1 / 7

Nodiadau athro – sut i wneud bag llaw.

Nodiadau athro – sut i wneud bag llaw.

fauna
Download Presentation

Nodiadau athro – sut i wneud bag llaw.

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Nodiadau athro – sut i wneud bag llaw. Cefndir – Yn ystod eu huned Tecstilau gyntaf ym mlwyddyn 7 mae’r disgyblion yn cael dewis un o ddau brif steil bag i’w ddatblygu. Yn y gorffennol rydym wedi ceisio rhoi mwy o ddewis o siapiau amlinellol ond roedd hyn yn arwain at nifer o anhawsterau, yn cynnwys arswyd y bocs gwaith heb ei orffen. Datblygwyd y sleidiau cyflwyniadau cynhyrchu hyn am nifer o resymau. Mae’n bosibl eu dangos yn sydyn i’r disgyblion cyn y sesiynau ‘gwneud’ er mwyn cyflwyno amlinelliad o’r gwaith sydd ynghlwm â chynhyrchu’r bag maen nhw wedi’i ddewis. Gellir dewis sleidiau cyflwyniad ar ddechrau gwers i egluro proses/techneg benodol i’w gorffen yn ystod y sesiwn honno. Neu eu gadael i ‘ddolennu’, rhyw fath o ganllaw hunan gymorth. Mae animeiddio deniadol o’r broses cynhyrchu ar y fersiwn ‘Flash’ e.e. pwytho ar y peiriant gwnio ayyb. Cefndir– Mae hyn yn swnio braidd yn fyr ond mewn gwirionedd mae’n mynd at galon yr hyn rydym eisiau i’r plant ei sylweddoli – “Mae llai yn fwy”. Pwynt dysgu /trafod posibl e.e Yn aml greddf gynhenid disgyblion yw defnyddio gormod o nodweddion addurnol. Mae angen i ‘r disgyblion ddewis rhubanau cyferbyniol neu gyflenwol. Efallai y bydd angen atgoffa’r disgyblion y bydd cyfrannedd yn cael dylanwad ar effeithiolrwydd eu dyluniad, gellid ystyried ailgyflwyno canllawiau rhannu’n draeanau. Pinio a thacio – ein profiad ni yw bod angen arddangosiad o hyn.

  2. Pwynt dysgu /trafod posibl e.e. Yn aml mae rhubanau wedi cael eu gwneud o ffibrau synthetig ac mae ganddynt dueddiad i lithro, yn ein profiad ni mae tacio’n hanfodol. . Pwynt dysgu /trafod posible.e. Rydym wedi darganfod ei bod hi’n bosibl cyflawni llinellau brodwaith sy’n fwy syth os yw’r disgyblion yn dilyn canllaw, gellir defnyddio’r rhuban ei hun neu linellau wedi eu tynnu’n defnyddio sialc teiliwr. Mae’n rhyfeddol mor gyflym y mae’r disgyblion yn creu effeithiau addurnol effeithiol iawn wrth ddefnyddio ychydig rubanau a phwythau addurnol.

  3. Pwynt dysgu /trafod posible.e. Blaen y bag/ochr cywir. Y cysyniad o dacluso ffabrig a’r dulliau a ddefnyddir – gallai cipolwg ar ddilledyn y maent yn ei wisgo gynnig cliw ar y math o bwyth sydd ei angen. Adolygu sut i osod y pwyth igam sydd ei angen. Tacluso’r ymyl grai ar du blaen y bag. . Pwynt dysgu /trafod posibl e.e. Mae angen ystyried nifer o agweddau megis materion diogelwch y pinnau, gosod ymyl troed y peiriant gwnio i weithredu fel canllaw a chyflawni llinell syth.

  4. Pwynt dysgu /trafod posible.e. Yr un pwyntiau â’r sleid cyflwyniad blaenorol – mae’r rhain yn berthnasol i gefn y bag. Pwynt dysgu /trafod posible.e. dechrau gwnio’r bag at ei gilydd, unioni blaen a chefn y bag yn gywir.

  5. Pwynt dysgu /trafod posible.e. Trafod cysyniad y semau –diffiniad a dull, lleoli’r pinnau. Pwynt dysgu /trafod posible.e. Agweddau i gael eu ailgadarnhau: gwneud y semau ymyl – dechrau ar dop y ffabrig – pwythau gwrthdroi a defnyddio un ai ymyl y ffabrig neu’r plât tywys fel canllaw. Yr angen i bwytho mewn siap U a throi’n siarp ongl 90 gradd. Gwnathpwyd ymdrech i ddefnyddio animeiddio yma ond mae’n fwy effeithiol yn y fersiwn Fflach.

  6. Pwynt dysgu /trafod posibl e.e. Y cysyniad o leoli pwythau igam ogam a phwysigrwydd pwytho ar ymyl y ffabrig. Gofynnir i’r disgyblion roi dau reswm pam bod dau o’r samplau’n anghywir. Mae’r adolygu hwn hefyd yn cadarnhau’r angen i stopio a throi 90 gradd ar y corneli. Unwaith eto bydd y fersiwn Fflash yn cynnal diddordeb y disgyblion yn dda ar yr agwedd hon. Pwynt dysgu /trafod posible.e. Trimio’r ffabrig sydd dros ben er mwyn cael cornel wastad a thaclus i’r bag. Gofal gyda’r trimio!

  7. Pwynt dysgu /trafod posible.e. Yn aml mae’n rhaid i ni helpu’r disgyblion oherwydd trwch y ffabrig. Près sydyn, gwylio’r rhubanau, gall tudalen bapur dros y rhuban fod o gymorth i osgoi unrhyw ddeifio.

More Related