasglu corff eang o dystiolaeth am ddefnyddwyr gwasanaethau datblygu chwaraeon ac addysg cymunedol a’r rhai nad ydynt yn eu defnyddio.

  13. Cyfraddau ymateb – Consortia

  14. Cyfraddau ymateb: Canolbarth De Cymru  = wedi cymhwyso am adroddiadau lleol

  15. Cyfraddau ymateb: De Ddwyrain Cymru  = wedi cymhwyso am adroddiadau lleol

  16. Cyfraddau ymateb: De Orllewin a Chanolbarth Cymru  = wedi cymhwyso am adroddiadau lleol

  17. Cyfraddau ymateb: Gogledd Cymru  = wedi cymhwyso am adroddiadau lleol

  18. Adolygu 2011

  19. Chwarter 1: Gorffennaf – Medi 2012 • Llythyr at yr holl ysgolion gan Chwaraeon Cymru (Gorffennaf); • Awst-Medi: Gwahoddiad i dendro a phenodi contractwr; • Cynllunio briffiau tîm – cyfarfod cydweithwyr mewnol a phartneriaid allanol a dechrau ar y broses hyrwyddo; • Cynnal cyfarfod cyntaf Grŵp Llywio’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol ar 26ain Medi.

  20. Chwarter 2: Hydref – Rhagfyr • Datblygu adnoddau cefnogi / hyrwyddo; • Developing supporting resources/advocacy tools; • Datblygu’r holiadur – sefydlu holiaduron ar-lein, treialu a phrofi swyddogaethau gyda’r contractwr; • Llythyr at Gyfarwyddwyr Addysg gan Chwaraeon Cymru; • Questionnaire development - Setting up questionnaires online, piloting and testing functions with contractor; • Erbyn diwedd y flwyddyn – enwi mannau cyswllt lleol ar gyfer cyfathrebu’n uniongyrchol ag ysgolion;

  21. Chwarter 3: Ionawr – Mawrth 2013 • Llwytho adnoddau i’r wefan fel bod yr ysgolion yn gallu eu gweld ymlaen llaw (gan gynnwys adnoddau hyrwyddo a phecynnau technegol / cyfarwyddyd, cyfrifiannell); • Ail gyfarfod y Grŵp Llywio. • Cyfathrebu â chysylltiadau lleol am y broses derfynol • Cyhoeddi dolenni mewngofnodi unigol i bob ysgol; • Awdurdodau lleol yn casglu data Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD). Cyflwyno’r data i Chwaraeon Cymru gan ddefnyddio’r templed a ddarperir i dimau AGChY.

  22. Chwarter 4: Ebrill – Gorffennaf …ac ymlaen • Yr arolwg yn dechrau. Cyfnod y gwaith maes – Ebrill 8fed tan ddiwedd Gorffennaf; • Diwedd Gorffennaf – Cau’r arolwg a phwysoli’r data; • Dadansoddi ac adrodd yn ôl (Awst/Medi/Hydref); • Dosbarthu adroddiadau ac allbynnau eraill yr arolwg: mis Medi ymlaen. • Dosberthir adroddiadau ysgolion ac awdurdodau lleol yn gyntaf.

  23. Rôl y cyswllt (cysylltiadau) lleol • Gan ddefnyddio’r templedi Excel a anfonwyd allan gan Chwaraeon Cymru, gwnewch yn siŵr bod y cyfeiriadau e-bost ar gyfer yr ysgolion yn gywir er mwyn sicrhau bod negeseuon e-bost awtomatig yn gallu cael eu hanfon yn ganolog gan Chwaraeon Cymru a Snap. Bydd enw unigolyn cyswllt yn yr ysgol yn cael ei gynnwys yn y bas data os yn bosib. • Bydd y cyswllt lleol ym mhob awdurdod lleol (a/neu gonsortiwm AGChY) yn cael rhestr o’r holl ysgolion yn ei ardal a’u manylion ‘mewngofnodi i’r arolwg’ unigol. Gall y cyswllt gefnogi Chwaraeon Cymru drwy fod yn gyfrifol am ailgyflwyno’r dolenni gwe hyn i ysgolion os nad ydynt yn derbyn eu neges e-bost awtomatig gwreiddiol neu os ydynt yn ei ddileu. • Bydd y cyswllt lleol yn cael diweddariadau cynnydd am y cyfraddau ymateb gan Chwaraeon Cymru, ac rydym yn gobeithio y bydd yn gallu cael mynediad i’r system fonitro fyw.

  24. Rôl y cyswllt lleol – data CYBLD Llenwi’r templed Excel sydd wedi cael ei anfon at y timau AGChY. Ar gyfer pob ysgol, yn seiliedig ar ddata Ionawr 2013 (h.y. yr un data ag a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ar gyfer allbwn y Cyfrifiad Ysgolion): Nifer y bechgyn ym mhob grŵp blwyddyn (blynyddoedd 3 i 11). Nifer y merched ym mhob grŵp blwyddyn (blynyddoedd 3 i 11). Canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Am hynny, ceir y canlynol… Gwybodaeth am y sampl sydd ei hangen ar gyfer yr arolwg yn benodol i bob ysgol, ac wedi’i chynnwys yn eu cyfarwyddiadau. Rhyddhau allbynnau’r arolwg yn gynt (adroddiadau ysgolion, prif ystadegau, ac ati) oherwydd gallwn ddefnyddio’r wybodaeth ar gyfer pwysoli data’r arolwg. Bydd yn ofynnol i’r awdurdodau lleol i gyd gyflwyno’r wybodaeth – os oes bylchau ni allwn gyflwyno hyn i unrhyw un.

  25. Datblygu adnoddau ‘hyrwyddo’

  26. Datblygu adnoddau ymarferol

  27. Ysgol Gyfun Y Bontfaen • Llenwodd 500 o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 3 a Chyfnod Allweddol 4 yr arolwg yn ystod eu gwers TG. • Roedd adborth Chwaraeon Cymru yn cynnig cymhariaeth uniongyrchol ag ysgolion sydd â chanran debyg o ddisgyblion sy’n cael Cinio Ysgol Am Ddim, a gydag ysgolion ledled Cymru yn gyffredinol. • Lluniwyd cymariaethau rhwng y rhywiau. • Roedd yr adborth yn hawdd ei ddefnyddio ac yn cynnwys siartiau a diagramau. • Defnyddiwyd yr adroddiad i hwyluso’r gwaith cynllunio yn y dyfodol. Darparwyd yr astudiaeth achos gan Neil Thomas, Pennaeth AG yn Ysgol Gyfun Y Bontfaen.

  28. Y Bontfaen – Canlyniadau ac Effaith • Canlyniad o’r arolwg: nid oedd 8% o’r disgyblion yn teimlo’n ddiogel/cyfforddus mewn gwersi. Effaith = Mae holl aelodau’r adran wedi archebu lle i ennill cymhwyster cymorth cyntaf sylfaenol yn awr. • Canlyniad o’r arolwg: roedd 41% o’r disgyblion yn teimlo nad oedd ganddynt “lais” mewn Addysg Gorfforol. Effaith = Mae’r adran wedi creu ‘Cyngor Chwaraeon’ i roi adborth i’r cyngor ysgol ar faterion sy’n ymwneud yn benodol â chwaraeon. • Canlyniad o’r arolwg: roedd 90% o’r disgyblion yn mwynhau’r gwersi AG ac 80% yn mwynhau AG allgyrsiol. Effaith = Cadarnhau’r meysydd cryf yn ôl pob tebyg (yr amgylchedd dysgu cadarnhaol sy’n cael ei greu yn y gwersi). Hefyd, mae’r ysgol wedi mynd ati i ehangu’r ystod o weithgareddau a gynigir gan 5x60, i gynnwys Golff, Swmba, Sboncen a Phêl Osgoi, ac roedd y disgyblion yn cael opsiynau yn CA4. • Canlyniad o’r arolwg: roedd llai o ferched ‘wir yn mwynhau’ eu gwersi AG. Effaith = Cynhaliodd Y Bontfaen arolwg mewnol ar holl ferched CA3 i weld beth oedd y rheswm dros hyn. O ganlyniad, addasodd yr adran ei chwricwlwm i ddarparu gymnasteg yn hytrach na dawns. Darparwyd yr astudiaeth achos gan Neil Thomas, Pennaeth AG yn Ysgol Gyfun Y Bontfaen.

  29. Sir Benfro – defnyddio canlyniadau’r arolwg • Creodd Ysgol Dewi Sant Gyngor Chwaraeon Ysgol o ganlyniad i’w harolwg ac mae’n gwneud cais am statws Active Marc Cymru oherwydd ei chanlyniadau cadarnhaol; • Creodd Ysgol Y Preseli fforwm chwaraeon ar gyfer ei Chyngor Ysgol; • Cynyddodd Ysgol Gynradd Maenclochog yr amser y mae’n ei roi i AG fel rhan o’r cwricwlwm o awr i ddwyawr o ganlyniad i’r arolwg, ac mae wedi sefydlu Cyngor Chwaraeon Ysgol; • Mae Ysgol Gynradd Prendergast wedi sefydlu dau glwb allgyrsiol yn arbennig ar gyfer y merched o ganlyniad i’w harolwg. Mae’r presenoldeb yn y ddau yn 15-20 o unigolion bob wythnos yn gyson ac mae’r ysgol yn gwneud cais am statws Active Marc Cymru. • Ysgol Iau Dinbych-y-pysgod: Rhannodd y Cydlynydd AG y canlyniadau gyda’i Chyngor Ysgol, y Llysgenhadon Ifanc, Capteiniaid Chwaraeon yr Ysgol a dosbarth Blwyddyn 6. Mae’r disgyblion wedi awgrymu eu bod nhw’n cael cyfrannu at bennu targedau. Hefyd fe wnaethant benderfynu bod rhaid i fwy o rieni ymwneud â gweithgareddau allgyrsiol a bydd Clwb Iechyd / Athletau yn cael ei sefydlu. Bydd disgwyl i rieni fynychu’r clwb hwn gyda’u plant a chymryd rhan ochr yn ochr â’u meibion / merched. Darparwyd yr astudiaethau achos gan Dan Field, Rheolwr AG a Chwaraeon Ysgol, Sir Benfro

  30. “Mae’n ymddangos bod Arolwg ar Chwaraeon Ysgol y llynedd yn llwyddiant ysgubol – gwelwyd bron i 40,000 o ddisgyblion yn cymryd rhan. Mae’r arolwg ei hun yn ffordd effeithiol o roi llais i ddisgyblion ac yn cyflwyno darlun gwerthfawr i ddarparwyr gwasanaethau o’r hyn sy’n gweithio a’r hyn sydd ddim. Gobeithio y gwelwn ni fwy fyth o ddisgyblion yn cymryd rhan eleni fel bod pob un ohonyn nhw’n gwirioni ar chwaraeon am oes.” • Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru

  31. “Mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn chwarae rhan allweddol mewn mynd i’r afael â’r ystod eang o broblemau iechyd sydd gennym ni yng Nghymru ac maen nhw’n ein helpu ni i fwynhau iechyd da. Os bydd plant a phobl ifanc yn dysgu’r sgiliau sylfaenol i gymryd rhan mewn chwaraeon o oedran ifanc, ac yn cael profiadau cadarnhaol o chwaraeon ysgol, bydd posib gwneud gwahaniaeth sylweddol i iechyd y genedl. Mae Arolwg ar Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru yn darparu sylfaen bwysig o dystiolaeth, nid yn unig o’r hyn sy’n cael ei gyflwyno mewn ysgolion, ond hefyd o ran sut mae plant a phobl ifanc yn teimlo am yr hyn sy’n cael ei gynnig. Dyma arfer amhrisiadwy o ran dylanwadu ar y camau gweithredu ymarferol ar gyfer ysgolion, yn ogystal â galluogi datblygu polisïau ar lefel genedlaethol yn y dyfodol”. • Prif Swyddog Meddygol, Dr Ruth Hussey, OBE

  32. Mae rhagor o wybodaeth am yrArolwgarChwaraeonYsgolargaelynwww.sportwales.org.uk Cewchyrwybodaethddiweddaraf am waithChwaraeonCymruyn: Eingwefanwww.sportwales.org.uk Twitter@sport_wales Facebookwww.facebook.com/Sportwales

More Related