1 / 13

DYNODIAD A CHYNODIAD

DYNODIAD A CHYNODIAD Mae geiriau a delweddau mewn testunau cyfryngol yn gallu gweithio ar fwy nag un lefel. Yn ystod y cwrs fe ddewch ar draws y termau dynodiad a chynodiad . Mae’n bwysig i chi ddeall y termau hyn.

Download Presentation

DYNODIAD A CHYNODIAD

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. DYNODIAD A CHYNODIAD Mae geiriau a delweddau mewn testunau cyfryngol yn gallu gweithio ar fwy nag un lefel. Yn ystod y cwrs fe ddewch ar draws y termau dynodiad a chynodiad. Mae’n bwysig i chi ddeall y termau hyn.

  2. DYNODIAD yw ystyrsymla synnwyr cyffredinarwydd. Yn llythrennol, yr hyn a ddangosir mewn delwedd. Blodyn yw rhosyn coch – dyna ei ystyr syml neu ei ddynodiad Afal yw’r ffrwyth a fwytwn - Oen yw dafad ifanc -

  3. CYNODIAD yw’r ystyr ychwanegol, cysylltiedig sy’n mynd gydag unrhyw arwydd. Bydd cynodiadau arwydd yn llawer mwy personol na dynodiad syml oherwydd mae’n ymwneud â syniadau personol a’r teimladau sydd ynghlwm wrthynt. Fydd y cynodiadau ddim yr un peth i bawb.

  4. Meddyliwch am y rhosyn… I ramantwyr gall rhosyn coch fod yn symbol o gariad. Yn Sir Gaerhirfryn mae’n symbol ar gyfer y sir honno. Mae wedi bod yn symbol ar gyfer plaid wleidyddol hyd yn oed. Mae’r rhain i gyd yn gynodiadau neu’n haenau ychwanegol o ystyr sy’n dod gyda’r ddelwedd.

  5. Meddyliwch am yr afal… Gall fod yn symbol o iechyd. Mae ganddo ystyron cysylltiedig ag Efrog Newydd -“The Big Apple”. Gall olygu pechod hyd yn oed. Mae’r rhain i gyd yn gynodiadau neu’n haenau ychwanegol o ystyr sy’n dod gyda’r ddelwedd.

  6. A’r oen… I rai mae gan oen ystyron cysylltiedig neu ychwanegol yn ymwneud â Chymru.. I eraill mae ystyr grefyddol iddo. Gall olygu tymor hyd yn oed - Gwanwyn . Mae’r rhain i gyd yn gynodiadau neu’n haenau ychwanegol o ystyr sy’n dod gyda’r ddelwedd.

  7. Dadansoddi cynnwys lluniau mewn dau gam. • Dynodiad. Dehongliad syml o’r hyn sydd yn y llun. • Cynodiad. Yr ystyron ychwanegol, cysylltiedig sy’n mynd gyda’r llun. 1 :- Awyr. Tywod. Merch. Bachgen. Asyn. 2:- Traeth. Glan-môr. Gwyliau. Gwyliau teulu. Gwyliau Prydeinig traddodiadol. Llun trwy garedigrwydd ‘photolibrary wales’ www.photolibrarywales.com)

  8. Sylwch sut y gall lluniau eraill gael awgrymiadau dynodiadol gwahanol ond yr un awgrymiadau cynodiadol. Mae cynodiadau’r lluniau yma i gyd yr un peth â’r un blaenorol- gwyliau teulu traddodiadol . Mae gan y lliwiau llachar, yr awyr las a wynebau’n gwenu gynodiadau o hapusrwydd. Lluniau trwy garedigrwydd ‘photolibrary wales’ www.photolibrarywales.com

  9. Byddai dadansoddiad cynnwys dau gam o’r delweddau hyn yn gweithio yn yr un ffordd. Mae’r ddau yn cynnwys nodweddion dynodiadol tebyg : adeiladau mawr, stryd a lampau stryd ond mae cynodiadau’r lluniau yr un peth – dinas fewnol. Lluniau trwy garedigrwydd ‘photolibrary wales’ www.photolibrarywales.com

  10. Fodd bynnag, mae cynodiadau’r adeiladau hyn yn wahanol i’r ddau blaenorol oherwydd ein bod yn cysylltu’r nendyrau hyn gydag America. Ychwanegwch dau ddyn yn gwisgo siwtiau ac yn cario bagiau dogfennau a chawn y cynodiad ychwanegol o ffordd o fyw egnïol, soffistigedig, hardd a llwyddiannus

  11. Beth yw cynodiadau’rdelweddau hyn?

  12. A’r rhain… Dynodiadau gwahanol iawnond cynodiadau tebyg o gefn gwlad. Lluniau trwy garedigrwydd ‘photolibrary wales’ www.photolibrarywales.com

  13. TASG ESTYNEDIG: Dadansoddi cynnwys hysbysebion persawr. Ar gyfer eich gwaith cwrs a’ch arholiad cyfryngau, bydd yn rhaid i chi ddadansoddi testun cyfryngol a dangos eich bod yn deall y cysylltiadau wna cynulleidfa rhwng yr hyn sydd yn y testun – y dynodiad – a’r ystyron ychwanegol sydd yn gysylltiedig – y cynodiadau. Mewn cylchgrawn dewch o hyd i hysbyseb persawr: Ystyriwch gynodiadau popeth sy’n gynwysedig yn yr hysbyseb. Yn ogystal ag edrych ar y brif ddelwedd, peidiwch anghofio awgrymiadau cynodiadol: Lliw, Edrychiadau, Iaith, a’r defnydd o enwogion weithiau... Pa syniad sy’n cael ei gyfleu ynglŷn â’r persawr hwn? A yw’n cael ei gynrychioli fel bod yn Flodeuog? Dwyreiniol? Rhywiol? Ifanc? Ffrengig? Rhamantaidd? Naturiol? etc. At bwy mae’n apelio?

More Related