1 / 11

TGAU Mathemateg Datrys Problemau Trin Data Haen Uwch

TGAU Mathemateg Datrys Problemau Trin Data Haen Uwch. Help llaw. Mae Jacob yn dweud y gall y tatws lleiaf bwyso 100g. Ydy o’n gywir i ddweud hyn? Esboniwch eich ateb. Meddyliwch am yr anhafaleddau. Beth yw ystyr 100 < w ≤ 200 ?. Mae Jacob yn rheoli ffatri greision.

Download Presentation

TGAU Mathemateg Datrys Problemau Trin Data Haen Uwch

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. TGAU Mathemateg Datrys Problemau Trin Data Haen Uwch

  2. Help llaw Mae Jacob yn dweud y gall y tatws lleiaf bwyso 100g. Ydy o’n gywir i ddweud hyn? Esboniwch eich ateb. Meddyliwch am yr anhafaleddau. Beth yw ystyr 100 < w ≤ 200 ? Mae Jacob yn rheoli ffatri greision. Mae Jacob eisiau penderfynnu a ddylai ddefnyddio tatws Lady Rosetta, Hermes neu Saturna i wneud ei greision. Mae’r 3 math o datws yr un pris i’w prynu fesul cilogram. Mae Jacob yn darganfod y wybodaeth ganlynol am y 3 math o datws. a) Mae’r tabl yn dangos dosraniad pwysau’r tatws mewn sach yn cynnwys 50 o datws Lady Rosetta.

  3. Ateb Mae Jacob yn dweud y gall y tatws lleiaf bwyso 100g. Ydy o’n gywir i ddweud hyn? Esboniwch eich ateb. 100 < w ≤ 200 Ystyriwch yr ochr chwith: 100 < w Mae hyn yr un peth a w > 100 Mae hyn yn golygu fod y pwysau yn fwy na 100, nid yn fwy na neu’n hafal i, felly nid yw hyn yn gywir, ni all y tatws bwyso 100g.

  4. Dwysedd Amledd Help Llaw Amledd = Dwysedd amledd x lled y dosbarth Pwysau tatws Hermes Mae’r histogram yn dangos dosraniad pwysau (mewn gramau), y tatws mewn sach o datws Hermes. Faint o datws sydd yn y bag?

  5. Ateb Mae’r histogram yn dangos dosraniad pwysau (mewn gramau), y tatws mewn sach o datws Hermes. Faint o datws sydd yn y bag? Dwysedd Amledd 100 x 0.14 = 14 100 x 0.22 = 22 100 x 0.36 = 36 200 x 0.14 = 28 Pwysau tatws Hermes 14 + 22 + 36 + 28 = 100

  6. Dwysedd Amledd Help llaw Rydych chi wedi darganfod yr amledd ar gyfer 300 < w ≤ 500. Darganfyddwch yr amledd ar gyfer 280 < w ≤ 300. Pwysau tatws Hermes Mae’r histogram yn dangos dosraniad pwysau (mewn gramau), y tatws mewn sach o datws Hermes . Darganfyddwch y tebygolrwydd o ddewis tatws sydd yn pwyso o leiaf 280g.

  7. Mae’r histogram yn dangos dosraniad pwysau (mewn gramau), y tatws mewn sach o datws Hermes . Darganfyddwch y tebygolrwydd o ddewis tatws sydd yn pwyso o leiaf 280g. Ateb Dwysedd Amledd Darganfyddwch yr arwynebedd i’r chwith o’r llinell yma 28 20 x 0.36 = 7.2 Pwysau tatws Hermes 280 7.2 + 28 = 35.2, felly’r tebygolrwydd yw 35.2/100 = 0.352, gan fod 100 tatws yn y sach.

  8. Mae Jacob eisiau defnyddio’r math o datws sydd â’r pwysau cymedrig uchaf i greu ei greision. Defnyddiwch y wybodaeth a roddir i benderfynnu pa un o’r tri math o datws y dylai Jacob eu prynu. Help llaw Defnyddiwch y wybodaeth sydd wedi ei roi yn y tabl uchod ynghyd a’r wybodaeth yr ydych chi wedi ei gasglu hyd yn hyn. Ystyriwch gymedr/canolrif/modd/amrediad/ tebygolrwydd y tatws. Mae’r tabl yn dangos gwybodaeth am sach yn cynnwys 25 o datws Saturna.

  9. Ateb Mae Jacob eisiau defnyddio’r math o datws sydd â’r pwysau cymedrig uchaf i greu ei greision. Defnyddiwch y wybodaeth a roddir i benderfynnu pa un o’r tri math o datws y dylai Jacob eu prynu. Ystyriwch y canolrif ar gyfer y 3 math o datws: Lady Rosetta: 50 tatws Amcangyfrif ar gyfer y canolrif - y 25ain gwerth. Mae hyn yn gorwedd yn y cyfwng 200 < w ≤ 300 Saturna: Gwerth 1-15 Y 23 gwerth nesaf h.y. 16- 38 Mae’r 25ain gwerth yn gorwedd fan yma.

  10. Dwysedd Amledd Mae’r 50fed gwerth yn gorwedd yn y cyfwng 200 < w ≤ 300 Hermes: 100 tatws. Amcangyfrif ar gyfer y canolrif - 50fed gwerth. Y 36 gwerth nesaf 37-72 Y 22 gwerth nesaf 15-36 14 gwerth cyntaf 1-14 Pwysau tatws Hermes Mae’r canolrif ar gyfer tatws Lady Rosetta a Hermes yn gorwedd rhwng 200 < w ≤ 300. Tatws Saturna sydd gyda’r anolrif uchaf sef 320g, h.y mae 50% o datws Saturna yn pwyso o leiaf 320g. Dyma’r tatws gorau i’w dewis wrth ystyried y canolrif.

  11. Wrth ystyried y tebygolrwydd o ddewis tatws sydd yn pwyso o leiaf 300g gwelwn : Lady Rosetta: 8 + 4 = 12 tatws yn pwyso o leiaf 300g 12/50 = 24% Hermes: 28 tatws yn pwyso o leiaf 300g 28/100 = 28% Saturna: 50% o’r tatws yn pwyso yn fwy na 320g (o’r canolrif), felly mae mwy na 50% yn pwyso o leiaf 300g 28 Mae’r canlyniadau yn dangos fod yna gyfrannedd uwch o datws trymach gan datws Saturna. Dylai Jacob brynu tatws Saturna.

More Related