1 / 13

ANDROCLES A'R LLEW

ANDROCLES A'R LLEW. Un tro dihangodd caethwas o'r enw Androcles rhag ei feistr gan ffoi i'r goedwig. Yn ystod ei grwydradau yno, daeth ar draws Llew a oedd yn gorwedd ar y ddaear gan ruddfan ac ochneidio.

axel
Download Presentation

ANDROCLES A'R LLEW

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. ANDROCLES A'R LLEW

  2. Un tro dihangodd caethwas o'r enw Androcles rhag ei feistr gan ffoi i'r goedwig. Yn ystod ei grwydradau yno, daeth ar draws Llew a oedd yn gorwedd ar y ddaear gan ruddfan ac ochneidio.

  3. Ar y dechrau trodd i ffoi, ond wedyn, ar ôl sylwi nad oedd y llew wedi'i ddilyn, trodd yn ôl ac aeth ato. Wrth iddo nesáu, estynnodd y llew ei bawen a oedd yn hollol chwyddedig ac yn gwaedu, a gwelodd Androcles fod draenen enfawr wedi cydio ynddi a dyma oedd yn achosi'r holl ddolur.

  4. Tynnodd y ddraenen a lapiodd bawen y llew mewn cadach. Cyn pen dim roedd y Llew yn gallu codi i'w draed a llyfnu llaw Androcles fel ci. Yna aeth y Llew ag Androcles i'w ogof, a bob dydd byddai'n dod â chig iddo ei fwyta i oroesi.

  5. Ond yn fuan wedyn, cafodd Androcles a'r Llew eu dal. Dedfrydwyd y dylid taflu'r caethwas i'r Llew, ar ôl i'r Llew gael ei gadw heb fwyd am ychydig ddyddiau.

  6. Daeth yr Ymerawdwr a'i lys cyfan i weld y digwyddiad mawr, a chafodd Androcles ei arwain i ganol yr arena. Yn fuan rhyddhawyd y Llew o'i ffau, ac fe ruthrodd ar garlam tuag at ei ysglyfaeth gan ruo.

  7. ARENA RUFEINIG - VERONA

  8. Ond wrth iddo nesáu at Androcles, roedd e'n adnabod ei hen ffrind a dechreuodd ei bawennu a llyfu ei ddwylo fel ci cyfeillgar. Gofynnodd yr Ymerawdwr, a oedd wedi synnu wrth hyn, i Androcles ddod ato, a dyma fe'n adrodd y stori gyfan. Wedi clywed hyn, cafodd y caethwas bardwn a'i ryddhau, a rhyddhawyd y Llew yntau i'w goedwig frodorol.

More Related