1 / 14

Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru

Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru. Strategaeth sgiliau a chyflogaeth. Jon Waters Y Tîm Strategaeth Sgiliau, Llywodraeth Cynulliad Cymru. Trosolwg. Pam mae sgiliau’n bwysig? Beth yw’r broblem? Beth rydym yn ei wneud yn ei gylch? Sut byddwn yn gwybod ein bod wedi llwyddo?.

april
Download Presentation

Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru Strategaeth sgiliau a chyflogaeth Jon Waters Y Tîm Strategaeth Sgiliau, Llywodraeth Cynulliad Cymru

  2. Trosolwg • Pam mae sgiliau’n bwysig? • Beth yw’r broblem? • Beth rydym yn ei wneud yn ei gylch? • Sut byddwn yn gwybod ein bod wedi llwyddo?

  3. Pam mae sgiliau’n bwysig? • Mae ffyniant yn dibynnu ar gyflogaeth a chynhyrchiant – ac mae’r naill a’r llall yn dibynnu ar sgiliau Ffynhonnell: APS / LFS, Ystadegau Cymru Mehefin 2008

  4. Pam mae sgiliau’n bwysig? • Mae cynhyrchiant yn cyfeirio at ba mor dda y mae cwmni neu economi’n defnyddio’u hadnoddau – faint o allbwn sy’n cael ei gyflawni am bob mewnbwn. • Mae hyfforddiant yn effeithio’n fwy ar gynhyrchiant busnesau nag ar gyflogau gweithwyr. ENILLION 0.3% o gynnydd mewn cyflogau HYFFORDDIANT Cynnydd o 1% yng nghyfran y gweithwyr sy’n cael eu hyfforddi mewn diwydiant CYNHYRCHIANT 0.6% o gynnydd yn y gwerth a ychwanegwyd am bob gweithiwr Dearden, Reed a Van Reenen (2006) The Impact of Training on Productivity and Wages: Evidence from British Panel Data. Oxford Bulletin of Economics and Statistics.

  5. Beth yw’r broblem? • Mae gan Gymru economi gymharol isel ei chyflogaeth a’i chynhyrchiant Rydym am symud tuag at y golofn uchaf Ffynhonnell: Swyddfa Genedlaethol Ystadegau- Data GYR 2006; Data cyflogaeth C4, 2007

  6. Beth yw’r broblem? • Mae sgiliau gwael y gweithlu yn rhan fawr o’r esboniad Mae gan Cymru Lai o bobl sydd a chymwysterau hyd at Lefel 4, a mwy o bobl heb gymwysterau, na naill ai Lloegr na’r Alban Mae llythrennedd a rhifedd yng Nghymru yn waeth nag yn y rhan fwyaf o ranbarthau Lloegr Ffynhonnell: Adolygiad Cenedlaethol o Sgiliau Sylfaenol Oedolion yng Nghymru (2004), yr Arolwg Sgiliau Bywyd (2003) Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth / Yr Arolwg Llafurlu Lleol

  7. Beth rydym yn ei wneud yn ei gylch? • Rydym wedi dod yn ein blaen, yn enwedig o ran diweithdra Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth / Yr Arolwg Llafurlu Lleol Ffynhonnell: Yr Arolwg Llafurlu Lleol

  8. Beth rydym yn ei wneud yn ei gylch? Ond mae dau adolygiad annibynnol wedi dweud wrthym fod angen i ni “wella’n safon” o ran sgiliau – Adolygiad Leitch... Mae’r Adolygiad yn amlinellu gweledigaeth hollbwysig ar gyfer y DU. Mae’n dangos bod yn rhaid i’r DU wella ar fyrder o ran yr hyn y mae’n ei gyflawni… ac mae’n argymell ei bod yn ymrwymo i fod yn arweinydd byd-eang ym maes sgiliau erbyn 2020. Golyga hyn fod gofyn dyblu’r hyn a gyflawnir yn y rhan fwyaf o lefelau sgiliau. Rhaid i’r Llywodraeth, gweithwyr ac unigolion rannu’r cyfrifoldeb am gyrraedd y nod.

  9. Beth rydym yn ei wneud yn ei gylch? Ac Adolygiad Webb... Rhaid gwneud mwy, yn enwedig ar gyfer... • pobl heb sgiliau sylfaenol • dysgwyr rhwng 14-19 oed nad oes ganddynt ddewis llawn o gyfleoedd • cyflogwyr sy’n gweld nad yw’r system sgiliau yn ateb eu gofynion • pobl ifanc ac oedolion nad ydynt mewn gwaith, addysg na hyfforddiant

  10. Beth ydym yn ei wneud yn ei gylch? Ymhlith 7 Egwyddor Sylfaenol Syr Adrian Webb mae’r canlynol.. • Rhaid i ddylanwad cyflogwyr gynyddu’n fwy o lawer yn y cyfnod 14-19, bod yn hollbwysig yn y cyfnod ôl-19 a dylai fod yn sail i strategaeth a pherfformiad y darparwyr • Mae dulliau newydd o ariannu yn hanfodol

  11. Beth rydym yn ei wneud yn ei gylch? Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru yw ein hymateb ni • Mae’n cynnwys yr ystodd sgiliau yn ei chyfanrwydd, o’r blynyddoedd cynnar i addysg oedolion • Mae angen i ni sicrhau... • bod plant yn cael gwell dechrau mewn bywyd • bod pobl ifanc yn cael cyfleoedd helaethach • a bod mwy o fuddsoddi mewn sgiliau oedolion • OND rydym hefyd yn gofyn mwy gan unigolion a chyflogwyr

  12. Elfennau o’r strategaeth 1 • Gwneud yn siŵr bod gan bobl ifanc well cyfleoedd • Dechrau’n Deg, y Cyfnod Sylfaen, Llwybrau 14-19, Bagloriaeth Cymru • Anelu arian at flaenoriaethau • Polisi ffîoedd ôl-16 • Buddsoddi mewn sgiliau sylfaenol • TGAU newydd, hawliau, Adduned Cyflogwyr • Helpu mwy o bobl i gael gwaith • Gwasanaethau sgiliau a chyflogaeth integredig

  13. Elfennau o’r Strategaeth 2 • Buddsoddi mewn datblygu’r gweithlu • Ehangu’r Rhaglen Datblygu’r Gweithlu, cryfhau prentisiaethau, integreiddio sgiliau a chymorth busnes, Cronfa Flaenoriaethau’r Sector • Buddsoddi mewn sgiliau lefel uchel • Adolygiad o Addysg Uwch • Llunio’r system • WESB, UKCES, y Cynghorau Sgiliau Sector • Gweddnewid y rhwydwaith dysgu • Fframwaith Ansawdd ac Effeithiolrwydd • Cydweithredu a modelau newydd o ddarparu

  14. Sut byddwn yn gwybod ein bod wedi llwyddo? • Byddwn yn gweithio gyda WESB i ddatblygu cyfres newydd o ddangosyddion • Bydd gennym ddiddordeb yn y pethau canlynol… • Canlyniadau i unigolion • Gwell sgiliau • Camu ymlaen at waith cyflogedig • Canlyniadau i gyflogwyr • Bodlonrwydd cyflogwyr • Canlyniadau i sefydliadau • Cyfraddau llwyddiant • Graddau mewn arolygiadau

More Related