40 likes | 152 Views
O! AM DAFODAU FIL mewn hwyl I seinio gyda blas, Ogoniant pur fy Mhrynwr gwiw, A rhyfeddodau'i ras. Fy ngrasol Arglwydd i, am Duw, Rho gymorth er dy glod, I ddatgan mawl i'th enw gwiw Trwy bobman is y rhod. Dy enw Di, O! lesu mawr, A lawenycha'n gwedd:
E N D
O! AM DAFODAU FIL mewn hwyl I seinio gyda blas, Ogoniant pur fy Mhrynwr gwiw, A rhyfeddodau'i ras. Fy ngrasol Arglwydd i, am Duw, Rho gymorth er dy glod, I ddatgan mawl i'th enw gwiw Trwy bobman is y rhod.
Dy enw Di, O! lesu mawr, A lawenycha'n gwedd: Per sain i glust pechadur yw, Mae'n fywyd ac yn hedd. Fyddariad, clywch! chwi fudion rai Clodforwch Frenin Hedd; Y dall a'r cloff fo'n llawenhau Mewn golwg ar ei wedd.
Genhedloedd byd, trowch ato'n glau, Addefwch Ef yn Dduw; Cewch oll yn rhad eich cyfiawnhau Trwy ffydd yn lesu gwiw. Cewch gyda mi, y gwaela'n fyw, Adnabod cymod rhad, A phrofi hedd a chariad Duw, Blaenbrawf o'r nefol wlad.
O! rhoddwn fawl i Frenin nef, Moliannwn Ef ynghyd; Fy enaid, mola dithau Ef, Rho arno'n llwyr dy fryd. Charles Wesley efel. Robert Williarns