1 / 7

Mae llawer o ffyrdd gwahanol o wneud a derbyn taliadau.

GWNEUD TÂL. Mae llawer o ffyrdd gwahanol o wneud a derbyn taliadau. Arian parod Siec Cardiau credyd Cardiau debyd Debyd uniongyrchol Trosglwyddiadau credyd. Arian Parod. Arian parod yw’r dull talu a ddefnyddir fwyaf o ddydd i ddydd.

barbie
Download Presentation

Mae llawer o ffyrdd gwahanol o wneud a derbyn taliadau.

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. GWNEUD TÂL Mae llawer o ffyrdd gwahanol o wneud a derbyn taliadau. • Arian parod • Siec • Cardiau credyd • Cardiau debyd • Debyd uniongyrchol • Trosglwyddiadau credyd

  2. Arian Parod Arian parod yw’r dull talu a ddefnyddir fwyaf o ddydd i ddydd. Mae arian papur a darnau arian yn ffordd gyflym a hawdd o dalu am nwyddau. Ar ôl i arian parod gael ei roi am nwyddau neu wasanaethau mae’r trafod yn gyflawn. • Manteision: • Mae’r busnes yn derbyn tâl ar unwaith • Nid yw mor agored i dwyll â siec • Anfanteision: • Byddai’n rhaid mynd â symiau mawr o arian i’r banc • Dim ond gwerthu uniongyrchol i’r cwsmer, nid gwerthu drwy’r post • na’r rhyngrwyd

  3. Siec I allu talu â siec rhaid bod gan fusnes gyfrif cyfredol mewn banc a’i fod wedi cael llyfr sieciau. Mae siec yn gyfarwyddyd i’r banc dynnu arian allan o gyfrif y talwr a’i roi yng nghyfrif y talai. • Manteision: • Bydd banciau’n gwarantu siec hyd at swm penodol drwy gerdyn gwarantu siec. • Mae’n cymryd tua 5 diwrnod gwaith i glirio siec. • Anfanteision: • Mae’n cymryd 5 diwrnod gwaith i glirio siec felly ni fydd y busnes yn derbyn yr arian ar unwaith • Os nad oes digon o arian yn y cyfrif gallai’r siec “fownsio” • Mae rhai banciau’n codi tâl ar fusnesau am dalu sieciau i mewn i’w cyfrif.

  4. Cardiau Credyd • Cardiau talu plastig sy’n caniatáu i ddeiliad y cerdyn wneud taliadau • Mae deiliad y cerdyn yn cael benthyg arian hyd at derfyn cytunedig • Caiff llog ei godi ar arian a fenthycir • Mae rhai’n codi ffi flynyddol • Rhaid i ddeiliad cerdyn wneud tâl ar ei gerdyn bob mis • Gall wneud tâl isafswm neu dalu’r cyfan sy’n ddyledus • Manteision: • Dull hawdd o gael benthyg arian • Fe’u derbynnir gan lawer o fusnesau yn y DU a • thramor • Caiff y talu ei ohirio nes y bydd angen talu’r bil • Anfanteision: • Rhaid i werthwyr dalu ffi am bob cwsmer sy’n talu â cherdyn credyd (tua 2%) • Gall y llog fod yn uchel iawn

  5. Cardiau Debyd • Yn debyg i’r cerdyn credyd o ran ei ddefnyddio ond : • Mae wedi’i gysylltu â chyfrif banc felly rhaid bod yna ddigon o arian cyn y gellir ei ddefnyddio • Ni ellir ei ddefnyddio i gael benthyg arian • Mae gwerthwyr yn cael eu talu ar unwaith ac mae’n gyflymach na siec • Mae’n well gan lawer o fusnesau dderbyn taliadau drwy gerdyn debyd gan nad oes ffi ynghlwm wrth hyn.

  6. Debyd Uniongyrchol Mae debyd uniongyrchol yn caniatáu i gwsmeriaid dalu biliau rheolaidd yn awtomatig. Mae debyd uniongyrchol yn gytundeb lle gall busnes sy’n gwerthu nwyddau a gwasanaethau gymryd arian o gyfrif banc y cwsmer. • Manteision: • Mae debydau uniongyrchol am ddim: nid oes raid i brynwyr dalu am ddefnyddio’r dull hwn o dalu • Nid oes raid i brynwyr gofio talu biliau rheolaidd, mae • debyd uniongyrchol yn gwneud hynny’n awtomatig. • Mae gwerthwyr yn gwybod y cânt eu talu’n brydlon. • Gall gwerthwyr arbed amser ac arian, gan nad oes raid iddynt dalu sieciau i mewn i’w cyfrif banc nac anfon anfonebau at gwsmeriaid.

  7. Trosglwyddiad Credyd • Mae trosglwyddiad credyd yn caniatáu i arian gael ei symud yn uniongyrchol o un cyfrif banc i gyfrif banc arall. • Defnyddir trosglwyddiad electronig o’r math hwn gan fusnesau mewn gwahanol ffyrdd : • Mae llawer o fusnesau yn talu eu gweithwyr bob wythnos neu bob mis drwy drosglwyddiad credyd. • Mae nifer cynyddol o fusnesau yn talu eu cyflenwyr gan ddefnyddio trosglwyddiad credyd.

More Related