1 / 11

LLAIS

LLAIS. At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1. Tasg 1. Ystwytho’r llais. Sefwch yn y gofod, yn gefnsyth . Tynnwch anadl ddofn i mewn ac wedyn anadlu allan mor araf ag y gallwch, gan gyfrif yn uchel drwy’r amser.

Download Presentation

LLAIS

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. LLAIS At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1

  2. Tasg 1 Ystwytho’r llais • Sefwchyn y gofod, yn gefnsyth. • Tynnwch anadl ddofn i mewn ac wedyn anadlu allan mor araf ag y gallwch, gan gyfrif yn uchel drwy’r amser. • Pa mor bell aethoch chi cyn gorfod anadlu i mewn eto? • Ar beth rydych chi’n sylwi am eich ansawdd lleisiol wrth ichi fynd yn brin o anadl?

  3. Sefwch mewn cylch. • Ailadroddwch yr hyn a ddywedwch chi, fesul llinell, fel dosbarth. • Wedi cyrraedd diwedd yr ymadrodd, amrywiwch y ffordd rydych yn ei ddweud, e.e. cyflym, araf, uchel, distaw ac ati. Bŵm Bŵm Siaca Bŵm SiacaSiaca Bŵm SiacaSiacaSiacaSiacaSiaca bŵm A ha O ie Unwaith eto

  4. Tasg 2 Taflu’r llais • Ffurfiwch barau a wynebu eich gilydd ar draws yr ystafell. • Cymerwch linellau o’u perfformiadau a’u gweiddi at eich gilydd gan wneud yn siŵr eich bod yn cadw ystyr y llinellau. • Wedyn dechreuwch dawelu eich llais a symud tuag at eich gilydd nes eich bod yn sefyll wyneb yn wyneb.

  5. Tasg 3 Acenion • Ymarferwch ran o’ch drama. Ymarferwch fel arfer ond ond ar ôl ychydig o funudau ymarferwchmewn acen wahanol, e.e. Patagonia. • Ymarferwch am funud neu ddwy, wedyn newidiwch yr acen, e.e. acen wyddelig. • Gwnewch hyn sawl gwaith er mwyn arbrofi gydag amrywiaeth o acenion.

  6. Tasg 4 Tôn • Ffurfiwchgrwpiau o 2 neu 3. • Bydd yn cael sefyllfa, e.e. mae A yn gyrru ac mae’r heddlu’n ei stopio am dorri’r gyfraith. • Ond mae un amod – dim ond rhifau y cewch eu defnyddio i gyfathrebu. • Rhaid ichi siarad mewn rhifau olynol, faint bynnag rydych chi’nteimlo sydd ei angen, ond wedi cyrraedd 20, rhaid mynd yn ôl i 1. • E.e., gallai A ddweud “12345”, a bydd B yn ateb “67”, ac A wedyn yn dweud “891011”, ac ati. Rhaid ichi ganolbwyntio ar ddefnyddio tôn i gyfleu’r ystyr yn hytrach na geiriau.

  7. Tasg 5 Cyflymder y testun • Ar eich sgriptiau, rhowch gylch am bob atalnod. • Wedi gwneud hyn, dylech ddarllen yr olygfa gan gerdded o gwmpas yr ystafell, ond bob tro y ceir atalnod o unrhyw fath, dylech newid cyfeiriad a newid cryfder eich llais.

  8. Tasg 6 Drama Radio Yn eich grŵp, paratowch ddrama radio o ran o’ch perfformiad, gan ganolbwyntio ar eich llais. Ni fydd angen dim symud ar gyfer y dasg hon.

  9. Tasg 7 Pasio’r emosiwn • Sefwch mewn cylch. • Bydd yr athro/athrawes yn enwi emosiwn gan ddefnyddio llais i’w gyfleu. • Wedyn byddwch yn pasio’r emosiwn o amgylch y cylch a rhaid ichi ddefnyddio eich llais i’w gyfleu. • Y nod yw ceisio canfod cymaint o wahanol ffyrdd ag y gallwch i gyfleu un emosiwn drwy ddefnyddio’r llais.

  10. Tasg 8 Lleoli Cynulleidfa • Ymarferwch gyda gwahanol arddulliau llwyfannu. • Canolbwyntiwch ar gyflwyniad lleisiol a pha newidiadau y mae angen eu gwneud i’ch llais er mwyn sicrhau y gall y gynulleidfa eich clywed.

  11. Mae Gweithgareddau Estyn ar gael yn y Canllaw i Athrawon

More Related