1 / 15

Plastig

Plastig. Plastig. Allwch chi enwi cynhyrchion gwahanol sydd wedi cael eu gwneud o blastig?. Allwch chi feddwl am y manteision a’r anfanteision o ddefnyddio plastig yn ein bywydau bob dydd?. Plastigau. Tasg - rhestrwch 10 eitem o fewn cyrraedd i chi sydd wedi cael eu gwneud allan o blastig.

alijah
Download Presentation

Plastig

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Plastig

  2. Plastig Allwch chi enwi cynhyrchion gwahanol sydd wedi cael eu gwneud o blastig? Allwch chi feddwl am y manteision a’r anfanteision o ddefnyddio plastig yn ein bywydau bob dydd?

  3. Plastigau Tasg - rhestrwch 10 eitem o fewn cyrraedd i chi sydd wedi cael eu gwneud allan o blastig

  4. Plastig • Sut ydyn ni’n defnyddio plastig yn ein cartrefi? Lluniau isod trwy ganiatâd caredig www.bodieandfou.comwww.thelollipopshoppe.co.uk

  5. Plastig Allwch chi feddwl sut mae plastig yn cael ei ddefnyddio ar gyfer : • defnydd pacio Allwch chi feddwl sut mae plastig yn cael ei ddefnyddio ar gyfer • adloniant

  6. Plastig Defnydd synthetig yw plastig, mae’n sgil gynnyrch i’r diwydiant olew. Mae dau fath o blastig : • Thermoplastig • Thermosodol

  7. Defnyddiau Thermoplastig Polypropylen ABS. resin thermoplastig. Caiff y rhain eu diffinio fel plastigau y gellir defnyddio gwres i’w hailffurfio ; mae gan y plastig hwn gof, o gael ei ail gynhesu bydd yn dychwelyd i’w siâp fflat gwreiddiol. • Dyma rai esiamplau a’r defnydd a wneir ohonynt. • Acrylig – mae ar gael ar ffurf rhoden, taflen neu diwb ac mewn bron i unrhyw liw. Gellir defnyddio plygwr llinell neu ffurfiwr â gwactod i’w siapio ABS – plastig cyffredin iawn, gellir ei fowldio chwistrellu o ffurf powdwr Styren – da iawn ar gyfer ffurfio â gwactod

  8. Defnyddiau Thermosodol Handlenni tegell a sosban Caiff y rhain eu disgrifio fel plastigau na ellir defnyddio gwres i’w hailffurfio, maen nhw’n ‘SETIO’ ac ni ellir eu hail siapio. Resinpolyester- caiff ei arllwys i mewn i fowld i wneud cynhyrchion neu drwsio cychod. Dyma rai esiamplau a’r defnydd a wneir ohonynt: Wrea fformaldehyd – plygiau a socedau trydan Melamin – wynebau gweithio cegin, mygiau yfed sydd ddim yn torri Pwysau papur / ataliwr drws Harry Allen- wedi’i wneud allan o resin

  9. Defnyddiau - Plastigau Plastigau yw sylweddau resinaidd synthetig y gellir eu mowldio trwy gyfrwng gwres neu wasgedd. Mae dau brif fath o blastigau: Thermosodol– plastigau y gellir eu cynhesu a’u mowldio unwaith yn unig. O gael eu hail gynhesu nid ydynt yn meddalu. Thermoplastigau - plastigau sy’n cael eu cynhesu a’u mowldio a gellir eu hail-fowldio drwy eu cynhesu eto. Bydd cynhesu’r thermoplastigau’n eu meddalu a gellir eu siapio pan yn boeth. Wrth oeri bydd y plastig yn caledu.

  10. Defnyddiau - Plastigau

  11. Dim ond bag plastig arall! bagnewydd@bobsiop

  12. Ydy defnyddio bagiau siopa plastig yn creu unrhyw broblemau? Tasg 1 – Mewn grwpiau bach rhestrwch dair mantais ac anfantais i ddefnyddio bagiau siopa plastig Tasg 2 - yn eich grŵp ystyriwch ddau ddull o wella unrhyw broblemau rydych wedi’u canfod.

  13. Faint o fagiau siopa plastig fydd y siopwr arferol yn eu defnyddio i gario nwyddau adref bob wythnos? 5 15 12 20 Sut fyddai hi’n bosibl lleihau’r nifer hwn? Tasen ni’n defnyddio bagiau siopa y gellir eu hail-ddefnyddio faint yn llai o fagiau siopa plastig fyddai eu hangen bob blwyddyn? 20 bag plastic yr wythnos x 52 wythnos = Bagiau siopa 1,040 Mae archfarchnadoedd yn dosbarthu 1.75 biliwn o fagiau plastig bob blwyddyn.

  14. Dim ond un ffôn arall ……. wneith e ddim gwahaniaeth… Beth ddigwyddodd i’ch hen ffôn symudol? Yn y DU bydd 11 miliwn o bobl yn disgwyl cael ffôn symudol newydd yn ystod cyfnod y Nadolig. Mae disgwyl y bydd 2 miliwn o ffonau symudol yn cael eu rhoi yn y bin yn ystod cyfnod y Nadolig. Sut mae’n bosibl gwella hyn?

  15. Pethau y dylem eu hystyried cyn defnyddio defnyddiau plastig Plastig ac agweddau cynaladwyedd Adnodd gwerthfawr sy’n cael ei wneud o olew yw plastig. Rydym yn ei ddefnyddio mor helaeth am ei fod yn ddefnydd mor hyblyg. Mewn grwpiau bach trafodwch y canlynol a chyflwynwch adborth i weddill y dosbarth. 1. Nodwch 5 cynnyrch lle mai plastig yw’r defnydd gorau i’w ddefnyddio 2. Nodwch 5 cynnyrch plastig nad oes eu hangen o gwbl 3. Nodwch 5 cynnyrch plastig y byddai’n well pe defnyddid defnyddiau eraill. Lluniau trwy ganiatâd caredig photo gallery wales.

More Related