1 / 29

Profiad Ymgeiswyr ym Mhrifysgol Abertawe

Profiad Ymgeiswyr ym Mhrifysgol Abertawe. O Ymholi i Ymrestru. Yr Athro Alan Speight Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Profiad Myfyrwyr . Grŵp 1994 "Cyfoethogi Profiad Myfyrwyr" - Tach 2007

edward
Download Presentation

Profiad Ymgeiswyr ym Mhrifysgol Abertawe

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Profiad Ymgeiswyr ym Mhrifysgol Abertawe O Ymholi i Ymrestru Yr Athro Alan Speight Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr Prifysgol Abertawe

  2. Profiad Myfyrwyr • Grŵp 1994 "Cyfoethogi Profiad Myfyrwyr" - Tach 2007 • "Ein nod yw ymgysylltu cymaint â phosibl â myfyrwyr ar bob cam o'u taith addysgol, o gysylltiad cyn ac yn ystod y prosesau derbyn, gan ddarparu cefnogaeth a phrofiadau rhagorol yn ystod bywyd yn y brifysgol, annog dilyniant i lefel ôl-radd ac ymgysylltu parhaus â chynfyfyrwyr."

  3. Profiad Ymgeiswyr • "Nid yw profiad myfyrwyr o brifysgol yn dechrau yr eiliad maent yn camu ar y campws ar ddechrau eu cwrs, ac nid yw'n gorffen wrth raddio. Mae'r berthynas gynnar rhwng myfyriwr a phrifysgol yn bwysig yn ystod y broses derbyn, o ran paratoi myfyrwyr ar gyfer bywyd yn y brifysgol, a chychwyn eu hymgysylltu â'u prifysgol a'u hagwedd tuag ati yn y ffordd orau bosibl." • Mae Profiad Ymgeiswyr yn creu disgwyliad ar gyfer Profiad Myfyrwyr, a dyma gam ffurfiannol y berthynas rhwng myfyriwr ac adran.

  4. Profiad Ymgeiswyr • Mae profiad ymgeiswyr llwyddiannus yn golygu bod: • Ymgeiswyr yn gwneud dewisiadau gwybodus • Abertawe yn recriwtio nifer digonol o fyfyrwyr o'r safon briodol ar gyfer ein cynlluniau astudio • Yn aml, disgrifir profiad ymgeiswyr fel taith, gyda'r myfyriwr yn symud o ymholiad i ymgeisio i ddewis i ymrestru.

  5. Cyn-Ymgeisio - Ehangu'r Gronfa • Mae ymgysylltu cadarnhaol ac ymateb i ymholiadau yn golygu trosglwyddo gwybodaeth gywir a pherswadiol i ddarpar fyfyrwyr. • Ffynonellau Gwybodaeth swyddogol: • Sgyrsiau Ysgol Ffeiriau AU AMC • Prosbectws Gwefannau Prifysgolion Data Unistats/KIS • Cynadleddau Gyrfaoedd Llyfryn Adrannau (cynnwys cyrsiau) • Gwybodaeth am Gyrsiau gan UCAS Dosbarthiadau Meistri/Ymweliadau â Champws • Dyddiau Agored (Gorff/Med/Hyd) Asiantau • Ein hamcan yw darparu gwybodaeth berswadiol i farchnad amrywiol sy'n galluogi ymgeiswyr i'n dewis ni'n hyderus. Yn ddelfrydol, byddai'r wybodaeth hon yn canolbwyntio ar yr ymgeisydd. Mae cylchoedd recriwtio sy'n gorgyffwrdd yn golygu bod hwn yn faes gwaith llafurus.

  6. Cyn-ymgeisio • Ffynonellau Gwybodaeth Answyddogol: • Tablau cynghrair • Blogiau • Gwefannau Rhwydweithio Cymdeithasol • Rhieni/Ffrindiau • Cwmnïau Cefnogi Ceisiadau • Er na allwn reoli'r wybodaeth hon o reidrwydd, mae angen i ni fod yn ymwybodol o'n delwedd a’n bod yn gallu ymateb i hynny.

  7. Astudiaeth achos Prifysgol Abertawe - UG UK/EU

  8. Ehangu'r gronfa • Erbyn 2012, roedd y rhan fwyaf o'r ceisiadau i Abertawe o Gymru (56%); De Orllewin (12%); De Ddwyrain - coridor yr M4 yn arbennig (10%); Gorllewin y Canolbarth (6%) • Dangosodd grwpiau ffocws o ddisgyblion chweched dosbarth yn Brighton, Bryste, Caerdydd, Caer a Chaerlŷr mai dim ond 1 mewn 5 oedd yn gwybod digon am Abertawe i ystyried ymgeisio • Yn amlwg, byddai angen mwy o hyrwyddo ac ymgysylltu y tu allan i'r dalgylchoedd traddodiadol er mwyn i'r Brifysgol allu ehangu'r gronfa o ymgeiswyr

  9. Nodau ac amcanion • Strategaeth recriwtio a derbyn wedi ei chydlynu ar draws y Brifysgol, yn cynnwys recriwtiaid canolog a recriwtiaid y Coleg • Ymgyrch recriwtio'n canolbwyntio ar ymestyn y dalgylch • Amcanu at ymgysylltu'n effeithiol â darpar fyfyrwyr ym mhob rhan o'r broses • Darparu gwybodaeth amserol a pherthnasol ym mhob cam o daith yr ymgeisydd, er mwyn: • annog cymaint â phosibl i gamu ymlaen o'r cysylltiad cychwynnol i ymrestru • sicrhau bod myfyrwyr newydd wedi cael eu paratoi'n briodol a bod ganddynt ddisgwyliadau realistig ynglŷn â phrofiad myfyrwyr yn Abertawe

  10. Gweithgaredd • Ymgyrch recriwtio '#makingwaves' (ar frig y don) • Hysbysebu a hyrwyddo digidol ac yn yr awyr agored

  11. #makingwaves (ar frig y don)

  12. Gweithgaredd • Ymgyrch recriwtio '#makingwaves' (ar frig y don) • Hysbysebu a hyrwyddo digidol ac yn yr awyr agored • Trawsnewid gwefan y Brifysgol

  13. Gwefan • Gwefan wedi ei ailstrwythuro a chynnwys ar-lein wedi ei wella: • Rhestr A-Y o gyrsiau • Cronfa ddata o gyrsiau y gellir chwilio drwyddi • Tudalennau cyrsiau wedi'u safoni • Steil a chynnwys cyson • Tudalennau profiad myfyrwyr Abertawe

  14. Traffig i ganghennau swansea.ac.uk

  15. Gweithgaredd • Ymgyrch recriwtio '#makingwaves' (ar frig y don) • Hysbysebu a hyrwyddo digidol ac yn yr awyr agored • Trawsnewid gwefan y Brifysgol • Gwelliannau i Ddyddiau Agored a Dyddiau Ymweld

  16. Dyddiau Agored a Dyddiau Ymweld • Gwelliannau i Ddyddiau Agored a Dyddiau Ymweld Ôl-ymgeisio: • Systemau bwcio • Gweithgareddau canolog a phwnc-benodol

  17. Gweithgaredd • Ymgyrch recriwtio '#ar frig y don' • Hysbysebu a hyrwyddo digidol ac yn yr awyr agored • Trawsnewid gwefan y Brifysgol • Gwelliannau i Ddyddiau Agored a Dyddiau Ymweld • Cyfathrebu wedi ei gydlynu, o ymholi i ymrestru

  18. Cyfathrebu • Strategaeth gyfathrebu wedi'i chydlynu ar hyd a lled y Brifysgol • Calendr cyfathrebu cytunedig • Cymysgedd o e-bost, SMS a phost • Cyfathrebiadau'n cael eu hanfon drwy system Reoli Cysylltiadau Cwsmeriaid newydd • Steil a chynnwys cyson • Gwybodaeth benodol ar adegau perthnasol yn y cylch • “Thema" i gyfathrebiadau, yn cynnwys Gwybodaeth am raglenni; Bywyd myfyrwyr; Cyflogadwyedd/rhagolygon i raddedigion • Monitro "agor" a "chlicio drwy" e-bostion er mwyn cywreinio steil a chynnwys e-bostion

  19. E.e. Cyfathrebiadau cyn cyrraedd Er mwyn datrys problemau ynglŷn â gwybodaeth anghyson a chroes; a myfyrwyr nad ydynt wedi'u paratoi'n ddigonol: • Ymgyrch e-bostio a phostio wedi ei chydlynu • Yr holl gyfathrebiadau’n cael eu hanfon drwy system Reoli Cysylltiadau Cwsmeriaid gan ddefnyddio steil a chynnwys cyson • E-bostion wythnosol, ar yr un diwrnod bob wythnos • Adran "gwybodaeth flaenorol" ar gyfer ymgeiswyr hwyr

  20. Gweithgaredd • Ymgyrch recriwtio '#makingwaves' (ar frig y don) • Hysbysebu a hyrwyddo digidol ac yn yr awyr agored • Trawsnewid gwefan y Brifysgol • Gwelliannau i Ddyddiau Agored a Dyddiau Ymweld • Cyfathrebu wedi ei gydlynu, o ymholi i ymrestru • System Reoli Cysylltiadau 'Cwsmeriaid'

  21. RhCC ar gyfer Recriwtio a Derbyn o'r DU Cam 1, lansiwyd RhCC ym mis Gorffennaf 2013: • Cyflwynwyd i'r holl staff recriwtio ar draws y Brifysgol • Un ffynhonnell ddata i ymholwyr ac ymgeiswyr • Ymholiadau am gofnodion (drwy e-bost, ffôn neu'n bersonol) • Cofnodi a rheoli ceisiadau am brosbectws • Llwytho a chroesgyfeirio bwciadau Dyddiau Agored • Dal data ymgeiswyr system cofnodi myfyrwyr SITS • Mae'n ein galluogi i groesgyfeirio'r grwpiau amrywiol er mwyn targedu cyfathrebiadau'n briodol

  22. RhCC - Buddion Allweddol 1 • Mae data wedi'i groesgyfeirio yn ein galluogi i anfon nodion atgoffa i ymholwyr sydd heb fwcio Diwrnod Agored a/neu heb wneud cais etc • Mae'n galluogi cyfathrebu wedi'i gydlynu ar draws holl feysydd y Brifysgol gan ddilyn calendr cyfathrebu cytunedig • Ystod o ddewisiadau cofnodi cyfraddau cyfnewid etc, yn cynnwys Dangosfyrddau ar gyfer adroddiadau cyflym

  23. RhCC - Adroddiadau "dangosfwrdd" pwrpasol

  24. RhCC - Buddion Allweddol 2 - Cyfathrebu • Calendr cyfathrebu diffiniedig • Cyfathrebu safonol, wedi ei gynhyrchu drwy lif gwaith • Cysylltu â Dotmailer er mwyn anfon ergydion e-bost html (cwbl symudol-gyfeillgar) drwy brosesau awtomatig. • Negeseuon SMS • Agor a chlicio drwy e-bostion yn cael ei gofnodi ar gofnod RhCC • Cyfathrebu Cymraeg yn safonol

  25. RhCC Cam 2 - Hydref 2013 i Fehefin 2014 • Ap iCapture i gofnodi ymholiadau mewn cynadleddau AU a digwyddiadau eraill • Integreiddio cyfryngau cymdeithasol (facebook a twitter) • Negeseuon SMS 2 ffordd • Rheoli ymholiadau a llyfrgell o gwestiynau cyffredin • Porth ymgeiswyr er mwyn gwneud ymholiad, gwneud cais am brosbectws a chyfathrebu hyd at ymrestru â Phrifysgol Abertawe • Cronfa Ddata o Ysgolion a Cholegau

  26. Canlyniadau hyd yma - 2013 • Yn 2013 cynyddodd y ceisiadau 23.3% - y pumed cynnydd mwyaf mewn ceisiadau i sefydliadau gyda 10,000+ o geisiadau • Roedd hyn yn cynnwys cynnydd o 47% mewn ceisiadau o'r ardaloedd targed Ymgyrch '#ar frig y don" • Cynnydd o 26% mewn ymgeiswyr yn cael eu derbyn - y pedwerydd cynnydd mwyaf yn y DU o ran sefydliadau â 1000+ o fyfyrwyr newydd • Dim ond gostyngiad bychan mewn sgoriau tariff cyfartalog a nifer y myfyrwyr a dderbyniwyd gyda AAB+ neu gyfwerth • Wedi cynnal cyfran y myfyrwyr o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru

  27. Canlyniadau hyd yma - 2014 • Mae ceisiadau ar gyfer 2014 wedi cynyddu 25% yn ychwanegol (cynnydd o 56% mewn 2 flynedd) • Cynnydd ychwanegol o 34% mewn ceisiadau o Loegr (cynnydd o 98% mewn dwy flynedd) • Mae'r ymgeiswyr o Gymru bellach yn 42% o'r gronfa; gyda’r cynnydd mwyaf mewn ceisiadau'n dod o Lundain, y De Ddwyrain a'r De Orllewin

  28. Crynodeb • Mae darparu profiad effeithiol i ymgeiswyr yn golygu canolbwyntio ar yr ymgeisydd ac arddangos yn eglur: • Ein bod yn gwerthfawrogi pob cais • Pa mor ddeniadol yw ein cyrsiau • Ein gofynion ar gyfer derbyn a dilyniant • Y gefnogaeth a'r cyfleusterau sydd ar gael i fyfyrwyr newydd • Y profiad myfyrwyr unigryw yr ydym yn ei gynnig yn rhinwedd ein cryfder academaidd a lleoliad/ffordd o fyw • Mae'n golygu ymdrech ar y cyd, cyfathrebu cadarn a dyhead i ddenu myfyrwyr fydd yn creu perthynas hirdymor â'r pynciau o'u dewis a'r Brifysgol.

More Related